Cemeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (BSc)
- Maes pwnc: Cemeg
- Côd UCAS: F101
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Pam astudio'r cwrs hwn
Mae’r radd BSc hon wedi ei dylunio i roi addysg eang i chi mewn cemeg yn ogystal ag ystod eang o sgiliau ymchwil, mathemategol, a chyfrifiadurol, a hyfforddiant ymarferol yn elfen hanfodol.
Cyfleusterau o'r radd flaenaf
Ar ôl cael buddsoddiad o £20 miliwn, mae ein cyfleusterau'n cynnig amgylchedd gwych ar gyfer rhagoriaeth.
Lleoliad diwydiannol
Byddwch yn ennill profiad gwaith gwerthfawr ar leoliad proffesiynol 9-12 mis o hyd yn y diwydiant cemegol.
Profiad ymarferol
Datblygwch eich sgiliau ymarferol yn y labordy a ennill profiadau yn datrys problemau, gweithio mewn grŵp a llunio adroddiadau.
Ewch ar daith
Cymerwch olwg ar ein Hysgol a'n cyfleusterau mewn taith dywys 360.
Mae'r cwrs pedair blynedd hwn yn cynnwys lleoliad gwaith â thâl 9-12 mis yn ystod blwyddyn tri. Byddwch yn cael y cyfle i wneud cysylltiadau gwerthfawr a datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich paratoi at amgylchedd gwaith cystadleuol. Gall ein cysylltiadau cryf â'r diwydiant eich helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith. Yn y gorffennol, mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau gwaith gyda Dow Chemical Company, GSK, Pfizer a Kodak.
Byddwch yn cael cyflwyniad eang i brif feysydd cemeg, yn ogystal â’r opsiwn i arbenigo mewn maes sy’n ddiddorol neu’n bwysig i chi drwy fodiwlau opsiynol a phrosiect ymchwil yn nes ymlaen yn y cwrs. At hynny, byddwch yn treulio sawl awr yn ein labordai yn cael profiad ymarferol ac yn datblygu eich gwaith ymchwil a’ch sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol.
Mae ein graddedigion yn cael eu cyflogi fel cemegwyr sy'n gweithio ym maes ymchwil, datblygu prosesau a dadansoddi, yn ogystal ag mewn meysydd ehangach fel addysgu, marchnata, rheoli’r amgylchedd, patentau a chyllid.
Achrediadau
Maes pwnc: Cemeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC. Rhaid cynnwys Cemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 5 mewn Cemeg HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,250 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,250 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £1,850 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,250 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £5,890 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Bydd yr ysgol yn cynnwys cost popeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a rydd tiwtoriaid ar lafar. Efallai y bydd angen i chi dalu costau ychwanegol sydd naill ai ddim yn hanfodol neu sy'n gostau sylfaenol y mae disgwyl i fyfyrwyr eu talu eu hunain. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn cynnwys gliniaduron, cyfrifianellau, deunydd ysgrifennu cyffredinol, gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell), a chopïo / argraffu sylfaenol.
Disgwylir i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r lleoliad gwaith, gan gynnwys costau teithio, cynhaliaeth a fisa/trwydded waith. Efallai y bydd angen i fyfyrwyr dalu cost yswiriant ychwanegol.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch. Byddwn yn rhoi cot labordy, sbectol diogelwch, llyfr nodiadau labordy a phecyn modelu moleciwlaidd ichi. Mae meddalwedd arlunio cemegol ChemDraw ar gael ar holl gyfrifiaduron y Brifysgol, a byddwch yn gallu ei lawrlwytho i'ch cyfrifiaduron eich hun am ddim.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae pob blwyddyn yn cynnwys modiwlau sy'n dod i gyfanswm o 120 credyd.
Ym mlwyddyn un rydych chi'n cymryd modiwlau cemeg gorfodol sy'n werth 110 credyd, gan gynnwys 30 credyd ymarferol, a modiwl dewisol sy'n werth 10 credyd, a allai fod mewn cemeg neu unrhyw bwnc arall.
Ym mlwyddyn dau, byddwch yn cymryd modiwlau cemeg gorfodol mewn amrywiaeth o feysydd pwnc gwahanol, gan gynnwys modiwl ymarferol 30 credyd.
Ym mlwyddyn tri byddwch yn ymgymryd â lleoliad diwydiannol (120 credyd).
Ym mlwyddyn pedwar byddwch yn gwneud gwaith ymarferol yn semester yr hydref (20 credyd). Dilynir hyn gan brosiect arbenigol yn semester y gwanwyn (30 credyd). Byddwch hefyd yn cymryd modiwl theori gorfodol ym mhob cangen o'r pwnc yn semester yr hydref (40 credyd) ac yn dewis o ystod o fodiwlau dewisol yn semester y gwanwyn (3 x 10 credyd).
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Yn y flwyddyn gyntaf ein bwriad yw ennyn eich diddordeb yn y pwnc, a rhoi sylfaen wybodaeth gref i adeiladu arni yn ystod y blynyddoedd sy’n dilyn. Mae ein modiwlau cemeg craidd yn seiliedig ar dri phrif faes pwnc, gan gynnwys rhoi sylw i sgiliau allweddol i gemegwyr. Cânt eu hategu gan ystod o fodiwlau dewisol, sy'n eich galluogi i gael dewis o ran eich astudiaethau ac ehangu’ch profiad.
Efallai y byddwch hefyd am astudio modiwlau dewisol mewn disgyblaethau megis y Gwyddorau Biolegol, Ffiseg neu Ieithoedd Modern.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sylfeini Cemeg Gorfforol | CH5101 | 20 Credydau |
Sylfeini Cemeg Anorganig | CH5102 | 20 Credydau |
Sylfeini Cemeg Organig | CH5103 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Gemeg y Brifysgol | CH5108 | 10 Credydau |
Sylfaen Cemeg Blwyddyn 1 Ymarferol | CH5110 | 30 Credydau |
Dulliau Mathemategol ar gyfer Cemeg | CH5116 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cemeg Amgylcheddol | CH2117 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Ddatblygu Cyffuriau | CH5130 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Gemeg Werdd a Chynaliadwy | CH5150 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Yn yr ail flwyddyn byddwch yn astudio modiwlau gorfodol uwch sy’n eich galluogi i ymarfer a datblygu sgiliau newydd drwy eu cymhwyso i ystod eang o broblemau.
Os ydych chi'n cael o leiaf cyfartaledd o 55% yn yr ail flwyddyn, bydd gennych y cyfle i drosglwyddo i gwrs MChem Cemeg cyn dechrau’r drydedd. Yn gyffredinol, rhoddir cyngor ac arweiniad ar geisiadau drwy gydol yr ail flwyddyn. Mae ein lleoliadau yn gystadleuol, ond ar y cyfan, maent ar gael yn genedlaethol ar draws pob cangen o’r diwydiant cemegol, fferyllol a gweithgynhyrchu. Os ydych yn penderfynu nad ydych yn dymuno mynd ar leoliad, gallwch drosglwyddo i'r cwrs BSc Cemeg ar ddiwedd yr ail flwyddyn.
Fel arfer, mae hefyd amrywiaeth o gyfleoedd i ymgymryd ag ymchwil dros yr haf yng Nghaerdydd dan oruchwyliaeth staff academaidd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cemeg Gorfforol Bellach | CH5201 | 20 Credydau |
Strwythur, bondio ac adweithedd mewn cyfansoddion o'r elfennau p a bloc d | CH5202 | 20 Credydau |
Cemeg Organig a Biolegol Bellach | CH5203 | 20 Credydau |
Cyfathrebu Cemeg: Sgiliau allweddol ar gyfer cemegwyr | CH5206 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i gemeg bywyd | CH5207 | 10 Credydau |
Ceisiadau o Spectrosgopi Moleciwlaidd | CH5208 | 10 Credydau |
Labordai Cemeg Bellach | CH5210 | 30 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Byddwch yn treulio’r drydedd flwyddyn ar leoliad gwaith. Bydd hyn fel arfer wedi'i leoli yn y DU, ond mae lleoliadau diwydiannol dramor ar gael o bryd i'w gilydd. I bob pwrpas, byddwch yn gyflogai i'r cwmni rydych wedi'ch lleoli gydag ef, a byddwch yn cynnal gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chemeg sy'n briodol i natur fasnachol y cwmni. Rydym yn eich annog i edrych am eich darparwr lleoliad eich hun, ond rydym yn rhannu cyfleoedd posibl gyda’n cwmnïau partner sy’n chwilio am fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn benodol. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos â chi drwy gydol eich lleoliad.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Hyfforddiant Diwydiannol | CH9999 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Yn y bedwaredd flwyddyn, byddwch yn cynnal prosiect ymchwil sylweddol sydd ar hyn o bryd yn cael ei gynnal yn ystod semester y gwanwyn. Byddwch yn cwblhau modiwl theori gorfodol ym mhob cangen o'r pwnc ac yn dewis o blith ystod o fodiwlau dewisol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Hyfforddiant mewn Dulliau Ymchwil | CH2301 | 20 Credydau |
Prosiect | CH3325 | 30 Credydau |
Uwch Gemeg Organometalig a Chydlynu | CH4302 | 10 Credydau |
Strategaethau synthetig Uwch | CH4303 | 10 Credydau |
Mecaneg Quantum ac Ystadegol Moleciwlau a Solidau | CH4304 | 10 Credydau |
Macromoleciwlau Bywyd | CH4305 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sbectrosgopeg Uwch a Diffreithiant | CH3307 | 10 Credydau |
Bioinorganic Cemeg | CH3308 | 10 Credydau |
Catalysis Heterogenaidd | CH3310 | 10 Credydau |
Strwythur a Mecanwaith mewn Cemeg Organig | CH3315 | 10 Credydau |
Catalysis Homogenaidd | CH3316 | 10 Credydau |
Biosynthesis Peirianneg | CH3317 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Ein nod yw cynnig amgylchedd rhagorol ar gyfer addysg gemegol ac mae ein graddau israddedig yn adlewyrchu ein cryfderau a’n diddordebau ymchwil presennol. Mae prosiectau yn y flwyddyn olaf yn gwbl integredig yn ein grwpiau ymchwil. Mae eich cwrs astudio wedi’i lunio i’ch galluogi chi i wireddu eich llawn botensial. Ein nod yw cynnig addysgu arbenigol a gofal bugeiliol cynhwysfawr.
Addysgir trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol. Cefnogir hyn gan y deunyddiau sydd ar Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn elfen bwysig o’r addysgu, mae 10-12 yr wythnos fel arfer, ac mae’r rhain yn 50 munud o hyd. Cefnogir y pwnc mewn sawl ffordd yn dibynnu ar y pwnc o dan sylw. Gall hyn gynnwys sleidiau, cyflwyniadau cyfrifiadur, taflenni gwaith a chrynodebau o’r cwrs.
Gwaith labordy
Mae ail ran yr addysgu’n cynnwys dosbarthiadau ymarferol, unwaith eto gyda thua 10-12 awr yr wythnos ar gyfartaledd fel arfer. Mae’r pwyslais ar dechnegau sylfaenol a chofnodi arsylwadau mewn modd syml ond cywir ym mlwyddyn un. Addysgir sgiliau drwy arddangosiadau ymarferol ac fe’u cefnogir gan ystod o adnoddau e-ddysgu sydd ar gael yn hwylus ac yn rhad ac ddim i bob myfyriwr.
Mae hunan-brofi yn cynnig dealltwriaeth o wahanol dechnegau ymarferol yn ogystal â'r cyfle i gywiro camgymeriadau cyn mynd i sesiynau labordy.
Mae gwaith labordy yn gweithio tuag at arbrofion sylweddol sy’n gofyn am gynllunio, dadansoddi a dehongli canlyniadau yn ofalus, yn ogystal ag adrodd safonol, proffesiynol. Mae gwaith ymarferol yn cynnig profiad ym mhob un o brif weithdrefnau a thechnegau'r labordy. Mae wedi'i gynllunio i ymestyn lefel eich hyfedredd mewn cemeg ymarferol, gan eich paratoi i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yng nghamau olaf eich gradd.
Addysgu mewn grwpiau bach
Rhoddir dosbarthiadau tiwtorial mewn grwpiau bach ym mhob blwyddyn, er mwyn ymarfer, trafod a dadansoddi deunydd y darlithoedd, yn ogystal â datblygu sgiliau cyfathrebu. Cyflwynir sesiynau gan dri aelod staff penodol, un arbenigwr ym mhob un o feysydd cemeg organig, anorganig a ffisegol. Mae'r un tri thiwtor fel arfer yn parhau i fod wedi’u haseinio i bob grŵp trwy gydol eich gradd.
Lleoliad gwaith
Treulir y lleoliad gwaith yn gweithio mewn diwydiant a bydd yn cynnwys gwaith prosiect ynghyd â thasgau eraill a neilltuwyd gan ddarparwr y lleoliad gwaith.
Prosiect
Mae gan bob un o’n cyrsiau Cemeg elfen gref o waith prosiect annibynnol, o dan oruchwyliaeth. Ym mlwyddyn olaf y cwrs BSc, byddwch yn gweithio ar brosiect yn y maes cemeg sydd orau gennych ac yn cael pwnc i'w ymchwilio neu ei ddatblygu. Byddwch yn cyflwyno canlyniadau eich gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy weithio o dan arweiniad arbenigwr yn y maes. Yn y gorffennol, mae hyn wedi arwain at fyfyrwyr israddedig yn ysgrifennu papurau a gyhoeddwyd ar y cyd.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae gan bob myfyriwr dri thiwtor academaidd,���y mae un ohonynt hefyd yn diwtor personol i chi. Byddwch yn gweld un o’ch tiwtoriaid bob wythnos, naill ai fel rhan o grŵp tiwtorial bach neu ar sail un-i-un mewn sesiwn diwtorial bersonol. Mae’r holl staff yn gweithredu polisi drws agored, sy’n golygu y gallwch bob amser fynd at staff gyda phroblemau ��� academaidd neu broblemau eraill.
Bydd cydlynydd lleoliadau diwydiannol yr Ysgol yn dod â lleoliadau gwaith perthnasol i sylw myfyrwyr. Bydd gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth yn ymwneud â cheisiadau am leoliadau gwaith.
Byddwch yn cael llawlyfr cynhwysfawr sy'n briodol i'ch blwyddyn astudio. Mae'n cynnwys manylion am weithdrefnau a pholisïau'r Ysgol.
Rydym yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol (Dysgu Canolog) er mwyn rhannu gwybodaeth
Sut caf fy asesu?
Formative and summative assessments are carried out during each year of study. This gives a measure of performance to inform you, us as staff, and potential employers about your progress and achievement. It can also help the learning process by highlighting areas of success and areas needing more attention. Assessment for the BSc degree involves methods that are selected to suit the particular outcomes of each module and the course as a whole. These methods include the following:
- Formal examinations with fixed time-limits
- Class tests
- Reports on laboratory work
- Planning, conduct and reporting of project work
- Essays
- Problem-solving exercises (as workshop assignments)
- Oral presentations
- Preparation and display of posters.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu dangos gwybodaeth systematig a dealltwriaeth feirniadol gynhwysfawr o ffeithiau, cysyniadau, egwyddorion a damcaniaethau hanfodol sy'n ymwneud â maes pwnc cemeg. Yn benodol:
- Terminoleg, enwau, confensiynau ac unedau cemegol
- Nodweddion strwythurol ac ymddygiad cemegol elfennau cemegol a'u cyfansoddion, gan gynnwys perthnasoedd a thueddiadau rhwng grwpiau yn y Tabl Cyfnodol
- Yr egwyddorion a'r gweithdrefnau a ddefnyddir mewn dadansoddi cemegol a nodweddu cyfansoddion cemegol, gan gynnwys cymhwyso sbectrosgopïau i bennu strwythur a phriodweddau endidau cemegol.
- Damcaniaethau sy'n disgrifio strwythur, bondio, adweithedd a newid cemegol a'r berthynas rhwng priodweddau microsgopig a swmp sylweddau.
- Priodweddau a phrif fathau o adwaith cemegol cyfansoddion anorganig, organig, biolegol, organometalig a chydlynol
- Gwybodaeth fathemategol mewn algebra sylfaenol a chalcwlws a thrin rhifiadol sy'n briodol ar gyfer dadansoddi a gwerthuso problemau cemegol.
- Ennill gwybodaeth am weithrediadau darparwr lleoliadau diwydiannol.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos
Sut i gymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd pwnc a nodwyd uchod er mwyn datrys problemau ansoddol a meintiol o natur gyfarwydd ac anghyfarwydd.
Cydnabod a dadansoddi problemau a strategaethau, beirniadu technegau sy'n berthnasol i'w hysgolheictod datblygedig eu hunain, a pharatoi strategaethau ar gyfer eu datrys.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu
- Cynllunio a chynnal gweithdrefnau labordy safonol yn ddiogel ar gyfer paratoi, puro a dadansoddi ystod o sylweddau, a defnyddio technegau offerynnol priodol ar gyfer eu hastudio.
- Monitro priodweddau neu newidiadau cemegol a ffisegol ar draws ystod eang o gemeg, trwy arsylwi a mesur, a chofnodi, mewn dull systematig a dibynadwy, ddogfennaeth sy'n ymwneud â'r digwyddiadau hyn mewn modd sy'n briodol i gemegydd proffesiynol sy'n gweithio mewn sefyllfa academaidd neu ddiwydiannol.
- Ymchwilio, adolygu a gweithredu prosiect, gan ddewis gweithdrefnau priodol o lenyddiaeth a gwybodaeth, a symud ymlaen o'r cam nodi problemau hyd at werthuso ac arfarnu canlyniadau'n feirniadol.
- Dehongli data sy'n deillio o arsylwadau a mesuriadau labordy o ran eu harwyddocâd cyfredol a'r theori sy'n sail iddynt, er mwyn asesu eu harwyddocâd a'u rhoi mewn cyd-destun.
- Cyflwyno deunydd a dadleuon gwyddonol yn glir ac yn gywir, yn ysgrifenedig ac ar lafar, i ystod o gynulleidfaoedd gan gynnwys cyfnodolion cemeg, seminarau a chynadleddau a adolygir gan gymheiriaid.
- Cynhyrchu gwaith ysgrifenedig, rhoi cyflwyniadau, a chymryd rhan mewn gwaith tîm yn arddull a fformat darparwr y lleoliad diwydiannol.
- Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu
- Cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Cymhwyso technoleg gwybodaeth fel prosesu geiriau, taenlenni, cofnodi a storio data, cyfathrebu ar y we a phecynnau llunio cemegol.
- Rhyngweithio â phobl eraill a gweithio mewn tîm.
- Cynllunio a gweithredu prosiectau sy'n gweithio tuag at nod.
- Nodi a chynnal astudiaeth sydd ei hangen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus yn annibynnol
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae amrywiaeth o opsiynau o ran gyrfa yn agored i raddedigion cemeg. Mae llawer yn ymuno â’r diwydiant cemegion, tra bo eraill yn mynd i mewn i’r byd academaidd neu at sefydliadau’r llywodraeth. Mae nifer o raddedigion yn defnyddio’r hyfforddiant rhesymegol ac ymarferol a gawson nhw er mwyn mynd i feysydd marchnata, gwerthu, rheoli neu gyllid. Mae newyddiaduraeth wyddonol, cyhoeddi ac addysgu i gyd yn feysydd y gallech fynd i mewn iddynt. Felly hefyd, mae’r sgiliau penodol a gafwyd mewn labordai yn gallu bod yn gam tuag at waith yn y diwydiant gweithgynhyrchu.
Gyrfaoedd graddedigion
- Cemegydd Datblygu Cynnyrch
- Dadansoddwr Patentau
- Gwyddonydd Rheoli Ansawdd
- Peiriannydd Cemegol
- Ymchwilydd Academaidd
Lleoliadau
Bydd pob myfyriwr ar y cwrs hwn yn ymgymryd â phrosiect ymchwil un semester o hyd yn un o labordai ymchwil Cemeg Caerdydd.
Bydd myfyrwyr yn mynd ar leoliad gwaith 9-12 mis o hyd mewn diwydiant yn ystod blwyddyn 3. Mae galw mawr am leoliadau diwydiant ac ni ellir eu gwarantu. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn sicrhau lleoliad gwaith yn trosglwyddo i raglen Cemeg BSc neu MChem amgen ar ddiwedd blwyddyn 2.
Yn olaf, mae amrywiaeth o gyfleoedd i ymgymryd â phrosiectau dros yr haf yng Nghaerdydd dan oruchwyliaeth staff academaidd.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.