Ewch i’r prif gynnwys

Biocemeg (MBiochem)

  • Maes pwnc: Biocemeg
  • Côd UCAS: 386N
  • Derbyniad nesaf: Medi 2026
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae Biocemeg yn archwilio sail foleciwlaidd bywyd. Mae gan y wyddor hanes cyfoethog o ddarganfyddiadau gwyddonol - o ensymoleg a llwybrau metabolaidd i ddarganfod genynnau a strwythur DNA, mae cymaint i'w ddarganfod trwy Biocemeg.

Pan ymunwch â ni, byddwch yn dysgu sut mae biocemeg a gwyddorau biomoleciwlaidd yn cyfrannu at ddatblygiadau mewn meddygaeth a biotechnoleg, bioleg synthetig a pheirianneg protein, bioleg foleciwlaidd, biowybodeg, mapio genomau a geneteg. Gyda chefnogaeth yr ymchwil a'r darganfyddiadau diweddaraf, mae ein haddysgu yn eich galluogi i archwilio sut y gall prosesau biocemegol ein helpu i ddeall a datrys problemau'r byd. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr mewn bioleg synthetig a pheirianneg protein, bioleg foleciwlaidd, biotechnoleg, biowybodeg, mapio genomau a geneteg.

Mae ein hangerdd am wyddoniaeth wedi’i wreiddio drwy gyfanrwydd y rhaglen hon, o’ch darlithoedd a’ch gweithdai i’ch sesiynau ymarferol, lle byddwch yn rhoi theori ar waith. Byddwch yn cael y cyfle i ymgolli ym mhob agwedd o addysgu ystafell ddosbarth a labordy modern a derbyn cefnogaeth i ddatblygu eich technegau labordy. Trwy gwricwlwm ymarferol, sy'n cyfuno ymchwil a mewnwelediadau o ddiwydiant, byddwch yn tyfu mewn gwybodaeth, a’r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i baratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Gallwch hefyd deilwra rhai agweddau o’ch gradd i weddu i’ch diddordebau, gan gyfuno modiwlau biocemeg craidd â modiwlau eraill o’ch dewis. Yn eich blwyddyn olaf o astudio, cewch gyfle i ymchwilio pwnc y dymunwch ei archwilio’n fanylach, dan oruchwyliaeth ymchwilwyr cefnogol sy’n arbenigwyr yn eu maes. Mae hyn yn eich galluogi i ganolbwyntio ar atebion arloesol i faterion cyfoes. Trwy wneud ymchwil amserol o fewn labordy ymchwil a datblygu'r sgiliau llythrennedd gwybodaeth a dadansoddol i gefnogi hyn, bydd y lefel uchel o arbenigedd pwnc a gwybodaeth y byddwch yn ei hennill yn cyfrannu at eich gwneud yn hynod gyflogadwy fel myfyriwr graddedig yn y sectorau ymchwil a biowyddoniaeth fasnachol.

Nodweddion nodedig

  • Cewch brofiad o addysgu difyr sy'n cael ei yrru gan ein harbenigedd ymchwil. Byddwch hefyd yn cael mynediad at ystod gyffrous o gyfleoedd hyfforddi mewn labordai ymchwil yn Ysgol y Biowyddorau.
  • Defnyddiwch yr offer, y technegau a'r cyfleusterau diweddaraf a mwyaf cyfredol yn eich gwaith prosiect.
  • Mae biocemeg yn chwarae rhan sylfaenol mewn bywyd bob dydd, gan effeithio ar wahanol agweddau ar gymdeithas. O natur, manwerthu, bwyd, colur a gofal iechyd, mae effaith biocemeg ym mhobman.
  • Mae dros 94 % o'n graddedigion o Ysgol y Biowyddorau mewn cyflogaeth, astudiaethau pellach neu weithgareddau eraill 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Canlyniadau Graddedigion).

Maes pwnc: Biocemeg

  • academic-schoolYsgol y Biowyddorau
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4119
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-ABB. Rhaid cynnwys Bioleg neu Gemeg.

Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

 

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL. 

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.


Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Gwyddoniaeth Fforensig, gyda Rhagoriaeth ym mhob un o'r Unedau Craidd/Gorfodol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2026

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

*Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

Costau ychwanegol

Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig ag astudio ar ein cwrs.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.

Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen pedair blynedd amser llawn a byddwch yn astudio 120 credyd bob blwyddyn.

Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau craidd a dewisol, a bydd staff addysgu yn rhoi arweiniad ar ddewis cyfuniadau o fodiwlau i sicrhau llwyth gwaith academaidd cytbwys a hylaw ym mhob blwyddyn o’r rhaglen.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2026/2027. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2026

Blwyddyn un

Bydd eich blwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg biolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion, ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu sgiliau gwyddonol ymarferol ac academaidd.

I barhau ar y rhaglen 4 blynedd hon, mae gofyn i chi gynnal cyfartaledd cyfanredol o 60 % ar draws modiwlau Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 (cyfartaledd wedi’i ffurfio o gyfanswm marciau cyfartalog Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 mewn rhaniad 30:70, yn y drefn honno). Os na chyflawnir hyn, ar ddiwedd Blwyddyn 2 byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r cwrs BSc cyfatebol yn y rhaglen.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau ar gyfer GwyddoniaethBI100120 Credydau
Strwythur a Swyddogaeth Organebau BywBI100220 Credydau
Organebau a'r AmgylcheddBI100320 Credydau
Y Cell DynamigBI100420 Credydau
Cemeg FiolegolBI101420 Credydau
Geneteg ac EsblygiadBI105120 Credydau

Blwyddyn dau

Mae'r ail flwyddyn yn caniatáu mwy o arbenigedd ac yn adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf. Bydd ffocws ar ddadansoddi data a chyfathrebu gwyddonol, yn ogystal â thechnegau labordy uwch. Bydd dealltwriaeth o ddylunio arbrofol, adolygu llenyddiaeth, dadansoddi ystadegol a sgiliau dadansoddi beirniadol yn sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach ym Mlwyddyn Tri.

Ar ddiwedd Blwyddyn 2, os nad ydych wedi cyflawni cyfartaledd cyfanredol o 60% ar draws Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 (gweler Blwyddyn 1 am fanylion), cewch eich trosglwyddo i'r hyn sy'n cyfateb i BSc y rhaglen.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Amrywiaeth ac Addasu AnifeiliaidBI213140 Credydau
Geneteg a'i ChymwysiadauBI213240 Credydau
Ecoleg Rhan ABI213530 Credydau
Ecoleg Rhan BBI213610 Credydau
Bioleg CelloeddBI223140 Credydau
BiocemegBI223240 Credydau
Bioleg Celloedd Datblygiadol a Bôn-gelloeddBI223340 Credydau
Bioleg Foleciwlaidd y genynBI223440 Credydau
FfisiolegBI233140 Credydau
Cysyniadau o GlefydBI233240 Credydau
Anatomeg YmarferolBI233340 Credydau
Ymennydd ac YmddygiadBI243140 Credydau
Niwrowyddoniaeth SylfaenolBI243240 Credydau

Blwyddyn tri

Mae ein cwricwlwm Blwyddyn Tri yn eich galluogi i arbenigo’n fwy manwl. Mae’r dull hwn yn eich trochi yn niwylliant ymchwil y biowyddorau, trwy addysgu a yrrir gan ymchwil a phrosiect blwyddyn olaf sy’n eich galluogi i ymchwilio i bwnc yn llawer manylach.

Bydd Blwyddyn Tri o'n rhaglen yn cynnwys cyfran helaeth o astudio hunangyfeiriedig i ddatblygu sgiliau mewn gwaith annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn helpu i'ch paratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol.

Blwyddyn pedwar

Mae modiwlau a addysgir yn y flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar ddatblygu technegau ymchwil pellach, sgiliau chwilio llenyddiaeth a dadansoddi, trafod a gwerthuso gwaith yn feirniadol mewn grŵp, yn ogystal â chynllunio gwaith arbrofol. Fel rhan o'ch blwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil, a fydd yn cynnig profiad trochi llawn i chi o fewn labordy ymchwil dros gyfnod estynedig

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Prosiect Ymchwil UwchBI400180 Credydau
Dulliau Ymchwil UwchBI400220 Credydau
Ffiniau yn y BiowyddorauBI400320 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Addysgir y rhaglen astudio gan academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol fel arbenigwyr ym meysydd biocemeg, bioleg foleciwlaidd, bio- a nanotechnoleg, biowybodeg a pheirianneg protein. Mae ein dull addysgu wedi’i lywio gan yr ymchwil ddiweddaraf ac mae wedi’i gyfeirio gan arferion presennol y diwydiant, gan sicrhau bod y cwricwlwm yn academaidd drylwyr ac yn berthnasol i ofynion proffesiynol. Mae aelodau'r staff yn integreiddio eu hymchwil a'u profiad diwydiant i'r cwricwlwm, gan gynnig cipolwg uniongyrchol ar y datblygiadau diweddaraf mewn bioleg synthetig, ffarmacoleg a chemeg ddadansoddol.

Mae'r cwricwlwm yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â chymhwysiad ymarferol. Mae darlithoedd, a ategir gan sesiynau ymarferol, yn rhoi sylfaen gref i chi mewn theori ac ymarfer, tra bod seminarau, gweithdai a thiwtorialau yn eich helpu i gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu. Mae'r fformatau rhyngweithiol hyn yn cefnogi prosiectau ymarferol a thrafodaethau manwl, fel y gallwch fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn a gwella eich parodrwydd proffesiynol.

Mae integreiddio ymchwil yn elfen allweddol o’n addysgu. Byddwch yn ymwneud â’r data diweddaraf, astudiaethau achos perthnasol, a’r canfyddiadau ymchwil diweddaraf, gan gysylltu theori academaidd â materion ymarferol. Mae dysgu ymarferol yn ganolbwynt i'r rhaglen, gan roi'r cyfle i chi ddatblygu sgiliau ymarferol mewn cyd-destunau realistig. Trwy brosiectau tîm ac ymchwil unigol, byddwch yn cymhwyso technegau gwyddor data soffistigedig i heriau dadansoddol cymhlethdodau byd-eang.

Sut y caf fy nghefnogi?

Rydym am sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau drwy gydol eich amser gyda ni a byddwch yn elwa o ystod o gefnogaeth. O’r cychwyn cyntaf, byddwch yn derbyn gofal tiwtor personol a fydd yn brif bwynt cyswllt i chi, gan gynnig arweiniad cyfrinachol ar faterion academaidd a phersonol. Byddant yn eich helpu i weithio trwy'ch astudiaethau ac yn ffynhonnell gyson o gefnogaeth trwy gydol eich gradd.

O ran cymorth academaidd, y porth dysgu ar-lein a ddefnyddiwn yw Dysgu Canolog.

Mae'r Brifysgol yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr. Gall hyn gynnwys gweithdai sgiliau astudio, sesiynau cyfarwyddyd gyrfa, cymorth iechyd meddwl a lles, a gwasanaethau anabledd. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u cynllunio i sicrhau eich bod yn teimlo bod gennych gefnogaeth a'ch grymuso i lwyddo.

Byddwch hefyd yn cael mynediad at gefnogaeth ragorol yn ein Canolfan Bywyd Myfyrwyr, sef ein both un-stop ar gyfer eich holl anghenion myfyrwyr. P’un a ydych yn chwilio am gyngor ar iechyd a lles, paratoi ar gyfer eich dyfodol, rheoli arian neu fyw yng Nghaerdydd, bydd ein staff cymorth arbenigol ac ymroddedig wrth law i’ch cefnogi. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i lwyddo a gwneud y gorau o'ch bywyd myfyriwr.

Adborth

Drwy gydol y rhaglen, bydd gennych nifer o gyfleoedd i dderbyn adborth a chymryd mantais ohono yn ystod sesiynau adborth pwrpasol. Mae gweithgareddau fel asesiadau cymheiriaid, a hunanasesiadau yn rhan annatod o'r broses hon. Yn ogystal, byddwch yn derbyn adborth adeiladol gan ein staff addysgu, gan ddarparu mewnwelediadau i helpu eich twf proffesiynol, i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Sut caf fy asesu?

Mae natur yr asesiadau yn amrywio fesul modiwl ac yn cynnwys gwaith cwrs, prosiectau portffolio, asesiadau ysgrifenedig, profion dosbarth, cyflwyniadau llafar a phoster, a phrosiectau ymarferol. Mae pob modiwl yn defnyddio mathau penodol o asesiadau i werthuso gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol yn effeithiol.

Defnyddir asesiadau trwy gydol y rhaglen i wella dysgu er mwyn sicrhau eich bod yn deall cysyniadau sylfaenol. Bydd asesiadau’n cefnogi dysgu annibynnol a gydol oes, ac wedi’u cynllunio i roi myfyrwyr wrth galon y broses ddysgu ac i helpu myfyrwyr i gymryd perchnogaeth dros eu dysgu eu hunain. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn eu hasesiadau gan aelodau o dimau modiwl a thiwtoriaid personol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
  • casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
  • meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
  • gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
  • cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
  • perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
  • rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau;
  • trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
  • cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
  • trafod materion cyfredol ynghylch ymchwil, astudiaethau a/neu drafodaethau, gan ddatblygu beirniadaeth ystyrlon;
  • cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
  • pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
  • integreiddio syniadau a chysyniadau i ragfynegi, ffurfio a gwerthuso damcaniaethau newydd;
  • cynnal amrywiaeth o sgiliau ymarferol labordy a sgiliau maes mewn modd cywir a chyson;
  • integreiddio arsylwadau empeiraidd â theori, gan roi gwybodaeth o'r labordy ar waith yn y maes;
  • cymhwyso technegau ymchwil cyfoes i ddatrys problemau biolegol;
  • dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth).

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae ein gradd Meistr Integredig mewn Biocemeg yn sail ardderchog ar gyfer gyrfa mewn ymchwil wyddonol yn y dyfodol. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy sy’n benodol i wyddoniaeth a rhai mwy cyffredinol a fydd yn ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr gwyddonol ac heb fod yn wyddonol ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.

Ar ein cwrs, byddwch yn ennill sylfaen ardderchog ar gyfer eich dyfodol yn holl feusydd biocemeg a gwyddorau moleciwlaidd. Byddwch yn barod ar gyfer gyrfa mewn maes sy'n ymwneud â gwyddoniaeth, megis ymchwil a datblygu biotechnoleg, cyhoeddi meddygol neu wyddonol, diwydiannau fferyllol, a bioleg foleciwlaidd, ymhlith llawer o rai eraill.

Gall cymhwyster Biocemeg hefyd fod yn garreg gamu i hyfforddiant pellach ar draws ystod eang o feysydd proffesiynol.

Lleoliadau

Er nad yw ein rhaglen yn cynnwys unrhyw leoliadau gwaith ffurfiol, rydym yn annog a chynghori myfyrwyr i ymgymryd â lleoliadau gwaith anffurfiol yn ystod gwyliau'r haf i wella cyflogadwyedd. Mae’n bosibl y gall tîm Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol eich cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith dros yr haf.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.