Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau Pensaernïol (BSc)

  • Maes pwnc: Pensaernïaeth
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae'r cwrs yma ar gyfer mynediad ym mis Medi 2025. Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer mis Medi 2024 ar gyfer y Pensaernïaeth bum mlynedd (BSc/MArch).

academic-school

Ysgol bensaernïaeth flaenllaw

Astudiwch yn un o’r 5 ysgol pensaernïaeth orau yn y DU, gan ymuno â’n cymuned fyd-eang o staff a myfyrwyr.

globe

Ymweliadau astudio a ariennir

Manteisiwch ar ymweliadau astudio wedi’u hariannu yng Nghymru, y DU a thramor, ac ennill profiad o bensaernïaeth yn uniongyrchol ac ochr yn ochr â staff addysgu.

notepad

Dylunio a arweinir gan ymchwil

Mae ein BSc yn hyrwyddo creadigrwydd sylfaenol ac yn ymateb i heriau'r byd go iawn, gan gynhyrchu graddedigion o safon i fynd i'r afael â gofynion amrywiol a llywio dyfodol ymarfer dylunio.

building

Cyfleusterau newydd pwrpasol

Sefydlwyd yn c.1920 yn adeilad pwrpasol Bute, a adnewyddwyd yn ddiweddar i gynnwys cyfleusterau newydd, gan gynnwys stiwdios hybrid, gweithdy, gwneuthuriad digidol a Labordy Byw.

Yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru byddwch yn datblygu sylfaen drylwyr mewn pensaernïaeth o ran disgyblaeth, ynghyd ag ymdeimlad cryf datblygol o'ch ymagwedd eich hun at ddylunio.

Trwy gyfuniad o waith prosiect dylunio a modiwlau a addysgir, byddwch yn astudio’r dimensiynau hanesyddol, damcaniaethol, diwylliannol, gwleidyddol a daearyddol amrywiol sydd i bensaernïaeth. Byddwch yn ystyried y modd y mae pensaernïaeth yn cael ei lunio, y modd y mae'n perfformio a’r modd y gall dewisiadau technolegol gefnogi llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol a gofalu am y blaned. Byddwch yn archwilio materion yn ymwneud â chyfrifoldeb proffesiynol a moesegol i fyfyrio ar rôl y pensaer mewn cymdeithas ac mewn ymateb i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Bydd eich astudiaethau dylunio yn golygu gwaith ymgysylltu dychmygus parhaus â materion y byd go iawn a heriau byd-eang, megis y newid yn yr hinsawdd, a hynny mewn cyd-destunau lleol.  Mae’r stiwdio ddylunio yng nghanol ein cymuned ac yn fan lle byddwch yn cymysgu â myfyrwyr, staff ac ymarferwyr y diwydiant i fynd i’r afael â materion moesegol, byd-eang, hinsoddol a phroffesiynol.

Mae'r BSc yn hwyluso cynnydd i'r MArch (Rhan 2), yn ogystal â'n cyfres o raglenni ôl-raddedig. Bydd angen i fyfyrwyr sy'n bwriadu dod yn benseiri cofrestredig yn y Deyrnas Unedig gwblhau rhaglen Rhan 3, megis ein Diploma Ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol.

Achrediadau

Maes pwnc: Pensaernïaeth

  • academic-schoolYsgol Pensaernïaeth Cymru
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4430
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol gan gynnwys 6 mewn un pwnc HL neu 666 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Os nad ydych wedi astudio pwnc celf a dylunio, efallai y byddwn yn gofyn i chi gyflwyno portffolio ochr yn ochr â'ch cais. Dylai'r portffolio gynnwys gwaith sy'n dangos eich gallu creadigol. Gallai’r gwaith hwn fod yn arddangos eich sgiliau ym maes tynnu lluniau, ffotograffiaeth neu grochenwaith, yn ymarfer gofodol drwy ddawns, coreograffi neu ffilm neu’n unrhyw beth sy'n dangos eich unigoliaeth.

Rhaid i chi hefyd fod â neu fod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

D mewn Dylunio Lefel T, arolygu a chynllunio ar gyfer adeiladu.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Byddwn yn talu costau pob agwedd hanfodol ar yr astudio, gan gynnwys argraffu a phlotio hanfodol, trwyddedau meddalwedd a deunyddiau ar gyfer gwneud modelau sylfaenol a gofynnol. Efallai y byddwch am brynu deunyddiau gwneud modelau ychwanegol sydd y tu hwnt i'r hyn a ystyrir yn hanfodol.

Rydym hefyd yn darparu cyllid i dalu am yr elfennau hanfodol megis teithiau astudio ac ymweliadau safle neu ymweliadau maes. Fodd bynnag, weithiau gall modiwlau neu brosiectau dewisol arwain at gostau ychwanegol sydd y tu hwnt i'r hyn y mae'r ysgol yn talu amdano. Byddwn yn sicrhau bod y dewisiadau hyn bob amser yn ddewisol, a bod dewisiadau eraill ar gael nad oes iddynt gostau uwch.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd arnoch angen deunydd ysgrifennu a deunyddiau sylfaenol trwy gydol y cwrs i luniadu a braslunio. Byddwn yn darparu 'pecyn cychwynnol' o gyfarpar drafftio yn barod at eich defnydd yn eich stiwdio Blwyddyn 1.

Rydym yn darparu ystod o gyfrifiaduron personol manyleb uchel i fyfyrwyr eu defnyddio, ond rydym yn argymell eich bod yn cael gliniadur er mwyn gallu cyrchu deunyddiau dysgu digidol a rhedeg meddalwedd benodol.

Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi gael camera ar gyfer tynnu lluniau modelau a gwaith arall ac ar gyfer recordio safleoedd a theithiau maes, a llechen neu ffôn ar gyfer recordio sain neu weithgareddau sy'n gysylltiedig â’r astudio.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r BSc yn rhaglen lawn-amser tair blynedd o hyd ac iddi fodiwlau sy’n amrywio o ran eu maint o 10 i 60 credyd. Mae pob blwyddyn yn cynnwys 120 credyd. 

Mae’r modiwlau ym mhob blwyddyn o’r rhaglen yn seiliedig ar bum maes:

  • Dylunio Pensaernïol
  • Technoleg Bensaernïol
  • Hanes a Theori
  • Sgiliau, Egwyddorion a Dulliau Dylunio
  • Ymarfer a Moeseg

Mae modiwlau’r stiwdio ddylunio yn 50 neu 60 credyd. Mae hyn yn cydnabod y pwyslais ar waith prosiect dylunio yn y rhaglen a'r angen i fyfyrwyr ddangos y modd y gallant integreiddio'r dysgu o'u modiwlau eraill i’w prosiectau dylunio.

Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro i gefnogi datblygiad eich diddordebau eich hun. Byddwch yn gallu dewis o amrywiaeth o bynciau o blith eich modiwlau Blwyddyn Dau, gan gynnwys prosiect dylunio, pynciau traethawd a ffocws technegol. Ym Mlwyddyn Tri, gallwch ddewis o blith modiwlau stiwdio thematig dewisol, yn seiliedig ar yr arbenigedd yn ein Hysgol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Yn y flwyddyn sylfaen hon cewch eich cyflwyno i'r stiwdio ddylunio, lle byddwch yn dysgu oddi wrth eich gilydd ac yn datblygu synnwyr gwybod a dylunio greddfol mewn perthynas â phensaernïaeth. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau, yn ymgymryd ag ymchwil sylfaenol, yn cymryd risgiau, ac yn mabwysiadu proses ddysgu a datblygu fyfyriol yn rhan o ddiwylliant stiwdio cydweithredol a chynhwysol. Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth foesegol o'ch gweithredoedd. Er bod pob un o’r modiwlau’n cael eu hasesu’n annibynnol, bydd agweddau megis sgiliau dylunio, egwyddorion a dulliau, a thechnoleg bensaernïol yn bwydo i mewn i gyflwyniad portffolio semester y gwanwyn.

Bydd ymweliad astudio yn rhoi cyfleoedd pellach i gymdeithasu â chyfoedion a thiwtoriaid wrth i chi ymgysylltu â lleoedd, adeiladau, amgylcheddau a chymunedau yn y byd go iawn a fydd yn ymgorffori cyd-destun ar draws yr holl feysydd pwnc.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Archwiliadau mewn Dylunio PensaernïolAR010150 Credydau
Egwyddorion Technoleg BensaernïolAR010220 Credydau
Cronolegau PensaernïaethAR010320 Credydau
Pensaer a ChymdeithasAR010410 Credydau
Sylfeini DylunioAR010520 Credydau

Blwyddyn dau

Gan adeiladu ar sylfeini'r flwyddyn flaenorol, byddwch yn cymhwyso technegau, sgiliau a gwybodaeth i lywio a dyfnhau eich dysgu, yn enwedig yn y prosiect stiwdio integredig. Wrth i’ch ymwybyddiaeth o ymarfer proffesiynol ehangu, byddwch yn cynyddu eich gallu i ymateb i gyd-destunau, trefniadau gofodol, perfformiad amgylcheddol a theipolegau adeiladu sy’n gynyddol gymhleth.

Bydd prosiectau dylunio yn cynyddu o ran eu maint a’u hymgysylltiad economaidd-gymdeithasol, gan fynd i'r afael â syniadau am anheddau a phrosiectau cymunedol. Rhoddir mwy o bwyslais ar ymchwilio, dadansoddi, gwerthuso a dehongli data a pharamedrau sy'n llywio penderfyniadau dylunio. Bydd sgiliau cyfrifiannu sy'n cefnogi ffyrdd amrywiol o gynrychioli, ynghyd â modelu syniadau, yn cael eu hyrwyddo.

Bydd ymweliad astudio yn cael ei strwythuro o amgylch y stiwdio integredig. Bydd y lleoliadau’n amrywio ar draws y DU ac Ewrop, fel y bo’n berthnasol i’r stiwdio.

Blwyddyn tri

Ym Mlwyddyn Tri, gallwch ddewis modiwl stiwdio thematig opsiynol i ffocysu eich astudiaethau ar bwnc penodol trwy’r camau dylunio a theori, ac ymlaen i ymarfer ac integreiddio technegol. Byddwch yn datblygu eich galluoedd mewn modelu amgylcheddol, meddwl yn ddamcaniaethol, a thechnegau cyflwyno. Adlewyrchir eich gwaith trwy eich portffolio ymarfer a moeseg parhaus, elfen a fydd yn annog safiad moesegol personol ac yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y flwyddyn ganlynol.

Bydd ymweliad astudio fel arfer yn cael ei gydlynu o amgylch y stiwdios thematig o'ch dewis, gan nodi cyd-destunau sy'n briodol i'r thema a thrywyddau integredig y pwnc. Bydd y lleoliadau’n amrywio ar draws y DU ac Ewrop, fel y bo’n berthnasol i’r stiwdio.

Mae'r stiwdios thematig yn integreiddio dylunio, hanes a theori, a thechnoleg bensaernïol i ddarparu mwy o gymorth damcaniaethol a thechnegol ochr yn ochr â gwaith prosiect dylunio.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

An architectural design featuring four wooden houses with a large communal garden, and figures foraging for food

Dysgu ac asesu

Wrth galon eich profiad yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru fydd y gwaith prosiect dylunio, sy’n greiddiol i ymarfer pensaernïaeth. Mae’r gwaith prosiect dylunio yn cael ei wneud yn ein stiwdios dylunio ffisegol pwrpasol; yma gallwch weithio gyda'ch cyd-fyfyrwyr, rhannu syniadau a rhoi cymorth i'ch gilydd.  Bydd eich astudiaethau'n cael eu llywio gan gysylltiad ag ymarferwyr addysgu ac ymchwilwyr sy’n arwain y byd ac a fydd, trwy diwtorialau wythnosol, yn eich annog i ddatblygu dulliau creadigol newydd o ddylunio. Byddwch yn cael eich annog i arbrofi gyda dyluniadau, i gymryd risgiau creadigol ac i ehangu eich meddwl. 

Yn ogystal ag astudio annibynnol, bydd darlithoedd yn archwilio'r materion cyd-destunol sy'n llywio gwaith prosiect dylunio. Bydd tiwtorialau ac ymgyngoriadau unigol a grwpiau bach yn darparu adborth a blaenborth ar eich gwaith. Mae teithiau maes ac ymweliadau safle yn rhoi cyfle i chi brofi pensaernïaeth, lleoedd a gofodau yn uniongyrchol, ac i ddadansoddi cyd-destunau, diwylliannau a chymunedau i lywio eich astudiaethau dylunio.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael eich cefnogi mewn nifer o ffyrdd trwy gydol eich profiad dysgu.  Rydym yn cynnal cyfarfodydd blwyddyn rheolaidd fel y gallwch chi a gweddill eich carfan drafod materion blwyddyn gyfan, ac fel y gallwn ninnau wrando ac ymateb i'ch adborth. Darperir cymorth ar lefel y modiwlau gan arweinwyr y modiwlau, a darperir cymorth ar gyfer prosiectau dylunio a thraethodau hir gan Diwtor Dylunio.

Byddwch yn cyfarfod â’ch Tiwtor Personol yn rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad, ac mae gan y Brifysgol hefyd wasanaeth mentora dan arweiniad myfyrwyr i’ch cefnogi trwy eich astudiaethau. 

Bydd gennych fynediad i holl ddeunyddiau'r cwrs, gan gynnwys recordiadau o ddarlithoedd, taflenni, manylion yr holl asesiadau, meini prawf asesu a dolenni i adnoddau digidol, a hynny trwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd.

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa, ac yn cynnal digwyddiadau i’ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, ynghyd ag i ddarparu cymorth gyda materion ariannol, a chymorth i fyfyrwyr ag anableddau.

Sut caf fy asesu?

Byddwch yn profi ystod o ddulliau asesu gwahanol a fydd yn eich galluogi i amlygu eich dysgu ar draws y pwnc a chael adborth gwerthfawr y gellir ei gymhwyso i ddysgu yn y dyfodol. 

Fel yn achos pynciau creadigol eraill, bydd llawer o'r asesu yn digwydd trwy gyfrwng eich gwaith cwrs. Gall y gwaith cwrs fod yn bwnc-benodol, megis adroddiad technegol, neu’n bortffolio o astudiaethau wedi'u coladu o un pwnc neu ragor. Trwy eich portffolio dylunio byddwch yn arddangos eich gwaith prosiect yn y stiwdio ac yn cynnwys tystiolaeth o ddysgu ar draws yr ystod o fodiwlau y byddwch wedi'u hastudio. Mae Adolygiadau o Brosiectau Dylunio, lle byddwch yn cyflwyno eich gwaith prosiect i banel o adolygwyr, yn darparu adborth gwerthfawr i lywio eich gwaith prosiect.  Bydd portffolios myfyriol yn asesu dirnadaeth bersonol mewn perthynas â gwybodaeth, arsylwi a phrofiadau ar draws pynciau a'r ddisgyblaeth. 

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

O gwblhau’r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD 1 Dehongli ac esblygu briffiau dylunio a chynigion dilynol mewn ymateb i wybodaeth am safleoedd, cymunedau, hanes, technoleg, pobl a defnyddwyr, ynghyd ag arsylwadau arnynt a deongliadau ohonynt.

GD 2 Deall ac integreiddio amrywiaeth o systemau, cydosodiadau a dulliau codi adeiladau cynaliadwy, gan gynnwys adeiladweithiau a deunyddiau, i gynigion dylunio pensaernïol a threfol.

GD 3 Cyflwyno ymatebion priodol i anghenion safleoedd a deiliaid, a hynny trwy wasanaethau a thechnolegau cynaliadwy i leihau’r effaith ar yr amgylchedd.

GD 4 Cyfuno egwyddorion ffiseg adeiladu a pherfformiad o fewn cyd-destun cysur amgylcheddol, modelu ynni a golau dydd, a dadansoddi cylch bywyd.

GD 5 Gwerthuso'n feirniadol a chyfuno gwybodaeth am draddodiadau, symudiadau, arddulliau a damcaniaethau hanesyddol a diwylliannol ym maes pensaernïaeth, a chelfyddydau cysylltiedig.

Sgiliau Deallusol:

SD 1 Cysylltu a chymhwyso dulliau a thechnegau priodol o ddadansoddi a dehongli mewn perthynas â hanes a damcaniaethau dylunio pensaernïol. 

SD 2 Mynd ati, trwy brosesau ailadroddol, i ffurfio cysyniadau a strategaethau dylunio sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o nifer o gyd-destunau ac ysbrydoliaethau.

SD 3 Wrth ddatblygu syniadau pensaernïol, mynd ati i ddadansoddi paramedrau damcaniaethol, ffisegol, cymdeithasol ac amgylcheddol dylunio pensaernïol, paramedrau sy'n aml yn gwrth-ddweud ei gilydd, a myfyrio arnynt.

SD 4 Mynd ati’n feirniadol i asesu cynigion dylunio a safleoedd o ran y modd y maent yn dylanwadu ar lesiant y preswylwyr, y gofynion o ran yr amgylchedd, yr hinsawdd a bioamrywiaeth, y gwaith adeiladu, a diogelwch rhag tân/diogelwch bywyd.

SD 5 Cynnig ac amddiffyn priodweddau gofodol, arbrofol a chyfansoddol cynigion dylunio fel y bônt yn briodol i ddefnyddwyr adeiladau a chymdeithas yn ehangach.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SYP 1 Llunio cynigion dylunio pensaernïol a threfol cymhleth sydd wedi’u datrys yn dda ac sy’n ymateb i gyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol amrywiol.

SYP 2 Mynd ati'n feirniadol i werthuso a defnyddio dulliau dadansoddi ac ymchwilio priodol i ddatblygu dadleuon, damcaniaethau a phenderfyniadau dylunio rhesymegol.

SYP 3 Dewis ac integreiddio technegau ac offer cynrychioliadol a chyflwyniadol mewn modd systematig, a hynny’n gyson â chonfensiynau proffesiynol mewn gwaith dylunio, gwaith ysgrifenedig, modelu a thechnoleg.

SYP 4 Nodi cyfrifoldebau moesegol a hanfodion ymarfer, gan gynnwys rôl y pensaer mewn perthnasoedd proffesiynol cydweithredol ac o ran prosesau economaidd, cyfreithiol a rheoleiddiol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

SA 1 Mewn perthynas ag uchelgeisiau gyrfa, datblygu safbwynt personol ar ddylunio mewn cyd-destunau moesegol a phroffesiynol.

SA 2 Nodi a chymhwyso technegau myfyrio sy'n llywio perfformiad unigol a chydweithredol a dysgu mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy.

SA 3 Ymarfer amrywiaeth o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy, gan gynnwys: gweithio ar y cyd ac yn annibynnol; rheoli amser; meddwl mewn modd dadansoddol a rhesymegol ac wysg eich ochr i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth; a gwrando ar farn eraill, ei pharchu a chyfrannu ati.

SA 4 Cymhwyso ystod o ddulliau a chyfryngau cyfathrebu effeithiol a phriodol wrth gyflwyno cynigion dylunio, ymchwil, damcaniaethau, syniadau a phenderfyniadau.

A model, made of cardboard, of a small collection of dwellings with triangular roofs

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae gradd mewn pensaernïaeth yn agoriad i amrywiaeth o gyfleoedd ledled y byd. Mae ein hymagwedd at ddylunio, sef 'creadigrwydd hyddysg', yn cefnogi datblygiad graddedigion sy'n barod at ymarfer proffesiynol trwy roi iddynt yr hyder a'r ymwybyddiaeth i ymgymryd â chyfrifoldebau proffesiynol.

Mae gennym hanes cryf o gyflogadwyedd ac astudiaethau pellach ar ôl graddio. Yn ystod eich astudiaethau byddwn yn darparu cymorth i chi baratoi CV proffesiynol a phortffolio. Bydd gennych fynediad i ddigwyddiadau gyrfa penodol a chyfleoedd i ddysgu gan benseiri ac ymgynghorwyr prysur yn y diwydiant; mae llawer ohonynt yn hysbysebu'n rheolaidd am swyddi i raddedigion yn yr ysgol.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eich bod yn datblygu'r chwe nodwedd i raddedigion; sgiliau y mae'r Brifysgol wedi'u pennu yn sgiliau allweddol y rhoddir gwerth arnynt gan ddiwydiant a chyflogwyr. O fod yn fyfyriwr graddedig o Gaerdydd, byddwch yn:

  • Gydweithredol
  • Cyfathrebwr effeithiol
  • Meddu ar ymwybyddiaeth foesegol, gymdeithasol ac amgylcheddol
  • Meddyliwr annibynnol a beirniadol
  • Arloesol, yn fentrus ac yn ymwybodol o faterion masnachol
  • Myfyriol a chydnerth

Bydd ein pwyslais ar ymarfer cydweithredol a moesegol yn eich annog i ddatblygu safbwynt personol ar effaith a dylanwad pensaernïaeth ar gymdeithas fyd-eang.

Yn nodweddiadol, mae graddedigion yn mynd yn eu blaen i barhau â'u hyfforddiant i ddod yn benseiri cofrestredig. Mae graddedigion blaenorol hefyd wedi gweld bod y BSc yn sylfaen dda ar gyfer mynediad i ddisgyblaethau creadigol a dylunio eraill, gan fynd ymlaen i rolau mewn dylunio gwefannau, dylunio cynnyrch, dylunio modurol, dylunio setiau, dylunio graffeg neu ddarlunio, newyddiaduraeth bensaernïol, ffotograffiaeth, hanes pensaernïol a disgyblaethau crefft/gwneuthurwr.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Pensaer
  • Dylunydd Trefol
  • Swyddog Ymchwil

Gwaith maes

Mae’r ymweliad â dinas o bwys yn y DU neu dramor i’w hastudio yn para tua wythnos ym mlwyddyn gyntaf ac ail y cwrs BSc. Mae myfyrwyr y drydedd flwyddyn hefyd yn mynd ar ymweliad sylweddol yn y DU neu dramor; gall hyn fod naill ai i ddinas neu leoliad gwledig, yn dibynnu ar eu prosiect.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.