Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol (BSc)
- Maes pwnc: Cyfrifiadureg
- Côd UCAS: 4JVD
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Mae’r cwrs ymarferol hwn yn cael ei addysgu yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol. Mae ar gyfer y rhai sydd am ddysgu sut mae meddalwedd yn cael ei datblygu a’i chynnal, a hynny drwy brosiectau datblygu sy’n canolbwyntio ar y diwydiant.
Ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant
Cyfle i rwydweithio â'n hystod eang o bartneriaid yn y diwydiant drwy astudiaethau achos, prosiectau tîm, digwyddiadau rhwydweithio a chyflwyniadau gan siaradwyr gwadd.
Datblygu sgiliau proffesiynol
Datblygwch eich gwaith tîm, eich arweinyddiaeth, eich sgiliau cyfathrebu a datrys problemau, a dysgu sut mae defnyddio eich amser yn effeithiol er mwyn rhoi gwerth i brosiectau cleient go iawn.
Awyrgylch addysgu arloesol
Mewn awyrgylch technoleg bywiog, byddwch yng nghanol rhwydwaith addysgu o fentoriaid ac arbenigwyr yn y diwydiant fydd yn cynnig eu dealltwriaeth o sut mae peirianneg meddalwedd yn gweithio'n ymarferol.
Lleoliadau gwaith dros yr haf
Byddwch yn cael profiad gwaith ac yn gwneud cysylltiadau gwerthfawr â'r diwydiant yn ogystal â'r cyfle i gwblhau dau leoliad gwaith â thâl yn ystod misoedd yr haf. Gall ein tîm lleoliadau pwrpasol eich helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith a rhoi cymorth yn ystod eich amser yno.
Helpu ein myfyrwyr
Byddwch yn cael gliniadur ar ddechrau'r flwyddyn academaidd (myfyrwyr newydd Medi 2021) fydd yn cynnal y feddalwedd angenrheidiol ar gyfer eich cwrs.
Nod y cwrs hwn yw eich gwneud yn beiriannydd meddalwedd hynod gyflogadwy â’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt.
Mae’r radd arloesol hon wedi ei dylunio drwy gydweithio’n agos â byd diwydiant a bydd yn eich helpu i gael profiad ymarferol o ddatblygu meddalwedd gan ddefnyddio offer a thechnegau masnachol cyfredol. Mae ein haddysgu yn canolbwyntio ar ddatblygu cwmwl, symudol a gwe, gyda phwyslais ar dechnoleg ac arferion safonol y diwydiant.
Byddwch yn creu atebion sy'n seiliedig ar feddalwedd i broblemau go iawn mewn awyrgylch deinamig ar gyfer dechrau busnes technolegol yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol. Mae’r Academi yn rhan o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
Achrediadau
Maes pwnc: Cyfrifiadureg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at, neu fod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd C/4 TGAU neu gymhwyster cyfatebol (megis Safon Uwch). Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Cyfrifiadura, Peirianneg, TGCh, neu TG.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £29,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £29,450 | Dim |
Blwyddyn tri | £29,450 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae'r cwrs wedi'i strwythuro fel gradd amser llawn, a addysgir dros dair blynedd gyda dau semester y flwyddyn.
Fel rheol, bydd sesiynau addysgu a grŵp ffurfiol yn cael eu cynnal dros dri diwrnod yr wythnos gyda dau diwrnod yr wythnos ar ôl ar gyfer gwaith prosiect grŵp, dysgu hunangyfeiriedig a chael gafael ar adnoddau eraill y Brifysgol yn ogystal â gwasanaethau cymorth, clybiau, cymdeithasau ac ati.
Mae myfyrwyr yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn gweithio ar ddatblygu prosiectau meddalwedd ar gyfer cleientiaid go iawn o'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae'r rhan fwyaf o brosiectau sy'n seiliedig ar gleientiaid yn para pedair wythnos a bydd eich tîm yn cwrdd â'ch cleientiaid bob pythefnos yn ystod y cyfnod hwn. Mae llawer o'r addysgu, dysgu ac asesu yn seiliedig ar gyd-destun y prosiectau hyn.
Mae'r cwrs tair blynedd hwn yn cychwyn trwy ddatblygu sgiliau dadansoddi a chodio craidd fydd yn sail i'ch astudiaethau a’ch gyrfa yn y dyfodol. Caiff prosiectau datblygu ar y we ym mlwyddyn un eu dilyn gan brosiectau mwy sylweddol ym mlwyddyn dau, pan fyddwch yn defnyddio sgiliau a gwybodaeth newydd i weithredu systemau meddalwedd ar raddfa ehangach. Yn y cyfamser, byddwch chi'n ymgymryd â rôl fwy mewn cyfarfodydd prosiect, gan adeiladu hyder a sgiliau cyfathrebu yn y gweithle. Ym mlwyddyn tri, byddwch yn dysgu am dechnolegau sy'n dod i'r amlwg ac yn eu cyfuno â'ch sgiliau craidd i greu cynnyrch arloesol gan werthfawrogi’r ieithoedd, y fframweithiau a’r offer diweddaraf. Mae'r Prosiect Tîm Mawr yn y flwyddyn olaf yn gyfle i chi reoli a darparu chyflwyno meddalwedd o bwys dros 10 wythnos.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu meddwl fel rhaglennydd ac yn dechrau codio mewn modd proffesiynol. Byddwch yn defnyddio ieithoedd fel JavaScript, Java a Python yn bennaf er mwyn dylunio, datblygu a chyflwyno cymwysiadau ar y we sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid.
Byddwch hefyd yn dechrau datblygu eich gwybodaeth am gronfeydd data NoSQL a chronfeydd data perthynol. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r un adnoddau safonol a ddefnyddir gan ddatblygwyr go iawn ac yn cadw at arfer gorau er mwyn datblygu meddalwedd o safon.
Byddwch yn dechrau datblygu eich sgiliau proffesiynol, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu a rheoli prosiect, ac yn parchu egwyddorion datblygu ystwyth.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyflwyniad i Ddatblygiad y We | CM6112 | 20 Credydau |
Sgiliau Datblygu Meddalwedd 1 | CM6113 | 20 Credydau |
Meddwl Cyfrifiannol | CM6114 | 20 Credydau |
Hanfodion Cyfrifiadura gyda Java | CM6121 | 20 Credydau |
Sgiliau Datblygu Meddalwedd 2 | CM6123 | 20 Credydau |
Systemau Cronfa Ddata | CM6125 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn gweithio ar brosiectau mwy o faint a mwy cymhleth sy’n dechnegol anodd.
Byddwch yn ehangu eich gwybodaeth mewn meysydd fel perfformiad, y gallu i ehangu, seiberddiogelwch a DevOps ac yn datblygu ac yn defnyddio cymwysiadau symudol yn unol ag anghenion cwsmeriaid. Bydd hyn yn ofynnol er mwyn cefnogi anghenion eich datrysiadau menter o ran graddfa, cydnerthedd a diogelwch.
Ar y pwynt hwn, bydd disgwyl i chi arwain cyfarfodydd prosiect er mwyn cynllunio a rheoli gwaith datblygu ar gyfer tîm a chyfarfod â chwsmeriaid yn rheolaidd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
DevOps | CM6212 | 20 Credydau |
Ceisiadau masnachol gyda Java | CM6213 | 20 Credydau |
Perfformiad a Scalability | CM6222 | 20 Credydau |
Rheoli Prosiect Ystwyth | CM6223 | 20 Credydau |
Seiberddiogelwch | CM6224 | 20 Credydau |
Datblygu Symudol | CM6226 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn dod i wybod am brofiad y defnyddiwr a thueddiadau newydd ac yn defnyddio’r rhain i ddatblygu cynnyrch ag ymwybyddiaeth o'r ieithoedd, fframweithiau ac adnoddau diweddaraf. Byddwch yn dysgu sut i reoli newid a mabwysiadu technoleg mewn sefydliadau.
Yn rhan o’r modiwl Prosiect Tîm Mawr, byddwch yn cydweithio ag aelodau eraill o'r tîm i reoli prosiect yn effeithiol a datblygu datrysiad meddalwedd o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion eich cleientiaid.
Yn ystod y flwyddyn olaf, byddwch yn ychwanegu at eich profiadau yn ystod y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn ac yn dod â'r holl elfennau sydd eu hangen arnoch i allu meddwl a gweithio fel peiriannydd meddalwedd proffesiynol ynghyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Fframweithiau, Ieithoedd ac Offer Masnachol | CM6311 | 20 Credydau |
Mabwysiadu Technoleg | CM6312 | 20 Credydau |
Technolegau sy'n Dod i'r Amlwg | CM6321 | 20 Credydau |
Prosiect Tîm Mawr | CM6331 | 40 Credydau |
Rheoli Newid | CM6333 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae gan yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, sy'n rhan o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, ffocws diwydiannol cryf a gweithgar, sy'n llywio ac yn cyfarwyddo'r holl addysgu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf i fyfyrwyr.
Caiff sgiliau allweddol eu haddysgu drwy sesiynau a arweinir gan ddarlithwyr fel arfer, sy’n cynnwys cyfran uchel o ddysgu ymarferol gan ddefnyddio’r offer a’r technegau masnachol diweddaraf. Rhoddir set o gysyniadau ac enghreifftiau i chi, ac yna byddwch yn cael eich herio ag un neu ragor o broblemau y gallwch gymhwyso eich sgiliau newydd iddynt.
Byddwch yn aml yn gweithio gyda’ch gilydd i ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennych i ddod o hyd i atebion ar gyfer problemau yn y byd go iawn gan ddefnyddio dull dysgu sy’n seiliedig ar brosiectau. Neilltuir digon o amser ar gyfer mentora ar yr amserlen, sy’n ategu’r gwaith astudio annibynnol disgwyliedig (a sylweddol) sy’n ofynnol. Darperir dysgu pellach trwy gyflwyniadau diwydiannol neu fentora ychwanegol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn ymfalchïo ei bod yn cynnig strwythur cymorth cynhwysfawr i sicrhau cydberthynasau cadarnhaol rhwng myfyrwyr a staff. Bydd aelod staff yn cael ei ddyrannu’n diwtor personol i chi, a bydd yn pwynt cyswllt i gynghori ar faterion academaidd a phersonol mewn modd anffurfiol a chyfrinachol.
Mae'r cwrs yn defnyddio Dysgu Canolog, Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, i ddarparu deunyddiau cwrs, a darperir gwybodaeth ychwanegol ar-lein.
Bydd arddull cyflwyno’r cwrs a’r ffocws ar brosiectau yn golygu eich bod yn derbyn cefnogaeth reolaidd gan staff academaidd a hefyd gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Byddwch hefyd yn cael mynediad llawn i'r cyfleusterau cyfrifiadura 24 awr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
Byddwch yn gallu defnyddio'r ystod lawn o wasanaethau a ddarperir gan Wasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol: http://www.cardiff.ac.uk/studentsupport/
Sut caf fy asesu?
Teaching is organised into modules. Your progress in each module will be assessed during, or at the end of, the semester in which it is taught. All modules include assessments, the methods of which vary from written examinations and assessed coursework, to a combination of both. Coursework is the preferred method on this degree with your project work being central to this.
The project portfolio is the primary means of assessment for many modules. It consists of a sample of student work, with written explanation and/or reflection. This covers the entire software development lifecycle, depending on the learning objectives of the module for example: requirements, documentation, technical specifications, code, tests, sprint plans, user stories, screenshots of products, and user feedback. You will use the project portfolios to demonstrate your understanding of all relevant theory, and how it has been applied.
A timed computing exercise fulfils a similar purpose, where students undertake a programming, or other software development assignment, working independently, during a set period.
Exams are also used to assess knowledge and understanding more directly. Other forms of assessment during the course include undertaking reflective reports, business cases and presenting to clients and peers, which draw upon your experience of project work.
Feedback:
Students have many opportunities for feedback during contact sessions. You will be involved in giving feedback in activities such as code reviews, retrospectives and self-assessment. Additionally, you will receive feedback from teaching staff, industry professionals and project stakeholders; providing you with experience of the real-life feedback that you may encounter when you find employment.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae'r sgiliau a ddatblygir ar y cwrs hwn yn adlewyrchu cylch bywyd cyflawn meddalwedd ac mae’n cwmpasu popeth sydd ei angen ar gyfer gwaith proffesiynol, gan gynnwys:
- Cwrdd â chwsmeriaid a nodi eu gofynion.
- Rheoli prosiectau, amserlenni a thimau meddalwedd ar gyfer cyflwyno prosiectau go iawn.
- Cyfleu syniadau technegol ac annhechnegol yn effeithiol i ystod o gynulleidfaoedd, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Dadansoddi gofynion a chymhwyso cysyniadau peirianneg meddalwedd cyfredol a gwybodaeth am dechnoleg i ddatblygu cynhyrchion defnyddiol - a'u gwneud yn raddadwy, yn gadarn ac yn ddiogel
- Rhuglder mewn ieithoedd rhaglennu o safon diwydiant a hyder yn gweithio gydag ystod o systemau gweithredu.
- Y gallu i ddefnyddio offer o safon diwydiant fel IDEs, DBMSs a rheoli ffynonellau yn hyderus.
- Côd dadfygio a phrofi i drwsio bygiau a diffygion.
- Dylunio a gweithredu systemau cronfeydd data cysylltiedig ac NoSQL ar gyfer prosiectau go iawn.
- Diogelu systemau cronfeydd data, cyfathrebiadau rhwydwaith a rhaglenni gwe.
- Greddf ar gyfer dylunio meddalwedd a chodio ansawdd, a'r gallu i feddwl fel datblygwr, gan wneud penderfyniadau pragmatig am beirianneg a chyfaddawdau mewn amgylchedd masnachol sy’n symud yn gyflym.
- Adolygu codau a rhoi adborth effeithiol i gydweithwyr a’u mentora.
- Defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau a’u lansio, gan gefnogi defnyddwyr go iawn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen bydd myfyriwr nodweddiadol yn gallu dangos y gallu i gymhwyso ei wybodaeth/dealltwriaeth o:
- Cysyniadau, cystrawen, a nodweddion iaith sy'n gyffredin i ystod o ieithoedd rhaglennu cyfrifiadurol a ddefnyddir mewn diwydiant.
- Offer a thechnegau priodol i ddylunio, ysgrifennu, dadfygio, profi, rheoli a defnyddio codau; yn ogystal â rheoli proses datblygu meddalwedd fasnachol fel Agile.
- Gwybodaeth dechnegol am amrywiaeth o lwyfannau a thechnolegau a ddefnyddir mewn diwydiant.
- Dealltwriaeth drylwyr o beth sy’n gwneud côd ansawdd da.
- Technolegau blaengar a thueddiadau mewn meysydd ymchwil dethol cyfrifiadura.
- Deall ystod o lyfrgelloedd, fframweithiau, a basau côd masnachol mawr allanol.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen dylai myfyriwr nodweddiadol allu:
- Gwerthuso'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael i ddewis yr offer a'r technegau mwyaf addas i'w defnyddio ym mhob cam o ddatblygu meddalwedd;
- Dadansoddi problemau cymhleth yn effeithiol, a nodi achosion ymyl, anghysondebau, problemau posibl, a materion eraill.
- Meddwl yn feirniadol am ddylunio meddalwedd, ymarfer barn beirianyddol yng nghyd-destun ysgrifennu a datblygu meddalwedd.
- Cynnal dadl feirniadol yn ysgrifenedig, ar ffurf cyflwyniad ac mewn trafodaeth grŵp. Datrys problemau sydd heb eu gweld o'r blaen; trwy nodi man cychwyn a datblygu datrysiad yn rannol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen dylai myfyriwr nodweddiadol allu:
- Defnyddio offerynnau a thechnegau masnachol cyfredol i gynllunio, amserlennu a rheoli prosiect datblygu meddalwedd masnachol ac olrhain y prosiect yn ystod ei gylch bywyd.
- Casglu, dadansoddi a blaenoriaethu gofynion swyddogaethol ac answyddogaethol priodol yn ystod cyfarfodydd gyda chwsmeriaid go iawn gan ddefnyddio offer a thechnegau masnachol ac ystyried ansawdd a chyfyngiadau eraill.
- Dylunio, ysgrifennu, profi, dadfygio, rheoli a defnyddio codau yn gynhyrchiol ar brosiectau mawr mewn cyd-destun masnachol a thîm.
- Gweithio gydag amrywiaeth o blatfformau (cwmwl, symudol, gwefan) gan ddefnyddio ystod o ieithoedd, technolegau ac offerynnau.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen dylai myfyriwr nodweddiadol allu:
- Gwerthuso ei waith ei hun a gwaith eraill yn feirniadol trwy ddulliau ysgrifenedig a llafar;
- Cyfleu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau cymhleth yn glir ac yn effeithlon trwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol - i ystod o gynulleidfaoedd, yn enwedig cwsmeriaid diwydiannol.
- Gweithio a dysgu'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
- Gwerthfawrogi cyfleoedd i ddatblygu gyrfa a dysgu gydol oes trwy gymryd rhan yn Rhaglen Datblygiad Personol a Gyrfa'r Brifysgol a thrwy adeiladu rhwydwaith cymorth gydol oes o gysylltiadau diwydiannol;
- Astudio’n annibynnol, a myfyrio’n feirniadol.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae galw mawr iawn am beirianwyr meddalwedd medrus. Mae hyn yn golygu bod rhagolygon graddedigion o gael gwaith yn y diwydiant cyfrifiadurol yn wych.
Yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i gyfarfod â chwmnïau, gweithio gyda’r cwmnïau hynny ac ychwanegu at eich cysylltiadau yn y diwydiant.
Mae’r cwrs BSc yn llwybr i astudio ymhellach drwy wneud ein cwrs MSc Peirianneg Meddalwedd newydd sbon neu ymuno â’r gweithlu. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau fel Admiral a DevOps. Mae eraill wedi dewis astudio ymhellach neu ymchwilio ym Mhrifysgol Caerdydd neu mewn prifysgolion blaenllaw eraill.
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd ar gael i bob myfyriwr. Mae Swyddog Gyrfaoedd a Swyddog Lleoliadau Gwaith pwrpasol ar gael yn yr Ysgol, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar yrfaoedd.
Gyrfaoedd graddedigion
- Peiriannydd Meddalwedd
- Datblygwr y We
- Swyddog Datblygu Systemau
- Dadansoddwr Busnes
Lleoliadau
Nid oes opsiwn o flwyddyn mewn diwydiant ar gael gyda'r cwrs hwn.
Fodd bynnag, fe'ch anogir i chwilio am leoliadau gwaith dros yr haf yn ystod blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn eich astudiaethau. Mae gennym ystod eang o gwmnïau sy'n ymgysylltu â'r Academi Meddalwedd Genedlaethol ac mae gan lawer o'r rhain ddiddordeb mewn cynnig lleoliadau gwaith dros yr haf i'r myfyrwyr ar y cwrs hwn.
Mae'r Brifysgol hefyd yn hysbysebu ystod o leoliadau gwaith dros yr haf, gan gynnwys yr opsiwn i weithio neu astudio dramor. Bydd Swyddog Lleoliadau Gwaith yr Ysgol yn gweithio'n agos gyda phartneriaid diwydiannol a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i hysbysu myfyrwyr am leoliadau gwaith. Darperir gweithdai i roi cyngor ar ddod o hyd i leoliad gwaith dros yr haf a gwneud cais amdanynt.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.