Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddorau Biofeddygol gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (BSc)

  • Maes pwnc: Gwyddorau Biofeddygol
  • Côd UCAS: BC9R
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
student with skeleton

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae gwyddoniaeth biofeddygol yn sail i ymchwil meddygol ac ymchwil meddygaeth ac mae’n cynnwys astudio amrywiaeth o bynciau sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad a swyddogaeth arferol, yn ogystal â mecanweithiau clefydau a phrosesau clefydau. Mae ein gradd Gwyddorau Biofeddygol yn defnyddio dull eang sy’n rhoi’r dewis i chi astudio nifer o bynciau biolegol perthnasol gan gynnwys ffisioleg ddynol, anatomeg ddynol, prosesau clefyd a’u triniaeth, biocemeg, geneteg a microbioleg. Caiff y cwricwlwm a’i hyfforddiant ymarferol ei lywio gan yr amrywiaeth eang o ymchwil fiofeddygol sy’n digwydd o fewn Ysgol y Biowyddorau ac yn Ysbyty Prifysgol Cymru, gan eich galluogi i gael hyfforddi mewn pynciau sy’n berthnasol i ymchwil cyfoes gan gynnwys bioleg canser, bôn-gelloedd, peirianneg meinweoedd, therapi genynnau, clefydau niwroddirywiol.

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol sy’n berthnasol i’ch gradd. Mae profiad yn dangos y bydd hynny’n gwella llawer ar eich rhagolygon gyrfa wedi hynny.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch hefyd yn cael y dewis i newid i radd fwy arbenigol, fel BSc Gwyddorau Biofeddygol (Anatomeg) neu BSc Gwyddorau Biolegol (Ffisioleg), neu i radd gyffredinol arall, fel Gwyddorau Biolegol. Bydd hyn yn dibynnu ar y modiwlau a ddewiswyd yn yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf, a bydd eich Tiwtor Personol yn gallu eich arwain drwy’r opsiynau sydd ar gael i chi.

Mae’r modiwlau Anatomeg arbenigol sy’n ffurfio rhan o’r radd Gwyddorau Biofeddygol (Anatomeg) yn cynnwys dyrannu dynol dan arweiniad arbenigwyr medrus yng Nghanolfan Addysg Anatomegol Cymru, sydd wedi’i leoli yn yr Ysgol. Am y rheswm hwn, efallai y bydd niferoedd ar y modiwlau Anatomeg ym mlynyddoedd dau a thri yn cael eu cyfyngu gan argaeledd deunydd celaneddol yn y Ganolfan.

Mae’r rhaglen yn cyfuno dealltwriaeth wyddonol gyda datblygiad sgiliau academaidd (arfarnu beirniadol, gwerthuso a dadansoddi data) ynghyd â datblygiad sgiliau ymarferol, cyflwyno ac ysgrifenedig mewn cyd-destun gwyddonol. Yn y pen draw, nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd yn llysgenhadon cyflogadwy, gwybodus, amryddawn a brwdfrydig ar gyfer gwyddoniaeth.

Bydd y sgiliau a’r wybodaeth y byddwch chi’n eu datblygu yn ystod eich gradd Gwyddorau Biofeddygol yn eich gwneud yn gyflogadwy mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn gwyddorau biofeddygol gan gynnwys ymchwil, gofal iechyd, cyhoeddi ac addysgu. Bydd y sgiliau dadansoddol a’r sgiliau eraill y byddwch chi’n eu meithrin ar y cwrs hefyd yn sylfaen wych ar gyfer llawer o lwybrau gyrfaol eraill y tu allan i wyddoniaeth. Fel arall, efallai y byddwch am barhau â’ch astudiaethau drwy fynd ar drywydd gradd uwch.

Nodweddion nodedig

Mae gan ein graddau gysylltiad agos â diddordebau ymchwil y staff sy’n addysgu, gan eich caniatáu i brofi cyffro dysgu mewn amgylchedd ymchwil gweithredol. Rydym yn denu arian ymchwil allanol sylweddol a bydd hynny’n caniatáu ichi wneud defnydd o’r offer, y technegau a'r cyfleusterau diweddaraf yn eich gwaith prosiect. Mae’r Ysgol hefyd yn gartref i Ganolfan Addysg Anatomegol Cymru, yn ogystal ag arwain Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, gan ganiatáu mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi cyffrous.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig lefel uchel o hyblygrwydd gyda dewis y myfyrwyr wrth ei wraidd. Chi sydd i ddewis beth fydd trywydd eich profiad academaidd. Gallwch ddewis arbenigo mewn maes penodol neu fynd ymlaen ag amrywiaeth eang o ddysgu ac archwilio’r ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n sail i lawer o lwyddiant yr Ysgol.

Maes pwnc: Gwyddorau Biofeddygol

  • academic-schoolYsgol y Biowyddorau
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4119
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid cynnwys Bioleg neu Gemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Gwyddoniaeth Fforensig, gyda Rhagoriaeth ym mhob un o'r Unedau Craidd/Gorfodol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,535 Dim
Blwyddyn dau £9,535 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,907 Dim
Blwyddyn pedwar £9,535 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £29,450 Dim
Blwyddyn dau £29,450 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £5,890 Dim
Blwyddyn pedwar £29,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Bydd ein cyrsiau maes sy'n digwydd dramor yn golygu costau ychwanegol – yn bennaf ar gyfer llety a theithio’r myfyrwyr. Rydym yn ymdrechu i gadw'r rhain cyn lleied â phosibl, er enghraifft rydym yn cadw ein Gorsaf Maes a’n staff ein hunain yn Borneo, ac nid yw’r costau hyn yn cael eu hadfer o ffioedd i fyfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnig rhai cyrsiau maes ardderchog yng Nghymru nad ydynt yn arwain at gostau ychwanegol.

Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer agweddau eraill ar hyfforddiant, er y gallai rhai gwasanaethau (fel myfyrwyr yn argraffu yn ôl y galw) godi ffi.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.

Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.

Mae'r cwrs BSc hwn yn llawn amser dros bedair blynedd academaidd. Mae'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd, gyda'r tri modiwl 40 credyd yn cael eu haddysgu yn yr ail flwyddyn. Mae blwyddyn tri yn cael ei threulio ar leoliad proffesiynol ac, yn y flwyddyn olaf, mae’r prosiect ymchwil yn cario 30 o gredydau ac yn cael ei wneud ochr yn ochr â thri modiwl 30 credyd.  Er ein bod yn ceisio cynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl wrth wneud ein cyrsiau, gellir cyfyngu ar y dewis o fodiwlau ar sail Gradd Mynediad i sicrhau capasiti ar fodiwlau craidd y mae’n rhaid eu gwneud wrth astudio ar gyfer rhai graddau.

Mae modiwlau blwyddyn un yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial ategol sy’n darparu gwybodaeth ddamcaniaethol gefndir yn ogystal â dosbarthiadau ymarferol. Mae ein cynlluniau gradd amrywiol yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin, sy’n rhoi sylw i’r holl agweddau ar fiowyddoniaeth ac mae ganddo’r fantais o gynnig hyblygrwydd o ran eich dewis gradd. Mae dosbarthiadau’n rhoi sgiliau TG biolegwyr i fyfyrwyr ynghyd â dealltwriaeth o ddadansoddi data yn ystadegol, a defnyddir gwaith cwrs i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.

Yn yr ail flwyddyn, cynigir modiwlau ar draws ystod eang o bynciau. Mae un modiwl gorfodol sef ‘Cysyniadau Clefyd’, ond oni bai am hwn mae gennych ddewis bron yn gwbl rydd (yn amodol ar rai cyfyngiadau oherwydd amserlennu a niferoedd) i deilwra’r cwrs yn addas ar gyfer eich diddordebau. Ym mhob achos, mae sesiynau ymarferol labordy helaeth yn helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a’r gallu i werthuso data arbrofol yn feirniadol. Defnyddir aseiniadau a osodwyd a darllen i hyrwyddo dysgu hunangyfeiriedig a dadansoddi llenyddiaeth ymchwil sylfaenol.

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol sy’n berthnasol i’ch gradd. Yn ystod y lleoliad hwn byddwch yn ymgymryd â phob agwedd ar ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofol, casglu data a dadansoddi ac, yn olaf, cyflwyno data gan gynhyrchu adroddiad a chyflwyniad prosiect.

Yn y flwyddyn olaf, mae angen astudio llawer mwy annibynnol, ac mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr gynhyrchu adroddiad sylweddol sy’n seiliedig ar ymchwil (labordy, llenyddiaeth, addysgeg, neu ymrwymiad gwyddonol). Unwaith eto, rydym yn ymdrechu i gynnig dewis mor eang â phosibl i’ch caniatáu i deilwra eich gradd i’ch nodau astudio. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn flwyddyn gyffredin, sy’n cwmpasu pob agwedd ar y biowyddorau. Mae hyn yn adlewyrchu natur gynyddol amlddisgyblaethol ymchwil y biowyddorau ac mae'n cynnig y fantais ychwanegol o gynnig hyblygrwydd o ran dewis gradd i chi.

Cyflwynir y maes llafur modiwlaidd, modern drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, cyflwyniadau a dosbarthiadau ymarferol a gynhelir mewn labordai mawr, gyda chyfleusterau da. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg fiolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu medrau gwyddonol ymarferol ac academaidd. Efallai y bydd modiwlau’n gorgyffwrdd ag astudiaethau Safon Uwch ar y cychwyn, ond buan iawn y byddant yn datblygu o ran dyfnder a chwmpas.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau ar gyfer GwyddoniaethBI100120 Credydau
Strwythur a Swyddogaeth Organebau BywBI100220 Credydau
Organebau a'r AmgylcheddBI100320 Credydau
Y Cell DynamigBI100420 Credydau
Cemeg FiolegolBI101420 Credydau
Geneteg ac EsblygiadBI105120 Credydau

Blwyddyn dau

Mae'r ail flwyddyn yn caniatáu i chi arbenigo mwy, ac mae'n adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol yr ydych wedi’u meithrin yn y flwyddyn gyntaf. Bydd pwyslais ar ddadansoddi data a chyfathrebu gwyddonol, yn ogystal â thechnegau a thechnegau maes uwch. Bydd sgiliau deall dylunio arbrofol, adolygu llenyddiaeth, dadansoddi ystadegol a dadansoddi beirniadol yn sylfaen ar gyfer astudio pellach yn y drydedd flwyddyn.

Ochr yn ochr â’r modiwl gorfodol ‘Cysyniadau Clefydau’, byddwch yn dewis dau fodiwl 40 credyd ychwanegol o ddewis o ddeg, gan sicrhau eich bod yn rhydd i fynd ar drywydd meysydd penodol o ddiddordeb. Mae pynciau modiwl sydd ar gael yn cynnwys yr ymennydd ac ymddygiad; bôn-gelloedd; anatomeg; bioleg ddatblygiadol; niwrowyddoniaeth; a ffisioleg.

Drwy gydol y flwyddyn byddwch yn parhau i ddatblygu gwybodaeth eang sy’n dyfnhau am y gwyddorau biofeddygol y gallwch chi arbenigo ymhellach ynddyn nhw yn ystod blwyddyn olaf eich gradd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Amrywiaeth ac Addasu AnifeiliaidBI213140 Credydau
Geneteg a'i ChymwysiadauBI213240 Credydau
Ecoleg Rhan ABI213530 Credydau
Ecoleg Rhan BBI213610 Credydau
Bioleg CelloeddBI223140 Credydau
BiocemegBI223240 Credydau
Bioleg Celloedd Datblygiadol a Bôn-gelloeddBI223340 Credydau
Bioleg Foleciwlaidd y genynBI223440 Credydau
FfisiolegBI233140 Credydau
Cysyniadau o GlefydBI233240 Credydau
Anatomeg YmarferolBI233340 Credydau
Ymennydd ac YmddygiadBI243140 Credydau
Niwrowyddoniaeth SylfaenolBI243240 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Mae'r Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY) yn rhoi'r cyfle i chi dreulio 9-12 mis mewn labordy ymchwil academaidd, clinigol neu ddiwydiannol/masnachol, neu sefydliad arall wedi’i gymeradwyo, er mwyn ennill profiad ymchwil yn uniongyrchol.

Byddwch yn ymgymryd ag agweddau gwahanol ar ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofol, casglu data a dadansoddi ac, yn olaf, cyflwyno data gan gynhyrchu adroddiad a chyflwyniad prosiect.

Bydd Cydlynwyr ein Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn eich cefnogi i ddod o hyd i safle addas sy’n berthnasol i’ch dyheadau o ran gyrfa, a bydd tiwtor yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn ymweld â chi yn ystod eich lleoliad.

Mae nifer o’r lleoliadau yn y DU, ond rydym hefyd wedi cael nifer o leoliadau mewn mannau eraill, yn arbennig yn Ewrop drwy gynllun ‘ERASMUS’ UE y mae Caerdydd yn bartner ynddo, ond hefyd yn cynnwys De-ddwyrain Asia, De Affrica, yr Almaen, yr Eidal ac UDA.

Mae dod o hyd i leoliad yn broses gystadleuol ac ni ellir gwarantu llwyddiant. Fodd bynnag, rydym bob amser wedi llwyddo i leoli’r mwyafrif helaeth o’n myfyrwyr Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol.

Bydd yr adroddiad a luniwch am eich lleoliad yn cyfrif pan asesir eich gradd yn derfynol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Blwyddyn SandwichBI9999120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Mae ein cwricwlwm blwyddyn olaf yn eich galluogi i arbenigo'n fanylach yn un o themâu ymchwil mawr yr Ysgol. Mae’r dull hwn yn eich trwytho i ddiwylliant ymchwilio'r biowyddorau, drwy gyfrwng addysgu yn seiliedig ar ymchwil a phrosiect yn y flwyddyn olaf sydd yn eich caniatáu i ymchwilio i destun yn llawer manylach.

Mae defnyddio gwybodaeth graidd i ddatrys problemau a gwerthuso modelau, syniadau a dadleuon cyfredol yn feirniadol, yn brif ffocws yn y flwyddyn olaf. Er mwyn datblygu sgiliau gwaith annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn helpu i baratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol, bydd y rhan hon o'r cwrs yn cynnwys llawer iawn o astudio hunangyfeiriedig, a fydd yn helpu i’ch paratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol.

Yn ogystal â phrosiect ymchwil 30 credyd, byddwch yn cwblhau tri modiwl 30 credyd (gan gynnwys modiwl gorfodol ‘Pynciau Cyfoes mewn Clefyd’). Mae'r modiwlau yn rhoi sylw i amrywiaeth o bynciau gan gynnwys mecanweithiau, diagnosteg a therapiwteg canser; bioleg haint; a bioleg cyhyrysgerbydol uwch a llunio meinweoedd.

Ar ddechrau'r flwyddyn olaf, mae gennych yr opsiwn o wneud cais i drosglwyddo i’r cwrs MBiomed pum mlynedd gyda gradd Meistr integredig, yn dibynnu ar gynnydd academaidd boddhaol a’r lleoedd sydd ar gael.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae Ysgol y Biowyddorau yn cynnig profiad addysgol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn seiliedig ar ragoriaeth academaidd. Yn bwysicach byth, mae’r profiad addysgol yn cael ei lywio a’r arwain gan ymchwil blaenllaw, ac mae’n uchel ei fri gan fyfyrwyr a chyrff proffesiynol. Rydym yn ceisio cefnogi pob dysgwr mewn diwylliant dysgu cynhwysol.

Ar y cwrs Gwyddorau Biofeddygol, byddwch yn caffael gwybodaeth graidd a dealltwriaeth drwy gyfrwng darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol, seminarau ymchwil, gweithdai a sesiynau tiwtorial. Byddwch yn caffael gwybodaeth uwch a dealltwriaeth drwy astudio annibynnol, gwaith grŵp a gwaith prosiect.

Disgwylir i fyfyrwyr gynnal astudiaeth annibynnol a disgwylir mwy o annibyniaeth o ran dysgu wrth i'r cwrs fynd rhagddo.

Gellir ymgymryd ag elfennau dethol o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae myfyrwyr hefyd yn gallu gofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer cymorth academaidd a chymorth bugeiliol.

Bydd myfyrwyr gydag anableddau yn cael eu cefnogi’n llawn mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Cefnogi Anabledd a Dyslecsia’r Brifysgol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob aelod o’r staff academaidd yn Ysgol y Biowyddorau yn ymchwilwyr profiadol yn eu priod feysydd ac maen nhw’n angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda myfyrwyr.

Bydd y rhyngweithio sylfaenol gyda staff academaidd yn ystod darlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (sesiynau tiwtorial). Bydd myfyrwyr hefyd yn cael tiwtor personol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol a chyngor academaidd drwy gydol y cwrs.

Gellir cysylltu â staff darlithio mewn perthynas â sesiynau addysgu neu drwy e-bost, ac maen nhw’n gweithredu polisi ‘drws agored’ ar gyfer myfyrwyr ag ymholiadau penodol am ddeunydd cwrs, neu system ar gyfer cadw lle ar gyfer cyfarfod. Hefyd, mae gan bob cynllun gradd gydlynydd cynllun gradd sydd yn gallu rhoi cyngor ar faterion academaidd. Mae gan bob blwyddyn astudio gydlynydd blwyddyn a all roi cyngor ar faterion gweinyddol sy'n ymwneud â’r cwrs astudio. Hefyd, mae Swyddfa israddedig hwylus gyda gweinyddwyr cyfeillgar a phrofiadol a all ateb y rhan fwyaf o ymholiadau gweinyddol hefyd.

Adborth
Bydd adborth ar eich astudiaeth, eich gwaith a’ch cynnydd ar sawl ffurf, o sylwadau ysgrifenedig ffurfiol ar eich gwaith a gyflwynwyd i sgyrsiau mwy anffurfiol a chyngor yn ystod dosbarthiadau a sesiynau ymarferol, neu gan eich tiwtor personol. Drwy gydol y cwrs, byddwn yn rhoi adborth manwl ar yr holl waith cwrs a asesir. Fel arfer darperir hyn ar-lein drwy'r system 'Grademark', sy'n eich galluogi i gael mynediad at eich adborth yn gyfleus trwy ddyfais tabled neu gyfrifiadur. Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich cynnydd academaidd a’ch datblygiad personol gyda'ch Tiwtor Personol, a thrafod papurau arholiad traethawd er mwyn gwella eich perfformiad. Yn ystod y prosiect ymchwil a gwaith ymarferol, byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ychwanegol gan y staff academaidd sy’n eich goruchwylio.

Sut caf fy asesu?

Fel arfer, asesir modiwlau’r flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. Mae pob modiwl yn cynnwys asesiadau gwaith cwrs, a gallai’r rhain fod ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig ymarferol, adroddiadau strwythuredig, profion dosbarth, profion ateb strwythuredig, gwaith grŵp, cyflwyniadau poster a chyflwyniadau llafar ac ymarferion datrys problemau ystadegol/cyfrifiaduro.  Gall asesiadau fod yn grynodol a gallant gyfrif tuag at y nod modiwl terfynol, neu gallant fod yn ffurfiannol, gan eich helpu i ddysgu ac ymarfer sgiliau allweddol a gwybodaeth drwy adborth.  Mae'r arholiadau terfynol ar ddiwedd pob modiwl yn cynnwys adran ateb strwythuredig sy’n cael ei farcio gan beiriant (asesu ehangder gwybodaeth) ac adran ateb ysgrifenedig (asesu dyfnder gwybodaeth mewn pynciau penodol).  

Yn ystod y Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol byddwch yn cynhyrchu adroddiad lleoliad, a fydd yn cyfrif tuag at asesiad terfynol eich gradd.

Yn y flwyddyn olaf, asesir modiwlau a addysgir drwy arholiadau a gwaith cwrs dadansoddol estynedig. Mae eich prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf yn cael ei asesu gan werthusiad goruchwyliwr ac adroddiad ysgrifenedig.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
  • casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
  • meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
  • gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
  • cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
  • perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
  • rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amryw o ffynonellau;
  • trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
  • cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
  • trafod materion cyfredol mewn perthynas ag ymchwil, ymchwiliadau a/neu ddadleuon;
  • cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
  • pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
  • adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth o rôl ac effaith eiddo deallusol (IP) mewn amgylchedd ymchwil;
  • gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar grŵp, fel arweinydd ac aelod o dîm;
  • dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth);
  • nodi targedau, a gweithio tuag at y targedau ar gyfer datblygiad personol, datblygiad proffesiynol, datblygiad academaidd a datblygiad gyrfa;
  • arddangos sgiliau cynllunio ac arweinyddiaeth ar gyfer gosod, a bodloni, nodau cyraeddadwy yn y gweithle.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae ein gradd Gwyddorau Biofeddygol yn cynnig hyfforddiant cryf i wyddonwyr ymchwil ac mae cyfran sylweddol o'n graddedigion yn mynd ymlaen i astudio PhD neu raddau meistr. Mae gan nifer o bobl eraill yrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd sy’n berthnasol i wyddoniaeth fel ymchwil feddygol a gwyddonol, y diwydiannau biolegol, gofal iechyd, tocsicoleg, cyhoeddi gwyddonol neu feddygol, gwyddoniaeth batholegol, ymysg llawer o rai eraill.

Mae ein gradd BSc Gwyddorau Biofeddygol hefyd yn un o'r graddau 'bwydo' cydnabyddedig ar gyfer rhaglen Mynediad at Feddygaeth i Raddedigion Prifysgol Caerdydd.

Mae gan ein graddedigion lefelau uchel o gymhwysedd mewn llu o sgiliau trosglwyddadwy sydd hefyd yn ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr ym meysydd mwy cyffredinol diwydiant, masnach, gwasanaethau cyhoeddus, gweinyddu a rheoli. Ar ben hynny, gall gradd yn y Gwyddorau Biofeddygol fod yn gam at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, deintyddiaeth, nyrsio, gwyddoniaeth filfeddygol a chyfrifeg.

Mae profiad wedi dangos bod myfyrwyr sydd wedi cwblhau Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol mewn sefyllfa arbennig o dda i gael cyflogaeth sy'n gysylltiedig â'u gradd ar ddiwedd eu hastudiaethau.

Lleoliadau

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY) sy'n rhoi cyfle i chi dreulio cyfnod o 9-12 mis mewn labordy ymchwil academaidd, clinigol neu ddiwydiannol, neu sefydliad arall wedi’i gymeradwy, er mwyn ennill profiad ymchwil yn uniongyrchol.

Mae llawer o leoliadau yn digwydd yn y DU, ond mae nifer o leoliadau ar gael gennym hefyd yn Ewrop, de-ddwyrain Asia, De Affrica, yr Almaen, yr Eidal ac UDA.
Mae dod o hyd i leoliad yn broses gystadleuol ac ni ellir gwarantu llwyddiant. Chi fydd yn llywio’r broses yn bennaf gan fod y rhan fwyaf o leoliadau yn dibynnu ar y broses ymgeisio a dethol gan y cwmni neu’r sefydliad sy’n bartner. Fodd bynnag, rydyn ni’n rhoi cyngor a chymorth, a hyd yn hyn rydyn ni wedi llwyddo i leoli’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY).

Os na fydd lleoliad ar gael, neu eich bod yn newid eich meddwl, gallwch newid o’r radd pedair blynedd gyda PTY i radd tair blynedd BSc. Fel arall, ar ôl yr ail flwyddyn, ac yn amodol ar gynnydd academaidd a'r lleoedd sydd ar gael, gallwch wneud cais i newid i radd MBiomed Meistr integredig.

Gwaith maes

Mae gwaith maes yn bosibl yn rhan o rai modiwlau, gan ein bod yn cynnal nifer o gyrsiau maes arbenigol, biolegol yn seiliedig ar brosiectau mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y byd. Mae'r cyrsiau maes hyn yn cynnwys prosiect ymchwil annibynnol, sy'n aml yn cynnwys ymddygiad neu ecoleg anifeiliaid.

Gan ddibynnu ar ba fodiwlau sydd ar gael i’w dewis a chyfyngiadau o ran yr amserlen, efallai y bydd myfyrwyr Biofeddygol yn gallu dewis un o’n cyrsiau maes.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.