Astroffiseg (BSc)
- Maes pwnc: Ffiseg a seryddiaeth
- Côd UCAS: F511
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Bydd ein BSc tair blynedd mewn Astroffiseg yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i chi o'r Bydysawd wrth ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ym mhynciau craidd ffiseg a mathemateg.
8fed yn y DU
Rydyn ni yn yr 8fed safle yn y Deyrnas Unedig ar gyfer ffiseg (The Guardian University Guide 2025).
95% mewn cyflogaeth
Mae 95% o’n graddedigion yn gyflogedig, mewn astudiaethau pellach neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl i’w cwrs ddod i ben (Arolwg Hynt Graddedigion, 2021/22).
Bodlondeb myfyrwyr
Rydyn ni ar y brig yng Ngrŵp Russell o ran addysgu ar y cwrs, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, a chymorth academaidd ym maes ffiseg (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2024).
Addysgu a arweinir gan ymchwil
Rydyn ni’n gartref i un o’r cymunedau mwyaf o Astroffisegwyr a Ffisegwyr Mater Cyddwysedig yn y Deyrnas Unedig.
Wedi'i hachredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP)
Mae'r rhaglen hon yn bodloni'r safonau ansawdd uchel mewn addysg a amlinellir gan y Sefydliad Ffiseg.
Mae’r radd BSc Astroffiseg yn ymdrin â chysyniadau ffisegol a mathemategol craidd, ac mae’n rhoi pwyslais penodol ar ein dehongliad ni o’r Bydysawd. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi addysg drylwyr mewn agweddau damcaniaethol ar ffiseg ac astroffiseg a dealltwriaeth o seryddiaeth arsylwadol.
Yn eich dwy flynedd gyntaf, byddwch yn astudio cydran graidd o fodiwlau ffiseg ac astroffiseg, a gyflwynir i chi trwy ystod o ddulliau addysgu. Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn astudio pynciau astroffiseg a seryddiaeth uwch yn fanwl, gyda modiwlau dewisol ychwanegol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil astroffiseg.
Nod y cwrs yw eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn ymchwil a datblygiad diwydiannol neu academaidd, addysg, neu sectorau eraill lle mae angen ymagwedd ddadansoddol, rifog ac ymarferol at ddatrys problemau.
Byddwch yn rhan o adran gyfeillgar a chroesawgar sydd wedi'i lleoli ar hyn o bryd yng nghyfadeilad Adeilad y Frenhines. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o labordai pwrpasol, darlithfeydd a chyfleusterau cyfrifiadurol.
Achrediadau
Maes pwnc: Ffiseg a seryddiaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB. Rhaid cynnwys Mathemateg a Ffiseg. Bydd ymgeiswyr sy'n astudio Mathemateg heb Ffiseg hefyd yn cael eu hystyried fel arfer yn amodol ar ennill gradd A mewn Mathemateg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys Mathemateg HL a Ffiseg HL. Bydd ymgeiswyr sy'n cymryd Mathemateg HL heb Ffiseg HL hefyd yn cael eu hystyried fel arfer yn amodol ar ennill gradd 6 mewn Mathemateg HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD-DM mewn Diploma BTEC mewn pwnc gwyddoniaeth a/neu beirianneg a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch neu D mewn unrhyw bwnc BTEC ac yn graddio BB mewn Mathemateg a Ffiseg Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Mae’r Ysgol yn talu am offer hanfodol, gan gynnwys gwerslyfrau craidd y cwrs yn y ddwy flynedd gyntaf. Mae'r holl werslyfrau awgrymedig eraill ar gael drwy lyfrgelloedd y Brifysgol.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Bydd y Brifysgol yn darparu’r holl offer hanfodol. Ar hyn o bryd y mae hefyd yn darparu gwerslyfr Ffiseg a Mathemateg craidd y flwyddyn gyntaf. Gallwch ddewis prynu gwerslyfrau eraill yn dilyn cyngor gan y staff. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno ystyried prynu cyfrifiadur personol, gliniadur neu ddyfais tabled, er bod cyfleusterau cyfrifiadura penodol ar gael ar y safle.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Gradd amser llawn a thair blynedd o hyd yw hon. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd o fodiwlau craidd a ddewiswyd yn ofalus, ynghyd â rhai modiwlau dewisol. 10 neu 20 credyd yw gwerth y modiwlau fel arfer, a bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Diben yr ystod o fodiwlau a gynigir yn y flwyddyn gyntaf yw ennyn eich diddordeb mewn Ffiseg, ar yr un pryd â rhoi sylfaen gadarn i chi adeiladu arni yn y blynyddoedd dilynol. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, gallwch barhau â'ch rhaglen radd wreiddiol o ddewis neu ddewis un arall o raddau anrhydedd sengl ffiseg a seryddiaeth Caerdydd.
Byddwch yn astudio modiwlau craidd gwerth 120 credyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dulliau mathemategol ar gyfer ffisegwyr 1 | PX1120 | 20 Credydau |
Mecaneg a mater | PX1121 | 20 Credydau |
Planet Earth | PX1127 | 10 Credydau |
Ffiseg Arbrofol | PX1150 | 20 Credydau |
Trydan, Magnetedd a Thonnau | PX1221 | 20 Credydau |
Sgiliau Cyfrifiadurol ar gyfer Datrys Problemau | PX1224 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Astroffiseg | PX1228 | 10 Credydau |
Dulliau mathemategol ar gyfer ffisegwyr 2 | PX1230 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae ail flwyddyn y cwrs yn parhau i adeiladu ar y deunydd ffiseg ac astroffiseg craidd. Byddwch hefyd yn cymryd modiwl 20 credyd o'r enw Technegau Arsylwi mewn Seryddiaeth. Mae hyn yn cyflwyno'r theori a'r arfer o wneud a dehongli arsylwadau seryddol ac yn darparu'r sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'ch prosiect ymchwil seryddiaeth neu astroffiseg ym mlwyddyn tri.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ffiseg Caeau a Llifoedd | PX2131 | 20 Credydau |
Mecaneg Quantum Rhagarweiniol | PX2132 | 10 Credydau |
Rhaglennu Strwythuredig | PX2134 | 10 Credydau |
Y sêr a'u planedau | PX2140 | 10 Credydau |
Technegau Arsylwi mewn Seryddiaeth | PX2155 | 20 Credydau |
Ffiseg Thermol ac Ystadegol | PX2231 | 20 Credydau |
Opteg | PX2232 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Ffiseg Mater Cyddwysedig | PX2236 | 10 Credydau |
Astroffiseg ar waith: Datrys Problemau'r Byd Go Iawn | PX2242 | 10 Credydau |
Blwyddyn tri
Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn astudio 80 credyd o fodiwlau craidd gydag 10 credyd arall o ddetholiad o fodiwlau dewisol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect annibynnol o 30 credyd ar bwnc cysylltiedig o astronomeg neu ymchwil astroffiseg.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ffiseg atomig a niwclear | PX3141 | 20 Credydau |
Ffurfiant ac esblygiad y sêr | PX3145 | 10 Credydau |
Galaethau ac esblygiad Galaxy | PX3156 | 10 Credydau |
Ffiseg Gronynnau a Pherthnasedd Arbennig | PX3241 | 20 Credydau |
Astroffiseg Ynni Uchel | PX3245 | 10 Credydau |
Cosmoleg | PX3254 | 10 Credydau |
Prosiect Ffiseg | PX3350 | 30 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ffiseg Mater Cyddwysedig | PX3142 | 10 Credydau |
Ffiseg Gyfrifiadurol | PX3143 | 10 Credydau |
Ffiseg Amgylcheddol | PX3153 | 10 Credydau |
Ffiseg Ddamcaniaethol | PX3158 | 10 Credydau |
Cyfathrebu Gwyddoniaeth | PX3160 | 10 Credydau |
Diogelu Ymbelydredd a Ffiseg Radioleg Diagnostig | PX3164 | 10 Credydau |
Dyfeisiau a Chymwysiadau Lled-ddargludyddion | PX3242 | 10 Credydau |
Ffiseg Laser ac Opteg Anllinellol | PX3243 | 10 Credydau |
Mecaneg Ystadegol | PX3249 | 10 Credydau |
Masnacheiddio Arloesi | PX3253 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Cynhelir yr addysgu gan ddefnyddio ystod o dechnegau, megis darlithoedd traddodiadol, tiwtorialau a gwaith labordy ac ymarferion cyfrifiadurol, yn seiliedig ar brosiectau a sgiliau. Mae Ffiseg yn ddisgyblaeth hierarchaidd, felly mae strwythur y cwrs yn systematig, ac yn adeiladu ar ddealltwriaeth sylfaenol.
Mae ymarferion yn rhan annatod o bob modiwl sy’n seiliedig ar ddarlithoedd, ac mae’r rhain yn rhoi cyfle i chi gymhwyso eich gwybodaeth, cynyddu eich ymwybyddiaeth feirniadol a gwella eich sgiliau datrys problemau.
Byddwch yn cael dosbarthiadau labordy wythnosol yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, i'ch paratoi ar gyfer astudiaeth arbrofol yn rhan o'ch prosiect blwyddyn tri ac ar gyfer eich prosiect mawr yn eich blwyddyn olaf.
Addysgir mathemateg ochr yn ochr â’r prif gysyniadau Ffiseg ac Astroffiseg ym mhob blwyddyn, gyda modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf. Mae’n hollbwysig er mwyn deall y pwnc ac mae wedi’i hymgorffori mewn nifer o fodiwlau.
Addysgir sgiliau TG allweddol trwy gydol y cwrs yn ogystal â rhaglennu elfennol drwy ddefnyddio Python. Efallai y cewch y cyfle hefyd i astudio modiwlau cyfrifiadurol a dulliau rhifiadol pellach wrth i'r cwrs ddatblygu.
Cynhelir sesiynau tiwtorial rheolaidd mewn grwpiau bach ym mlynyddoedd un a dau. Bydd y cyfarfodydd hyn yn eich galluogi i gwrdd â myfyrwyr eraill mewn grwpiau bach (fel arfer pedwar neu bump o fyfyrwyr i un tiwtor) a chael adborth ar eich asesiad parhaus. Yn y flwyddyn gyntaf mae’r sesiynau hyn fel arfer yn cael eu cynnal yn wythnosol, ac yn yr ail flwyddyn maen nhw’n cael eu cynnal bob pythefnos.
Drwy gydol y gwaith o gyflawni‘r rhaglen, lle bynnag y bo'n bosibl, mae canlyniadau ymchwil diweddar yn cael eu defnyddio i ddangos enghreifftiau a goleuo'r pwnc.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd eich prif fodd o ryngweithio â staff academaidd yn digwydd drwy ddarlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (tiwtorialau).
Byddwn hefyd yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn gallu rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.
Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol ar unwaith.
Trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, bydd modd i chi gael gafael ar ddeunyddiau amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.
Sut caf fy asesu?
There are a wide variety of assessment methods. Some modules combine continuous assessment and end-of-semester exam and others are solely based on continuous assessment.
At first the nature and methods of experiments are clearly defined for you, but by your final year you are expected to tackle more open-ended investigations.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Bydd astudio’r cwrs hwn yn eich galluogi i gaffael a datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth ac yn seiliedig ar gyflogadwyedd yn gyffredinol. Byddwch yn:
- Datblygu eich sgiliau arbrofol, dadansoddol ac ymchwiliol mewn dosbarthiadau labordy
- Dysgu sut i ddylunio offer arbrofol, cylchedwaith electronig neu gaffael data neu algorithmau lleihau data
- Defnyddio cyfrifiadau manwl gywir neu gyfrifiadau trefn maint mewn sefyllfaoedd priodol
- Defnyddio pecynnau cyfrifiadurol a/neu ysgrifennu meddalwedd
- Cynnal ymchwil annibynnol gan ddefnyddio deunyddiau ffynhonnell fel gwerslyfrau, cyfnodolion gwyddonol a chronfeydd data electronig
- Datblygu eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm a'ch gallu i werthuso eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill yn feirniadol
- Datblygu eich gallu i ddysgu'n annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Mae galw mawr am raddedigion Ffiseg a Seryddiaeth ymhlith cyflogwyr ac mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio mewn ystod eang o wahanol feysydd gan gynnwys y gwyddorau ymchwil, ffiseg a thechnoleg feddygol, addysgu a chyllid a bancio.
Roedd cyflogwyr yn cynnwys prifysgolion rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau fel Rolls Royce, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Lockheed Martin, Tata Steel, Offerynnau Cenedlaethol a Barclays.
Gyrfaoedd graddedigion
- gwyddonydd ymchwil
- arweinydd datblygu ymchwil
- ffisegydd meddygol
- darlithydd
- cyllid a bancio
- athro ffiseg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.