Gwyddorau biofeddygol (BSc)
- Maes pwnc: Gwyddorau Biofeddygol
- Côd UCAS: BC97
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn
Nod y Gwyddorau Biofeddygol yw datblygu gwybodaeth, ymyriadau, neu dechnoleg sydd er budd hyrwyddo iechyd a thrin chlefydau dynol. Ymunwch â ni i archwilio'r maes deinamig hwn, gan ddysgu sut mae darganfyddiadau arloesol yn ein helpu i ddeall a thrin afiechyd dynol.
Yn sail i feddygaeth ac ymchwil feddygol, mae gwyddoniaeth fiofeddygol yn ymdrin ag ystod o bynciau cyfoes sy’n cynnwys bioleg canser, bioleg datblygiad, bôn-gelloedd ac atgyweirio, ffisioleg a phathoffisioleg, systemau cyhyrysgerbydol, meddygaeth adfywiol, a niwrobioleg anhwylderau'r ymennydd.
Fel myfyriwr, byddwch yn rhan o gymuned ddysgu fywiog, lle byddwch yn cael eich trwytho yn ein profiad dysgu rhyngweithiol, gyda sesiynau damcaniaethol ac ymarferol yn cael eu cyflwyno gan ein hymchwilwyr, sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Bydd sesiynau damcaniaethol yn datblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a dadansoddiad beirniadol o ymchwil gwyddoniaeth fiofeddygol a fydd yn cael eu cefnogi ymhellach gan sesiynau ymarferol. Bydd sesiynau ymarferol yn datblygu hyfedredd mewn dylunio arbrofol a methodolegau fel y'u cymhwysir gan ymchwilwyr biofeddygol. Yn eich blwyddyn olaf o astudio, cewch gyfle i weithio ochr yn ochr â gwyddonwyr ymchwil i ymchwilio pwnc yr ydych am ei archwilio'n fanylach.
Bydd gennych rywfaint o hyblygrwydd i deilwra'ch gradd i weddu i'ch diddordebau penodol gan gyfuno modiwlau craidd y gwyddorau biofeddygol â modiwlau eraill o'ch dewis.
Drwy gydol eich amser gyda ni byddwch yn ymdrin ag ystod o ddisgyblaethau ac yn cael profiad a hyfforddiant ymarferol. Byddwch yn ystyried sut y gall datblygiadau yn y gwyddorau biofeddygol gael effaith fyd-eang i helpu i ddatrys problemau yn y byd go iawn.
Ein dyhead yw rhoi'r set sgiliau i chi allu cychwyn ar yrfa o'ch dewis. Mae hynny'n golygu y byddwch chi'n datblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr mewn cyfrifiadura, ystadegau, dadansoddi data, a chyflwyno, gan eich paratoi ar gyfer dyfodol yn y rhan fwyaf o ddiwydiannau. Ar ben hyn, byddwch yn graddio gyda sylfaen gref mewn ymchwil feddygol, a all gynnwys elfennau o anatomeg ddynol, geneteg, imiwnoleg, a mwy.
Nodweddion nodedig
- Mae ein cwrs yn integreiddio bioleg ddynol, iechyd a chlefydau. Byddwch yn dysgu hanfodion gwyddorau biofeddygol ac yn archwilio meysydd arbenigol wrth i chi symud a datblygu trwy’r cwrs.
- Mae dros 94% o raddedigion Ysgol y Biowyddorau mewn cyflogaeth, astudiaethau pellach neu weithgareddau eraill 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Canlyniadau Graddedigion).
- Cewch brofiad o addysgu difyr sy'n cael ei yrru gan ein harbenigedd ymchwil. Byddwch hefyd yn cael mynediad at ystod gyffrous o gyfleoedd hyfforddi mewn labordai ymchwil yn Ysgol y Biowyddorau.
- Astudiwch bynciau sydd â chyd-destun byd go iawn ac archwiliwch sut mae ehangder y gwyddorau biofeddygol yn sail i lawer o feddygaeth fodern.

Maes pwnc: Gwyddorau Biofeddygol
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-ABB. Rhaid cynnwys Bioleg neu Gemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Ni chodir unrhyw daliadau ychwanegol am agweddau eraill o’r hyfforddiant, er y gall fod tâl am rai gwasanaethau (er enghraifft, myfyrwyr yn argraffu ar gais).
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.
Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Ar y cwrs hwn byddwch yn ennill llawer o sgiliau trosglwyddadwy sy'n ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd cyffrous a boddhaus mewn amrywiaeth o wahanol feysydd, gan gynnwys ymchwil feddygol a gwyddonol, diwydiannau biolegol, gofal iechyd, tocsicoleg, cyhoeddi meddygol neu wyddonol, a mwy.
Mae ein cwrs Gwyddorau Biofeddygol hefyd yn darparu sylfaen briodol ar gyfer llawer o yrfaoedd eraill. O ddiwydiant, masnach, gwasanaeth cyhoeddus, gweinyddiaeth a rheolaeth, byddwch mewn sefyllfa dda i fynd i mewn i'r sectorau hyn. Efallai y byddwch hefyd am ystyried astudiaeth bellach; mae canran sylweddol o’n graddedigion BSc Gwyddorau Biofeddygol yn mynd ymlaen i astudio graddau Meistr a PhD.
Lleoliadau
Er nad yw ein rhaglen yn cynnwys unrhyw leoliadau gwaith ffurfiol, rydym yn annog myfyrwyr i ymgymryd â lleoliadau gwaith anffurfiol yn ystod gwyliau'r haf i wella eu cyflogadwyedd. Mae’n bosibl y gall tîm Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol eich cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith dros yr haf.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.