Athro mewn Fferylliaeth (MPharm)
- Maes pwnc: Fferylliaeth
- Côd UCAS: B230
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Ysgol glos, sydd wedi hen ennill ei phlwyf
Ysgol sydd wedi hen ennill ei phlwyf gyda dros 100 mlynedd o ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil.
Yr Ysgol orau ar gyfer rhagoriaeth ymchwil
Mae ein Hysgol Fferylliaeth yn gydradd gyntaf yn y DU am ansawdd ein haddysgu a'n hymchwil yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.
Y cyfraddau pasio uchaf ar gyfer Asesiad Cofrestru
Fe wnaeth 93% o'n myfyrwyr a safodd arholiad cyn-gofrestru y Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn 2022 lwyddo ar y cynnig cyntaf, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol cyffredinol o 75%.
Rhagolygon gyrfaoedd gwych
Mae 98.5% o'n graddedigion mewn swyddi medrus iawn a/neu astudiaethau pellach lefel gradd 15 mis ar ôl i'w cwrs ddod i ben. (Graduate Outcomes 2020/21)
Croeso i un o ysgolion Fferylliaeth gorau'r DU.
Rydym yn enwog yn rhyngwladol am ansawdd rhagorol ein haddysgu a’n hymchwil a’n blaenoriaeth yw eich arfogi â’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y bydd eu hangen arnoch i gychwyn ar yrfa fel fferyllydd.
Eich paratoi ar gyfer eich rôl fel fferyllydd
Mae fferyllwyr heddiw nid yn unig yn arbenigwyr mewn gwyddoniaeth meddyginiaethau, maent hefyd yn chwarae rhan uniongyrchol mewn gwella iechyd a lles cleifion. Mae hynny'n golygu, unwaith y byddwch wedi cymhwyso fel fferyllydd, y byddwch yn gallu trin cleifion yn uniongyrchol am gyflyrau iechyd amrywiol a rhagnodi meddyginiaethau'n annibynnol.
Wrth i rôl y fferyllydd ddatblygu, felly hefyd ein rhaglen Meistr mewn Fferylliaeth (MPharm) i adlewyrchu’r datblygiadau cyffrous hyn ac i’ch paratoi ar gyfer eich gyrfa.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan ein rhaglen MPharm
Ar y rhaglen bedair blynedd hon, sy'n ennyn parch rhyngwladol,
- byddwch yn dysgu am y broses o ddarganfod a datblygu cyffuriau newydd ac yn archwilio eu priodweddau cemegol, ffisicogemegol, ffarmacolegol a gwenwynegol.
- byddwch hefyd yn astudio defnyddiau clinigol meddyginiaethau a rôl y fferyllydd wrth wella canlyniadau i gleifion yn rhan o dimau gofal iechyd rhyngbroffesiynol.
- byddwch yn dysgu am y bathoffisioleg sydd wrth wraidd llawer o afiechydon dynol, a sut gall defnyddio meddyginiaethau atal, arafu datblygiad neu wyrdroi prosesau clefydau rhag lledu.
- byddwch yn dysgu am hyn oll gan ein tîm o staff academaidd ac ymarferwyr fferylliaeth o'r radd flaenaf sydd ag ystod eang o arbenigedd.
Bydd rhywfaint o'ch dysgu yn digwydd ochr yn ochr â myfyrwyr o ddisgyblaethau gofal iechyd eraill fel rhan o'n haddysg ryngbroffesiynol.
Ein hymrwymiad i ddiwallu anghenion newidiol y proffesiwn fferylliaeth
Mae ein rhaglen MPharm yn cael ei hadolygu’n barhaus i adlewyrchu newidiadau mewn arferion fferyllol ac i roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad y bydd eu hangen arnoch drwy gydol eich gyrfa fferylliaeth. Safonau Addysg a Hyfforddiant Fferylliaeth a ddatblygwyd gan ein corff rheoleiddio, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, yw sail y gwaith adolygu hwn.
Achrediadau

Maes pwnc: Fferylliaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-ABB mewn dwy wyddoniaeth. Rhaid cynnwys un o Fioleg neu Gemeg, ac un o naill ai Bioleg, Cemeg, Mathemateg neu Ffiseg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL, a gradd 6 mewn Bioleg HL, Cemeg, Mathemateg neu Ffiseg.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Yn eich datganiad personol, bydd angen i chi ddangos eich ymrwymiad i fferylliaeth.
Rhaid i chi hefyd fod â neu fod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd B/6 TGAU neu, lle nad yw TGAU wedi'i gymryd, yn gymhwyster cyfatebol derbyniol. Os oes angen fisa myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- tri TGAU ar radd B/6 gan gynnwys Bioleg, Cemeg a Mathemateg, neu gymwysterau cyfatebol (pwnc a gradd). Gellir derbyn gwyddoniaeth ddwbl yn lle gwyddorau ar wahân.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.
AMODAU CYFRIFIAD
Yn unol â chod ymddygiad a gweithdrefnau addasrwydd ymarfer myfyrwyr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC), cyn dechrau eich cwrs bydd angen i chi gael gwiriad iechyd gan ein Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol, mynychu unrhyw apwyntiadau dilynol a derbyn yr holl frechiadau angenrheidiol i ymgymryd â lleoliadau clinigol yn ddiogel.
Bydd y GPhC yn cynnal ei wiriadau iechyd, cymeriad da a hunaniaeth ei hun pan fyddwch yn cwblhau eich hyfforddiant ac yn gwneud cais i gofrestru gyda'r corff rheoleiddio.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Saesneg Iaith.
IELTS (academic)
O leiaf 7.0 yn gyffredinol, gydag o leiaf 6.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 100 yn gyffredinol, gydag o leiaf 22 ym mhob is-sgil.
PTE Academic
O leiaf 76 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: Heb ei dderbyn.
III: o leiaf Teilyngdod ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) a yw'ch cais yn llwyddiannus. Os ydych chi'n gwneud cais o rai gwledydd dramor, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da.
Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y gwiriad a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr wahardd fod yn ymwybodol bod gwneud cais i'r cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Os ydych yn bodloni ein gofynion mynediad, byddwn yn falch iawn o'ch gwahodd i gyfweliad ar-lein.
Nid ydym yn gwneud cynigion heb gyfweliad oherwydd ei bod yn bwysig ein bod yn gwybod ein bod yn gydnaws â’n gilydd.
Fel ymgeisydd, rhaid i chi gwrdd â'r lleiafswm gofynion ar Lefel 2 (TGAU yn nodweddiadol) a Lefel 3 (fel arfer Safon Uwch) i gael eich ystyried ar gyfer cyfweliad.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
*Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr dalu’’r costau sy’n gysylltiedig â chael Tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac fe'u hanogir i fod yn rhan o’r Gwasanaeth Diweddaru DBS trwy gydol cyfnod y rhaglen.
Er y bydd rhai o’r costau yn ystod lleoliadau ymarfer yn cael eu had-dalu, dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y bydd angen iddynt dalu’r costau cychwynnol er mwyn adhawlio’r rhain yn nes ymlaen. Gallai hyn gynnwys costau llety a theithio (os byddant uwchlaw eich costau teithio bob dydd arferol i’r Brifysgol).
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Bydd unrhyw ddillad ac offer amddiffynnol neu arbennig sy'n ofynnol yn cael eu darparu gan y Brifysgol. Bydd costau teithio rhesymol a threuliau eraill wrth ymweld â'r Brifysgol ac sy'n ofynnol yn rhan o'r cwrs yn cael eu had-dalu. Byddwch yn cael locer yn Adeilad Redwood yr Ysgol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae'r dewisiadau o ran gyrfa yn amrywiol ac yn doreithiog ar gyfer Fferyllwyr, gan amrywio o leoliadau ysbyty, gofal sylfaenol neu gymunedol – sy'n cynnwys cael eich lleoli mewn meddygfeydd teulu – i ddiwydiant neu ymchwil yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan olygu bod y radd hon yn ddewis cyffrous.
Mae llawer o fferyllwyr y dyddiad hyn yn gymwys i ragnodi meddyginiaethau yn annibynnol heb sêl bendith meddyg ac maent ar y rheng flaen o ran darpariaeth gofal iechyd.
Mae ein rhaglen MPharm wedi'i chynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddilyn eich gyrfa ym maes fferylliaeth. Ar ôl cwblhau'r rhaglen MPharm yn llwyddiannus, gallwch ymgymryd â blwyddyn hyfforddi cyn cofrestru, cyn sefyll asesiad cofrestru'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol er mwyn cofrestru fel Fferyllydd.
Ac rydym ni'n ymfalchïo bod 100% o'n graddedigion mewn swydd a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio.
Mae ein graddedigion yn llenwi swyddi allweddol yn ysbytai’r GIG ac ysbytai tramor, mewn sefydliadau fferyllol cymunedol megis Boots UK, Lloyds Pharmacy Group, y Well Pharmacy Group, mewn mentrau gwyddonol a gofal iechyd cysylltiedig, yn ogystal â lleoliadau mewn diwydiant. Mae rhai hefyd wedi mynd yn eu blaenau i gael gyrfaoedd wrth eu boddau fel fferyllwyr milfeddygol, fferyllwyr milwrol, ac ym maes materion rheoleiddiol.
Mathau o swyddi:
Fferyllydd Ysbyty - sydd â rôl allweddol yn y tîm gofal iechyd. Maent yn gweithio yn un o ysbytai'r GIG neu mewn ysbyty preifat, gan ganolbwyntio'n glir ar anghenion cleifion.
Fferyllydd Cymunedol - yn eu fferyllfeydd eu hunain mewn canolfan gofal iechyd leol neu feddygfa. Maent yn cynnig gofal iechyd ar lawr gwlad yn y DU neu dramor. Gydag astudiaeth bellach, cewch ragnodi meddyginiaethau'n annibynnol.
Fferyllydd gofal sylfaenol – byddwch yn cynnig y meddyginiaethau gorau posibl i gleifion er mwyn manteisio i'r eithaf ar y manteision a lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyffuriau gwahanol. Byddwch hefyd yn helpu i ddatblygu gwasanaethau i gefnogi'r boblogaeth leol â'u hanghenion iechyd.
Fferyllydd Diwydiannol - byddwch yn helpu i ymchwilio, dylunio, datblygu a phrofi meddyginiaethau a thriniaethau newydd, gan wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac o safon dda i gleifion.
Fferyllydd Academaidd - gallai'r hon fod y rôl i chi os oes diddordeb gennych mewn addysgu, ymchwilio, ymarfer neu gyfuniad o'r tri maes. Gallech fod yn gweithio mewn prifysgolion, sefydliadau ymchwil neu sefydliadau eraill ledled y byd.
Gyrfaoedd graddedigion
- Fferyllydd Ysbyty
- Fferyllydd Clinigol yn y Gymuned, meddygfa neu leoliad Gofal Sylfaenol arall
- Fferyllydd Diwydiannol
- Ymchwilydd
- Rheolwr Fferyllfa
Lleoliadau
Gan eich bod yn fyfyriwr ar ein rhaglen MPharm, byddwch chi’n cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith clinigol ym mhob blwyddyn o'ch gradd. A chithau’n fyfyrwyr fferylliaeth, mae'r lleoliadau hyn yn rhan annatod o ddatblygiad eich gwybodaeth a'ch sgiliau. Bydd y lleoliadau gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, gofal sylfaenol a fferyllfeydd ysbytai'r GIG. Er mwyn gweld amrywiaeth o boblogaethau cleifion, byddwch chi’n cael profiad o leoliadau ledled Cymru ac efallai bydd angen aros dros nos o bryd i'w gilydd. Mae yna leoliadau hefyd mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol eraill i chi gael profiad ohonyn nhw.
Yn dibynnu ar eich dewisiadau astudio, mae cyfleoedd i rai myfyrwyr ymgymryd â lleoliadau ychwanegol mewn amgylcheddau cleifion neu ofal cymdeithasol neu mewn sefydliadau yn y diwydiant fferyllol.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.