Cyfrifeg gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (BSc)
- Maes pwnc: Cyfrifeg a chyllid
- Côd UCAS: 64F9
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Pam astudio'r cwrs hwn
Dysgu gan y gorau
Manteisiwch ar arbenigedd a chefnogaeth staff sy’n cynnal ymchwil mewn ysgol sydd â'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil.
Cipolwg ar Ddiwydiant
Paratowch ar gyfer eich gyrfa gyda gweithdai sy’n benodol i’r diwydiant a drefnir mewn partneriaeth â chwmnïau cyfrifeg proffesiynol.
Blwyddyn ar leoliad
Cewch brofiad o ddiwydiant yn eich dewis faes; gan ddatblygu sgiliau a chysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.
Achrediad proffesiynol
Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW) ac eraill.
Mae gweithwyr cyfrifeg proffesiynol effeithiol, effeithlon a brwdfrydig yn rhan ganolog o lwyddiant sefydliadau cyfoes. Felly bydd galw mawr amdanoch mewn rolau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector gyda chyflogau cystadleuol a rhagolygon gwych o ran datblygu gyrfa.
Caiff ein rhaglen BSc Cyfrifeg gyda Blwyddyn ar Leoliad Gwaith Proffesiynol ei hachredu gan y Cyrff Cyfrifeg Proffesiynol ac mae wedi'i chynllunio i sicrhau sgiliau ymarferol a hyder proffesiynol i chi gael gyrfa lwyddiannus ym maes cyfrifeg neu baratoi at astudio ac ymchwil ôl-raddedig.
Cewch ddatblygu arbenigedd busnes a chyllid gyda'n tîm o ymchwilwyr rhyngwladol a gweithwyr cyfrifeg proffesiynol cymwys. Cewch eich cyflwyno i gyfrifeg ariannol a rheoli a chyllid corfforaethol a chewch eich annog i ystyried goblygiadau cymdeithasol, economaidd a moesegol eich penderfyniadau.
Mae eich Blwyddyn ar Leoliad Gwaith Proffesiynol yn gyfle i roi’r wybodaeth rydych chi’n ei hennill yn y Brifysgol ar waith wrth i chi ymgymryd â rôl cyfrifeg sy’n cael ei thalu ac ategu eich astudiaethau academaidd gyda chysylltiad â sefyllfaoedd busnes yn y byd go iawn.
Achrediadau

Maes pwnc: Cyfrifeg a chyllid
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
*Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae ein henw da yn adrodd cyfrolau. Mae 97% o’n graddedigion mewn gwaith cyflogedig a/neu astudiaethau pellach cyn pen chwe mis ar ôl graddio.
Mae ein cynghorwyr gyrfa penodedig yn gallu eich helpu gyda phethau fel lleoliadau mewn diwydiant, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd.
Byddwch yn elwa ar ymgynghoriadau gyrfa, gweithdai cyfweliadau ac ysgrifennu CV, digwyddiadau diwydiant-benodol ac asesiadau seicometrig arbenigol a hyfforddiant sgiliau eang.
Lleoliadau
Myfyrwyr sy’n gyfrifol am ddod o hyd i'w lleoliadau gwaith eu hunain, er y bydd tîm cyflogadwyedd yr Ysgol yn eu cefnogi. Caniateir i fyfyrwyr sy’n methu a chael gafael ar leoliad gwaith addas drosglwyddo i'r rhaglen 'ddi-leoliad' gyfwerth, gan gymryd bod y gofynion academaidd perthnasol yn cael eu bodloni. Gellir cynnal lleoliadau gwaith yn Saesneg neu yn Gymraeg.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.