Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol) (BSc)
- Maes pwnc: Rheoli busnes
- Côd UCAS: N202
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Dysgu gan y gorau
Manteisiwch ar arbenigedd a chefnogaeth staff sy’n cynnal ymchwil mewn ysgol sydd â'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil.
Agor byd o bosibiliadau
Cewch fynd i'r afael â heriau busnes sy'n berthnasol yn fyd-eang fydd yn eich paratoi i weithio ledled y byd.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.
Nodwyd am ragoriaeth
Achrededig gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB).
Mae globaleiddio busnesau ledled y byd yn golygu bod busnesau’n gweithredu ar lefel ryngwladol i ateb y galw cynyddol am nwyddau a gwasanaethau. Wrth i sefydliadau ddod o hyd i ffyrdd o ymateb i’r galw hyn, mae galw mawr am weithwyr ag arbenigedd rheoli rhyngwladol.
Bwriedir i’n rhaglen Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol) roi’r sgiliau ymarferol a’r hyder proffesiynol i chi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn corfforaeth amlwladol.
Byddwch yn datblygu arbenigedd rheoli busnes gan ein tîm o ymchwilwyr ac ymarferwyr busnes. Bydd ein harbenigwyr yn eich cyflwyno i egwyddorion amlddiwylliannedd, moeseg a moesoldeb ac arferion megis marchnata diwylliannol, logisteg busnes rhyngwladol a rheoli adnoddau dynol.
Gyda’u cefnogaeth nhw, byddwch yn datblygu sgiliau i ymateb i ddatblygiadau a heriau cyfredol ym myd busnes a’r gymdeithas, wrth i chi ddysgu i ystyried goblygiadau cymdeithasol, economaidd a moesegol penderfyniadau rheolaethol.
Maes pwnc: Rheoli busnes
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Busnes.
Lefel T
D-M mewn Cyfrifeg neu Gyllid Lefel T.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,250 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,250 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,250 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £23,700 | Dim |
Blwyddyn tri | £23,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Nid oes costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.
Rhaglen tair blynedd amser llawn yw hon, sy’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae'r holl fyfyrwyr, beth bynnag fo’u llwybr, yn astudio Blwyddyn Gyntaf gyffredin, ac nid yw'r flwyddyn hon yn cyfrif tuag at y radd derfynol. Ar ddiwedd Blwyddyn 1, mae gennych yr opsiwn i naill ai aros gyda'r radd BSc Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol) neu symud i un o'r rhaglenni Rheoli Busnes eraill os ydych wedi datblygu diddordeb mewn maes arall.
Ym Mlynyddoedd 2 a 3, mae modiwlau gorfodol yn dibynny ar y llwybr a ddewisir, ond rydych hefyd yn dewis modiwlau dewisol o restr gymeradwy sy'n eich galluogi i deilwra'r radd ymhellach i'ch diddordebau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mynd i’r afael â’r hanfodion ar flwyddyn gyntaf ein cwrs rheoli busnes byd-eang.
Byddwn yn eich cyflwyno chi i ddisgyblaethau gan gynnwys cyfrifeg, technoleg ac economeg ochr yn ochr â chyd-fyfyrwyr o’n llwybrau marchnata, adnoddau dynol a logisteg a gweithrediadau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cymdeithas a'r Economi | BS1001 | 20 Credydau |
Rheoli Gweithrediadau | BS1002 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Gyfrifeg | BS1503 | 20 Credydau |
Rheolaeth: Theori a Thystiolaeth | BS1511 | 20 Credydau |
Marchnata | BS1528 | 20 Credydau |
Pobl mewn sefydliadau | BS1529 | 20 Credydau |
Technoleg a'r Oes Ddigidol | BS1532 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch yn cyfuno theori ac ymarfer wrth i'ch dealltwriaeth o'r hanfodion ddatblygu.
Byddwch yn darganfod sut mae arferion amlddiwylliannedd a rheoli adnoddau dynol yn croestorri gydag ymddygiad sefydliadol, marchnata a strategaeth wrth feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o'r dirwedd busnes ryngwladol.
Ategwch eich gwybodaeth arbenigol gyda modiwlau dewisol mewn prynu a chyflenwi, cyllid ac ymddygiad prynwyr.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Heriau mewn rheoli ac arwain sefydliadau | BS2002 | 20 Credydau |
Rheoli mewn Sefydliadau Amlddiwylliannol | BS2520 | 20 Credydau |
Rheolaeth Ryngwladol | BS2537 | 20 Credydau |
Marchnata a Strategaeth | BS2540 | 20 Credydau |
Rheoli Pobl | BS2542 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prynu a Rheoli Cyflenwi | BS2001 | 20 Credydau |
Rhagoriaeth mewn Rheoli Gweithrediadau | BS2003 | 20 Credydau |
Rhwydweithiau Logisteg | BS2004 | 10 Credydau |
Rheoli Prosiect | BS2005 | 10 Credydau |
Ystadegau Ffirentol, Modelu Ystadegol a Dulliau Arolygu | BS2506 | 20 Credydau |
Perfformiad a Rheolaeth Ariannol | BS2517 | 20 Credydau |
Busnes, Llywodraeth a Chymdeithas | BS2518 | 20 Credydau |
Cysylltiadau Cyflogaeth | BS2534 | 20 Credydau |
Ymddygiad y Prynwr | BS2535 | 20 Credydau |
Rheolaeth Ryngwladol | BS2537 | 20 Credydau |
Ymchwil Marchnata | BS2539 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Profwch eich gwybodaeth wrth ddod ar draws materion cyfredol a newydd mewn busnes rhyngwladol.
Bydd modiwlau mewn strategaeth a rheoli adnoddau dynol rhyngwladol yn arwain at gyfleoedd i deilwra eich gradd i'ch dyheadau gyrfa.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Safbwyntiau Beirniadol i Reolwyr Cyfoes | BS3004 | 20 Credydau |
Rheolaeth Strategol | BS3543 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Mae cyfadran a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes, yn dod â'r gwersi a ddysgwyd o'u hymchwil ddiweddaraf i'r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn cyfoes.
Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.
Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).
Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol Cymraeg yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.
Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os ydych yn profi unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd eich tiwtor yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.
I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hwb Myfyrwyr Israddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
Assessment methods vary from module to module but, across your degree scheme as a whole, you can expect a mixture of exams, coursework, essays, practical work, presentations, and individual and group projects.
Feedback
We will provide you with regular feedback on your work. This comes in a variety of formats including oral feedback, personalised feedback on written work, and generic written feedback.
You will be given general feedback following each examination period and will be able to discuss your overall performance with your personal tutor.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i gyflawni eich dyheadau proffesiynol, gan roi’r sgiliau, y chwilfrydedd a’r hyder i chi adael eich marc mewn marchnad swyddi gystadleuol. P’un a oes gennych syniad clir o’r hyn yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu ddim syniad o gwbl, mae gennym yr adnoddau a’r cymorth i’ch tywys chi.
Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth o ddiwydiannau a phroffesiynau gan gynnwys bancio a rheoli cyllid, logisteg a rheoli cadwyni cyflenwi, Llywodraeth y DU a'r Gwasanaeth Sifil, a dadansoddi data.
Yn yr Ysgol Fusnes mae gennym Ganolfan Gyrfaoedd bwrpasol sy'n cynnig cefnogaeth benodol i fusnes, gan gynnwys lleoliadau diwydiannol, interniaethau, profiad gwaith a mewnwelediadau.
Byddwch yn elwa ar ymgynghoriadau gyrfa, gweithdai cyfweliadau ac ysgrifennu CV, digwyddiadau diwydiant-benodol ac asesiadau seicometrig arbenigol a hyfforddiant sgiliau eang.
Gyrfaoedd graddedigion
- Cyfrifydd
- Dadansoddwr Busnes
- Economegydd
- Rheolwr AD
- Darlithydd
- Gweithredwr Marchnata
- Rheolwr Cynhyrchu
- Brocer Stoc
Lleoliadau
Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd ennill profiad gwaith yn ystod eich astudiaethau. Mae ein Rheolwr Lleoliadau Gwaith dynodedig yn cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau am swyddi a thechnegau cyfweliad hefyd ar gael gan ein Hymgynghorydd Gyrfaoedd mewnol.
Os ydych yn fyfyriwr ar un o'n rhaglenni Rheoli Busnes, ac yn cyflawni cyfartaledd o 60% yn eich blwyddyn gyntaf (heb unrhyw fethiannau), cewch eich gwahodd i wneud cais am ein BSc Rheoli Busnes gyda Lleoliad Gwaith Integredig.
Mae’r rhaglen unigryw ac arloesol hon yn cynnig cyfuniad o syniadau damcaniaethol a thechnegau ymarferol i’ch paratoi chi’n drylwyr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd mewn ystod o swyddogaethau rheoli megis marchnata a rheoli adnoddau dynol, yn ogystal â rheolaeth gyffredinol.
Mae'r rhaglen yn cynnig:
- Lleoliad gwaith 20 wythnos yn ail semester blwyddyn dau (fydd yn rhoi cyfle i chi archwilio a darparu tystiolaeth o’r disgyblaethau rheoli busnes craidd mewn lleoliad gwaith bywyd go iawn)
- Profiad busnes lleol mewn sefydliadau fel Admiral, Trafnidiaeth Cymru, Deloitte, HSBC, Barclays, Wales and West Utilities, GIG Cymru, a'r DVLA.
- Profiad o gario credyd
- Lleoliad gwaith â thâl (£250 yr wythnos ar gyfartaledd)
- Profiad ymarferol yn seiliedig ar waith
- Contract y gellir ei ymestyn trwy ddod i gytundeb
Os ydych yn penderfynu yr hoffech ymgymryd â lleoliad gwaith blwyddyn o hyd, gallwch naill ai wneud cais ar gyfer un o'n rhaglenni ‘Blwyddyn Lleoliad Gwaith Proffesiynol’ neu drosglwyddo i un ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd eich ail flwyddyn. Byddwch yn mynd ar leoliad gwaith yn y drydedd flwyddyn mewn gradd pedair blynedd.
Myfyrwyr Rhyngwladol
I roi cyfle i fyfyrwyr gael safbwynt byd-eang, rydym yn cynnig rhaglenni gradd pedair blynedd “gyda Blwyddyn Dramor”. Yn ystod eich ail flwyddyn, gallwch wneud cais am le ar y rhaglenni hyn ac os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn trosglwyddo i'r cynllun gradd pedair blynedd. Bydd y Flwyddyn Dramor wedyn yn dod yn rhan annatod o'r radd.
Mae gennym gytundebau cyfnewid gydag Ysgolion Busnes a phrifysgolion o safon ledled y byd lle byddwch chi'n astudio modiwlau a addysgir ac a asesir yn Saesneg. Mae rhestr o sefydliadau partner sy’n cynnig modiwlau a addysgir yn Saesneg i’w gweld ar ein gwefan.
Mae ein tîm Cyfnewid a Chanolfan Cyfle Byd-eang y Brifysgol yn gweithio'n agos gyda myfyrwyr i baratoi ar gyfer ac yn ystod eu hastudiaethau dramor.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.