Ewch i’r prif gynnwys

Astroffiseg (MPhys)

  • Maes pwnc: Ffiseg a seryddiaeth
  • Côd UCAS: F510
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn
The orion constellation taken from Herschel telescope.

Pam astudio'r cwrs hwn

rosette

8fed yn y DU

Rydyn ni yn yr 8fed safle yn y Deyrnas Unedig ar gyfer ffiseg (The Guardian University Guide 2025).

globe

Addysgu a arweinir gan ymchwil

Rydyn ni’n gartref i un o’r cymunedau mwyaf o Astroffisegwyr a Ffisegwyr Mater Cyddwysedig yn y Deyrnas Unedig.

microchip

95% mewn cyflogaeth

Mae 95% o’n graddedigion yn gyflogedig, mewn astudiaethau pellach neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl i’w cwrs ddod i ben (Arolwg Hynt Graddedigion, 2021/22).

people

Bodlondeb myfyrwyr

Rydyn ni ar y brig yng Ngrŵp Russell o ran addysgu ar y cwrs, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, a chymorth academaidd ym maes ffiseg (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2024).

certificate

Wedi'i hachredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP)

Mae'r rhaglen hon yn bodloni'r safonau ansawdd uchel mewn addysg a amlinellir gan y Sefydliad Ffiseg.

Mae’r radd MPhys Astroffiseg yn ymdrin â chysyniadau ffisegol a mathemategol craidd, ac mae’n rhoi pwyslais penodol ar ein dehongliad ni o’r Bydysawd. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi addysg drylwyr mewn agweddau damcaniaethol ar ffiseg ac astroffiseg a dealltwriaeth o seryddiaeth arsylwadol.

Mae’r rhaglen pedair blynedd hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP), a’i dylunio ar gyfer y rheiny sydd ag awydd astudio astroffiseg yn fanylach na'r hyn a ganiateir gan y cwrs BSc tair blynedd.

Nod y cwrs yw eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn ymchwil a datblygiad diwydiannol neu academaidd, addysg, neu sectorau eraill lle mae angen ymagwedd ddadansoddol, rifog ac ymarferol at ddatrys problemau.

Byddwch yn rhan o adran gyfeillgar a chroesawgar sydd wedi'i lleoli ar hyn o bryd yng nghyfadeilad Adeilad y Frenhines. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o labordai pwrpasol, darlithfeydd a chyfleusterau cyfrifiadurol.

Achrediadau

Maes pwnc: Ffiseg a seryddiaeth

  • academic-schoolYr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6457
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-ABB. Rhaid cynnwys Mathemateg a Ffiseg. Bydd ymgeiswyr sy'n astudio Mathemateg heb Ffiseg hefyd yn cael eu hystyried fel arfer yn amodol ar ennill gradd A mewn Mathemateg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys Mathemateg HL a Ffiseg HL. Bydd ymgeiswyr sy'n cymryd Mathemateg HL heb Ffiseg HL hefyd yn cael eu hystyried fel arfer yn amodol ar ennill gradd 6 mewn Mathemateg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau gwyddoniaeth a pheirianneg a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch neu D mewn unrhyw bwnc BTEC ac yn graddio AA-AB mewn Mathemateg a Ffiseg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,535 Dim
Blwyddyn dau £9,535 Dim
Blwyddyn tri £9,535 Dim
Blwyddyn pedwar £9,535 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £29,450 Dim
Blwyddyn dau £29,450 Dim
Blwyddyn tri £29,450 Dim
Blwyddyn pedwar £29,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae’r Ysgol yn talu am offer hanfodol, gan gynnwys gwerslyfrau craidd y cwrs yn y ddwy flynedd gyntaf. Mae'r holl werslyfrau awgrymedig eraill ar gael drwy lyfrgelloedd y Brifysgol.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd y Brifysgol yn darparu’r holl offer hanfodol. Ar hyn o bryd y mae hefyd yn darparu gwerslyfr Ffiseg a Mathemateg craidd y flwyddyn gyntaf. Gallwch ddewis prynu gwerslyfrau eraill yn dilyn cyngor gan y staff. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno ystyried prynu cyfrifiadur personol, gliniadur neu ddyfais tabled, er bod cyfleusterau cyfrifiadura penodol ar gael ar y safle.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn pedair blynedd o hyd. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd o fodiwlau craidd a ddewiswyd yn ofalus, ynghyd â rhai modiwlau dewisol. 10 neu 20 credyd yw gwerth y modiwlau fel arfer, a bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Diben yr ystod o fodiwlau a gynigir yn y flwyddyn gyntaf yw ennyn eich diddordeb mewn Ffiseg, ar yr un pryd â rhoi sylfaen gadarn i chi adeiladu arni yn y blynyddoedd dilynol. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, gallwch barhau â'ch rhaglen radd wreiddiol o ddewis neu ddewis un arall o'n graddau anrhydedd sengl ffiseg a seryddiaeth.

Byddwch yn astudio modiwlau craidd gwerth 120 credyd.

Blwyddyn dau

Mae ail flwyddyn y cwrs yn parhau i adeiladu ar y deunydd ffiseg ac astroffiseg craidd. Byddwch hefyd yn dilyn modiwl ar dechnegau arsylwi mewn seryddiaeth. Mae hyn yn cyflwyno'r theori a'r arfer o wneud a dehongli arsylwadau seryddol ac yn darparu'r sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'ch prosiect ymchwil seryddiaeth neu astroffiseg ym mlynyddoedd tri a phedwar.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gynnal isafswm cyfartaledd o 55% ym mlynyddoedd un a dau er mwyn parhau â'u hastudiaethau ar y rhaglen MPhys.

Blwyddyn tri

Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn astudio 80 credyd o fodiwlau craidd gydag 10 credyd arall o ddetholiad o fodiwlau dewisol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect annibynnol o 30 credyd ar bwnc cysylltiedig o astronomeg neu ymchwil astroffiseg.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ffiseg atomig a niwclearPX314120 Credydau
Ffurfiant ac esblygiad y sêrPX314510 Credydau
Galaethau ac esblygiad GalaxyPX315610 Credydau
Ffiseg Gronynnau a Pherthnasedd ArbennigPX324120 Credydau
Astroffiseg Ynni UchelPX324510 Credydau
CosmolegPX325410 Credydau
Prosiect FfisegPX335030 Credydau

Blwyddyn pedwar

Mae'r prosiect blwyddyn olaf yn rhan sylweddol o'n cyrsiau MPhys ac rydym yn rhoi pwyslais arbennig arno. Ar hyn o bryd mae'n cyfrif am hanner y flwyddyn pedwar (60 credyd) ac yn darparu hyfforddiant mewn dadansoddi, synthesis a datrys problemau – y sgiliau allweddol sydd eu hangen ar astroffisegydd proffesiynol. Bydd y prosiect yn gysylltiedig â gwaith ymchwil yr Ysgol ac yn rhoi cyfle i chi weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr proffesiynol a staff academaidd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Physics students in a lab

Dysgu ac asesu

Cynhelir yr addysgu gan ddefnyddio ystod o dechnegau, megis darlithoedd traddodiadol, tiwtorialau a gwaith labordy ac ymarferion cyfrifiadurol, yn seiliedig ar brosiectau a sgiliau. Mae Ffiseg yn ddisgyblaeth hierarchaidd, felly mae strwythur y cwrs yn systematig, ac yn adeiladu ar ddealltwriaeth sylfaenol.

Mae ymarferion yn rhan annatod o bob modiwl sy’n seiliedig ar ddarlithoedd, ac mae’r rhain yn rhoi cyfle i chi gymhwyso eich gwybodaeth, cynyddu eich ymwybyddiaeth feirniadol a gwella eich sgiliau datrys problemau.

Byddwch yn cael dosbarthiadau labordy wythnosol yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, i'ch paratoi ar gyfer astudiaeth arbrofol yn rhan o'ch prosiect blwyddyn tri ac ar gyfer eich prosiect mawr yn eich blwyddyn olaf.

Addysgir Mathemateg ochr yn ochr â’r prif gysyniadau Ffiseg ac Astroffiseg ym mhob blwyddyn, gyda modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf. Mae’n hollbwysig er mwyn deall y pwnc ac mae wedi’i hymgorffori mewn nifer o fodiwlau.

Addysgir sgiliau TG yn y flwyddyn gyntaf yn ogystal â rhaglennu elfennol drwy ddefnyddio Python. Efallai y byddwch yn cymryd modiwlau dulliau cyfrifiadurol a rhifiadol pellach mewn blynyddoedd diweddarach.

Cynhelir sesiynau tiwtorial rheolaidd mewn grwpiau bach ym mlynyddoedd un a dau. Bydd y cyfarfodydd hyn yn eich galluogi i gwrdd â myfyrwyr eraill mewn grwpiau bach (fel arfer pedwar neu bump o fyfyrwyr i un tiwtor) a chael adborth ar eich asesiad parhaus. Yn y flwyddyn gyntaf mae’r sesiynau hyn fel arfer yn cael eu cynnal yn wythnosol, ac yn yr ail flwyddyn maen nhw’n cael eu cynnal bob pythefnos.

Drwy gydol y gwaith o gyflawni‘r rhaglen, lle bynnag y bo'n bosibl, mae canlyniadau ymchwil diweddar yn cael eu defnyddio i ddangos enghreifftiau a goleuo'r pwnc.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd eich prif fodd o ryngweithio â staff academaidd yn digwydd drwy ddarlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (tiwtorialau).

Byddwn hefyd yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn gallu rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.

Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol ar unwaith.

Trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, bydd modd i chi gael gafael ar ddeunyddiau amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.

Sut caf fy asesu?

There are a wide variety of assessment methods. Some modules combine continuous assessment and end-of-semester exam and others are solely based on continuous assessment.

At first the nature and methods of experiments are clearly defined for you, but by year three you are expected to tackle more open-ended investigations.

In your final-year project you will submit a fixed-format summary of your work plus a self-assessment at the end of the Autumn Semester. You will submit your final dissertation at the end of the Spring Semester. Part of your assessment will involve an interview with your supervisor and assessor (viva) and you will be asked to give a short research seminar about your project. All of these elements are assessed.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Bydd astudio’r cwrs hwn yn eich galluogi i gaffael a datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth ac yn seiliedig ar gyflogadwyedd yn gyffredinol. Byddwch yn:

  • Datblygu eich sgiliau arbrofol, dadansoddol ac ymchwiliol mewn dosbarthiadau labordy
  • Dysgu sut i ddylunio offer arbrofol, cylchedwaith electronig neu gaffael data neu algorithmau lleihau data
  • Defnyddio cyfrifiadau manwl gywir neu gyfrifiadau trefn maint mewn sefyllfaoedd priodol
  • Defnyddio pecynnau cyfrifiadurol a/neu ysgrifennu meddalwedd
  • Cynnal ymchwil annibynnol gan ddefnyddio deunyddiau ffynhonnell fel gwerslyfrau, cyfnodolion gwyddonol a chronfeydd data electronig
  • Datblygu eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm a'ch gallu i werthuso eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill yn feirniadol
  • Datblygu eich gallu i ddysgu'n annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae galw mawr am raddedigion Ffiseg a Seryddiaeth ymhlith cyflogwyr ac mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio mewn ystod eang o wahanol feysydd gan gynnwys y gwyddorau ymchwil, ffiseg a thechnoleg feddygol, addysgu a chyllid a bancio.

Roedd cyflogwyr yn cynnwys prifysgolion rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau fel Rolls Royce, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Lockheed Martin, Tata, Offerynnau Cenedlaethol a Barclays.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Gwyddonydd ymchwil
  • Athro
  • Cyllid a bancio
  • Rheolwr prosiect

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.