Cyfrifiadureg gyda blwyddyn mewn diwydiant (BSc)
- Maes pwnc: Cyfrifiadureg
- Côd UCAS: G401
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Pam astudio'r cwrs hwn
Mae'r fersiwn pedair blynedd hon o'n prif gwrs yn rhoi’r opsiwn i chi weithio am dâl mewn sefydliad blaenllaw am flwyddyn, a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd.
Blwyddyn mewn diwydiant
Cwblhewch flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant lle cewch y cyfle i ennill y sgiliau y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt o ran gweithio mewn tîm, rheoli amser ac arwain. Mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau cyffrous mewn sefydliadau megis Admiral, Airbus, CERN, GSK, Hewlett Packard, Banc Lloyds, Red Bull Racing, ymhlith rhai eraill.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol.
Rydyn ni’n darparu ar gyfer y rheini sydd wedi astudio cyfrifiadureg a'r rheini sy'n newydd i'r pwnc hwn.
Arbenigo eich gradd
Rydyn ni’n rhoi cyfleoedd i feithrin eich sgiliau mewn meysydd megis deallusrwydd artiffisial a seiberddiogelwch.
Cyfleusterau rhagorol
Byddwch chi'n dysgu mewn cyfleusterau trawiadol, a hynny yng nghyd-destun yr ymchwil flaengar sy’n digwydd yng nghanolfan arloesi’r Brifysgol gwerth miliynau o bunnoedd.
Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol
Achredir y radd hon gan BCS, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG.
Mae’r radd achrededig hon yn cynnig y wybodaeth ddamcaniaethol yn ogystal ag ymarferol sydd ei hangen i ddod yn rhan o fyd cyffrous a deinamig cyfrifiadureg, sydd wrth wraidd bron i bob agwedd o fywyd modern.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn datblygu sgiliau technegol, dadansoddol a phroffesiynol trosglwyddadwy, a gefnogir gan ymwybyddiaeth gyffredinol o dueddiadau presennol ym maes technoleg. Mae'r cwrs yn cynnwys cyfuniad o dechnegau a chysyniadau craidd sy'n esblygu, yn ogystal â deunydd pwnc seiliedig ar dechnoleg.
Mae graddedigion yn gallu dadansoddi problemau’n wrthrychol a datblygu atebion cyfrifiadurol priodol. Bydd eich dealltwriaeth fanwl o dechnoleg a’ch sgiliau datrys problemau lefel uwch yn eich gwneud yn addas ar gyfer ystod o yrfaoedd proffesiynol, a bydd cyflogwyr yn awyddus i’ch recriwtio.
Bydd y flwyddyn mewn diwydiant yn gyfle i ehangu eich profiad, cryfhau eich sgiliau trosglwyddadwy, a chymhwyso eich gwybodaeth i broblemau'r byd go iawn.
Achrediadau
Maes pwnc: Cyfrifiadureg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at, neu fod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd C/4 TGAU neu gymhwyster cyfatebol (megis Safon Uwch). Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Cyfrifiadura, Peirianneg, TGCh, neu TG.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Rhaid i bob cais am le ar unrhyw gwrs Cyfrifiadureg gael ei wneud drwy Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS). Gellir gwneud cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Os ydych yn siarad Cymraeg, rydym yn deall y gall fod yn well gennych siarad â thiwtor personol sy’n siarad Cymraeg. Os bydd staff sy’n siarad Cymraeg ar gael, byddwn yn gwneud ein gorau glas i neilltuo rhywun sy’n siarad Cymraeg i chi.
Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn asesu ceisiadau drwy gydol y cylch ymgeisio. Mae pob cais yn cael ei asesu gan y tiwtor derbyn, sy’n penderfynu a ddylid derbyn ymgeisydd neu beidio. Ar ôl i ni gael eich cais a’i ystyried, efallai y byddwn yn eich gwahodd i ymweld â’r Ysgol rywbryd rhwng mis Tachwedd a dechrau mis Mawrth. Bydd hyn yn cynnwys mynd ar daith o gwmpas yr Ysgol, Undeb y Myfyrwyr a'r campws. Byddwch yn cwrdd â myfyrwyr ac aelodau o’r staff ac yn rhoi cyfle i ni ddod i’ch adnabod yn fwy. Byddwch hefyd yn darganfod sut fywyd sydd gan fyfyrwyr Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,250 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,250 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £1,850 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,250 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £5,890 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Efallai y bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â'r flwyddyn mewn diwydiant fel teithio neu lety, a bydd disgwyl i'r myfyriwr dalu’r costau hyn. Bydd y cyflog a gewch yn rhan o’r lleoliad gwaith o gymorth i dalu’r costau hyn fel arfer.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Yr hyn a ddylai fod gan y myfyriwr:
Cyfrifiannell sy'n bodloni rheolau arholi Prifysgol Caerdydd
Yr hyn y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig:
Labordai cyfrifiadurol â chyfrifiaduron modern a'r holl feddalwedd sydd ei hangen i wneud y modiwlau a addysgir
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Man cychwyn y cwrs pedair blynedd hwn yw cyflwyno sgiliau a chysyniadau cyfrifiadurol sylfaenol fydd yn sail i'r radd. Dilynir prosiectau byr yn y flwyddyn gyntaf gan brosiect tîm sylweddol ym mlwyddyn dau, pan fyddwch yn defnyddio sgiliau a gwybodaeth newydd i ddylunio a gweithredu system feddalwedd. Byddwch yn treulio blwyddyn tri yn ymgymryd â lleoliad gwaith cyflogedig. Ym mlwyddyn pedwar, byddwch yn canolbwyntio ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg ac opsiynau a arweinir gan ymchwil. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect unigol sy'n canolbwyntio ar eich diddordebau eich hun.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Bydd y modiwlau a gaiff eu haddysgu yn ystod y ddau semester cyntaf yn eich cyflwyno i sgiliau a chysyniadau cyfrifiadurol sylfaenol, sy’n sail i'ch gradd. Mae hyn yn cynnwys eich cyflwyno i waith rhaglennu algorithmau drwy ddefnyddio ieithoedd fel Python a Java™ a datblygu eich dealltwriaeth o’r rhyngrwyd a thechnolegau’r we, saernïaeth gyfrifiadurol a systemau gweithredu, egwyddorion peirianneg meddalwedd a mathemateg ar gyfer cyfrifiadureg. Bydd disgwyl i chi ddatblygu sgiliau technegol a phroffesiynol newydd a dangos creadigrwydd a gwreiddioldeb unigol drwy gydol y flwyddyn.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Meddwl Cyfrifiannol | CM1101 | 20 Credydau |
Ceisiadau Gwe | CM1102 | 20 Credydau |
Problem Datrys gyda Python | CM1103 | 20 Credydau |
Systemau Pensaernïaeth a Gweithredu | CM1205 | 10 Credydau |
Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadureg | CM1208 | 10 Credydau |
Rhaglennu Java sy'n canolbwyntio ar wrthrych | CM1210 | 20 Credydau |
Egwyddorion, Offer a Thechnegau ar gyfer Peirianneg Meddalwedd Ddiogel | CM1301 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Bydd y modiwlau craidd a gaiff eu haddysgu yn ystod yr ail flwyddyn yn cyflwyno pynciau uwch i chi. Mae modiwlau opsiynol ar gael i ddewis o’u plith, sy’n golygu bod rhywfaint o ddewis ar gael wrth astudio ar gyfer y radd hon. Mae strwythur data a dulliau o’i brosesu’n cael eu harchwilio ymhellach, ac mae algorithmau syml yn cael eu hymestyn i gymwysiadau sy’n gallu cyfathrebu drwy rwydweithiau. Mae'r sgiliau a ddatblygwyd hyd yma’n cael eu defnyddio wrth ymgymryd â phrosiect tîm i ddylunio a gweithredu system feddalwedd yn broffesiynol.
Bydd eich dewis o fodiwlau opsiynol yn ystod yr ail flwyddyn yn eich galluogi i ddechrau arbenigo eich sgiliau a chanolbwyntio ar ddilyn naill ai lwybr ‘cyfrifiadureg ddamcaniaethol’, llwybr ‘dadansoddi data/dadansoddi cymhwysol’ neu lwybr ‘systemau’. Ar yr un pryd, bydd eich gyrfa yn y dyfodol, eich cyflogadwyedd/entrepreneuriaeth a’ch sgiliau proffesiynol yn cael eu gwella wrth i chi ddechrau ystyried bywyd ar ôl y brifysgol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Rhyngweithio Cyfrifiadur Dynol | CM2101 | 10 Credydau |
Systemau Cronfa Ddata | CM2102 | 10 Credydau |
Gwella eich Cyflogadwyedd | CM2106 | 10 Credydau |
Rhwydweithiau Cyfathrebu Diogel | CM2108 | 10 Credydau |
Rhyngrwyd Pethau | CM2211 | 10 Credydau |
Prosiect Grŵp | CM2305 | 20 Credydau |
Cyfeiriadedd gwrthrych, algorithmau a strwythurau data | CM2307 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Mathemateg Gyfrifiadurol | CM2104 | 10 Credydau |
Prosesu a Delweddu Data | CM2105 | 10 Credydau |
Gwybodeg | CM2203 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Theori Cyfrifeg | CM2207 | 10 Credydau |
Cyfrifiadura Gwyddonol | CM2208 | 10 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Mae'r gwaith paratoi’n dechrau yn ystod yr ail flwyddyn pan fydd Swyddog Lleoliadau Gwaith pwrpasol yr Ysgol a gwasanaethau eraill y Brifysgol yn eich helpu i ddod o hyd i swydd briodol â thâl ac yn sicrhau bod amrywiaeth eang o leoliadau gwaith perthnasol ar gael i chi. Bydd yr Ysgol hefyd yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad yn ystod eich blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant, pan gewch y cyfle i wella eich CV a rhoi hwb i'ch rhagolygon o gael gwaith drwy ddatblygu’r sgiliau a chael y profiad sydd eu hangen ar gyflogwyr.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Lleoliad | CM2500 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Yn ystod y bedwaredd flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg a phynciau cyfrifiadureg uwch. Byddwch yn parhau ar hyd y llwybr a ddewiswyd gennych yn ystod yr ail flwyddyn, a bydd yn cael ei fireinio’n unol â’ch diddordebau penodol, ochr yn ochr â dewis o fodiwlau opsiynol ychwanegol sydd wedi’u llywio gan ymchwil. Ymhlith y pynciau cyfoes mae diogelwch cyfrifiadurol a gwaith fforensig cyfrifiadurol (ymchwilio), cyfrifiadura perfformiad uchel, deallusrwydd artiffisial, golwg cyfrifiadurol, graffeg ac amlgyfryngau. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect unigol sy’n seiliedig ar eich diddordebau, a hynny o dan oruchwyliaeth y staff.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Technolegau sy'n Dod i'r Amlwg | CM3202 | 20 Credydau |
Prosiect Unigol Un Semester - 40 | CM3203 | 40 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cronfeydd Data ar raddfa fawr | CM3104 | 20 Credydau |
Rheoli Gwybodaeth | CM3107 | 20 Credydau |
Optimization Combinatorial | CM3109 | 10 Credydau |
Diogelwch | CM3110 | 10 Credydau |
Fforensig | CM3111 | 10 Credydau |
Deallusrwydd artiffisial | CM3112 | 10 Credydau |
Gweledigaeth Gyfrifiadurol | CM3113 | 10 Credydau |
Graffeg | CM3114 | 10 Credydau |
Meddwl Dylunio a Phrototeipio ar gyfer Profiad Defnyddiwr | CM3116 | 20 Credydau |
Economïau Gwleidyddol Cyfrifiadura | CM3117 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Roboteg Gyfrifiadurol | CM3118 | 20 Credydau |
Rheoli Newid | CM6333 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddiwylliant ymchwil cryf a gweithredol sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf. Cawsom adroddiad rhagorol yn adolygiad diweddaraf yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (QAA) ac mae BCS, Sefydliad Siartredig TG, yn adolygu ac yn achredu ein cyrsiau gradd israddedig yn rheolaidd.
Addysgir sgiliau allweddol fel rhaglennu trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol yn y labordy. Defnyddir mecanweithiau cymorth ychwanegol i grynhoi deunydd a’i ddeall. Mae'r rhain yn cynnwys dosbarthiadau enghreifftiol, sesiynau tiwtorial a sesiynau cymorth, sy'n dod i gyfanswm o rhwng 15-20 awr o gyswllt ffurfiol yr wythnos ym mlwyddyn un. Mae addysgu cyflwyno ym mlynyddoedd dau a phedwar yn debyg i’r hyn a roddir ym mlwyddyn un, ond mae llai o oriau cyswllt ffurfiol gan y byddwch wedi ennill y sgiliau sydd eu hangen i reoli eich dysgu eich hun erbyn y camau olaf hyn o'r cwrs.
Bydd gan y rhan fwyaf o'ch modiwlau a addysgir wybodaeth bellach i chi ei hastudio a bydd disgwyl i chi weithio drwy hyn yn eich amser eich hun, yn unol â'r arweiniad gan y darlithydd ar gyfer y modiwl hwnnw.
Prosiect
Byddwch yn gwneud gwaith prosiect trwy gydol cyfnod y cwrs, gyda'r cyfle i ymarfer annibyniaeth gynyddol ar bob lefel.
Byddwch chi'n cymryd rhan mewn gwaith prosiect mewn tîm ym mlwyddyn un. Mae'r tasgau wedi'u diffinio'n glir ac yn eich galluogi i ddefnyddio wybodaeth a sgiliau a gafwyd yn gynharach yn y flwyddyn academaidd.
Ym mlwyddyn dau, byddwch yn gwneud prosiect mewn grŵp fydd yn meithrin sgiliau dylunio systemau, rhyngbersonol a chyflwyno. Mae pob grŵp yn cael ei fonitro gan oruchwyliwr y mae'n rhaid i'r grŵp gadw mewn cysylltiad rheolaidd ag ef.
Mae prosiectau unigol blwyddyn pedwar yn rhoi’r cyfle i chi ddangos eich gallu i adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd yn ystod blynyddoedd cynharach a’u defnyddio.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae'r Ysgol yn ymfalchïo ei bod yn cynnig strwythur cymorth cynhwysfawr fel bod cydberthynasoedd cadarnhaol rhwng myfyrwyr a staff.
Rydym o’r farn bod cynnig dulliau priodol i roi adborth yn hanfodol i sicrhau mai’r rhaglenni astudio gorau yn unig a gynigir i’n myfyrwyr. Mae gennym banel myfyrwyr/staff sy’n cynnwys cynrychiolwyr a etholir gan y myfyrwyr ac aelodau o staff addysgu sy’n cyfarfod i drafod materion academaidd. Yn ogystal â gwaith y panel, rhoddir cyfle i bob myfyriwr gwblhau holiaduron adborth ar ddiwedd semester yr hydref a semester y gwanwyn. Mae’r dulliau hyn yn galluogi’r Ysgol i adolygu cyrsiau yn rheolaidd ac er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r ddarpariaeth orau posibl i’n myfyrwyr, a gyflwynir mewn ffordd gyson, ar draws pob un o’n graddau.
Mae'r cwrs yn defnyddio Dysgu Canolog, Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, i ddarparu deunyddiau cwrs, a darperir gwybodaeth ychwanegol ar-lein.
Bydd aelod staff yn cael ei ddyrannu’n diwtor personol i chi, a bydd yn pwynt cyswllt i gynghori ar faterion academaidd a phersonol mewn modd anffurfiol a chyfrinachol. Byddwch yn gweld eich tiwtor personol unwaith y mis ar gyfartaledd yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau. Mae amserlen lai o sesiynau cyswllt yn ystod camau olaf y radd, sy'n ystyried y gofynion academaidd ac amser cynyddol wrth i chi symud ymlaen. Y tu allan i’r sesiynau a drefnir gyda’ch tiwtor, gweithredir polisi drws agored gan yr Uwch-diwtor Personol, ac mae ar gael i roi cyngor ac ymateb i unrhyw faterion personol wrth iddynt godi. Bydd eich Tiwtor Personol yn monitro eich cynnydd academaidd ac yn rhoi geirda i chi i gefnogi unrhyw geisiadau am swyddi yr ydych yn eu gwneud.
Yn ystod y flwyddyn mewn Diwydiant, bydd ein Swyddog Lleoliadau Gwaith yn cadw mewn cysylltiad â'r sefydliad lletyol yn ogystal â'r myfyriwr. Bydd staff academaidd o’r Ysgol yn ymweld gan roi’r cyfle i chi gynnal cysylltiadau â'r Ysgol, a chodi unrhyw bryderon a allai fod gennych. Bydd yr holl fecanweithiau cymorth uchod ar gael ar eich cyfer o bell ym Mhrifysgol Caerdydd, a byddwch yn cadw mewn cysylltiad â'ch Tiwtor Personol trwy ebost a/neu Skype.
Sut caf fy asesu?
Progress in each module will be assessed during or at the end of the semester in which it is taught. All modules include assessments, including written examinations or assessed coursework, or a combination of both. The format of the assessments depends on the learning outcomes of each specific module.
Most modules include coursework elements for assessment. The importance of good referencing, use of libraries and web-based information retrieval as a prelude to critical, independent study is developed. Assessed essays and reports are used to encourage knowledge and understanding, critical analysis, development of reasoned argument and synthesis of conclusions.
Practical assignments assess programming and design skills. These typically address small, well-defined problems at the start of the course, and become progressively open-ended. Tests are also used to assess knowledge, skills and techniques, which a professional may be expected to use in a time-constrained situation. You can also be assessed by poster presentation.
Your placement will be assessed via a reflective report and a poster presentation to staff, students and employers during enrolment week of year four.
Feedback:
Feedback on assessed work will normally be made available no later than four working weeks after the assessment deadline. We recognise the importance not only of assessing the quality of the work submitted, but also of giving useful feedback which will help you in your understanding of the subject being assessed.
Feedback is used to identify what has been done well, why a particular mark was given, and what can be done to improve in the future. Feedback is given in a variety of ways including oral feedback given by staff on an informal, ongoing basis, written feedback on individual submissions, and written or oral feedback given to students as a group in tutorials, discussion classes and problems classes.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos
- Dealltwriaeth o'r ystod eang o gysyniadau, egwyddorion a damcaniaethau sy'n sail i Gyfrifiadureg
- Y gallu i ddisgrifio systemau cyfrifiadurol ac atebion i broblemau
- Dealltwriaeth o sut y cynrychiolir data ar ffurfiau strwythuredig a'i gydadwaith â gweithredu algorithmau
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos
- Y gallu i gynnal gwerthusiad beirniadol o systemau cyfrifiadurol ac atebion i broblemau
- Y gallu i ddadansoddi problemau cyfrifiadurol yn wrthrychol a datblygu atebion creadigol, priodol
- Y gallu i fodelu senarios cymhleth i ddylunio systemau cyfrifiadurol sy'n bodloni'r gofynion a nodwyd
- Y gallu i ddewis, deillio a dadansoddi algorithmau priodol i ddatrys problemau cyfrifiadurol
- Y gallu i adnabod a nodi'r cyfyngiadau, y gofynion a ble gellir cyfaddawdu wrth ddylunio systemau cyfrifiadurol
- Gwerthfawrogiad o sut mae sgiliau a chysyniadau a gaiff sylw yn y radd yn cael eu gweithredu a'u defnyddio o fewn diwydiant
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos
- Ymwybyddiaeth o faterion proffesiynol, moesegol, cyfreithiol a chymdeithasol perthnasol sy'n codi wrth weithredu systemau cyfrifiadurol presennol ac yn y dyfodol
- Y gallu i fynd ar drywydd cyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd a dysgu gydol oes a gwerthfawrogi pwysigrwydd ymwybyddiaeth fasnachol
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos
- Y gallu i gyfleu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau yn effeithiol trwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac electronig
- Y gallu i weithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol
- Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau TG yn effeithiol
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae galw mawr iawn am wyddonwyr cyfrifiadurol medrus. Mae hyn yn golygu bod rhagolygon graddedigion o gael gwaith yn y diwydiant cyfrifiadurol yn dda iawn. Bydd sgiliau trosglwyddadwy’n cael eu haddysgu i chi, a fydd yn agor drysau i yrfaoedd mewn llawer o sectorau.
Dengys ystadegau diweddar fod mwyafrif llethol ein graddedigion yn dilyn eu llwybr gyrfa dewisol ac yn cyflawni swyddi fel Peiriannydd Meddalwedd, Datblygwr y We, Rhaglennydd Cyfrifiadurol, Datblygwr Meddalwedd Cyswllt, Dadansoddwr Busnes a Swyddog Datblygu Systemau.
Maent yn mynd ymlaen i weithio i gwmnïau fel Airbus, Amazon, BBC, BT, Prifysgol Caerdydd, Capgemini, Confused.com, Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU, IBM, Lloyds Banking Group, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Morgan Stanley, Sky, Heddlu De Cymru a Thomson Reuters. Mae eraill wedi dewis astudio ymhellach neu ymchwilio ym Mhrifysgol Caerdydd neu mewn prifysgolion blaenllaw eraill.
Lleoliadau
Rhwng blynyddoedd dau a phedwar cewch y cyfle i ymgymryd â blwyddyn cyflogedig ar leoliad gwaith.
Mae'r gwaith paratoi ar gyfer y lleoliad gwaith yn dechrau yn ystod blwyddyn dau pan fyddwch chi'n cael eich cefnogi gan Swyddog Lleoliadau Gwaith ymroddedig yr Ysgol a gwasanaethau eraill y Brifysgol i'ch helpu chi i ddod o hyd i swydd gyflogedig briodol, a sicrhau bod amrywiaeth eang o leoliadau gwaith perthnasol ar gael eich cyfer. Bydd yr Ysgol hefyd yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad yn ystod eich blwyddyn ar leoliad gwaith pan gewch y cyfle i wella'ch CV a rhoi hwb i'ch rhagolygon cyflogaeth trwy ennill y profiad a'r sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen ar gyflogwyr.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.