Biocemeg (BSc)
- Maes pwnc: Biocemeg
- Côd UCAS: C700
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Mae Biocemeg yn archwilio sail foleciwlaidd bywyd. Mae gan y wyddor hanes cyfoethog o ddarganfyddiadau gwyddonol - o ensymoleg a llwybrau metabolaidd i ddarganfod genynnau a strwythur DNA, mae cymaint i'w ddarganfod trwy Biocemeg.
Pan ymunwch â ni, byddwch yn dysgu sut mae biocemeg a gwyddorau biomoleciwlaidd yn cyfrannu at ddatblygiadau mewn meddygaeth a biotechnoleg, bioleg synthetig a pheirianneg protein, bioleg foleciwlaidd, biowybodeg, mapio genomau a geneteg. Gyda chefnogaeth yr ymchwil a'r darganfyddiadau diweddaraf, mae ein haddysgu yn eich galluogi i archwilio sut y gall prosesau biocemegol ein helpu i ddeall a datrys problemau'r byd. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr mewn bioleg synthetig a pheirianneg protein, bioleg foleciwlaidd, biotechnoleg, biowybodeg, mapio genomau a geneteg.
Mae ein hangerdd am wyddoniaeth wedi’i wreiddio drwy gyfanrwydd y rhaglen hon, o’ch darlithoedd a’ch gweithdai i’ch sesiynau ymarferol, lle byddwch yn rhoi theori ar waith. Byddwch yn cael y cyfle i ymgolli ym mhob agwedd o addysgu ystafell ddosbarth a labordy modern a derbyn cefnogaeth i ddatblygu eich technegau labordy. Trwy gwricwlwm ymarferol, sy'n cyfuno ymchwil a mewnwelediadau o ddiwydiant, byddwch yn tyfu mewn gwybodaeth, a’r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i baratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Gallwch hefyd deilwra rhai agweddau o’ch gradd i weddu i’ch diddordebau, gan gyfuno modiwlau biocemeg craidd â modiwlau eraill o’ch dewis. Yn eich blwyddyn olaf o astudio, cewch gyfle i ymchwilio pwnc y dymunwch ei archwilio’n fanylach, dan oruchwyliaeth ymchwilwyr cefnogol sy’n arbenigwyr yn eu maes. Mae hyn yn eich galluogi i ganolbwyntio ar atebion arloesol i faterion cyfoes.
Ein cenhadaeth yw darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gychwyn ar yrfa o'ch dewis. Byddwch yn graddio gyda sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr mewn cyfrifiadura, ystadegau, dadansoddi data, a chyflwyno'ch gwaith, gan eich paratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus.
Nodweddion nodedig
- Manteisiwch ar strwythur cwrs hyblyg sy'n eich galluogi i deilwra'ch gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau a'ch dyheadau, gan gynnwys yr opsiwn i dreulio blwyddyn mewn lleoliad proffesiynol.
- Profwch y cyffro o ddysgu mewn amgylchedd ymchwil bywiog ac yn cael hyfforddiant gan wyddonwyr sy'n arweinwyr yn eu maes.
- Defnyddiwch yr offer, y technegau a'r cyfleusterau diweddaraf yn eich gwaith prosiect.
- Datblygwch eich sgiliau ymchwil maes gydag un o'n cyrsiau maes poblogaidd sy'n seiliedig ar brosiectau. Dewiswch un o'n cyrsiau yn y DU neu ddewis teithio ymhellach i ffwrdd i leoliadau fel Tobago neu Borneo.
- Mae Ysgol y Biowyddorau yn cynnig ystod eang o gyfleoedd hyfforddi cyffrous gyda chanolfan maes yn Borneo, a chyfranogiad cryf yn sefydliadau ymchwil Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewrop y Brifysgol a'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn y cyrsiau canlynol:

Maes pwnc: Biocemeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB Rhaid cynnwys Bioleg neu Gemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 pwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Gemeg HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Gwyddoniaeth Fforensig, gyda Rhagoriaeth ym mhob un o'r Unedau Craidd/Gorfodol.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
id oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig ag astudio ar ein cwrs.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.
Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.
Mae hon yn rhaglen tair blynedd amser llawn a byddwch yn astudio 120 credyd bob blwyddyn.
Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau craidd a dewisol, a bydd staff addysgu yn rhoi arweiniad ar ddewis cyfuniadau o fodiwlau i sicrhau llwyth gwaith academaidd cytbwys a hylaw ym mhob blwyddyn o’r rhaglen.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mae’r flwyddyn gyntaf yn flwyddyn gyffredin, sy’n cwmpasu pob agwedd ar y biowyddorau. Bwriad hyn yw adlewyrchu’r ffaith fod ymchwil fiowyddonol yn faes cynyddol amlddisgyblaethol.
Bydd y flwyddyn gyntaf gyffredin yn trwytho myfyrwyr yn y pynciau hanfodol, gan gynnwys modiwl Cemeg Fiolegol sy’n cyflwyno pynciau ar ryngwyneb cemeg/bioleg ac archwilio technegau dadansoddi modern. Mae elfennau Biogemegol y cwrs yn y flwyddyn gyntaf yn cynnwys pynciau fel strwythur a swyddogaeth proteinau (gan gynnwys ensymau), strwythur a dyblygu DNA, trefniant a mynegiant genynnau, technegau trin geneteg, biocemeg carbohydrad a lipidau, ac agweddau allweddol ar fetaboledd.
Cyflwynir y maes llafur modiwlaidd, modern drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, cyflwyniadau a dosbarthiadau ymarferol a gynhelir mewn labordai mawr, gyda chyfleusterau da. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg fiolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu medrau gwyddonol ymarferol ac academaidd. Efallai y bydd modiwlau’n gorgyffwrdd ag astudiaethau Safon Uwch ar y cychwyn, ond buan iawn y byddant yn datblygu o ran dyfnder a chwmpas.
Mae system y flwyddyn gyntaf gyffredin yn cynnig mantais fawr o ran rhoi hyblygrwydd mewn perthynas â dewis gradd i chi. Nod y dull hwn yw eich gwneud yn agored i holl feysydd y biowyddorau, fel eich bod yn gallu gweithredu’n well yn nisgyblaethau’r biowyddorau sy’n fwyfwy rhyngddisgyblaethol. Mae strwythur cyffredin y flwyddyn gyntaf yn eich caniatáu i ehangu ffocws eich pynciau yn yr ail flwyddyn, os byddwch yn dymuno, neu barhau i ganolbwyntio ar un ddisgyblaeth benodol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sgiliau ar gyfer Gwyddoniaeth | BI1001 | 20 Credydau |
Strwythur a Swyddogaeth Organebau Byw | BI1002 | 20 Credydau |
Organebau a'r Amgylchedd | BI1003 | 20 Credydau |
Y Cell Dynamig | BI1004 | 20 Credydau |
Cemeg Fiolegol | BI1014 | 20 Credydau |
Geneteg ac Esblygiad | BI1051 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Bydd eich ail flwyddyn yn rhoi mwy o bwyslais ar sail arbrofol biocemeg a meysydd perthnasol yn y gwyddorau biomoleciwlaidd fel bioleg foleciwlaidd, bioleg celloedd a bioleg ddatblygiadol. Byddwch yn ymgymryd ag ymarferion sy’n ymdrin â thechnegau ymchwil modern fel trin a dadansoddi DNA ailgyfunol, biocemeg proteinau a lipidau a microbioleg, gyda phwyslais cryf ar ddadansoddi a dehongli data.
Byddwch hefyd yn adeiladu ar beth y gwnaethoch ei ddysgu ym mlwyddyn un i ddatblygu sylfaen gadarn ym meysydd mwy datblygedig swyddogaeth genynnau, geneteg foleciwlaidd, biocemeg proteinau, metabolaeth, bioleg celloedd, datblygiad, esblygiad a signalau celloedd.
Bydd hyn yn sicrhau fod gennych y sgiliau a’r ymwybyddiaeth hanfodol o ran technegau allweddol am ba bynnag agwedd ar fiocemeg fydd eich maes arbenigedd o ddewis, ym mlwyddyn olaf y cwrs ac yn eich gyrfa ddilynol.
Yn yr ail flwyddyn, mae gennych ddewis o dri o hyd at 12 modiwl sydd ar gael, gan roi cyfanswm o 120 Credyd.
Yn ystod yr ail flwyddyn, gallwch hefyd newid i radd pedair blynedd gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol, a gaiff ei chymryd ar ôl yr ail flwyddyn, yn amodol ar gael gafael ar leoliad hyfforddiant priodol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Amrywiaeth ac Addasu Anifeiliaid | BI2131 | 40 Credydau |
Geneteg a'i Chymwysiadau | BI2132 | 40 Credydau |
Ecoleg Rhan A | BI2135 | 30 Credydau |
Ecoleg Rhan B | BI2136 | 10 Credydau |
Bioleg Celloedd | BI2231 | 40 Credydau |
Biocemeg | BI2232 | 40 Credydau |
Bioleg Celloedd Datblygiadol a Bôn-gelloedd | BI2233 | 40 Credydau |
Bioleg Foleciwlaidd y genyn | BI2234 | 40 Credydau |
Ffisioleg | BI2331 | 40 Credydau |
Cysyniadau o Glefyd | BI2332 | 40 Credydau |
Anatomeg Ymarferol | BI2333 | 40 Credydau |
Ymennydd ac Ymddygiad | BI2431 | 40 Credydau |
Niwrowyddoniaeth Sylfaenol | BI2432 | 40 Credydau |
Blwyddyn tri
Yn eich blwyddyn olaf, bydd pwyslais cryf ar ddysgu annibynnol a gallwch ymchwilio i feysydd sy’n bwysig ar hyn o bryd ym maes biocemeg megis bioleg synthetig a strwythur proteinau, peirianneg enetig, bioleg bôn-gelloedd a pheirianneg meinweoedd. Bydd eich sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu ymhellach yn ystod eich prosiect yn y flwyddyn olaf sy’n eich caniatáu i ymchwilio i bwnc yn llawer manylach.
Bydd sesiynau tiwtorial a seminarau ymchwil ar agweddau ehangach ar y pwnc, gan gynnwys eu cymwysiadau meddygol a diwydiannol, yn estyn cwmpas eich dysgu.
Yn ogystal â phrosiect ymchwil 30 credyd, byddwch yn cwblhau tri modiwl 30 credyd (o ddewis o 18). Mae'r modiwlau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys bioleg synthetig a llunio protein, bioleg celloedd uwch, biowybodeg a genomeg swyddogaethol, a genynnau a genomau.
Ar ddechrau'r flwyddyn olaf, mae gennych hefyd yr opsiwn o wneud cais i drosglwyddo i gwrs pedair blynedd MBiochem gyda gradd Meistr integredig, yn dibynnu ar gynnydd academaidd boddhaol a’r lleoedd sydd ar gael.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prosiect Blwyddyn Olaf y Biowyddorau | BI3001 | 30 Credydau |
Genynnau i Genynnau i Genomau | BI3254 | 30 Credydau |
Bioleg synthetig a Pheirianneg Protein | BI3255 | 30 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Planhigion ar gyfer y Dyfodol: Ffiniau mewn Gwyddor Planhigion | BI3151 | 30 Credydau |
Ecosystemau, Cynaliadwyedd a Newid Byd-eang | BI3152 | 30 Credydau |
Esblygiad ac Addasu | BI3153 | 30 Credydau |
Bioleg Heintiau ac Epidemioleg | BI3155 | 30 Credydau |
Systemau Bioleg | BI3157 | 30 Credydau |
Y Chwyldro omeg (Biowybodeg a Genomeg Swyddogaethol) | BI3252 | 30 Credydau |
Bioleg a Delweddu Cell Uwch | BI3253 | 30 Credydau |
Pynciau Cyfredol mewn Datblygu, Bôn-gelloedd a Thrwsio | BI3256 | 30 Credydau |
Pynciau Cyfoes mewn Clefydau | BI3351 | 30 Credydau |
Canser: Mecanweithiau Cellog a Moleciwlaidd a Therapeutics | BI3352 | 30 Credydau |
Datblygiadau mewn Ffisioleg a Phathoffisioleg | BI3355 | 30 Credydau |
System gyhyrysgerbydol: Clefydau, Atgyweirio a Meddygaeth Adfywiol | BI3356 | 30 Credydau |
Niwrobioleg anhwylderau ymennydd | BI3451 | 30 Credydau |
Systemau Niwrowyddoniaeth | BI3452 | 30 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Addysgir y rhaglen astudio gan academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol fel arbenigwyr ym meysydd biocemeg, bioleg foleciwlaidd, bio- a nanotechnoleg, biowybodeg a pheirianneg protein. Mae ein dull addysgu wedi’i lywio gan yr ymchwil ddiweddaraf ac mae wedi’i gyfeirio gan arferion presennol y diwydiant, gan sicrhau bod y cwricwlwm yn academaidd drylwyr ac yn berthnasol i ofynion proffesiynol. Mae aelodau'r staff yn integreiddio eu hymchwil a'u profiad diwydiant i'r cwricwlwm, gan gynnig cipolwg uniongyrchol ar y datblygiadau diweddaraf mewn bioleg synthetig, ffarmacoleg a chemeg ddadansoddol.
Mae'r cwricwlwm yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â chymhwysiad ymarferol. Mae darlithoedd, a ategir gan sesiynau ymarferol, yn rhoi sylfaen gref i chi mewn theori ac ymarfer, tra bod seminarau, gweithdai a thiwtorialau yn eich helpu i gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu. Mae'r fformatau rhyngweithiol hyn yn cefnogi prosiectau ymarferol a thrafodaethau manwl, fel y gallwch fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn a gwella eich parodrwydd proffesiynol.
Mae integreiddio ymchwil yn elfen allweddol o’n addysgu. Byddwch yn ymwneud â’r data diweddaraf, astudiaethau achos perthnasol, a’r canfyddiadau ymchwil diweddaraf, gan gysylltu theori academaidd â materion ymarferol. Mae dysgu ymarferol yn ganolbwynt i'r rhaglen, gan roi'r cyfle i chi ddatblygu sgiliau ymarferol mewn cyd-destunau realistig. Trwy brosiectau tîm ac ymchwil unigol, byddwch yn cymhwyso technegau gwyddor data soffistigedig i heriau dadansoddol cymhlethdodau byd-eang.
Sut y caf fy nghefnogi?
Rydym am sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau drwy gydol eich amser gyda ni a byddwch yn elwa o ystod o gefnogaeth. O’r cychwyn cyntaf, byddwch yn derbyn gofal tiwtor personol a fydd yn brif bwynt cyswllt i chi, gan gynnig arweiniad cyfrinachol ar faterion academaidd a phersonol. Byddant yn eich helpu i weithio trwy'ch astudiaethau ac yn ffynhonnell gyson o gefnogaeth trwy gydol eich gradd.
O ran cymorth academaidd, y porth dysgu ar-lein a ddefnyddiwn yw Dysgu Canolog.
Mae'r Brifysgol yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr. Gall hyn gynnwys gweithdai sgiliau astudio, sesiynau cyfarwyddyd gyrfa, cymorth iechyd meddwl a lles, a gwasanaethau anabledd. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cynllunio i sicrhau eich bod yn teimlo bod gennych gefnogaeth a'ch grymuso i lwyddo.
Byddwch hefyd yn cael mynediad at gefnogaeth ragorol yn ein Canolfan Bywyd Myfyrwyr, sef ein both un-stop ar gyfer eich holl anghenion myfyrwyr. P’un a ydych yn chwilio am gyngor ar iechyd a lles, paratoi ar gyfer eich dyfodol, rheoli arian neu fyw yng Nghaerdydd, bydd ein staff cymorth arbenigol ac ymroddedig wrth law i’ch cefnogi. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i lwyddo a gwneud y gorau o'ch bywyd myfyriwr.
Adborth
Drwy gydol y rhaglen, bydd gennych nifer o gyfleoedd i dderbyn adborth a chymryd mantais ohono yn ystod sesiynau adborth pwrpasol. Mae gweithgareddau fel asesiadau cymheiriaid, a hunanasesiadau yn rhan annatod o'r broses hon. Yn ogystal, byddwch yn derbyn adborth adeiladol gan ein staff addysgu, gan ddarparu mewnwelediadau i helpu eich twf proffesiynol, i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Sut caf fy asesu?
Mae natur yr asesiadau yn amrywio fesul modiwl ac yn cynnwys gwaith cwrs, prosiectau portffolio, asesiadau ysgrifenedig, profion dosbarth, cyflwyniadau llafar a phoster, a phrosiectau ymarferol. Mae pob modiwl yn defnyddio mathau penodol o asesiadau i werthuso gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol yn effeithiol.
Defnyddir asesiadau trwy gydol y rhaglen i wella dysgu er mwyn sicrhau eich bod yn deall cysyniadau sylfaenol. Bydd asesiadau’n cefnogi dysgu annibynnol a gydol oes, ac wedi’u cynllunio i roi myfyrwyr wrth galon y broses ddysgu ac i helpu myfyrwyr i gymryd perchnogaeth dros eu dysgu eu hunain. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn eu hasesiadau gan aelodau o dimau modiwl a thiwtoriaid personol.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
- casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
- meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
- cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
- gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
- cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
- perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
- rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.
O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:
- dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau;
- trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
- cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
- trafod materion cyfredol mewn perthynas ag ymchwil, ymchwiliadau a/neu ddadleuon;
- cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
- pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
- adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth o rôl ac effaith eiddo deallusol (IP) mewn amgylchedd ymchwil;
- gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar grŵp, fel arweinydd ac aelod o dîm;
- dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth);
- nodi targedau, a gweithio tuag at y targedau ar gyfer datblygiad personol, datblygiad proffesiynol, datblygiad academaidd a datblygiad gyrfa;
- dangos sgiliau cynllunio ac arweinyddiaeth ar gyfer gosod, a bodloni, nodau cyraeddadwy yn y gweithle.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Yn 2016-17, dywedodd 93% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae ein cymhwyster Biocemeg yn rhoi sylfaen ragorol ar gyfer gyrfaoedd yn holl feysydd y gwyddorau biolegol a moleciwlaidd. Mae'n cynnig hyfforddiant cryf i wyddonwyr ymchwil ac mae cyfran sylweddol o'n graddedigion Biocemeg BSc yn mynd ymlaen i astudio PhD neu raddau meistr. Mae gan nifer o bobl eraill yrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd sy’n berthnasol i wyddoniaeth fel ymchwil a datblygiad biotechnoleg, cyhoeddi gwyddonol neu feddygol, y diwydiannau fferyllol, a bioleg foleciwlaidd, ymysg llawer o rai eraill.
Trwy eich gradd, byddwch hefyd datblygu sgiliau trosglwyddadwy sy’n ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr ym meysydd mwy cyffredinol diwydiant, masnach, gwasanaethau cyhoeddus, gweinyddu a rheoli. Gall gradd mewn Biocemeg fod yn gam hefyd at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio, gwyddoniaeth filfeddygol a chyfrifeg.
Gyrfaoedd graddedigion
- Biocemegydd
- Ymchwilydd Labordy
- Darlithydd Prifysgol
- Gwyddonydd Biomoleciwlaidd
Lleoliadau
Er nad yw ein rhaglen yn cynnwys unrhyw leoliadau gwaith ffurfiol, rydym yn annog a chynghori myfyrwyr i ymgymryd â lleoliadau gwaith anffurfiol yn ystod gwyliau'r haf i wella cyflogadwyedd. Mae’n bosibl y gall tîm Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol eich cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith dros yr haf.
Gwaith maes
Mae gwaith maes yn bosibl fel rhan o rai modiwlau, gan gynnwys profiad gwaith maes estynedig fel rhan o’n modiwl cadwraeth ac ecoleg yn yr ail flwyddyn.
Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau maes arbenigol, yn seiliedig ar gyrsiau a gynhelir mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae ein hystod o gyrsiau maes fel arfer yn cynnwys Bioamrywiaeth Fforest Law (Borneo), Ecoleg Morol Trofannol (Tobago a Borneo), Ecoleg Morydol (Aber Hafren), Ecoleg Afon (Caerdydd), ac Ecoleg Llawr y Goedwig (Caerdydd). Mae pob un o'r cyrsiau maes hyn yn cynnwys prosiect ymchwil annibynnol, sydd yn aml yn cynnwys ymddygiad neu ecoleg anifeiliaid.
Gan ddibynnu ar ddewisiadau modiwl, argaeledd a chyfyngiadau amserlennu, efallai y bydd myfyrwyr Biocemeg yn cael yr opsiwn o gymryd un o’n cyrsiau maes.
Ar adegau, gall cyrsiau maes gael eu heffeithio gan gyfyngiadau teithio, argaeledd staff neu rifau.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.