Cemeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MChem)
- Maes pwnc: Cemeg
- Côd UCAS: F104
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Pam astudio'r cwrs hwn
Breintiau graddedigion
Mae graddedigion yn gymwys i dderbyn aelodaeth lawn o’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol (MRSC), a gallant ymgeisio am deitl Cemegydd Siartredig.
Cyfleusterau o'r radd flaenaf
Ar ôl cael buddsoddiad o £20 miliwn, mae ein cyfleusterau'n cynnig amgylchedd gwych ar gyfer rhagoriaeth.
Pwyslais ar ymchwil
Enillwch sylfaen gadarn yn hanfodion cemeg gyda phwyslais ar ymchwil trwy brosiect ymchwil estynedig yn eich pedwaredd flwyddyn.
Ewch ar daith
Cymerwch olwg ar ein Hysgol a'n cyfleusterau mewn taith dywys 360.
Wedi’i achredu gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC)
Mae'n bodloni'r gofynion academaidd ar gyfer Cemegydd Siartredig (CChem) yn rhannol.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys lleoliad gwaith â thâl 9-12 mis yn ystod blwyddyn tri. Byddwch yn cael y cyfle i wneud cysylltiadau gwerthfawr a datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich paratoi at amgylchedd gwaith cystadleuol. Gall ein cysylltiadau cryf â'r diwydiant eich helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith. Yn y gorffennol, mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau gwaith gyda Dow Chemical Company, GSK, Pfizer a Kodak.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o brif feysydd cemeg. Byddwch yn mynd ato wedi hynny i ganolbwyntio ar faes sy'n ddiddorol neu'n bwysig i chi trwy brosiect ymchwil o bwys sy'n werth hanner credydau'r cwrs yn ystod eich blwyddyn olaf. At hynny, byddwch yn treulio sawl awr yn ein labordai yn cael profiad ymarferol ac yn datblygu eich gwaith ymchwil a’ch sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol.
Gyda mwy o bwyslais ar ymchwil na’n graddau BSc, ar sail dadansoddiadau, dehongli a datrys problemau, yn ogystal â llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy proffesiynol, gallwch gaffael yr holl rinweddau sy'n angenrheidiol i weithio fel fferyllydd hunangynhaliol.
Achrediadau
Maes pwnc: Cemeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB. Rhaid cynnwys Cemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Cemeg HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £1,907 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £5,890 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Bydd yr ysgol yn cynnwys cost popeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a rydd tiwtoriaid ar lafar. Efallai y bydd angen i chi dalu costau ychwanegol sydd naill ai ddim yn hanfodol neu sy'n gostau sylfaenol y mae disgwyl i fyfyrwyr eu talu eu hunain. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn cynnwys gliniaduron, cyfrifianellau, deunydd ysgrifennu cyffredinol, gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell), a chopïo / argraffu sylfaenol.
Disgwylir i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r lleoliad gwaith, gan gynnwys costau teithio, cynhaliaeth a fisa/trwydded waith. Efallai y bydd angen i fyfyrwyr dalu cost yswiriant ychwanegol.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch. Byddwn yn rhoi cot labordy, sbectol diogelwch, llyfr nodiadau labordy a phecyn modelu moleciwlaidd ichi wrth ymrestru fel arfer. Mae meddalwedd arlunio cemegol ChemDraw ar gael ar holl gyfrifiaduron y Brifysgol, a byddwch yn gallu ei lawrlwytho i'ch cyfrifiaduron eich hun am ddim.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae pob blwyddyn yn cynnwys modiwlau sy'n dod i gyfanswm o 120 credyd
Ym mlwyddyn un rydych chi'n cymryd modiwlau cemeg gorfodol sy'n werth 110 credyd, gan gynnwys 30 credyd ymarferol, a modiwl dewisol sy'n werth 10 credyd, a allai fod mewn cemeg neu unrhyw bwnc arall.
Ym mlwyddyn dau, byddwch yn cymryd modiwlau cemeg gorfodol mewn amrywiaeth o feysydd pwnc gwahanol, gan gynnwys modiwl ymarferol 30 credyd.
Ym mlwyddyn tri, byddwch yn cwblhau lleoliad gwaith 9-12 mis (80 o gredydau) mewn diwydiant a modiwl theori gorfodol ym mhob cangen o’r pwnc ar draws y ddau semester (40 o gredydau) drwy ddysgu o bell.
Ym mlwyddyn pedwar, daw hanner y credyd o brosiect ymchwil arbenigol yn un o'r grwpiau ymchwil yn yr ysgol, gan weithio ochr yn ochr â myfyrwyr PhD a gweithwyr Ôl-ddoethuriaeth. Dewisir modiwlau dewisol (6 x 10 credyd) a’r rhain fydd yn ffurfio gweddill y flwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Nod ein modiwlau yn y flwyddyn gyntaf yw sbarduno eich diddordeb yn y pwnc yn ogystal â rhoi sylfaen wybodaeth gref i adeiladu arni yn ystod y blynyddoedd sy’n dilyn. Mae'r modiwlau craidd hyn yn seiliedig ar bum prif faes pwnc: cemeg ddadansoddol, anorganig, organig, ffisegol a chyflwr solet ac maent yn cynnwys hyfforddiant mewn sgiliau allweddol ar gyfer cemegwyr. Byddwch hefyd yn dewis o ystod eang o fodiwlau dewisol, sy'n eich galluogi i ddilyn eich maes diddordeb.
Rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf cyfartaledd o 55% yn y flwyddyn gyntaf er mwyn symud ymlaen i flwyddyn 2 y rhaglen MChem. Bydd rhaid i fyfyrwyr sy’n cael cyfartaledd sy’n llai na 55% yn y flwyddyn gyntaf drosglwyddo i'r rhaglen BSc.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sylfeini Cemeg Gorfforol | CH5101 | 20 Credydau |
Sylfeini Cemeg Anorganig | CH5102 | 20 Credydau |
Sylfeini Cemeg Organig | CH5103 | 20 Credydau |
Cyflwyniad i Gemeg y Brifysgol | CH5108 | 10 Credydau |
Sylfaen Cemeg Blwyddyn 1 Ymarferol | CH5110 | 30 Credydau |
Dulliau Mathemategol ar gyfer Cemeg | CH5116 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cemeg Amgylcheddol | CH2117 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Ddatblygu Cyffuriau | CH5130 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Gemeg Werdd a Chynaliadwy | CH5150 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Ym mlwyddyn dau byddwch yn astudio modiwlau gorfodol uwch sy’n eich galluogi i ymarfer a datblygu sgiliau newydd drwy eu cymhwyso i ystod eang o broblemau. Mae modiwlau cemeg craidd mewn sbectrosgopeg, cemeg anorganig, organig a chorfforol yn cael eu cefnogi gan waith ymarferol a modiwl sgiliau allweddol, gan sicrhau eich datblygiad mewn ystod ehangach o sgiliau sydd eu hangen yng nghamau diweddarach eich gradd ac sy'n berthnasol i ddatblygu gyrfa mewn gwyddoniaeth.
Gallwch drosglwyddo i'r cwrs BSc Cemeg tair blynedd ar unrhyw adeg cyn dechrau’r drydedd flwyddyn. Rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf cyfartaledd o 55% yn yr ail flwyddyn er mwyn symud ymlaen i drydedd flwyddyn y rhaglen MChem. Bydd rhaid i fyfyrwyr sy’n cael cyfartaledd sy’n llai na 55% yn yr ail flwyddyn drosglwyddo i'r rhaglen BSc.
Os yw lleoliad mewn diwydiant yn apelio atoch, bydd angen i chi fynegi diddordeb erbyn dechrau’r ail flwyddyn, a throsglwyddo i'r cwrs MChem Cemeg gyda Blwyddyn ar Leoliad dramor erbyn dechrau’r drydedd flwyddyn. Gallwch drosglwyddo i'r cwrs BSc Cemeg tair blynedd neu’r cwrs MChem Cemeg pedair blynedd ar unrhyw adeg cyn dechrau’r drydedd flwyddyn.
Mae cyfleoedd hefyd i sawl myfyriwr wneud ymchwil dros yr haf yng Nghaerdydd dan oruchwyliaeth staff.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cemeg Gorfforol Bellach | CH5201 | 20 Credydau |
Strwythur, bondio ac adweithedd mewn cyfansoddion o'r elfennau p a bloc d | CH5202 | 20 Credydau |
Cemeg Organig a Biolegol Bellach | CH5203 | 20 Credydau |
Cyfathrebu Cemeg: Sgiliau allweddol ar gyfer cemegwyr | CH5206 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i gemeg bywyd | CH5207 | 10 Credydau |
Ceisiadau o Spectrosgopi Moleciwlaidd | CH5208 | 10 Credydau |
Labordai Cemeg Bellach | CH5210 | 30 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Byddwch yn treulio’r drydedd flwyddyn yn gweithio i gyflogwr lletyol, gan roi profiad gwaith go iawn i chi fel rhan o'r cwrs.
Rydym yn eich annog i edrych am eich darparwr lleoliad eich hun, ond rydym yn rhannu cyfleoedd posibl gyda’n cwmnïau partner sy’n chwilio am fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn benodol. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos â chi drwy gydol eich lleoliad.
Bydd prosiect ymchwil yn cael ei oruchwylio gan y cyflogwr lletyol ond bydd yn cael ei asesu’n bennaf yng Nghaerdydd a bydd yn rhan sylweddol o'r flwyddyn. Byddwch hefyd yn dilyn nifer o fodiwlau drwy 'ddysgu o bell' mewn cemeg anorganig, organig a ffisegol. Mae hyn yn sicrhau eich bod wedi ymdrin â'r un deunydd craidd â’r myfyrwyr sy'n treulio’u trydedd blwyddyn yng Nghaerdydd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Profiad Lleoliad | CH4309 | 80 Credydau |
Uwch Gemeg Organometalig a Chydlynu ar gyfer Dysgwyr o Bell | CH4311 | 10 Credydau |
Mecaneg cwantwm ac ystadegol moleciwlau a solidau ar gyfer dysgwyr o bell | CH4313 | 10 Credydau |
Macromolecules Bywyd i Ddysgwyr Pellter | CH4314 | 10 Credydau |
Strategaethau synthetig Uwch ar gyfer dysgwyr o bell | CH5312 | 10 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Mae prosiect ymchwil sylweddol blwyddyn o hyd mewn maes o'ch dewis chi yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu a dangos sgiliau newydd trwy ymchwil. Nid oes modiwlau theori gorfodol yn y bedwaredd flwyddyn ar hyn o bryd, sy’n eich galluogi chi i ddewis y modiwlau sydd ar gael sydd o ddiddordeb i chi.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prosiect | CH3401 | 60 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ffiniau mewn Dylunio Ligand a Chydlynu Cemeg | CH3402 | 10 Credydau |
Ceisiadau Bio-ddelweddu Cemeg Cydlynu | CH3403 | 10 Credydau |
Synthesis anghymesur o fferyllol a chynhyrchion naturiol | CH3404 | 10 Credydau |
Modelu Moleciwlaidd | CH3406 | 10 Credydau |
Deunyddiau Uwch | CH3407 | 10 Credydau |
Sbectrosgopeg Cyseiniant Magnetig Uwch: Egwyddorion a Chymwysiadau | CH3410 | 10 Credydau |
Deunyddiau Catalytig ar gyfer Cemeg Werdd | CH3411 | 10 Credydau |
Cemeg Supramoleciwlaidd | CH3412 | 10 Credydau |
Cymhwyso Dulliau Sbectrosgopig Uwch | CH4409 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Ein nod yw cynnig amgylchedd rhagorol ar gyfer addysg gemegol ac mae ein graddau israddedig yn adlewyrchu ein cryfderau a’n diddordebau ymchwil presennol. Mae prosiectau yn y flwyddyn olaf yn gwbl integredig yn ein grwpiau ymchwil. Mae eich cwrs astudio wedi’i lunio i’ch galluogi chi i wireddu eich llawn botensial. Ein nod yw cynnig addysgu arbenigol a gofal bugeiliol cynhwysfawr.
Addysgir trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol. Cefnogir hyn gan y deunyddiau sydd ar Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn elfen bwysig o’r addysgu, mae 10-12 yr wythnos fel arfer, ac mae’r rhain yn 50 munud o hyd. Cefnogir y pwnc mewn sawl ffordd yn dibynnu ar y pwnc o dan sylw. Gall hyn gynnwys sleidiau, cyflwyniadau cyfrifiadur, taflenni gwaith a chrynodebau o’r cwrs.
Gwaith labordy
Mae ail ran yr addysgu’n cynnwys dosbarthiadau ymarferol, unwaith eto gyda thua 10-12 awr yr wythnos ar gyfartaledd fel arfer. Mae’r pwyslais ar dechnegau sylfaenol a chofnodi arsylwadau mewn modd syml ond cywir ym mlwyddyn un. Addysgir sgiliau drwy arddangosiadau ymarferol ac fe’u cefnogir gan ystod o adnoddau e-ddysgu sydd ar gael yn hwylus ac yn rhad ac ddim i bob myfyriwr.
Mae hunan-brofi yn cynnig dealltwriaeth o wahanol dechnegau ymarferol yn ogystal â'r cyfle i gywiro camgymeriadau cyn mynd i sesiynau labordy.
Mae gwaith labordy yn gweithio tuag at arbrofion sylweddol sy’n gofyn am gynllunio, dadansoddi a dehongli canlyniadau yn ofalus, yn ogystal ag adrodd safonol, proffesiynol. Mae gwaith ymarferol yn cynnig profiad ym mhob un o brif weithdrefnau a thechnegau'r labordy. Mae wedi'i gynllunio i ymestyn lefel eich hyfedredd mewn cemeg ymarferol, gan eich paratoi i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yng nghamau olaf eich gradd.
Addysgu mewn grwpiau bach
Rhoddir dosbarthiadau tiwtorial mewn grwpiau bach ym mhob blwyddyn, er mwyn ymarfer, trafod a dadansoddi deunydd y darlithoedd, yn ogystal â datblygu sgiliau cyfathrebu. Cyflwynir sesiynau gan dri aelod staff penodol, un arbenigwr ym mhob un o feysydd cemeg organig, anorganig a ffisegol. Mae'r un tri thiwtor fel arfer yn parhau i fod wedi’u haseinio i bob grŵp trwy gydol eich gradd.
Dysgu o Bell
Yn ystod blwyddyn y lleoliad gwaith, darperir darlithoedd, adnoddau dysgu ac asesiadau ar gyfer modiwlau theori ar-lein trwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol.
Lleoliad gwaith
Treulir y lleoliad gwaith yn gweithio mewn diwydiant a bydd yn cynnwys gwaith prosiect ynghyd â thasgau eraill a neilltuwyd gan ddarparwr y lleoliad gwaith.
Prosiect ymchwil
Mae gan bob un o’n cyrsiau Cemeg elfen gref o ymchwil annibynnol, o dan oruchwyliaeth. Ym mlwyddyn olaf y cwrs MChem, byddwch yn ymuno â grŵp ymchwil sy'n gweithio yn eich hoff faes cemeg ac yn cael pwnc i'w ymchwilio. Byddwch yn cyflwyno canlyniadau eich gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy weithio o dan arweiniad arbenigwr yn y maes. Yn y gorffennol, mae hyn wedi arwain at fyfyrwyr israddedig yn ysgrifennu papurau a gyhoeddwyd ar y cyd.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae gan bob myfyriwr dri thiwtor academaidd,���y mae un ohonynt hefyd yn diwtor personol i chi. Byddwch yn gweld un o’ch tiwtoriaid bob wythnos, naill ai fel rhan o grŵp tiwtorial bach neu ar sail un-i-un mewn sesiwn diwtorial bersonol. Mae’r holl staff yn gweithredu polisi drws agored, sy’n golygu y gallwch bob amser fynd at staff gyda phroblemau ��� academaidd neu broblemau eraill.
Bydd cydlynydd lleoliadau diwydiannol yr Ysgol yn dod â lleoliadau gwaith perthnasol i sylw myfyrwyr. Bydd gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth yn ymwneud â cheisiadau am leoliadau gwaith.
Byddwch yn cael llawlyfr cynhwysfawr sy'n briodol i'ch blwyddyn astudio. Mae'n cynnwys manylion am weithdrefnau a pholisïau'r Ysgol.
Rydym yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol (Dysgu Canolog) er mwyn rhannu gwybodaeth
Sut caf fy asesu?
Formative and summative assessments are carried out during each year of study. This gives a measure of performance to inform you, us as staff, and potential employers about your progress and achievement. It can also help the learning process by highlighting areas of success and areas needing more attention. Assessment for the MChem degree involves methods that are selected to suit the particular outcomes of each module and the course as a whole. These methods include the following:
- Formal examinations with fixed time-limits
- Class tests
- Reports on laboratory work
- Planning, conduct and reporting of project work
- Essays
- Problem-solving exercises (as workshop assignments)
- Oral presentations
- Preparation and display of posters.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu dangos gwybodaeth systematig a dealltwriaeth feirniadol gynhwysfawr o ffeithiau, cysyniadau, egwyddorion a damcaniaethau hanfodol sy'n ymwneud â maes pwnc cemeg. Yn benodol
- Terminoleg, enwau, confensiynau ac unedau cemegol
- Nodweddion strwythurol ac ymddygiad cemegol elfennau cemegol a'u cyfansoddion, gan gynnwys perthnasoedd a thueddiadau rhwng grwpiau yn y Tabl Cyfnodol
- Yr egwyddorion a'r gweithdrefnau a ddefnyddir mewn dadansoddi cemegol a nodweddu cyfansoddion cemegol, gan gynnwys cymhwyso sbectrosgopïau i bennu strwythur a phriodweddau endidau cemegol.
- Damcaniaethau sy'n disgrifio strwythur, bondio, adweithedd a newid cemegol a'r berthynas rhwng priodweddau microsgopig a swmp sylweddau.
- Priodweddau a phrif fathau o adwaith cemegol cyfansoddion anorganig, organig, biolegol, organometalig a chydlynol
- Ymwybyddiaeth o faterion o bwys ar flaen y gad ym maes ymchwil gemegol
- Gwybodaeth fathemategol mewn algebra sylfaenol a chalcwlws a thrin rhifiadol sy'n briodol ar gyfer dadansoddi a gwerthuso problemau cemegol.
- Ennill gwybodaeth am brosiect arbenigol gyda darparwr lleoliad diwydiannol.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos
- Sut i gymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd pwnc a nodwyd uchod er mwyn datrys problemau ansoddol a meintiol o natur gyfarwydd ac anghyfarwydd.
- Cydnabod a dadansoddi problemau a strategaethau newydd, beirniadu technegau sy'n berthnasol i'w hysgolheictod datblygedig eu hunain, a pharatoi strategaethau ar gyfer eu datrys.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu
- Cynllunio a chynnal gweithdrefnau labordy safonol yn ddiogel ar gyfer paratoi, puro a dadansoddi ystod o sylweddau, a defnyddio technegau offerynnol priodol ar gyfer eu hastudio.
- Monitro priodweddau neu newidiadau cemegol a ffisegol ar draws ystod eang o gemeg, trwy arsylwi a mesur, a chofnodi, mewn dull systematig a dibynadwy, ddogfennaeth sy'n ymwneud â'r digwyddiadau hyn mewn modd sy'n briodol i gemegydd proffesiynol sy'n gweithio mewn sefyllfa academaidd neu ddiwydiannol.
- Ymchwilio, adolygu, cynllunio, dylunio a gweithredu ymchwiliadau ymarferol, dewis gweithdrefnau priodol o lenyddiaeth a gwybodaeth, a symud ymlaen o'r cam nodi problemau hyd at werthuso ac arfarnu canlyniadau'n feirniadol gydag awgrym dilynol o ddulliau i fynd i'r afael â diffygion yn y canfyddiadau cyfredol.
- Dehongli data sy'n deillio o arsylwadau a mesuriadau labordy o ran eu harwyddocâd cyfredol a'r theori sy'n sail iddynt, er mwyn asesu eu harwyddocâd a'u rhoi mewn cyd-destun.
- Cyflwyno deunydd a dadleuon gwyddonol yn glir ac yn gywir, yn ysgrifenedig ac ar lafar, i ystod o gynulleidfaoedd gan gynnwys cyfnodolion cemeg, seminarau ymchwil a chynadleddau a adolygir gan gymheiriaid.
- Dangos sgiliau cyfrifiadurol, prosesu data a sgiliau chwilio electronig, yn ymwneud â gwybodaeth gemegol, data a'r llenyddiaeth gynradd.
- Cynhyrchu gwaith ysgrifenedig, rhoi cyflwyniadau, a chymryd rhan mewn gwaith tîm yn arddull a fformat darparwr y lleoliad diwydiannol.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu
- Cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Cymhwyso technoleg gwybodaeth fel prosesu geiriau, taenlenni, cofnodi a storio data, cyfathrebu ar y we a phecynnau llunio cemegol.
- Rhyngweithio â phobl eraill a gweithio mewn tîm.
- Cynllunio prosiectau sy'n gweithio tuag at nod sy'n berthnasol i ddealltwriaeth gemegol gyfredol a/neu dargedau diwydiannol a’u gweithredu.
- Nodi a chynnal astudiaeth sydd ei hangen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus yn annibynnol
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae cemegwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â heriau mwyaf dybryd cymdeithas - o fiodanwydd a dŵr glân i ddatblygu cynhyrchion fferyllol newydd. Mae gradd mewn cemeg yn agor y drws i ystod eang o yrfaoedd y tu mewn a'r tu allan i'r labordy, gyda'r MChem yn rhoi sylfaen ardderchog i wyddonwyr ymchwil y dyfodol.
Mae ystod eang o gyflogwyr sy'n chwilio am sgiliau cyfathrebu rhagorol, profiad mewn amgylchedd labordy, sgiliau TG uwch a hyder wrth ddadansoddi gwybodaeth amrywio yn awyddus i gael ein graddedigion. Gyda gradd mewn cemeg, gallwch ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd ymchwil cyffrous mewn meysydd fel darganfod meddyginiaethau a brechlynnau newydd, gwella dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a datblygu cynhyrchion a deunyddiau cemegol newydd gan ddefnyddio prosesau gwyrddach.
Mae'r hyfforddiant rhesymegol ac ymarferol a gewch ar eich cwrs hefyd yn cael ei werthfawrogi'n fawr mewn meysydd fel marchnata, gwerthu, rheoli neu gyllid. Mae newyddiaduraeth wyddonol, cyhoeddi ac addysgu i gyd yn llwybrau posibl o ran gyrfa. Mae graddedigion blaenorol wedi mynd ymlaen i weithio fel cemegwyr datblygu, graddedigion technegol, dadansoddwyr patent, cyfrifwyr, a gwyddonwyr rheoli ansawdd.
Gyrfaoedd graddedigion
- Gwyddonydd Ymchwil
- Technolegydd
- Ymgynghorydd Cyswllt
- Ymchwilydd PhD
- Gwyddonydd Fformiwleiddio
Lleoliadau
Bydd myfyrwyr yn mynd ar leoliad gwaith 9-12 mis o hyd mewn diwydiant yn ystod blwyddyn 3. Mae galw mawr am leoliadau diwydiant ac ni ellir eu gwarantu. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn sicrhau lleoliad gwaith yn trosglwyddo i raglen Cemeg MChem neu BSc amgen ar ddiwedd blwyddyn 2.
Bydd pob myfyriwr ar y cwrs hwn yn ymgymryd â phrosiect ymchwil dau semester o hyd yn un o labordai ymchwil Cemeg Caerdydd yn ystod eu pedwaredd flwyddyn.
Yn olaf, mae amrywiaeth o gyfleoedd i ymgymryd â phrosiectau dros yr haf yng Nghaerdydd dan oruchwyliaeth staff academaidd.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.