Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn o Astudio Dramor (BSc)

  • Maes pwnc: Cyfrifiadureg
  • Côd UCAS: 126V
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn dramor

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae'r fersiwn pedair blynedd hon o'n prif gwrs yn rhoi’r opsiwn i chi gael trydedd flwyddyn llawn antur yn astudio mewn prifysgol dramor.

globe

Blwyddyn dramor

Byddwch yn astudio mewn prifysgol dramor lle byddwch yn dysgu wrth i chi deithio ac yn profi arferion a diwylliant gwlad wahanol.

tick

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol.

Rydyn ni’n darparu ar gyfer y rheini sydd wedi astudio cyfrifiadureg a'r rheini sy'n newydd i'r pwnc hwn.

microchip

Arbenigo eich gradd

Rydyn ni’n rhoi cyfleoedd i feithrin eich sgiliau mewn meysydd megis deallusrwydd artiffisial a seiberddiogelwch.

briefcase

Cymorth wrth ichi astudio

Mae ein rhaglen yn cynnig mentora, cymorth academaidd un i un, digwyddiadau cymdeithasol gwych a thîm i'ch helpu i sicrhau lleoliad gwaith.

building

Cyfleusterau rhagorol

Byddwch chi'n dysgu mewn cyfleusterau trawiadol, a hynny yng nghyd-destun yr ymchwil flaengar sy’n digwydd yng nghanolfan arloesi’r Brifysgol gwerth miliynau o bunnoedd.

Mae’r radd achrededig hon yn cynnig y wybodaeth ddamcaniaethol yn ogystal ag ymarferol sydd ei hangen i ddod yn rhan o fyd cyffrous a deinamig cyfrifiadureg, sydd wrth wraidd bron i bob agwedd o fywyd modern.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn datblygu sgiliau technegol, dadansoddol a phroffesiynol trosglwyddadwy, a gefnogir gan ymwybyddiaeth gyffredinol o dueddiadau presennol ym maes technoleg. Mae'r cwrs yn cynnwys cyfuniad o dechnegau a chysyniadau craidd sy'n esblygu, yn ogystal â deunydd pwnc seiliedig ar dechnoleg.

Mae graddedigion yn gallu dadansoddi problemau’n wrthrychol a datblygu atebion cyfrifiadurol priodol. Bydd eich dealltwriaeth fanwl o dechnoleg a’ch sgiliau datrys problemau lefel uwch yn eich gwneud yn addas ar gyfer ystod o yrfaoedd proffesiynol, a bydd cyflogwyr yn awyddus i’ch recriwtio.

Bydd y flwyddyn o astudio mewn prifysgol dramor yn rhoi'r cyfle i chi ehangu eich profiad ac addysg, gan gryfhau eich sgiliau trosglwyddadwy.

Achrediadau

Maes pwnc: Cyfrifiadureg

  • academic-schoolYr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4812
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBC. Rhaid cynnwys Mathemateg.

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 pwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 5 mewn Mathemateg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at, neu fod yn gweithio tuag at: 
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd C/4 TGAU neu gymhwyster cyfatebol (megis Safon Uwch). Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI. 
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych yn astudio Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg Gellir derbyn Mathemateg Graidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg. 

Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn Cyfrifiadureg, Peirianneg, TGCh, neu TG a gradd B Safon Uwch Mathemateg

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Rhaid i bob cais am le ar unrhyw gwrs Cyfrifiadureg gael ei wneud drwy Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS). Gellir gwneud cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Os ydych yn siarad Cymraeg, rydym yn deall y gall fod yn well gennych siarad â thiwtor personol sy’n siarad Cymraeg. Os bydd staff sy’n siarad Cymraeg ar gael, byddwn yn gwneud ein gorau glas i neilltuo rhywun sy’n siarad Cymraeg i chi.

Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn asesu ceisiadau drwy gydol y cylch ymgeisio. Mae pob cais yn cael ei asesu gan y tiwtor derbyn, sy’n penderfynu a ddylid derbyn ymgeisydd neu beidio. Ar ôl i ni gael eich cais a’i ystyried, efallai y byddwn yn eich gwahodd i ymweld â’r Ysgol rywbryd rhwng mis Tachwedd a dechrau mis Mawrth. Bydd hyn yn cynnwys mynd ar daith o gwmpas yr Ysgol, Undeb y Myfyrwyr a'r campws. Byddwch yn cwrdd â myfyrwyr ac aelodau o’r staff ac yn rhoi cyfle i ni ddod i’ch adnabod yn fwy. Byddwch hefyd yn darganfod sut fywyd sydd gan fyfyrwyr Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,535 Dim
Blwyddyn dau £9,535 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,430 Dim
Blwyddyn pedwar £9,535 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £29,450 Dim
Blwyddyn dau £29,450 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £4,417.5 Dim
Blwyddyn pedwar £29,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Byddwch yn talu 15% o ffioedd arferol Prifysgol Caerdydd yn ystod eich blwyddyn astudio dramor. Bydd angen i chi hefyd dalu am eich costau byw tra byddwch chi dramor, a allai gynnwys costau yswiriant iechyd. Mae costau ychwanegol pellach yn cynnwys costau deithio a ffioedd gwneud cais am fisa. Mae cymorth ariannol ar gael. O dan y system bresennol, mae myfyrwyr yn parhau i fod yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr ar gyfer lleoliadau gwaith dramor. Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yn cynnig bwrsariaeth hefyd i gynorthwyo gyda rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â lleoliad gwaith dramor.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Yr hyn a ddylai fod gan y myfyriwr:

Cyfrifiannell sy'n bodloni rheolau arholi Prifysgol Caerdydd

Yr hyn y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig:

Labordai cyfrifiadurol â chyfrifiaduron modern a'r holl feddalwedd sydd ei hangen i wneud y modiwlau a addysgir

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Man cychwyn y cwrs pedair blynedd hwn yw cyflwyno sgiliau a chysyniadau cyfrifiadurol sylfaenol fydd yn sail i'r radd. Dilynir prosiectau byr yn y flwyddyn gyntaf gan brosiect tîm sylweddol ym mlwyddyn dau, pan fyddwch yn defnyddio sgiliau a gwybodaeth newydd i ddylunio a gweithredu system feddalwedd. Byddwch yn treulio blwyddyn tri yn astudio mewn prifysgol dramor. Ym mlwyddyn pedwar, byddwch yn canolbwyntio ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg ac opsiynau a arweinir gan ymchwil. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect unigol sy'n canolbwyntio ar eich diddordebau eich hun.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Bydd y modiwlau a gaiff eu haddysgu yn ystod y ddau semester cyntaf yn eich cyflwyno i sgiliau a chysyniadau cyfrifiadurol sylfaenol, sy’n sail i'ch gradd. Mae hyn yn cynnwys eich cyflwyno i waith rhaglennu algorithmau drwy ddefnyddio ieithoedd fel Python a Java™ a datblygu eich dealltwriaeth o’r rhyngrwyd a thechnolegau’r we, saernïaeth gyfrifiadurol a systemau gweithredu, egwyddorion peirianneg meddalwedd a mathemateg ar gyfer cyfrifiadureg. Bydd disgwyl i chi ddatblygu sgiliau technegol a phroffesiynol newydd a dangos creadigrwydd a gwreiddioldeb unigol drwy gydol y flwyddyn.

Blwyddyn dau

Bydd y modiwlau craidd a gaiff eu haddysgu yn ystod yr ail flwyddyn yn cyflwyno pynciau uwch i chi. Mae modiwlau opsiynol ar gael i ddewis o’u plith, sy’n golygu bod rhywfaint o ddewis ar gael wrth astudio ar gyfer y radd hon. Mae strwythur data a dulliau o’i brosesu’n cael eu harchwilio ymhellach, ac mae algorithmau syml yn cael eu hymestyn i gymwysiadau sy’n gallu cyfathrebu drwy rwydweithiau. Mae'r sgiliau a ddatblygwyd hyd yma’n cael eu defnyddio wrth ymgymryd â phrosiect tîm i ddylunio a gweithredu system feddalwedd yn broffesiynol.

Bydd eich dewis o fodiwlau opsiynol yn ystod yr ail flwyddyn yn eich galluogi i ddechrau arbenigo eich sgiliau a chanolbwyntio ar ddilyn naill ai lwybr ‘cyfrifiadureg ddamcaniaethol’, llwybr ‘dadansoddi data/dadansoddi cymhwysol’ neu lwybr ‘systemau’. Ar yr un pryd, bydd eich gyrfa yn y dyfodol, eich cyflogadwyedd/entrepreneuriaeth a’ch sgiliau proffesiynol yn cael eu gwella wrth i chi ddechrau ystyried bywyd ar ôl y brifysgol.

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor. Fel arfer, bydd angen i chi wneud cais i’r brifysgol o’ch dewis erbyn dechrau mis Ionawr yn yr ail flwyddyn. Bydd aelodau o’r staff yn eich helpu i ddewis modiwlau a fydd yn ategu eich dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Mathemateg GyfrifiadurolCM210410 Credydau
Prosesu a Delweddu DataCM210510 Credydau
GwybodegCM220310 Credydau
Cyflwyniad i Theori CyfrifegCM220710 Credydau
Cyfrifiadura GwyddonolCM220810 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn astudio yn adran Cyfrifiadureg (neu adran debyg) prifysgol dramor. Byddwch yn gallu dewis o blith gwahanol brifysgolion y mae gan Brifysgol Caerdydd gytundeb cyfnewid myfyrwyr â nhw. Byddwch yn gallu gwneud modiwlau yn y brifysgol dramor a chael eich asesu ynddynt yn unol â’i rheolau. Dylai'r modiwlau hyn fod yn gyfwerth â 120 credyd, a byddant yn cyfrannu 10% at eich gradd derfynol. Bydd Tîm Cyfleoedd Byd-eang a staff yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd yn eich helpu ac yn rhoi cyngor i chi ar bob agwedd ar eich blwyddyn dramor.

Bydd y flwyddyn dramor yn rhoi’r cyfle i chi gael profiad o astudio pwnc eich gradd mewn amgylchedd gwahanol, yn ogystal â dod i wybod am y gwahanol ddulliau ac ymagweddau yn y wlad honno. Bydd yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fyw'n annibynnol y tu allan i'r DU, gan gynnwys profi a gwerthfawrogi diwylliant y wlad a ffyrdd o fyw yno. Hefyd, byddwch yn cael y cyfle i wneud modiwlau nad ydynt ar gael i’w gwneud yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Blwyddyn Astudio DramorCM2501120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Yn ystod y bedwaredd flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg a phynciau cyfrifiadureg uwch. Byddwch yn parhau ar hyd y llwybr a ddewiswyd gennych yn ystod yr ail flwyddyn, a bydd yn cael ei fireinio’n unol â’ch diddordebau penodol, ochr yn ochr â dewis o fodiwlau opsiynol ychwanegol sydd wedi’u llywio gan ymchwil. Ymhlith y pynciau cyfoes mae diogelwch cyfrifiadurol a gwaith fforensig cyfrifiadurol (ymchwilio), cyfrifiadura perfformiad uchel, deallusrwydd artiffisial, golwg cyfrifiadurol, graffeg ac amlgyfryngau. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect unigol sy’n seiliedig ar eich diddordebau, a hynny o dan oruchwyliaeth y staff.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cronfeydd Data ar raddfa fawrCM310420 Credydau
Rheoli GwybodaethCM310720 Credydau
Optimization CombinatorialCM310910 Credydau
DiogelwchCM311010 Credydau
FforensigCM311110 Credydau
Deallusrwydd artiffisialCM311210 Credydau
Gweledigaeth GyfrifiadurolCM311310 Credydau
GraffegCM311410 Credydau
Meddwl Dylunio a Phrototeipio ar gyfer Profiad DefnyddiwrCM311620 Credydau
Economïau Gwleidyddol CyfrifiaduraCM311720 Credydau
Cyflwyniad i Roboteg GyfrifiadurolCM311820 Credydau
Rheoli NewidCM633320 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddiwylliant ymchwil cryf a gweithredol sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf. Cawsom adroddiad rhagorol yn adolygiad diweddaraf yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (QAA) ac mae BCS, Sefydliad Siartredig TG, yn adolygu ac yn achredu ein cyrsiau gradd israddedig yn rheolaidd.

Addysgir sgiliau allweddol fel rhaglennu trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol yn y labordy. Defnyddir mecanweithiau cymorth ychwanegol i grynhoi deunydd a’i ddeall. Mae'r rhain yn cynnwys dosbarthiadau enghreifftiol, sesiynau tiwtorial a sesiynau cymorth, sy'n dod i gyfanswm o rhwng 15-20 awr o gyswllt ffurfiol yr wythnos ym mlwyddyn un. Mae addysgu cyflwyno ym mlynyddoedd dau a phedwar yn debyg i’r hyn a roddir ym mlwyddyn un, ond mae llai o oriau cyswllt ffurfiol gan y byddwch wedi ennill y sgiliau sydd eu hangen i reoli eich dysgu eich hun erbyn y camau olaf hyn o'r cwrs.

Bydd gan y rhan fwyaf o'ch modiwlau a addysgir wybodaeth bellach i chi ei hastudio a bydd disgwyl i chi weithio drwy hyn yn eich amser eich hun, yn unol â'r arweiniad gan y darlithydd ar gyfer y modiwl hwnnw.

Prosiect

Byddwch yn gwneud gwaith prosiect trwy gydol cyfnod y cwrs, gyda'r cyfle i ymarfer annibyniaeth gynyddol ar bob lefel.

Byddwch chi'n cymryd rhan mewn gwaith prosiect mewn tîm ym mlwyddyn un. Mae'r tasgau wedi'u diffinio'n glir ac yn eich galluogi i ddefnyddio wybodaeth a sgiliau a gafwyd yn gynharach yn y flwyddyn academaidd.

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn gwneud prosiect mewn grŵp fydd yn meithrin sgiliau dylunio systemau, rhyngbersonol a chyflwyno. Mae pob grŵp yn cael ei fonitro gan oruchwyliwr y mae'n rhaid i'r grŵp gadw mewn cysylltiad rheolaidd ag ef.

Mae prosiectau unigol blwyddyn pedwar yn rhoi’r cyfle i chi ddangos eich gallu i adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd yn ystod blynyddoedd cynharach a’u defnyddio.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r Ysgol yn ymfalchïo ei bod yn cynnig strwythur cymorth cynhwysfawr fel bod cydberthynasoedd cadarnhaol rhwng myfyrwyr a staff.

Rydym o’r farn bod cynnig dulliau priodol i roi adborth yn hanfodol i sicrhau mai’r rhaglenni astudio gorau yn unig a gynigir i’n myfyrwyr. Mae gennym banel myfyrwyr/staff sy’n cynnwys cynrychiolwyr a etholir gan y myfyrwyr ac aelodau o staff addysgu sy’n cyfarfod i drafod materion academaidd. Yn ogystal â gwaith y panel, rhoddir cyfle i bob myfyriwr gwblhau holiaduron adborth ar ddiwedd semester yr hydref a semester y gwanwyn. Mae’r dulliau hyn yn galluogi’r Ysgol i adolygu cyrsiau yn rheolaidd ac er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r ddarpariaeth orau posibl i’n myfyrwyr, a gyflwynir ���mewn ffordd gyson, ar draws pob un o’n graddau.

Mae'r cwrs yn defnyddio Dysgu Canolog, Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, i ddarparu deunyddiau cwrs, a darperir gwybodaeth ychwanegol ar-lein.

Bydd aelod staff yn cael ei ddyrannu’n diwtor personol i chi, a bydd yn pwynt cyswllt i gynghori ar faterion academaidd a phersonol mewn modd anffurfiol a chyfrinachol. Byddwch yn gweld eich tiwtor personol unwaith y mis ar gyfartaledd yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau. Mae amserlen lai o sesiynau cyswllt yn ystod camau olaf y radd, sy'n ystyried y gofynion academaidd ac amser cynyddol wrth i chi symud ymlaen. Y tu allan i’r sesiynau a drefnir gyda’ch tiwtor, gweithredir polisi drws agored gan yr Uwch-diwtor Personol, ac mae ar gael i roi cyngor ac ymateb i unrhyw faterion personol wrth iddynt godi. Bydd eich Tiwtor Personol yn monitro eich cynnydd academaidd ac yn rhoi geirda i chi i gefnogi unrhyw geisiadau am swyddi yr ydych yn eu gwneud.

Byddwch yn cael cefnogaeth academaidd a chyngor cynllunio ar gyfer y flwyddyn astudio dramor yn ystod eich ail flwyddyn. Cynhelir dwy sesiwn grŵp ac un sesiwn unigol gan Gyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a staff yn y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang. Rhoddir cyngor ynghylch dewis prifysgol, nodau'r flwyddyn, rheoliadau academaidd a dewis modiwlau.

Bydd y Ganolfan Cyfle Byd-eang yn eich cefnogi i wneud cais i'r brifysgol letyol, yn rhoi cyngor ar gyllid, fisâu a'r holl drefniadau ymarferol sy'n gysylltiedig ag astudio dramor. Bydd hefyd yn trefnu sesiwn cyn gadael ac yn rhoi pecyn cyn gadael fydd yn cynnwys canllaw llawn gwybodaeth. Bydd aelodau staff y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Yn ystod y flwyddyn dramor, bydd ein Cyfarwyddwr Rhyngwladol yn cadw mewn cysylltiad â'r brifysgol letyol yn ogystal â'r myfyriwr. Disgwylir i staff academaidd o’r Ysgol ymweld â phrifysgolion lletyol yn rheolaidd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi gynnal cysylltiadau â'r Ysgol, a chodi unrhyw bryderon a allai fod gennych. Yn ystod eich blwyddyn astudio dramor bydd yr holl fecanweithiau cymorth uchod ar gael ar eich cyfer o bell ym Mhrifysgol Caerdydd, a byddwch yn cadw mewn cysylltiad â'ch Tiwtor Personol trwy ebost a/neu Skype. Mae pob prifysgol bartner o statws tebyg i Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd, ac mae ganddynt drefniadau i ddarparu cymorth academaidd a bugeiliol. Felly, fe gewch hefyd gymorth trwy drefniadau gofal academaidd a bugeiliol eich prifysgol letyol.

Sut caf fy asesu?

Progress in each module will be assessed during or at the end of the semester in which it is taught. All modules include assessments, including written examinations or assessed coursework, or a combination of both. The format of the assessments depends on the learning outcomes of each specific module.

Most modules include coursework elements for assessment. The importance of good referencing, use of libraries and web-based information retrieval as a prelude to critical, independent study is developed. Assessed essays and reports are used to encourage knowledge and understanding, critical analysis, development of reasoned argument and synthesis of conclusions.

Practical assignments assess programming and design skills. These typically address small, well-defined problems at the start of the course, and become progressively open-ended. Tests are also used to assess knowledge, skills and techniques, which a professional may be expected to use in a time-constrained situation. You can also be assessed by poster presentation. 

Grades and marks for modules taken at the host institution will be converted to marks in the Cardiff University system according to the University’s grade conversion policy, which is described in the Grade Conversion Handbook, and will be explained to you in pre-application and pre-departure briefings.

Feedback:

Feedback on assessed work will normally be made available no later than four working weeks after the assessment deadline. We recognise the importance not only of assessing the quality of the work submitted, but also of giving useful feedback which will help you in your understanding of the subject being assessed.

Feedback is used to identify what has been done well, why a particular mark was given, and what can be done to improve in the future. Feedback is given in a variety of ways including oral feedback given by staff on an informal, ongoing basis, written feedback on individual submissions, and written or oral feedback given to students as a group in tutorials, discussion classes and problems classes.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos

  • Dealltwriaeth o'r ystod eang o gysyniadau, egwyddorion a damcaniaethau sy'n sail i Gyfrifiadureg
  • Y gallu i ddisgrifio systemau cyfrifiadurol ac atebion i broblemau
  • Dealltwriaeth o sut y cynrychiolir data ar ffurfiau strwythuredig a'i gydadwaith â gweithredu algorithmau

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos

  • Y gallu i gynnal gwerthusiad beirniadol o systemau cyfrifiadurol ac atebion i broblemau
  • Y gallu i ddadansoddi problemau cyfrifiadurol yn wrthrychol a datblygu atebion creadigol, priodol
  • Y gallu i fodelu senarios cymhleth i ddylunio systemau cyfrifiadurol sy'n bodloni'r gofynion a nodwyd
  • Y gallu i ddewis, deillio a dadansoddi algorithmau priodol i ddatrys problemau cyfrifiadurol
  • Y gallu i adnabod a nodi'r cyfyngiadau, y gofynion a ble gellir cyfaddawdu wrth ddylunio systemau cyfrifiadurol
  • Y gallu i gymharu a chyferbynnu paradeimau hysbys â'r rhai y daethpwyd ar eu traws wrth astudio dramor

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos

  • Ymwybyddiaeth o faterion proffesiynol, moesegol, cyfreithiol a chymdeithasol perthnasol sy'n codi wrth weithredu systemau cyfrifiadurol presennol ac yn y dyfodol
  • Y gallu i fynd ar drywydd cyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd a dysgu gydol oes a gwerthfawrogi pwysigrwydd ymwybyddiaeth fasnachol
  • Dealltwriaeth o dermau allweddol sy'n gysylltiedig â'ch gradd graidd, wedi'u mynegi yn arddull gwlad y brifysgol letyol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos

  • Y gallu i gyfleu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau yn effeithiol trwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac electronig
  • Y gallu i weithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol
  • Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau TG yn effeithiol

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae galw mawr iawn am wyddonwyr cyfrifiadurol medrus. Mae hyn yn golygu bod rhagolygon graddedigion o gael gwaith yn y diwydiant cyfrifiadurol yn dda iawn. Bydd sgiliau trosglwyddadwy’n cael eu haddysgu i chi, a fydd yn agor drysau i yrfaoedd mewn llawer o sectorau.

Dengys ystadegau diweddar fod mwyafrif llethol ein graddedigion yn dilyn eu llwybr gyrfa dewisol ac yn cyflawni swyddi fel Peiriannydd Meddalwedd, Datblygwr y We, Rhaglennydd Cyfrifiadurol, Datblygwr Meddalwedd Cyswllt, Dadansoddwr Busnes a Swyddog Datblygu Systemau.

Maent yn mynd ymlaen i weithio i gwmnïau fel Airbus, Amazon, BBC, BT, Prifysgol Caerdydd, Capgemini, Confused.com, Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU, IBM, Lloyds Banking Group, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Morgan Stanley, Sky, Heddlu De Cymru a Thomson Reuters. Mae eraill wedi dewis astudio ymhellach neu ymchwilio ym Mhrifysgol Caerdydd neu mewn prifysgolion blaenllaw eraill.

Lleoliadau

Cewch y cyfle i astudio dramor yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer astudio dramor mae'n rhaid i chi fod wedi cael cyfartaledd o 60% yn eich modiwlau blwyddyn un fel rheol, a heb fethu unrhyw gredydau yn semester cyntaf blwyddyn dau. Byddwch yn cael sesiynau cwnsela academaidd ynghylch yr opsiynau ar gyfer astudio dramor, a’r Ysgol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Bydd y cyfle cyffrous hwn i astudio Cyfrifiadureg mewn amgylchedd a diwylliant newydd yn caniatáu ichi ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i fyw'n annibynnol y tu allan i'r DU. Byddwch hefyd yn profi ac yn gwerthfawrogi diwylliant a ffyrdd o fyw y wlad fydd yn gartref i chi, gan ychwanegu profiad a sgiliau gwerthfawr y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.