Daearyddiaeth Forol gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc)
- Meysydd pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd, Daearyddiaeth (Ffisegol)
- Côd UCAS: F848
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn dramor

Pam astudio'r cwrs hwn
Blwyddyn dramor
Dysgwch wrth i chi deithio a phrofi tirweddau neu arfordiroedd, addysg a diwylliant gwlad wahanol gyda'r cyfle i gwblhau blwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor.
Cysylltiadau cryf
Mae ein cysylltiadau rhagorol â sefydliadau lleol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Phartneriaeth Aber Afon Hafren, yn helpu ein myfyrwyr i ddod o gyfleoedd i wneud prosiectau a mynd ar leoliadau gwaith.
Cyfleusterau o ansawdd uchel
Bydd gennych fynediad at y technolegau diweddaraf mewn offer arolygu a mapio alltraeth, labordai cemegol, labordai â GIS, a chwch ymchwil 12 metr.
Cyfleoedd gwaith maes
Bydd teithiau maes rheolaidd yn y DU a thramor yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwaith maes cryf. Mae cost teithiau maes yn rhan o ffioedd eich cwrs.
Achrediad proffesiynol
Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan RICS sy'n golygu bod gennym gydnabyddiaeth gan gorff proffesiynol. Mae achredu yn bwysig ar ddechrau eich gyrfa a bydd yn eich helpu i gael statws siartredig yn eich proffesiwn.
Mae moroedd ac arfordiroedd y byd yn llawn cynefinoedd a bywyd gwych anhygoel ac maen nhw’n cynnal nifer o ddiwydiannau pwysig ac sy’n tyfu gan gynnwys morgludiant, twristiaeth ac ynni adnewyddadwy. Fel daearyddwr morol bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gadw ein moroedd yn iach a byddwch yn helpu i sicrhau bod y diwydiannau morol traddodiadol a newydd yn gynaliadwy.
Fel yr unig radd Daearyddiaeth Forol yn y DU, byddwch yn astudio cymysgedd unigryw o ddaearyddiaeth ffisegol ac amgylcheddol. Byddwch yn archwilio'r wyddoniaeth y tu ôl i'r berthynas rhwng cymdeithas a'r môr ac yn ymchwilio i heriau byd-eang fel asideiddio'r cefnfor a lefelau'r môr yn codi.
Rydyn ni'n gwneud y gorau o'n lleoliad ac yn mynd ar deithiau rheolaidd i Fôr Hafren, Arfordir Treftadaeth Morgannwg a Phenrhyn Gŵyr. Bydd cyfle am deithiau tramor hefyd yn y gorffennol rydym wedi bod i Malta, Jersey a Groeg. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel arolygu ar y môr, monitro ansawdd y dŵr, mapio ecolegol a phroffilio traethau.
Ar y rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych y cyfle, yn amodol ar berfformiad academaidd, i dreulio blwyddyn academaidd yn astudio yn un o'n prifysgolion partner dramor. Mae astudio dramor yn gyfle gwych i brofi diwylliannau a safbwyntiau eraill, gan ddysgu'r gwahanol arddulliau ac ymagweddau at eich pwnc mewn gwlad arall ac archwilio amgylcheddau ffisegol, tirweddau ac arfordiroedd newydd. Mi gewch gyfle i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd o bob cwr o'r byd. Hefyd, cewch gyfle i ddatblygu cyfoeth o sgiliau bywyd a chryfderau a fydd yn eich helpu i gystadlu mewn gweithle cynyddol fyd-eang, megis gallu i addasu, dyfeisgarwch a gwytnwch.
Mae myfyrwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn poeni am iechyd y cefnforoedd ac eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae graddedigion yn gadael gyda'r sgiliau i ddatrys ystod o broblemau amgylcheddol morol cymhleth a chyda phrofiad o waith maes ymarferol ac ymchwil arloesol gyda gwyddonwyr rhyngwladol blaenllaw.

Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd
Maes pwnc: Daearyddiaeth (Ffisegol)
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BCC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Daeareg, Daearyddiaeth, Ffiseg, Gwyddorau Amgylcheddol, Mathemateg, TGCh, Ystadegau.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth Lefel Uwch) neu 31-29 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gyda dau bwnc gwyddonol Lefel Uwch). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
TGAU a gofynion hanfodol eraill
Mae'n rhaid i chi fod yn gweithio tuag at, neu fod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd C/4 TGAU neu gymhwyster cyfatebol (megis Safon Uwch). Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych yn astudio Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg Gellir derbyn Mathemateg Graidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl Beirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
*Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Mae costau’r gwaith maes ar gyfer eich modiwlau craidd wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi gyfrannu tuag at fwyd os yw wedi’i ddarparu yn ystod y daith.
Byddwch yn talu 15% o ffioedd arferol Prifysgol Caerdydd yn ystod eich blwyddyn astudio dramor. Bydd angen i chi hefyd dalu am eich costau byw tra byddwch chi dramor, a allai gynnwys costau yswiriant iechyd. Mae costau ychwanegol pellach yn cynnwys teithio a ffioedd gwneud cais am a fisa. Mae cefnogaeth ariannol ar gael. O dan y system bresennol, mae myfyrwyr yn parhau i fod yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr ar gyfer lleoliadau tramor. Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang hefyd yn darparu bwrsariaeth i gynorthwyo gyda rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â lleoliad tramor. Bydd manylion llawn yn cael eu cadarnhau pan fyddwch chi'n ystyried eich opsiynau blwyddyn astudio dramor.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae cadw ein moroedd yn iach yn hanfodol i’n dyfodol. Mae'r môr yn cynhyrchu tua hanner yr holl ocsigen rydym yn anadlu ac mae’n amsugno hanner yr holl garbon deuocsid o waith dyn. Mae angen sgiliau a gwybodaeth daearyddwyr morol i fynd i’r afael â heriau heddiw ac yfory i’r moroedd, nid yn unig i sicrhau bod cynefinoedd a bywyd gwyllt pwysig yn cael eu diogelu ond hefyd i sicrhau bod diwydiannau morol fel pysgota, twristiaeth, morgludiant ac ynni adnewyddadwy yn cael eu datblygu’n gynaliadwy.
Gallwch ddewis gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a rolau gwahanol gan gynnwys cadwraeth a rheoli morol, fel ymgynghorydd amgylcheddol neu ddadansoddwr geo-ofodol morol. Bydd gennych hefyd nifer o sgiliau y mae sectorau eraill fel yswiriant, cyllid, addysg a chynllunio’n chwilio amdanynt.
Mae ein cynfyfyrwyr bellach yn gweithio i ystod eang o gyflogwyr yn y DU ac ymhellach i ffwrdd. Mae cyflogwyr diweddar yn cynnwys y Swyddfa Hydrograffig, Arolygon Amgylcheddol Titan, Asiantaeth yr Amgylchedd, yn y sector porthladdoedd a sefydliadau cadwraeth morol ledled y byd.
Lleoliadau
Oes. Y cyfle i ymgymryd â lleoliad astudio ym mlwyddyn tri mewn sefydliad partner mewn gwlad arall. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cyfleoedd astudio ar gael mewn prifysgolion yn UDA, Canada, Awstralia, Sweden a'r Iseldiroedd.
Gwaith maes
Explore the oceans and coastal environments on land-based fieldwork, as well as completing sea-time training on the Guiding Light research vessel in order to gain essential boat skills. Local fieldwork visiting locations include the Severn Estuary and the South Wales coast. There will also be a residential field trip on the Welsh coast, and an overseas field course. Previous locations for the overseas field course have included Malta, Greece and Spain.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.