Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddorau Biolegol (BSc)

  • Maes pwnc: Gwyddorau Biolegol
  • Côd UCAS: C100
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

Darganfyddwch sut y gallwn ddatblygu ein dealltwriaeth o'r byd trwy'r gwyddorau biolegol. Dysgwch sut mae ymchwil yn hanfodol i fynd i'r afael â'r heriau byd-eang sy'n ein hwynebu. Ymunwch â ni i ymwneud ag ystod eang o bynciau, gan gynnwys bioleg anifeiliaid a phlanhigion, microbioleg, ecoleg, geneteg ac esblygiad.

Fel myfyriwr yn y maes cyffrous hwn, byddwch yn astudio organebau byw a sut y maent yn rhyngweithio â'r amgylchedd. Byddwch yn cael y cyfle i gymhwyso eich gwybodaeth academaidd i ymatbe i faterion cyfoes. Byddwch yn gweld sut y gall ein hymchwil a'n dealltwriaeth o wyddorau biolegol hyrwyddo meysydd fel iechyd a chadwraeth amgylcheddol ymhellach.

Nod ein dull addysgu ymarferol yw eich paratoi ar gyfer eich dyfodol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eich technegau ymchwil. Byddwch yn adeiladu eich sgiliau ymarferol mewn sefyllfaoedd byd go iawn, yn y labordy ac yn y maes.

Gyda gradd yn y Gwyddorau Biolegol, byddwch yn meithrin sgiliau dadansoddi, datrys problemau a chyfathrebu cryf, a fydd yn ehangu eich gorwelion gyrfa. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a phrofiad trosglwyddadwy gwerthfawr mewn cyfrifiadura, ystadegau, dadansoddi data a chyflwyniadau ymchwil, a all agor drysau i swyddi mewn ystod o ddiwydiannau cyffrous.

Gallwch hefyd deilwra rhai agweddau ar eich gradd i weddu i'ch diddordebau, gan gyfuno modiwlau cwrs craidd â modiwlau eraill sy'n eich ysbrydoli. Yn eich blwyddyn olaf o astudio, cewch gyfle i ymchwilio i bwnc yr ydych am ei archwilio’n fanylach, dan oruchwyliaeth ymchwilwyr cefnogol sy’n arbenigwyr yn eu maes. Mae hyn yn eich galluogi i ganolbwyntio ar atebion arloesol i faterion cyfoes.   

Nodweddion nodedig

Mae gan ein graddau gysylltiad agos â diddordebau ymchwil y staff sy’n eu haddysgu, gan eich caniatáu i brofi cyffro dysgu mewn amgylchedd ymchwil gweithredol. Rydym yn denu llawer iawn o arian ymchwil allanol a bydd hynny’n caniatáu ichi ddefnyddio’r offer, y technegau a'r cyfleusterau diweddaraf yn eich gwaith prosiect. Mae gan yr Ysgol hefyd Orsaf Maes gyda staff yno’n barhaus yn Borneo, yn ogystal ag arwain Sefydliadau Ymchwil Dŵr a Mannau Cynaliadwy’r Brifysgol, gan ganiatáu mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi cyffrous.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig lefel uchel o hyblygrwydd gyda dewis y myfyrwyr wrth ei wraidd. Chi sydd i ddewis beth fydd trywydd eich profiad academaidd. Gallwch ddewis arbenigo mewn maes penodol neu barhau ag amrywiaeth eang o ddysgu gan astudio’r ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n sail i lawer o lwyddiant yr Ysgol.

Gallai’r cyrsiau canlynol fod o ddiddordeb i chi:

Maes pwnc: Gwyddorau Biolegol

  • academic-schoolYsgol y Biowyddorau
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4119
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-BBB Rhaid cynnwys Bioleg neu Gemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.



Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Gwyddoniaeth Fforensig, gyda Rhagoriaeth ym mhob un o'r Unedau Craidd/Gorfodol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,535 Dim
Blwyddyn dau £9,535 Dim
Blwyddyn tri £9,535 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £29,450 Dim
Blwyddyn dau £29,450 Dim
Blwyddyn tri £29,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae cost ychwanegol i gyrsiau maes a gynhelir mewn lleoliad tramor neu i ffwrdd o Gaerdydd - yn bennaf ar gyfer teithio a llety myfyrwyr. Rydym yn ymdrechu i gadw'r rhain mor isel â phosibl, er enghraifft rydym fel Prifysgol yn cyllido ein Gorsaf Faes ein hunain gyda staff yn Borneo, nad yw eu costau'n cael eu hadennill o daliadau i fyfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnig cwrs maes ardderchog yng Nghaerdydd nad yw'n ennyn unrhyw gostau ychwanegol.

Ni chodir unrhyw daliadau ychwanegol am agweddau eraill ar ddysgu, er y gall fod tâl am rai gwasanaethau (fel argraffu ar gais gan fyfyrwyr).

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.

Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.

Mae hon yn rhaglen tair blynedd amser llawn lle byddwch yn astudio 120 credyd bob blwyddyn.

Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau craidd a dewisol, a bydd staff addysgu yn rhoi arweiniad ar ddewis cyfuniadau o fodiwlau i sicrhau llwyth gwaith academaidd cytbwys a hylaw ar draws y ddau semester.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn flwyddyn gyffredin, sy’n cwmpasu pob agwedd ar y biowyddorau. Mae hyn yn adlewyrchu natur gynyddol amlddisgyblaethol ymchwil y biowyddorau ac mae'n cynnig y fantais ychwanegol o gynnig hyblygrwydd o ran dewis gradd i chi.

Cyflwynir y maes llafur modiwlaidd, modern drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, cyflwyniadau a dosbarthiadau ymarferol a gynhelir mewn labordai mawr, gyda chyfleusterau da. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg fiolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu medrau gwyddonol ymarferol ac academaidd. Efallai y bydd modiwlau’n gorgyffwrdd ag astudiaethau Safon Uwch ar y cychwyn, ond buan iawn y byddant yn datblygu o ran dyfnder a chwmpas.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau ar gyfer GwyddoniaethBI100120 Credydau
Strwythur a Swyddogaeth Organebau BywBI100220 Credydau
Organebau a'r AmgylcheddBI100320 Credydau
Y Cell DynamigBI100420 Credydau
Cemeg FiolegolBI101420 Credydau
Geneteg ac EsblygiadBI105120 Credydau

Blwyddyn dau

Mae'r ail flwyddyn yn caniatáu i chi arbenigo mwy, ac mae'n adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol yr ydych wedi’u meithrin yn y flwyddyn gyntaf. Bydd pwyslais ar ddadansoddi data a chyfathrebu gwyddonol, yn ogystal â thechnegau a thechnegau maes uwch. Bydd sgiliau deall dylunio arbrofol, adolygu llenyddiaeth, dadansoddi ystadegol a dadansoddi beirniadol yn sylfaen ar gyfer astudio pellach yn y drydedd flwyddyn.

Yn yr ail flwyddyn, mae 11 o fodiwlau ar gael i chi, hyd at gyfanswm o 120 o Gredydau, gan olygu bod rhwydd hynt gennych i fynd ar drywydd meysydd sydd o ddiddordeb arbennig i chi. Mae’r pynciau modiwl sydd ar gael yn cynnwys, amrywiaeth ac addasu anifeiliaid, geneteg, bioleg celloedd, biocemeg ac ecoleg a chadwraeth.

Bydd myfyrwyr ar y modiwl ecoleg a chadwraeth yn cael cyfle i ymgymryd ag un o'n cyrsiau maes sy’n seiliedig ar brosiect, sy'n cael ei redeg mewn amrywiaeth o leoliadau yn y DU a thramor.

Yn ystod yr ail flwyddyn, gallwch hefyd ddewis newid i radd pedair blynedd gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol, a gaiff ei chymryd ar ôl yr ail flwyddyn, yn amodol ar gael gafael ar leoliad hyfforddiant priodol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Amrywiaeth ac Addasu AnifeiliaidBI213140 Credydau
Geneteg a'i ChymwysiadauBI213240 Credydau
Ecoleg Rhan ABI213530 Credydau
Ecoleg Rhan BBI213610 Credydau
Bioleg CelloeddBI223140 Credydau
BiocemegBI223240 Credydau
Bioleg Celloedd Datblygiadol a Bôn-gelloeddBI223340 Credydau
Bioleg Foleciwlaidd y genynBI223440 Credydau
FfisiolegBI233140 Credydau
Cysyniadau o GlefydBI233240 Credydau
Anatomeg YmarferolBI233340 Credydau
Ymennydd ac YmddygiadBI243140 Credydau
Niwrowyddoniaeth SylfaenolBI243240 Credydau

Blwyddyn tri

Mae ein cwricwlwm blwyddyn olaf yn eich galluogi i arbenigo'n fanylach yn un o themâu ymchwil mawr yr Ysgol. Mae’r dull hwn yn eich trwytho i ddiwylliant ymchwilio'r biowyddorau, drwy gyfrwng addysgu yn seiliedig ar ymchwil a phrosiect yn y flwyddyn olaf sydd yn eich caniatáu i ymchwilio i destun yn llawer manylach

Defnyddio gwybodaeth graidd i ddatrys problemau a gwerthuso modelau, syniadau a dadleuon cyfredol yn feirniadol sy'n cael y prif sylw yn y drydedd flwyddyn. Er mwyn datblygu sgiliau gwaith annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn helpu i baratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol, bydd y rhan hon o'r cwrs yn cynnwys llawer iawn o astudio hunangyfeiriedig, a fydd yn helpu i’ch paratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol.

Yn ogystal â phrosiect ymchwil 30 credyd, byddwch yn cwblhau tri modiwl 30 credyd (o ddewis rhydd bron o 18, ac eithrio anatomeg ddynol ddatblygedig). Mae'r modiwlau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys esblygiad ac addasu, bioleg systemau a modelu, gwyddoniaeth planhigion, bioamrywiaeth, bioleg synthetig, bioleg celloedd uwch, biowybodeg a genomeg swyddogaethol, a genynnau a genomau.

Ar ddechrau'r flwyddyn olaf, mae gennych yr opsiwn o wneud cais i drosglwyddo i’r cwrs MBiol pedair blynedd gyda gradd Meistr integredig, yn dibynnu ar gynnydd academaidd boddhaol a’r lleoedd sydd ar gael.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Addysgir y rhaglen gan staff academaidd a gydnabyddir yn rhyngwladol fel arbenigwyr yn eu meysydd. Mae ein dull addysgu wedi’i lywio gan yr ymchwil ddiweddaraf ac mae wedi’i gyfunioni ag arferion cyfredol y diwydiant, gan sicrhau bod y cwricwlwm yn drylwyr yn academaidd ac yn berthnasol i ofynion proffesiynol. Bydd staff academaidd yn cynnig cipolwg ar y wybodaeth ddiweddaraf mewn bioleg ddatblygiadol, biotechnoleg, cadwraeth a modelu a rheolaeth amgylcheddol, a chymwysiadau microbiolegol

Mae'r cwricwlwm yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â chymhwysiad ymarferol. Mae darlithoedd, a ategir gan sesiynau ymarferol, yn rhoi sylfaen gref i chi mewn theori ac ymarfer, tra bod seminarau, gweithdai a thiwtorialau yn eich helpu i gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu. Mae'r fformatau rhyngweithiol hyn yn cefnogi prosiectau ymarferol a thrafodaethau manwl, fel y gallwch fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn a gwella eich parodrwydd proffesiynol.

Mae integreiddio ymchwil I’n haddysgu yn elfen allweddol. Byddwch yn ymgysylltu â’r data diweddaraf, astudiaethau achos perthnasol, a’r canfyddiadau ymchwil diweddaraf, gan gysylltu theori academaidd â materion amgylcheddol ymarferol. Er mwyn dod â phersbectifau ymarferol a chyfredol i'r profiad dysgu, bydd ein myfyrwyr israddedig yn cael y cyfle i fynychu amrywiaeth o seminarau a gyflwynir gan ddarlithwyr gwadd ac arbenigwyr diwydiant.

Mae dysgu ymarferol yn ganolbwynt i'r rhaglen, gan roi'r cyfle i chi ddatblygu sgiliau ymarferol mewn cyd-destunau realistig. Trwy brosiectau tîm ac ymchwil unigol, byddwch yn cymhwyso technegau gwyddor data soffistigedig i heriau dadansoddol byd-eang cymhleth.

Sut y caf fy nghefnogi?

Rydym am sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau drwy gydol eich amser gyda ni a byddwch yn elwa o ystod o gefnogaeth. O’r  cychwyn cyntaf, byddwch yn cael tiwtor personol a fydd yn brif bwynt cyswllt i chi, gan gynnig arweiniad cyfrinachol ar faterion academaidd a phersonol. Byddant yn eich helpu i’ch llywio trwy eich astudiaethau a bod yn ffynhonnell gyson neu'n gefnogaeth trwy gydol eich gradd.

O ran cymorth academaidd, porth dysgu ar-lein yw Dysgu Canolog lle gallwch gael gafael ar amrywiaeth eang o ddeunyddiau dysgu gan gynnwys recordiadau darlithoedd, taflenni darlithoedd, a mwy.

Mae'r Brifysgol yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr. Gall hyn gynnwys gweithdai sgiliau astudio, sesiynau cyfarwyddyd gyrfa, cymorth iechyd meddwl a lles, a gwasanaethau anabledd. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cynllunio i sicrhau eich bod yn teimlo bod gennych gefnogaeth a'ch grym i lwyddo.

Byddwch hefyd yn cael mynediad at y gefnogaeth ragorol sydd ar gael yn ein Canolfan Bywyd Myfyrwyr, sef ein both un-stop ar gyfer eich holl anghenion myfyrwyr. P’un a ydych yn chwilio am gyngor ar iechyd a lles, paratoi ar gyfer eich dyfodol, rheoli arian neu fyw yng Nghaerdydd, bydd ein staff cymorth arbenigol ac ymroddedig wrth law i’ch cefnogi. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i lwyddo a gwneud y gorau o'ch bywyd myfyriwr.

Adborth

Drwy gydol y rhaglen, bydd gennych nifer o gyfleoedd i dderbyn adborth a chymryd rhan mewn sesiynau adborth pwrpasol. Mae gweithgareddau fel asesiadau cymheiriaid a hunanasesiadau yn rhan annatod o'r broses hon. Yn ogystal, byddwch yn derbyn adborth adeiladol gan ein staff addysgu, gan ddarparu mewnwelediadau i helpu eich twf proffesiynol, i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Sut caf fy asesu?

Mae asesiadau yn amrywio fesul modiwl ac yn cynnwys gwaith cwrs, prosiectau portffolio, asesiadau ysgrifenedig, profion dosbarth, cyflwyniadau llafar a phoster, a phrosiectau ymarferol. Mae pob modiwl yn defnyddio mathau penodol o asesiadau i werthuso gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol yn effeithiol.

Defnyddir asesiadau trwy gydol y rhaglen i wella dysgu er mwyn sicrhau eich bod yn deall cysyniadau sylfaenol. Bydd asesiadau’n cefnogi dysgu annibynnol a gydol oes, ac wedi’u cynllunio i roi myfyrwyr wrth galon y broses ddysgu ac i helpu myfyrwyr i gymryd perchnogaeth dros eu dysgu eu hunain. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn eu hasesiadau gan aelodau o dimau modiwl a thiwtoriaid personol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
  • casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
  • meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
  • gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
  • cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
  • perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
  • rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau;
  • trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
  • cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
  • trafod materion cyfredol mewn perthynas ag ymchwil, ymchwiliadau a/neu ddadleuon;
  • cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
  • pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
  • adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth o rôl ac effaith eiddo deallusol (IP) mewn amgylchedd ymchwil;
  • gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar grŵp, fel arweinydd ac aelod o dîm;
  • dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth);
  • nodi targedau, a gweithio tuag at y targedau ar gyfer datblygiad personol, datblygiad proffesiynol, datblygiad academaidd a datblygiad gyrfa;
  • dangos sgiliau cynllunio ac arweinyddiaeth ar gyfer gosod, a bodloni, nodau cyraeddadwy yn y gweithle.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2016/17, dywedodd 93% o raddedigion yr Ysgol, oedd ar gael i weithio, eu bod mewn gwaith a/neu’n astudio ymhellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae cyfran sylweddol o'n graddedigion BSc Gwyddorau Biolegol yn mynd ymlaen i astudio graddau meistr neu PhD. Mae llawer o bobl eraill yn mwynhau gyrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth fel ymchwil a datblygu, cadwraeth, rheoli amgylcheddol, ymchwil wyddonol, cyhoeddi meddygol neu wyddonol, rheoli amaethyddiaeth ddiwydiannol a bywyd gwyllt, ymhlith llawer o rai eraill.

Mae gan ein graddedigion hefyd lefelau uchel o gymhwysedd mewn llu o sgiliau trosglwyddadwy sy’n ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr ym meysydd mwy cyffredinol diwydiant, masnach, gwasanaethau cyhoeddus, gweinyddu a rheoli. Yn olaf, gall gradd yn y Biowyddorau fod yn gam at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio, gwyddoniaeth filfeddygol, a chyfrifeg.

Lleoliadau

Er nad yw ein rhaglen yn cynnwys unrhyw leoliadau gwaith ffurfiol, rydym yn annog myfyrwyr i ymgymryd â lleoliadau gwaith anffurfiol yn ystod gwyliau'r haf i wella cyflogadwyedd. Mae’n bosibl y gall tîm Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol eich cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith dros yr haf.

Gwaith maes

Mae profiad uniongyrchol o blanhigion ac anifeiliaid yn eu cynefin naturiol yn rhan bwysig o fioleg fodern.

Yng Nghaerdydd, rydym yn cynnal ystod drawiadol o gyrsiau maes i roi digon o gyfleoedd i gael profiad ymarferol hanfodol o dechnegau modern a sgiliau ymarferol mewn bioleg maes, er enghraifft modrwyo adar, dadansoddi microbaidd, maglu mamaliaid bach, maglu mewn pydewau a chynnal arolygon o ystlumod.

Yn yr ail flwyddyn, gall myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl Ecoleg a Chadwraeth ddewis o blith sawl cwrs arbenigol yn seiliedig ar brosiect a gynhelir mewn amrywiaeth o leoliadau ym mhedwar ban byd.

Yn nodweddiadol mae ein cyrsiau maes yn cynnwys Ecoleg Drofannol (Borneo, Malaysia), Ecoleg Forol (y Caribî a Malaysia), Ecoleg Ynysoedd (Cymru), Ecoleg Afonydd (Cymru) ac Ecoleg Coetiroedd (Cymru).

Ar adegau, gall cyrsiau maes gael eu heffeithio gan gyfyngiadau teithio, argaeledd staff neu rifau.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.