Biocemeg gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (BSc)
- Maes pwnc: Biocemeg
- Côd UCAS: C701
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Pam astudio'r cwrs hwn
Mae Biocemeg yn archwilio sail foleciwlaidd bywyd. Mae gan y wyddor hanes cyfoethog o ddarganfyddiadau gwyddonol - o ensymoleg a llwybrau metabolaidd i ddarganfod genynnau a strwythur DNA, mae cymaint i'w ddarganfod trwy Biocemeg.
Pan ymunwch â ni, byddwch yn dysgu sut mae biocemeg a gwyddorau biomoleciwlaidd yn cyfrannu at ddatblygiadau mewn meddygaeth a biotechnoleg, bioleg synthetig a pheirianneg protein, bioleg foleciwlaidd, biowybodeg, mapio genomau a geneteg. Gyda chefnogaeth yr ymchwil a'r darganfyddiadau diweddaraf, mae ein haddysgu yn eich galluogi i archwilio sut y gall prosesau biocemegol ein helpu i ddeall a datrys problemau'r byd. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr mewn bioleg synthetig a pheirianneg protein, bioleg foleciwlaidd, biotechnoleg, biowybodeg, mapio genomau a geneteg.
Mae ein hangerdd am wyddoniaeth wedi’i wreiddio drwy gyfanrwydd y rhaglen hon, o’ch darlithoedd a’ch gweithdai i’ch sesiynau ymarferol, lle byddwch yn rhoi theori ar waith. Byddwch yn cael y cyfle i ymgolli ym mhob agwedd o addysgu ystafell ddosbarth a labordy modern a derbyn cefnogaeth i ddatblygu eich technegau labordy. Trwy gwricwlwm ymarferol, sy'n cyfuno ymchwil a mewnwelediadau o ddiwydiant, byddwch yn tyfu mewn gwybodaeth, a’r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i baratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus. Bydd eich lleoliad Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn rhoi gwerthfawrogiad a dealltwriaeth bellach i chi o'r amgylchedd gwaith yn eich maes dewisiedig.
Gallwch hefyd deilwra rhai agweddau o’ch gradd i weddu i’ch diddordebau, gan gyfuno modiwlau biocemeg craidd â modiwlau eraill o’ch dewis. Yn eich blwyddyn olaf o astudio, cewch gyfle i ymchwilio pwnc y dymunwch ei archwilio’n fanylach, dan oruchwyliaeth ymchwilwyr cefnogol sy’n arbenigwyr yn eu maes. Mae hyn yn eich galluogi i ganolbwyntio ar atebion arloesol i faterion cyfoes.
Ein cenhadaeth yw darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gychwyn ar yrfa o'ch dewis. Byddwch yn graddio gyda sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr mewn cyfrifiadura, ystadegau, dadansoddi data, a chyflwyno'ch gwaith, gan eich paratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus.
Nodweddion nodedig
- Cewch brofiad o addysgu difyr sy'n cael ei yrru gan ein harbenigedd ymchwil. Byddwch hefyd yn cael mynediad at ystod gyffrous o gyfleoedd hyfforddi mewn labordai ymchwil yn Ysgol y Biowyddorau.
- Mae biocemeg yn chwarae rhan sylfaenol mewn bywyd bob dydd, gan effeithio ar wahanol agweddau ar gymdeithas. O natur, manwerthu, bwyd, colur a gofal iechyd, mae effaith biocemeg ym mhobman. Bydd eich Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn rhoi cyfle unigryw i chi weithio mewn diwydiant neu ymchwil trwy brofiad lleoliad helaeth.
- Mae dros 94 % o'n graddedigion o Ysgol y Biowyddorau mewn cyflogaeth, astudiaethau pellach neu weithgareddau eraill 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Canlyniadau Graddedigion).

Maes pwnc: Biocemeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB. Must include Biology or Chemistry. You will need to pass the science practical element of the A-level if this is part of your programme of study.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-31 overall or 666-665 in 3 HL subjects. Must include grade 6 in HL Biology or Chemistry.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
You must have or be working towards:
- English language or Welsh language at GCSE grade C/4 or an equivalent (such as A-levels). If you require a Student visa, you must ensure your language qualification complies with UKVI requirements.
- GCSE Maths grade C/4 or equivalent qualification (subject and grade). If you are taking A-level Maths (or equivalent), GCSE Maths is not required. Core Maths may also be accepted in place of GCSE Maths.
We do not accept Critical Thinking, General Studies, Citizenship Studies, or other similar equivalent subjects.
We will accept a combination of BTEC subjects, A-levels, and other qualifications, subject to the course specific grade and subject requirements.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to lab facilities including chemicals
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD-DDM in a BTEC Extended Diploma in Applied Science or Forensic Science, with Distinction in all of the Core/Mandatory Units.
Lefel T
Acceptance of T Levels for this programme will be considered on a case-by-case basis by the Academic School. Consideration will be given to the T Level grade/subject and grades/subjects achieved at GCSE/Level 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £1,905 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £5,890 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig ag astudio ar ein cwrs
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.
Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn rhaglen pedair mlynedd amser llawn a byddwch yn astudio 120 credyd bob blwyddyn.
Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau craidd a dewisol, a bydd staff addysgu yn rhoi arweiniad ar ddewis cyfuniadau o fodiwlau i sicrhau llwyth gwaith academaidd cytbwys a hylaw ym mhob blwyddyn o’r rhaglen. Mae'r lleoliad Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (8-10 mis) yn digwydd ar ôl cwblhau Blwyddyn Dau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Bydd eich blwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg biolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion, ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu sgiliau gwyddonol ymarferol ac academaidd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sgiliau ar gyfer Gwyddoniaeth | BI1001 | 20 Credydau |
Strwythur a Swyddogaeth Organebau Byw | BI1002 | 20 Credydau |
Organebau a'r Amgylchedd | BI1003 | 20 Credydau |
Y Cell Dynamig | BI1004 | 20 Credydau |
Cemeg Fiolegol | BI1014 | 20 Credydau |
Geneteg ac Esblygiad | BI1051 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae'r ail flwyddyn yn caniatáu mwy o arbenigedd ac yn adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf. Bydd ffocws ar ddadansoddi data a chyfathrebu gwyddonol, yn ogystal â thechnegau labordy uwch. Bydd dealltwriaeth o ddylunio arbrofol, adolygu llenyddiaeth, dadansoddi ystadegol a sgiliau dadansoddi beirniadol yn sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach ym Mlwyddyn Tri.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Amrywiaeth ac Addasu Anifeiliaid | BI2131 | 40 Credydau |
Geneteg a'i Chymwysiadau | BI2132 | 40 Credydau |
Ecoleg Rhan A | BI2135 | 30 Credydau |
Ecoleg Rhan B | BI2136 | 10 Credydau |
Bioleg Celloedd | BI2231 | 40 Credydau |
Biocemeg | BI2232 | 40 Credydau |
Bioleg Celloedd Datblygiadol a Bôn-gelloedd | BI2233 | 40 Credydau |
Bioleg Foleciwlaidd y genyn | BI2234 | 40 Credydau |
Ffisioleg | BI2331 | 40 Credydau |
Cysyniadau o Glefyd | BI2332 | 40 Credydau |
Anatomeg Ymarferol | BI2333 | 40 Credydau |
Ymennydd ac Ymddygiad | BI2431 | 40 Credydau |
Niwrowyddoniaeth Sylfaenol | BI2432 | 40 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Cynhelir y Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol ar ôl cwblhau Blwyddyn Dau. Rhoddir cymorth ac arweiniad i chi ddod o hyd i leoliad, ond nid yw lleoliad wedi'i warantu. Mae lleoliadau (8-10 mis) fel arfer gyda chwmni diwydiannol cysylltiedig â biowyddoniaeth, sefydliad ymchwil neu grŵp ymchwil yn y Brifysgol. Caiff pob lleoliad ei wirio gan Ysgol y Biowyddorau o ran diogelwch a thrylwyredd academaidd. Mae'n ofynnol i bob lleoliad gael prosiect ymchwil unigol y gellir ei ddiffinio, y byddwch yn ysgrifennu amdano mewn adroddiad a'i gyfwyno’n llafar.
Fe'ch cefnogir gan eich goruchwylwyr lleoliad yn ogystal â'ch Tiwtor Personol. Byddwch yn cadw mewn cysylltiad â'ch Tiwtor Personol a chynhelir cyfarfod canol-lleoliad gyda'ch Tiwtor Personol a'ch goruchwyliwr lleoliad i drafod cynnydd y lleoliad ac i drafod y gydran asesiad ysgrifenedig.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Blwyddyn Sandwich | BI9999 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Mae ein cwricwlwm Blwyddyn Pedwar yn eich galluogi i arbenigo’n fwy manwl. Mae’r dull hwn yn eich trochi yn niwylliant ymchwil y biowyddorau, trwy addysgu a yrrir gan ymchwil a phrosiect blwyddyn olaf sy’n eich galluogi i ymchwilio i bwnc yn llawer manylach.
Bydd Blwyddyn Pedwar o'n rhaglen yn cynnwys cyfran helaeth o astudio hunangyfeiriedig i ddatblygu sgiliau mewn gwaith annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn helpu i'ch paratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prosiect Blwyddyn Olaf y Biowyddorau | BI3001 | 30 Credydau |
Genynnau i Genynnau i Genomau | BI3254 | 30 Credydau |
Bioleg synthetig a Pheirianneg Protein | BI3255 | 30 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Planhigion ar gyfer y Dyfodol: Ffiniau mewn Gwyddor Planhigion | BI3151 | 30 Credydau |
Ecosystemau, Cynaliadwyedd a Newid Byd-eang | BI3152 | 30 Credydau |
Esblygiad ac Addasu | BI3153 | 30 Credydau |
Bioleg Heintiau ac Epidemioleg | BI3155 | 30 Credydau |
Systemau Bioleg | BI3157 | 30 Credydau |
Y Chwyldro omeg (Biowybodeg a Genomeg Swyddogaethol) | BI3252 | 30 Credydau |
Bioleg a Delweddu Cell Uwch | BI3253 | 30 Credydau |
Pynciau Cyfredol mewn Datblygu, Bôn-gelloedd a Thrwsio | BI3256 | 30 Credydau |
Pynciau Cyfoes mewn Clefydau | BI3351 | 30 Credydau |
Canser: Mecanweithiau Cellog a Moleciwlaidd a Therapeutics | BI3352 | 30 Credydau |
Datblygiadau mewn Ffisioleg a Phathoffisioleg | BI3355 | 30 Credydau |
System gyhyrysgerbydol: Clefydau, Atgyweirio a Meddygaeth Adfywiol | BI3356 | 30 Credydau |
Niwrobioleg anhwylderau ymennydd | BI3451 | 30 Credydau |
Systemau Niwrowyddoniaeth | BI3452 | 30 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Addysgir y rhaglen astudio gan academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol fel arbenigwyr ym meysydd biocemeg, bioleg foleciwlaidd, bio- a nanotechnoleg, biowybodeg a pheirianneg protein. Mae ein dull addysgu wedi’i lywio gan yr ymchwil ddiweddaraf ac mae wedi’i gyfeirio gan arferion presennol y diwydiant, gan sicrhau bod y cwricwlwm yn academaidd drylwyr ac yn berthnasol i ofynion proffesiynol. Mae aelodau'r staff yn integreiddio eu hymchwil a'u profiad diwydiant i'r cwricwlwm, gan gynnig cipolwg uniongyrchol ar y datblygiadau diweddaraf mewn bioleg synthetig, ffarmacoleg a chemeg ddadansoddol.
Mae'r cwricwlwm yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â chymhwysiad ymarferol. Mae darlithoedd, a ategir gan sesiynau ymarferol, yn rhoi sylfaen gref i chi mewn theori ac ymarfer, tra bod seminarau, gweithdai a thiwtorialau yn eich helpu i gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu. Mae'r fformatau rhyngweithiol hyn yn cefnogi prosiectau ymarferol a thrafodaethau manwl, fel y gallwch fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn a gwella eich parodrwydd proffesiynol.
Mae integreiddio ymchwil yn elfen allweddol o’n addysgu. Byddwch yn ymwneud â’r data diweddaraf, astudiaethau achos perthnasol, a’r canfyddiadau ymchwil diweddaraf, gan gysylltu theori academaidd â materion ymarferol. Mae dysgu ymarferol yn ganolbwynt i'r rhaglen, gan roi'r cyfle i chi ddatblygu sgiliau ymarferol mewn cyd-destunau realistig. Trwy brosiectau tîm ac ymchwil unigol, byddwch yn cymhwyso technegau gwyddor data soffistigedig i heriau dadansoddol cymhlethdodau byd-eang. Bydd eich lleoliad Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn gwella'r cyfleoedd hyn ymhellach trwy eich galluogi i ryngweithio mewn amgylchedd gwaith proffesiynol, gan weithio mewn timau a gyda grwpiau cydweithredol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Rydym am sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau drwy gydol eich amser gyda ni a byddwch yn elwa o ystod o gefnogaeth. O’r cychwyn cyntaf, byddwch yn derbyn gofal tiwtor personol a fydd yn brif bwynt cyswllt i chi, gan gynnig arweiniad cyfrinachol ar faterion academaidd a phersonol. Byddant yn eich helpu i weithio trwy'ch astudiaethau ac yn ffynhonnell gyson o gefnogaeth trwy gydol eich gradd, gan gynnwys eich lleolaid Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol.
O ran cymorth academaidd, y porth dysgu ar-lein a ddefnyddiwn yw Dysgu Canolog.
Mae'r Brifysgol yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr. Gall hyn gynnwys gweithdai sgiliau astudio, sesiynau cyfarwyddyd gyrfa, cymorth iechyd meddwl a lles, a gwasanaethau anabledd. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cynllunio i sicrhau eich bod yn teimlo bod gennych gefnogaeth a'ch grymuso i lwyddo.
Byddwch hefyd yn cael mynediad at gefnogaeth ragorol yn ein Canolfan Bywyd Myfyrwyr, sef ein both un-stop ar gyfer eich holl anghenion myfyrwyr. P’un a ydych yn chwilio am gyngor ar iechyd a lles, paratoi ar gyfer eich dyfodol, rheoli arian neu fyw yng Nghaerdydd, bydd ein staff cymorth arbenigol ac ymroddedig wrth law i’ch cefnogi. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i lwyddo a gwneud y gorau o'ch bywyd myfyriwr.
Adborth
Drwy gydol y rhaglen, bydd gennych nifer o gyfleoedd i dderbyn adborth a chymryd mantais ohono yn ystod sesiynau adborth pwrpasol. Mae gweithgareddau fel asesiadau cymheiriaid, a hunanasesiadau yn rhan annatod o'r broses hon. Yn ogystal, byddwch yn derbyn adborth adeiladol gan ein staff addysgu, gan ddarparu mewnwelediadau i helpu eich twf proffesiynol, i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Yn ystod eich lleoliad Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol bydd adborth anffurfiol parhaus gan oruchwyliwr eich lleoliad; rhoddir adborth ffurfiol trwy drafodaeth canol-lleoliad gyda'ch goruchwyliwr lleoliad a'ch Tiwtor Personol.
Sut caf fy asesu?
Mae natur yr asesiadau yn amrywio fesul modiwl ac yn cynnwys gwaith cwrs, prosiectau portffolio, asesiadau ysgrifenedig, profion dosbarth, cyflwyniadau llafar a phoster, a phrosiectau ymarferol. Mae pob modiwl a lleoliad yn defnyddio mathau penodol o asesiadau i werthuso gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol yn effeithiol.
Defnyddir asesiadau trwy gydol y rhaglen i wella dysgu er mwyn sicrhau eich bod yn deall cysyniadau sylfaenol. Bydd asesiadau’n cefnogi dysgu annibynnol a gydol oes, ac wedi’u cynllunio i roi myfyrwyr wrth galon y broses ddysgu ac i helpu myfyrwyr i gymryd perchnogaeth dros eu dysgu eu hunain. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn eu hasesiadau gan aelodau o dimau modiwl a thiwtoriaid personol.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
- casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
- meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
- cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
- gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
- cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
- perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
- rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.
O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:
- dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amryw o ffynonellau;
- trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
- cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
- trafod materion cyfredol mewn perthynas ag ymchwil, ymchwiliadau a/neu ddadleuon;
- cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
- pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
- adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth o rôl ac effaith eiddo deallusol (IP) mewn amgylchedd ymchwil;
- gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar grŵp, fel arweinydd ac aelod o dîm;
- dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth);
- nodi targedau, a gweithio tuag at y targedau ar gyfer datblygiad personol, datblygiad proffesiynol, datblygiad academaidd a datblygiad gyrfa;
- arddangos sgiliau cynllunio ac arweinyddiaeth ar gyfer gosod, a bodloni, nodau cyraeddadwy yn y gweithle.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Ar ein cwrs, byddwch yn ennill sylfaen ardderchog ar gyfer eich dyfodol yn holl feusydd biocemeg a gwyddorau moleciwlaidd. Byddwch yn barod ar gyfer gyrfa mewn maes sy'n ymwneud â gwyddoniaeth, megis ymchwil a datblygu biotechnoleg, cyhoeddi meddygol neu wyddonol, diwydiannau fferyllol, a bioleg foleciwlaidd, ymhlith llawer o rai eraill. Bydd eich profiad lleoliad Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn rhoi cipolwg unigryw i chi ar weithrediad amgylchedd gwaith mewn lleoliad sy'n seiliedig ar ymchwil.
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy sy’n ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. Bydd y sgiliau hyn yn gyfle i archwilio gyrfaoedd y tu allan i wyddoniaeth, os dymunwch wneud hynny.
Gall cymhwyster Biocemeg hefyd fod yn garreg gamu i hyfforddiant pellach ar draws ystod eang o feysydd proffesiynol.
Lleoliadau
Yn ogystal â’r cyfle lleoliad hirdymor ffurfiol (Blwyddyn Tri) (8-10 mis) a ddarperir gan y rhaglen hon, rydym yn annog a chynghori myfyrwyr i ymgymryd â lleoliadau gwaith anffurfiol yn ystod gwyliau'r haf i wella cyflogadwyedd. Mae’n bosibl y gall tîm Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol eich cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith dros yr haf.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.