Gwyddorau Biofeddygol (MBiomed)
- Maes pwnc: Gwyddorau Biofeddygol
- Côd UCAS: 51T8
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Nod y Gwyddorau Biofeddygol yw datblygu gwybodaeth, ymyriadau, neu dechnoleg sydd er budd hyrwyddo iechyd a thrin chlefydau dynol. Ymunwch â ni i archwilio'r maes deinamig hwn, gan ddysgu sut mae darganfyddiadau arloesol yn ein helpu i ddeall a thrin afiechyd dynol.
Yn sail i feddygaeth ac ymchwil feddygol, mae gwyddoniaeth fiofeddygol yn ymdrin ag ystod o bynciau cyfoes sy’n cynnwys bioleg canser, bioleg datblygiad, bôn-gelloedd ac atgyweirio, ffisioleg a phathoffisioleg, systemau cyhyrysgerbydol, meddygaeth adfywiol, a niwrobioleg anhwylderau'r ymennydd.
Fel myfyriwr, byddwch yn rhan o gymuned ddysgu fywiog, lle byddwch yn cael eich trwytho yn ein profiad dysgu rhyngweithiol, gyda sesiynau damcaniaethol ac ymarferol yn cael eu cyflwyno gan ein hymchwilwyr, sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Bydd sesiynau damcaniaethol yn datblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a dadansoddiad beirniadol o ymchwil gwyddoniaeth fiofeddygol a fydd yn cael eu cefnogi ymhellach gan sesiynau ymarferol. Bydd sesiynau ymarferol yn datblygu hyfedredd mewn dylunio arbrofol a methodolegau fel y'u cymhwysir gan ymchwilwyr biofeddygol. Yn eich blwyddyn olaf o astudio, cewch gyfle i weithio ochr yn ochr â gwyddonwyr ymchwil i ymchwilio pwnc yr ydych am ei archwilio'n fanylach.
Bydd gennych rywfaint o hyblygrwydd i deilwra'ch gradd i weddu i'ch diddordebau penodol gan gyfuno modiwlau craidd y gwyddorau biofeddygol â modiwlau eraill o'ch dewis. Gallwch hefyd deilwra rhai agweddau ar eich gradd i weddu i'ch diddordebau, gan gyfuno modiwlau cwrs craidd â modiwlau eraill sy'n eich ysbrydoli. Yn eich blwyddyn olaf o astudio, cewch gyfle i ymchwilio i bwnc yr ydych am ei archwilio’n fanylach, dan oruchwyliaeth ymchwilwyr cefnogol sy’n arbenigwyr yn eu maes. Mae hyn yn eich galluogi i ganolbwyntio ar atebion arloesol i faterion cyfoes. Trwy wneud ymchwil weithredol o fewn labordy ymchwil a datblygu'r sgiliau llythrennedd gwybodaeth a'r sgiliau dadansoddol i gefnogi hyn, bydd y lefel uchel o arbenigedd pwnc a gwybodaeth y byddwch yn ei hennill yn cyfrannu at eich gwneud yn hynod gyflogadwy fel myfyriwr graddedig yn y sectorau ymchwil a biowyddoniaeth fasnachol.
Nodweddion nodedig
- Mae ein cwrs yn integreiddio bioleg ddynol, iechyd a chlefydau. Byddwch yn dysgu hanfodion gwyddorau biofeddygol ac yn archwilio meysydd arbenigol wrth i chi symud a datblygu trwy’r cwrs.
- Cewch brofiad o addysgu difyr sy'n cael ei yrru gan ein harbenigedd ymchwil. Byddwch hefyd yn cael mynediad at ystod gyffrous o gyfleoedd hyfforddi mewn labordai ymchwil yn Ysgol y Biowyddorau.
- Astudiwch bynciau sydd â chyd-destun byd go iawn ac archwiliwch sut mae ehangder y gwyddorau biofeddygol yn sail i lawer o feddygaeth fodern. Bydd eich Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn rhoi cyfle unigryw i chi weithio mewn diwydiant neu ymchwil trwy brofiad lleoliad helaeth.
- Mae dros 94% o raddedigion Ysgol y Biowyddorau mewn cyflogaeth, astudiaethau pellach neu weithgareddau eraill 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Canlyniadau Graddedigion).

Maes pwnc: Gwyddorau Biofeddygol
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAA-AAB. Rhaid cynnwys Bioleg neu Gemeg.
Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Gwyddoniaeth Fforensig, gyda Rhagoriaeth ym mhob un o'r Unedau Craidd/Gorfodol.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,535 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri | £29,450 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Ni chodir unrhyw daliadau ychwanegol am agweddau eraill o’r hyfforddiant, er y gall fod tâl am rai gwasanaethau (er enghraifft, myfyrwyr yn argraffu ar gais).
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.
Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn rhaglen pedair mlynedd amser llawn lle byddwch yn astudio 120 credyd bob blwyddyn.
Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau craidd a dewisol, a bydd staff addysgu yn rhoi arweiniad ar ddewis cyfuniadau o fodiwlau er mwyn sicrhau llwyth gwaith academaidd cytbwys a hylaw ar draws y ddau semester. Mae'r lleoliad Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (8-10 mis) yn digwydd ar ôl cwblhau Blwyddyn Dau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mae eich blwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg biolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion, ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu sgiliau gwyddonol ymarferol ac academaidd.
I aros ar y rhaglen 4 blynedd hon, mae gofyn i chi gynnal cyfartaledd cyfanredol o 60 % ar draws modiwlau Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 (cyfartaledd wedi’i ffurfio o gyfanswm marciau cyfartalog Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 mewn rhaniad 30:70 yn y drefn honno). Os na chyflawnir hyn, ar ddiwedd Blwyddyn 2 byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r cwrs BSc cyfatebol yn y rhaglen.
Blwyddyn dau
Mae'r ail flwyddyn yn caniatáu mwy o arbenigedd ac yn adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol a ddatblygwyd yn y flwyddyn gyntaf. Bydd ffocws ar ddadansoddi data a chyfathrebu gwyddonol, yn ogystal â thechnegau labordy uwch. Bydd dealltwriaeth o ddylunio arbrofol, adolygu llenyddiaeth, dadansoddi ystadegol a sgiliau dadansoddi beirniadol yn sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach ym mlwyddyn tri.
Ar ddiwedd Blwyddyn 2, os nad ydych wedi cyflawni cyfartaledd cyfanredol o 60% ar draws Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 (gweler Blwyddyn 1 am fanylion), cewch eich trosglwyddo i'r hyn sy'n cyfateb i BSc y rhaglen.
Blwyddyn tri
Mae ein cwricwlwm Blwyddyn Tri yn eich galluogi i arbenigo’n fwy manwl. Mae’r dull hwn o addysgu yn eich trochi yn niwylliant ymchwil y biowyddorau, trwy addysgu deunydd a yrrir gan ymchwil a phrosiect blwyddyn olaf sy’n eich galluogi i ymchwilio i bwnc yn llawer manylach.
Bydd Blwyddyn Pedwar o'n rhaglen yn cynnwys gradd helaeth o astudio hunangyfeiriedig i ddatblygu sgiliau mewn gwaith annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn helpu i'ch paratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol.
Blwyddyn pedwar
Mae modiwlau a addysgir yn y flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar ddatblygu technegau ymchwil ymhellach, sgiliau chwilio llenyddiaeth a dadansoddi, trafod a gwerthuso gwaith yn feirniadol mewn grŵp, yn ogystal â chynllunio gwaith arbrofol. Fel rhan o'ch blwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil, a fydd yn cynnig profiad trochi llawn i chi o fewn labordy ymchwil dros gyfnod estynedig.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Addysgir y rhaglen gan academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol fel rhai sy'n arbenigwyr yn eu meysydd. Mae ein dull addysgu wedi’i lywio gan yr ymchwil ddiweddaraf ac mae wedi’i ymlinio ag arferion cyfredol y diwydiant, gan sicrhau bod y cwricwlwm yn drylwyr yn academaidd ac yn berthnasol i ofynion proffesiynol. Mae aelodau’r gyfadran yn integreiddio eu hymchwil a’u profiad diwydiant i’r cwricwlwm, gan gynnig mewnwelediad uniongyrchol i’r diweddaraf mewn ffisioleg ddynol, anatomeg ddynol, prosesau a thriniaethau clefydau, bioleg canser, bôn-gelloedd, peirianneg meinwe, bioleg cyhyrysgerbydol, therapi genynnau a chlefydau niwroddirywiol.
Mae'r cwricwlwm yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â chymhwysiad ymarferol. Mae darlithoedd, a ategir gan sesiynau ymarferol, yn rhoi sylfaen gref i chi mewn damcaniaeth ac ymarfer, tra bod seminarau, gweithdai a thiwtorialau yn eich helpu i gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu. Mae'r fformatau rhyngweithiol hyn yn cefnogi prosiectau ymarferol a thrafodaethau manwl, fel y gallwch fynd i'r afael â heriau byd go iawn a gwella eich parodrwydd proffesiynol.
Mae integreiddio ymchwil yn elfen allweddol. Byddwch yn ymwneud â’r data diweddaraf, astudiaethau achos perthnasol, a’r canfyddiadau ymchwil diweddaraf, gan gysylltu damcaniaeth academaidd â materion iechyd ymarferol a gwyddor feddygol. O bryd i'w gilydd, bydd darlithwyr gwadd ac arbenigwyr diwydiant yn dod â phersbectifau ymarferol i'ch profiad dysgu. Bydd eich lleoliad Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn gwella'r cyfleoedd hyn ymhellach trwy eich galluogi i ryngweithio mewn amgylchedd gwaith proffesiynol, gan weithio mewn timau a gyda grwpiau cydweithredol.
Mae dysgu ymarferol yn ganolbwynt i'r rhaglen, gan roi'r cyfle i chi ddatblygu sgiliau ymarferol mewn cyd-destunau realistig. Trwy brosiectau tîm ac ymchwil unigol, byddwch yn cymhwyso technegau gwyddor data soffistigedig i heriau dadansoddol byd-eang cymhleth.
Sut y caf fy nghefnogi?
Rydym am sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl drwy gydol eich amser gyda ni a byddwch yn elwa o ystod o gefnogaeth. O gychwyn cyntaf eich gradd, byddwch yn cael cefnogaeth tiwtor personol a fydd yn brif bwynt cyswllt i chi, gan gynnig arweiniad cyfrinachol ar faterion academaidd a phersonol. Byddant yn eich helpu i’ch llywio trwy eich astudiaethau a bod yn ffynhonnell gyson neu'n gefnogaeth trwy gydol eich gradd.
O ran cymorth academaidd, porth dysgu ar-lein yw Dysgu Canolog lle gallwch gael mynediad at amrywiaeth eang o ddeunyddiau dysgu gan gynnwys recordiadau darlithoedd, taflenni darlithoedd, a mwy.
Mae'r Brifysgol yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr. Gall hyn gynnwys gweithdai sgiliau astudio, sesiynau cyfarwyddyd gyrfa, cymorth iechyd meddwl a lles, a gwasanaethau anabledd. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cynllunio i sicrhau eich bod yn teimlo bod gennych gefnogaeth i’ch grymuso i lwyddo.
Byddwch hefyd yn cael mynediad at gefnogaeth ragorol yn ein Canolfan Bywyd Myfyrwyr, sef ein both un-stop ar gyfer eich holl anghenion fel myfyrwyr. P’un a ydych yn chwilio am gyngor ar iechyd a lles, paratoi ar gyfer eich dyfodol, rheoli arian neu fyw yng Nghaerdydd, bydd ein staff cymorth arbenigol ac ymroddedig wrth law i’ch cefnogi. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i lwyddo a gwneud y gorau o'ch bywyd myfyriwr.
Adborth
Drwy gydol y rhaglen, bydd gennych nifer o gyfleoedd i dderbyn adborth a chymryd rhan mewn trafodaeth ohono mewn sesiynau adborth pwrpasol. Mae gweithgareddau fel asesiadau cymheiriaid, a hunanasesiadau yn rhan annatod o'r broses hon. Yn ogystal, byddwch yn derbyn adborth adeiladol gan ein staff addysgu, gan ddarparu mewnwelediadau i helpu eich twf proffesiynol, i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Sut caf fy asesu?
Mae asesiadau yn amrywio fesul modiwl ac yn cynnwys gwaith cwrs, prosiectau portffolio, asesiadau ysgrifenedig, profion dosbarth, cyflwyniadau llafar a phoster, a phrosiectau ymarferol. Mae pob modiwl a lleoliad yn defnyddio mathau penodol o asesiadau i werthuso gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol yn effeithiol.
Defnyddir asesiadau trwy gydol y rhaglen i ddatbygu dysg er mwyn sicrhau eich bod yn deall cysyniadau sylfaenol. Bydd asesiadau’n cefnogi dysgu annibynnol a gydol oes ac wedi’u cynllunio i roi myfyrwyr wrth galon y broses ddysgu ac i helpu myfyrwyr i gymryd perchnogaeth dros eu dysgu eu hunain. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn eu hasesiadau gan aelodau o dimau modiwl a thiwtoriaid personol.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
- casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
- meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
- cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
- gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
- cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
- perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
- rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.
O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:
- dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau;
- trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
- cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
- trafod materion cyfredol mewn perthynas ag ymchwil, ymchwiliadau a/neu ddadleuon;
- cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
- pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
- adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth o rôl ac effaith eiddo deallusol (IP) mewn amgylchedd ymchwil;
- gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar grŵp, fel arweinydd ac aelod o dîm;
- dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth);
- nodi targedau, a gweithio tuag at y targedau ar gyfer datblygiad personol, datblygiad proffesiynol, datblygiad academaidd a datblygiad gyrfa;
- dangos sgiliau cynllunio ac arweinyddiaeth ar gyfer gosod, a bodloni, nodau cyraeddadwy yn y gweithle.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae ein gradd Meistr Integredig yn y Gwyddorau Biofeddygol yn sail ardderchog ar gyfer gyrfa mewn ymchwil wyddonol yn y dyfodol. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwyddonol-benodol a mwy cyffredinol a fydd yn ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr gwyddonol ac anwyddonol ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd cyffrous a boddhaus mewn amrywiaeth o wahanol feysydd, gan gynnwys ymchwil feddygol a gwyddonol, diwydiannau biolegol, gofal iechyd, tocsicoleg, cyhoeddi meddygol neu wyddonol, a mwy.
Mae ein cwrs Gwyddorau Biofeddygol hefyd yn darparu sylfaen briodol ar gyfer llawer o yrfaoedd eraill. O ddiwydiant, masnach, gwasanaeth cyhoeddus, gweinyddiaeth a rheolaeth, byddwch mewn sefyllfa dda i fynd i mewn i'r sectorau hyn. Efallai y byddwch hefyd am ystyried astudiaeth bellach; mae canran sylweddol o’n graddedigion yn mynd ymlaen i astudio graddau PhD.
Lleoliadau
Yn ogystal â’r cyfle lleoliad hirdymor ffurfiol (Blwyddyn Tri) (8-10 mis) a ddarperir gan y rhaglen hon, rydym yn annog myfyrwyr i ymgymryd â lleoliadau gwaith anffurfiol yn ystod gwyliau'r haf i wella eu cyflogadwyedd. Mae’n bosibl y gall tîm Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol eich cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith dros yr haf.
Gwaith maes
Mae gwaith maes yn bosibl yn rhan o rai modiwlau, gan ein bod yn cynnal nifer o gyrsiau maes arbenigol, biolegol yn seiliedig ar brosiectau mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y byd. Mae'r cyrsiau maes hyn yn cynnwys prosiect ymchwil annibynnol, sy'n aml yn cynnwys ymddygiad neu ecoleg anifeiliaid.
Gan ddibynnu ar ddewisiadau modiwl, argaeledd a chyfyngiadau amserlennu, efallai y bydd myfyrwyr y Gwyddorau Biofeddygol yn gallu dewis un o’n cyrsiau maes.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.