Ewch i’r prif gynnwys

Cemeg (BSc)

  • Maes pwnc: Cemeg
  • Côd UCAS: F100
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae cemeg yn ddisgyblaeth sylfaenol a chyffrous ac mae ganddi rôl bwysig mewn llawer o feysydd gwyddoniaeth ac mewn bywyd pob dydd.

plane

Astudio dramor neu mewn diwydiant

Gallwch wneud cais i drosglwyddo i MChem, gyda Blwyddyn mewn Diwydiant neu Flwyddyn Dramor.

molecule

Cyfleusterau o'r radd flaenaf

Ar ôl cael buddsoddiad o £20 miliwn, mae ein cyfleusterau'n cynnig amgylchedd gwych ar gyfer rhagoriaeth.

notepad

Profiad ymarferol

Datblygwch eich sgiliau ymarferol yn y labordy a ennill profiadau yn datrys problemau, gweithio mewn grŵp a llunio adroddiadau.

academic-school

Ewch ar daith

Cymerwch olwg ar ein Hysgol a'n cyfleusterau mewn taith dywys 360.

star

Achrediad proffesiynol

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Royal Society of Chemistry logo

Mae'r cwrs tair blynedd hyblyg hwn yn rhoi cyflwyniad eang i gemeg, gyda'r cyfle i arbenigo yn y meysydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt trwy fodiwlau dewisol a phrosiect ymchwil.

Byddwch yn astudio pynciau craidd ar gemeg ddadansoddol, ffisegol, organig, anorganig a chyflwr solet, gyda'r cyfle i gymryd ystod eang o fodiwlau dewisol, o gemeg gwyrdd a chynaliadwy a datblygu cyffuriau, i gatalysis heterogenaidd a biosynthesis peirianneg.

Gallwch ddewis ychwanegu Blwyddyn Lleoliad Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant ar

ddiwedd eich blwyddyn gyntaf, yn amodol ar gyflawniad academaidd. (Fodd bynnag, os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sydd â gofynion fisa, nodwch fod rhaglenni gyda blynyddoedd lleoliad yn bedair blynedd o hyd.)

Fel cemegydd, gallwch ddewis gyrfa mewn diwydiannau cemegol neu fferyllol, i gymhwyso eich sgiliau dadansoddi beirniadol a datrys problemau i feysydd ehangach - o addysg i gyllid - neu, i fynd ymlaen i astudio pellach.

Achrediadau

Maes pwnc: Cemeg

  • academic-schoolYr Ysgol Cemeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4023
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Mae'r graddau hyn yn berthnasol i geisiadau a dderbyniwyd cyn 30 Mehefin 2024. Gall graddau sy'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr Clirio amrywio a gallant fod yn uwch neu'n is. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid cynnwys Cemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Cemeg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.


Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Bydd yr Ysgol yn cynnwys cost popeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen; esbonnir hynny’n glir yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar. Efallai y bydd angen i chi dalu costau ychwanegol nad ydynt yn hanfodol neu sy'n gostau sylfaenol y mae disgwyl i fyfyrwyr eu talu eu hunain. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn cynnwys gliniaduron, cyfrifianellau, deunydd ysgrifennu cyffredinol, gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell), a chopïo/argraffu sylfaenol. 

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch. Byddwn yn rhoi cot labordy, sbectol diogelwch, llyfr nodiadau labordy a phecyn modelu moleciwlaidd ichi. Mae meddalwedd arlunio cemegol ChemDraw ar gael ar holl gyfrifiaduron y Brifysgol, a byddwch yn gallu ei lawrlwytho i'ch cyfrifiaduron eich hun am ddim.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd llawn amser tair blynedd, gyda 120 credyd astudio ym mhob blwyddyn.

Gallwch ddewis ychwanegu Blwyddyn Lleoliad Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant ar

ddiwedd eich blwyddyn gyntaf, yn amodol ar gyflawniad academaidd. (Fodd bynnag, os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sydd â gofynion fisa, nodwch fod rhaglenni gyda blynyddoedd lleoliad yn bedair blynedd o hyd.)

Os hoffech ymgymryd â lleoliad neu  drosglwyddo i'r MChem, mae angen i chi:

  • gofrestru eich diddordeb erbyn dechrau blwyddyn dau,
  • cyflawni o leiaf 55% yn gyffredinol ar y pwynt trosglwyddo,
  • trosglwyddo i'r cyrsiau BSc Cemeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, y BSc Cemeg gyda Blwyddyn Lleoliad Dramor neu gyrsiau MChem erbyn dechrau blwyddyn tri.

 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Yn y flwyddyn gyntaf ein bwriad yw ennyn eich diddordeb yn y pwnc, a rhoi sylfaen wybodaeth gref i adeiladu arni yn ystod y blynyddoedd sy’n dilyn. Mae ein modiwlau cemeg craidd wedi'u seilio ar bum prif faes pwnc: cemeg ddadansoddol anorganig, organig, ffisegol a chyflwr solid. Maen nhw’n cynnig hyfforddiant mewn sgiliau allweddol i gemegwyr. Ategir y modiwlau craidd hyn gan ystod o fodiwlau dewisol, sy'n eich galluogi i gael dewis o ran eich astudiaethau ac ehangu eich profiad. Efallai y byddwch hefyd am astudio modiwlau dewisol mewn disgyblaethau megis y gwyddorau biolegol, ffiseg neu ieithoedd modern.

Blwyddyn dau

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn astudio modiwlau gorfodol uwch sy’n eich galluogi i ymarfer a datblygu sgiliau newydd drwy eu cymhwyso i ystod eang o broblemau.

Os ydych chi'n cael o leiaf cyfartaledd o 55% yn yr ail flwyddyn, bydd gennych y cyfle i drosglwyddo i gwrs MChem Cemeg cyn dechrau’r drydedd. Os yw lleoliad gwaith yn apelio atoch, mae angen i chi fynegi’ch diddordeb erbyn dechrau’r ail flwyddyn, a throsglwyddo i'r cyrsiau BSc Cemeg gyda Blwyddyn Mewn Diwydiant neu BSc Cemeg gyda Blwyddyn ar Leoliad Gwaith Dramor erbyn dechrau’r drydedd.

Blwyddyn tri

Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn cynnal prosiect
ymchwil sylweddol yn ystod semester y gwanwyn. Byddwch yn cwblhau modiwl theori gorfodol ym mhedair cangen o'r pwnc ac yn dewis o blith ystod o fodiwlau dewisol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Chemistry student in laboratory
Lectures are supplemented with practical work in our well-equipped laboratory facilities.

Dysgu ac asesu

Ein nod yw cynnig amgylchedd rhagorol ar gyfer addysg gemegol ac mae ein graddau israddedig yn adlewyrchu ein cryfderau a’n diddordebau ymchwil presennol. Mae prosiectau yn y flwyddyn olaf yn gwbl integredig yn ein grwpiau ymchwil. Ein nod yw darparu addysgu arbenigol a gofal bugeiliol cynhwysfawr i'ch galluogi i wireddu hyd at eithaf eich gallu.

Addysgir trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol. Cefnogir hyn gan y deunyddiau sydd ar Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol. 

Gwaith labordy 

Mae’r pwyslais ar dechnegau sylfaenol a chofnodi arsylwadau mewn modd syml ond cywir ym mlwyddyn un. Addysgir sgiliau drwy arddangosiadau ymarferol ac fe’u cefnogir gan ystod o adnoddau e-ddysgu sydd ar gael yn hwylus ac yn rhad ac am ddim i bob myfyriwr. 
 
Mae hunan-brofi yn cynnig dealltwriaeth o wahanol dechnegau ymarferol yn ogystal â'r cyfle i gywiro camgymeriadau cyn mynd i sesiynau labordy. 

Mae gwaith labordy yn gweithio tuag at arbrofion sylweddol sy’n gofyn am gynllunio, dadansoddi a dehongli canlyniadau yn ofalus, yn ogystal ag adrodd safonol, proffesiynol. Mae gwaith ymarferol yn cynnig profiad ym mhob un o brif weithdrefnau a thechnegau'r labordy. Mae wedi'i ddylunio i ymestyn lefel eich hyfedredd mewn cemeg ymarferol, gan eich paratoi i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yng nghamau olaf eich gradd. 
 
Prosiect 

Mae gan bob un o’n cyrsiau cemeg elfen gref o waith prosiect annibynnol, o dan oruchwyliaeth. Ym mlwyddyn olaf y cwrs BSc, byddwch yn gweithio ar brosiect yn y maes cemeg sydd orau gennych ac yn cael pwnc i'w ymchwilio neu ei ddatblygu. Byddwch yn cyflwyno canlyniadau eich gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy weithio o dan arweiniad arbenigwr yn y maes. Yn y gorffennol, mae hyn wedi arwain at fyfyrwyr israddedig yn ysgrifennu papurau a gyhoeddwyd ar y cyd. 

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael eich cefnogi gan ystod o diwtoriaid academaidd, ac mae un ohonynt hefyd yn gweithredu fel eich tiwtor personol. Byddwch yn gweld un o’ch tiwtoriaid bob wythnos, naill ai fel rhan o grŵp tiwtorial bach neu ar sail un-i-un mewn sesiwn diwtorial bersonol.  Mae’r holl staff yn gweithredu polisi drws agored, sy’n golygu y gallwch bob amser fynd at staff gyda phroblemau – boed y rheiny’n academaidd neu’n broblemau eraill.   

Byddwch yn cael llawlyfr cynhwysfawr sy'n briodol i'ch blwyddyn astudio, sy’n cynnwys manylion am weithdrefnau a pholisïau'r Ysgol. 

Rydym yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Dysgu Canolog) y Brifysgol i rannu gwybodaeth a deunyddiau addysgu a chefnogi eich dysgu.

Sut caf fy asesu?

Cynhelir asesiadau ffurfiannol a chrynodol yn ystod pob blwyddyn astudio. Mae hyn yn rhoi mesur o berfformiad i'ch hysbysu chi, ni fel staff, a darpar gyflogwyr am eich cynnydd a'ch cyrhaeddiad. Hefyd gall helpu'r broses ddysgu trwy dynnu sylw at feysydd llwyddiant a meysydd y mae angen mwy o sylw arnynt.

Mae'r asesu'n cynnwys cyfuniad o ddulliau sy'n cael eu dewis i weddu i ganlyniadau penodol pob modiwl a'r cwrs yn ei gyfanrwyddyn cynnwys: 

  • Arholiadau ffurfiol gyda therfynau amser penodedig 
  • Profion dosbarth 
  • Adroddiadau ar waith labordy 
  • Cynllunio, cynnal ac adrodd ar waith prosiect 
  • Traethodau 
  • Ymarferion datrys problemau (fel aseiniadau gweithdy) 
  • Cyflwyniadau llafar 
  • Paratoi ac arddangos posteri. 

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Maent hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych chi.

O gwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ddamcaniaethau allweddol a chymwysiadau dadansoddol, a'u cymhwysiad i theori gemegol o'r radd flaenaf gyfredol.
  • Arddangos dealltwriaeth systematig o wybodaeth fathemategol a thrin rhifiadol sy'n briodol ar gyfer dadansoddi a gwerthuso problemau cemegol.
  • Gwerthuso'n feirniadol systemau a phrosesau cemegol cyfarwydd ac anghyffredin.

Sgiliau Deallusol:

  • Gweithredu modelau priodol i ddarparu esboniadau a rhagfynegiadau o fewn cyd-destun pynciau uwch, gan gymhwyso cysyniadau cemeg craidd.
  • Cynllunio, cynnal a gwerthuso gwaith ymchwiliol sy'n arddangos dealltwriaeth o dechnegau ar gyfer synthesis, dadansoddi a/neu fodelu cyfrifiadol.
  • Dadansoddi a dehongli data sy'n deillio o arsylwadau a mesuriadau labordy i ddiffinio a datrys problemau mewn cyd-destunau amrywiol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Cyfathrebu'n effeithiol ar draws cynulleidfaoedd a genres, gan gyfleu syniadau academaidd a dadleuon technegol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
  • Deall sut mae cemeg yn cyfrannu at ac yn datrys problemau mewn cyd-destunau byd go iawn a haniaethol.
  • Nodi cyfrifoldebau'r cemegydd o fewn perthnasoedd proffesiynol cydweithredol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Arddangos menter trwy strwythuro a rheoli amser tasg ymchwiliol, gan weithio mewn timau pan fo hynny'n briodol.
  • Astudio'n greadigol, yn annibynnol, ac yn fyfyriol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau i heriau neu gyd-destunau ehangach.
  • Arddangos llythrennedd digidol wrth werthuso, dadansoddi ac asesu gwybodaeth mewn cyd-destunau cysylltiedig.
  • Datblygu ymwybyddiaeth o'ch cryfderau a'ch gwendidau gan ddefnyddio arweiniad/adborth i ddatblygu strategaethau ar gyfer dysgu gydag ymreolaeth sy'n dod i'r amlwg.
Group of students working in laboratory
We encourage group working during our laboratory practicals.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae amrywiaeth o opsiynau o ran gyrfa yn agored i raddedigion cemeg. Mae llawer yn ymuno â’r diwydiant cemegion, tra bo eraill yn mynd i mewn i’r byd academaidd neu at sefydliadau’r llywodraeth. Mae nifer o raddedigion yn defnyddio’r hyfforddiant rhesymegol ac ymarferol a gawson nhw er mwyn mynd i feysydd marchnata, gwerthu, rheoli neu gyllid. Mae newyddiaduraeth wyddonol, cyhoeddi ac addysgu i gyd yn feysydd y gallech fynd i mewn iddynt. Felly hefyd, mae’r sgiliau penodol a gafwyd mewn labordai yn gallu bod yn gam tuag at waith yn y diwydiant gweithgynhyrchu.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Cemegydd Datblygu Cynnyrch
  • Dadansoddwr Patentau
  • Gwyddonydd Rheoli Ansawdd
  • Peiriannydd Cemegol
  • Ymchwilydd Academaidd

Lleoliadau

Mae'r holl fyfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil un semester o fewn labordy ymchwil Cemeg Caerdydd. 

Os byddwch, ar ôl dechrau eich gradd, yn penderfynu bod gennych ddiddordeb mewn lleoliad dramor neu leoliad gwaith mewn diwydiant, cewch gyfle i drosglwyddo i'r cyrsiau BSc neu MChem perthnasol, yn amodol ar gymeradwyaeth academaidd.

Yn olaf, mae amrywiaeth o gyfleoedd i ymgymryd â phrosiectau ymchwil haf ym Mhrifysgol Caerdydd dan oruchwyliaeth ein staff academaidd. 

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.