Daearyddiaeth a Chynllunio Dynol gyda Blwyddyn Lleoli Proffesiynol (Achrededig) (BSc)
- Maes pwnc: Daearyddiaeth ddynol a chynllunio
- Côd UCAS: LK75
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Pam astudio'r cwrs hwn
Gwella eich sgiliau
Datblygwch eich sgiliau technegol ac ymarferol gyda meddalwedd gan gynnwys GIS (System Gwybodaeth Ddaearyddol) a mapio Edina digimap.
Cydnabyddiaeth broffesiynol
Achrededig gan y Sefydliad Cynllunio Tref Brenhinol
Astudiaethau maes
Ymweliadau maes a modiwlau astudio maes i gymhwyso dysgu i gyd-destunau'r byd go iawn a datblygu sgiliau ymarferol.
Diffinio'r dyfodol
Cewch sicrhau'r wybodaeth a'r cymhelliant i fynd i'r afael â heriau byd-eang, trawsnewid ein byd a gwella ble a sut rydym ni'n byw.
Blwyddyn ar leoliad
Cewch brofiad o ddiwydiant yn eich dewis faes; gan ddatblygu sgiliau a chysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.
Mae’r rhaglen hon, a gydnabyddir gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) fel cymhwyster gofodol, yn cyfuno’r dulliau o ddatrys problemau wrth gynllunio â mewnwelediadau amserol daearyddiaeth, gan roi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen i chi fynd i’r afael â’r heriau sy’n effeithio ar sut a ble rydym yn byw.
Mae’r rhaglen yn meithrin dealltwriaeth o’r prif dueddiadau daearyddol yn y byd heddiw, ynghyd â’r sgiliau dadansoddi sydd eu hangen i astudio newid gofodol. Byddwch yn edrych ar y newid yn natur gofodau a lleoedd, y berthynas rhwng cymdeithas a gofod, a rôl y wladwriaeth. Gan roi materion lleol a chenedlaethol mewn cyd-destun byd-eang, mae’r rhaglen yn ymdrin â thestunau o newid amgylcheddol yn y DU, a newid economaidd a chymdeithasol yng Nghymru, i ddatblygiad rhanbarthol a rhyngwladol.
Byddwch yn magu dealltwriaeth o brosesau newid byd-eang, cenedlaethol a lleol; tueddiadau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd allweddol, a’r rôl y mae cynllunio’n ei chwarae wrth bennu effeithiau'r newid a'r tueddiadau ar leoedd gwahanol. Bydd gwaith astudiaeth achos manwl, trwy ymweliadau astudiaethau maes, diwrnodau i ffwrdd o’r swyddfa a phrosiectau, yn rhoi gwerthfawrogiad i chi o newid gofodol trawsgenedlaethol.
Gan gydnabod pa mor gystadleuol yw’r farchnad swyddi i raddedigion, mae’r rhaglen wedi’i dylunio’n benodol i roi’r sgiliau cyflogadwyedd allweddol i chi er mwyn helpu i sbarduno eich gyrfa a chreu argraff yn eich dewis maes. Mae blwyddyn y lleoliad proffesiynol cyflogedig yn datblygu ar hyn ac yn rhoi'r cyfle i chi ddefnyddio’r wybodaeth a'r sgiliau a gewch yn ystod dwy flynedd gyntaf y rhaglen. Hefyd, mae’n ffordd o ddatblygu eich rhwydwaith a’ch proffil proffesiynol.
Mae gwaith maes a dysgu drwy brofiad yn agweddau allweddol yn natblygiad gwybodaeth a sgiliau israddedig yn y ddisgyblaeth Daearyddiaeth a Chynllunio. Mae'r rhaglen hon yn cynnig ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu'r set wybodaeth a sgiliau hon, gan gynnwys ymweliadau maes 1 neu 1/2 ddiwrnod yn ystod modiwlau; asesiadau casglu a dadansoddi data grŵp; a modiwlau astudiaethau maes pwrpasol ym Mlwyddyn 2 a’r Flwyddyn Olaf.
Mae gan y radd hon achrediad RTPI rhannol (gofodol). I gael achrediad RTPI llawn, ar ôl i chi gwblhau eich gradd israddedig achrededig gofodol, mae angen i chi gwblhau gradd Meistr achrededig RTPI.
Achrediadau
Maes pwnc: Daearyddiaeth ddynol a chynllunio
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBC
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.
Lefel T
M mewn Dylunio Lefel T, arolygu a chynllunio ar gyfer adeiladu.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,535 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,535 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £1,905 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £9,535 | Dim |
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £23,700 | Dim |
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) | £4,740 | Dim |
Blwyddyn pedwar | £23,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Nid yw'r Ysgol yn talu costau cynhaliaeth mewn perthynas â'r flwyddyn ar leoliad (rhent, bwyd, teithio ac ati). At hynny, fel y nodwyd, gall y lleoliad ei hun fod yn dâl neu'n ddi-dâl.
Mae profiad astudio maes preswyl blwyddyn 2 yn cael ei ariannu’n rhannol.
Ar hyn o bryd, mae ymweliadau astudiaethau maes y flwyddyn olaf yn cael cymhorthdal (tua dwy ran o dair o'r gost) gan yr Ysgol, ond chi fydd yn gyfrifol am weddill y costau.
Dylech ddisgwyl talu costau teithio lleol a chynhaliaeth ar bob ymweliad astudiaeth faes.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.
Gradd pedair blynedd amser llawn yw hon sy'n cynnwys modiwlau gorfodol a dewisol. Treulir blwyddyn tri yn gweithio mewn ymarfer proffesiynol. Bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn. Mae modiwlau fel arfer yn werth 20 o gredydau ac mae'r traethawd hir blwyddyn olaf yn werth 40 o gredydau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Cewch gyflwyniad i feysydd craidd daearyddiaeth a chynllunio, gan ymdrin â materion megis natur meddwl daearyddol a globaleiddio ochr yn ochr ag elfennau craidd cynllunio. Byddwch hefyd yn datblygu’r sgiliau hanfodol ar gyfer cyrchu a phrosesu gwybodaeth a fydd yn sail i weddill eich taith academaidd.
Er y bydd angen i chi ennill 120 o gredydau, blwyddyn gyflwyniadol yw blwyddyn un ac nid yw’r modiwlau’n cyfrif tuag at radd eich gradd derfynol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cymdeithas, Amrywiaeth a Chynllunio | CP0120 | 20 Credydau |
Y Dychymyg Daearyddol: Cyflwyniad i Ddaearyddiaeth Ddynol | CP0140 | 20 Credydau |
Economïau Trefol | CP0144 | 20 Credydau |
Gwneud Gwybodaeth: Tystiolaeth ac Ymarfer | CP0148 | 20 Credydau |
Materion allweddol mewn cynllunio trefol | CP0149 | 20 Credydau |
Cynllunio Lleoedd a Chynlluniau | CP0153 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Bydd yr ail flwyddyn yn adeiladu ar flwyddyn un ac yn edrych yn fanylach ar hanes meddwl daearyddol, is-feysydd economaidd a diwylliannol daearyddiaeth, disgyblaethau ymarferol creiddiol cynllunio, a chymhwyso cynllunio at ystod o faterion cyfoes.
Cewch gyflwyniad i gynlluniau, polisïau a rheoli datblygu, cynllunio amgylcheddol, cynllunio a’i weithredu mewn cyd-destunau marchnad, gweithrediad llywodraeth leol, dadansoddiad gofodol, sgiliau ymchwil a chydrannau hanfodol cyfraith cynllunio, ynghyd â syniadau daearyddol a datblygu cynaliadwy.
Ym mlwyddyn dau, fe'ch cefnogir gydag arweiniad a chyngor ar yr opsiwn i ymgymryd â blwyddyn ar leoliad gwaith fel rhan o'ch gradd, a wneir fel arfer yn y drydedd flwyddyn.
Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan mewn taith maes dewisol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cynllunio Safle a Phrisio Datblygu | CP0250 | 20 Credydau |
Syniadau Daearyddol | CP0253 | 20 Credydau |
Datblygu cynaliadwy: Cysyniadau, Arferion a Heriau | CP0263 | 20 Credydau |
Datblygu Dulliau Ymchwil | CP0273 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Daearyddiaeth wleidyddol: Lle, Gofod a Grym | CP0222 | 20 Credydau |
Rheoleiddio Datblygiad: Cyfraith Cynllunio a Pholisi | CP0252 | 20 Credydau |
Sgiliau Ymgysylltu â'r Gymuned, Cyfryngu a Thrafod | CP0259 | 20 Credydau |
Daearyddiaeth Gymdeithasol: Mannau o Anghydraddoldeb a Lles | CP0262 | 20 Credydau |
Datblygu a'r De Byd-eang | CP0274 | 20 Credydau |
Treftadaeth, Adfywio ac Anghydraddoldeb | CP0277 | 20 Credydau |
Tirwedd, Hamdden, a Hunaniaeth | CP0278 | 20 Credydau |
Cymdeithas Gyfoes yng Nghymru / Contemporary Society in Wales | SI0313 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Bydd y flwyddyn ar leoliad gwaith yn rhoi profiad ymarferol gwerthfawr i chi mewn ymarfer proffesiynol ac yn eich galluogi chi i ddechrau adeiladu eich proffil a’ch rhwydwaith.
Dyma gyfnod o hyfforddiant dan oruchwyliaeth mewn swyddfa gyda sefydliad sy’n cyflogi sy’n barod i gyflwyno profiad amrywiol a rhaglen waith strwythuredig.
Byddwn yn eich helpu i sicrhau lleoliad â thâl neu heb dâl, yn amodol ar argaeledd. Gallwch hefyd archwilio cyfleoedd gydag ystod eang o gyflogwyr os oes gennych ddiddordeb penodol mewn math penodol o brofiad. Cynigir lleoliadau gwaith gan amrywiaeth o wahanol gyflogwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn ogystal ag yn y trydydd sector megis ymddiriedolaethau elusennol a sefydliadau ymgyrchu.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Lleoliad Proffesiynol mewn Ymarfer Cynllunio | CP0354 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Mae eich blwyddyn olaf yn archwilio perthnasedd ehangach daearyddiaeth i bolisi a chymdeithas. Trwy'r modiwl traethawd hir gorfodol, byddwch yn cynnal eich ymchwil eich hun ac yn creu adroddiad estynedig. Yna byddwch yn defnyddio'r mewnwelediadau i archwilio sut y gellir defnyddio gwybodaeth ddaearyddol i newid cymdeithas.
Mae dewis eang o fodiwlau opsiynol yn caniatáu i chi arbenigo ymhellach yn eich maes dewisol o Ddaearyddiaeth Ddynol a Chynllunio. Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan mewn taith maes dewisol dramor a ariennir yn rhannol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cynllunio Theori ac Ymarfer | CP0312 | 20 Credydau |
Trafnidiaeth Gynaliadwy | CP0338 | 20 Credydau |
Traethawd Hir Ymchwil | CP0383 | 40 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Rhyw, Lle a Lle | CP0363 | 20 Credydau |
Datblygu Seilwaith: Cyflym, Smart a Chynaliadwy? | CP0373 | 20 Credydau |
Newid yn yr Hinsawdd a Llywodraethu Amgylcheddol | CP0375 | 20 Credydau |
Ymchwilio i faterion cyfoes mewn daearyddiaeth a chynllunio | CP0380 | 20 Credydau |
Daearyddiaeth o Rym a Hil | CP0381 | 20 Credydau |
Cynllunio Digidol | CP0384 | 20 Credydau |
Gwleidyddiaeth Dylunio Trefol | CP0388 | 20 Credydau |
Economi Wleidyddol Cymru: o 'Oes y glo' i 'Oes y clo' | PL9362 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae ein hymagwedd yn seiliedig ar ymrwymiad i ddarparu addysg o’r ansawdd uchaf. Cyn belled ag y bo modd, ein nod yw dysgu mewn grwpiau bach gan ein bod yn credu bod hyn yn annog amgylchedd dysgu mwy cadarnhaol rhwng staff a myfyrwyr ac ymysg myfyrwyr eu hunain. Fel arfer, byddwch yn astudio chwe modiwl bob blwyddyn ac yn cael 12 awr o astudio dan arweiniad bob wythnos.
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein rhaglenni'n meithrin sgiliau deallusol, megis meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Sut y caf fy nghefnogi?
Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a aseswyd, darllen ac adolygu.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Bydd gwasanaethau cymorth y Brifysgol (gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog) i gyd ar gael i chi.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar eich gwaith cwrs ac yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl y cyfnod arholiadau ym mis Mai/Mehefin. Byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.
Sut caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios ac aseiniadau creadigol.
Rydym yn annog arloesi a chreadigrwydd wrth ddarparu ac asesu’r dysgu ac addysgu, er enghraifft, y defnydd o gyfryngau digidol ac ymweliadau astudiaethau maes.
Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.
Mae’r prosiect ymchwil yn y flwyddyn derfynol (traethawd hir) yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi ac ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol, defnyddio eich
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud.
Mae Deilliannau Dysgu’r Rhaglen hon i’w gweld isod:
Gwybodaeth a dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Esboniwch gydrannau hanesyddol, athronyddol a chyfoes daearyddiaeth ddynol
- Gwerthuswch fater neu broblem ymarferol yn gywir ar gyfer ymchwiliad, astudiaeth neu ymchwil, a llunio a gweithredu strategaeth ar gyfer casglu, asesu, dadansoddi a chyflwyno data a gwybodaeth berthnasol.
- Esboniwch a dadansoddwch natur y system gynllunio wrth reoli newid yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol gan gyfeirio at bolisïau cynllunio'r llywodraeth a llywodraeth leol, a sefydliadau eraill.
- Cyfosodwch, cymharwch ac aseswch dystiolaeth i werthuso cynlluniau cynllunio a chymwysiadau cysylltiedig eraill, a/neu gynhyrchu strategaethau, polisïau a chynlluniau cynllunio
- Dewiswch a defnyddiwch sgiliau ymarferol sy’n seiliedig ar brosiect, a sgiliau dylunio ac arfarnu ariannol, o safbwynt dylunio trefol.
- Gwerthuswch egwyddorion a phrosesau dylunio ar gyfer creu lleoedd o ansawdd uchel a gwella’r parth cyhoeddus er budd pawb yn y gymdeithas
Sgiliau Deallusol:
- Cyfosodwch, dadansoddwch ac adolygwch waith ysgolheigaidd yn feirniadol
- Lluniwch ddadl argyhoeddiadol
- Esboniwch a dangoswch barch at syniadau o gyfle cyfartal, amrywiaeth gymdeithasol a diwylliannol, a’r defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol a dynol
- Crynhowch, eglurwch a chymhwyswch foeseg ymarfer proffesiynol trwy gysylltu Cod Ymddygiad Proffesiynol y Sefydliad Cynllunio Tref Brenhinol i’w profiad ymarferol eu hunain a'u gweithiwr proffesiynol parhaus
- Crynhowch, eglurwch a chymhwyswch egwyddorion allweddol ar gyfer amddiffyn iechyd a diogelwch personol yn y gwaith ac iechyd a diogelwch eraill.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
- Sgiliau cyflwyno
- Dyluniwch a dangoswch ddull hunanfeirniadol o ddod yn ymarferydd myfyriol, mewn perthynas ag arferion cynllunio cyfredol yn ogystal â'r sgiliau a'r wybodaeth bersonol y mae angen eu datblygu ymhellach
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
- Perfformio sgiliau cyfathrebu effeithiol
- Dangos sgiliau ysgrifennu a meddwl yn feirniadol
- Dangos sgiliau gweithio mewn tîm gan ymateb yn briodol i geisiadau cydweithwyr a gwneud gofynion eich hun ar gydweithwyr yn glir
- Hunanreolaeth effeithiol drwy osod a chadw at flaenoriaethau gwaith, gan ddefnyddio amser yn effeithlon ac adnabod cyfleoedd ar gyfer mewnbwn gan gydweithwyr, gweithwyr proffesiynol eraill a/neu randdeiliaid
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i gyflawni eich dyheadau proffesiynol, gan roi’r sgiliau, y chwilfrydedd a’r hyder i chi ddylanwadu ar eich maes dewisol.
Mae nifer o gyfleoedd gyrfa cyffrous ac amrywiol yn agored i raddedigion y rhaglen radd hon, ac mae llawer mewn swyddi allweddol mewn ystod o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat ac yn y trydydd sector. Mae’r rhain yn cynnwys llywodraethau cenedlaethol a lleol, ymgyngoriaethau busnes, canolfannau ynni cynaliadwy, asiantaethau amgylcheddol, cwmnïau strategaeth tai, cwmnïau adeiladu, a syrfewyr.
Mae llwybrau gyrfa cynllunio penodol yn cynnwys tirfesur, dylunio a datblygu yn ogystal â meysydd megis trafnidiaeth, datblygu economaidd ac adfywio trefol. Gallwch ymarfer mewn awdurdodau cynllunio lleol, llywodraeth leol a chenedlaethol, sefydliadau cynllunio cymdogaethau, sefydliadau trafnidiaeth, ymgyngoriaethau cynllunio lleol, datblygwyr preifat a sefydliadau amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig, ar gyfandir Ewrop ac yn rhyngwladol.
Lleoliadau
Mae’r radd hon yn opsiwn pedair blynedd gyda blwyddyn ar leoliad gwaith yn y drydedd flwyddyn. Gall y lleoliad fod yn gyflogedig neu'n ddi-dâl. Ni fydd angen i chi wneud penderfyniad terfynol p’un a ydych am ystyried yr opsiwn hwn ai peidio hyd nes yr ail flwyddyn.
Mae pob blwyddyn academaidd hefyd yn cynnig ymweliad astudiaethau maes a ariennir yn rhannol sy’n eich galluogi chi i gynnal gwaith ymchwil ac ymchwilio i broblem fyw / astudiaeth achos ar leoliad.
Ym mlwyddyn un, mae’r ymweliadau astudiaethau maes hyn yn lleol i ranbarth dinas Caerdydd. Ym mlwyddyn dau a'ch blwyddyn olaf, gallwch ddewis ymweliad astudiaethau maes preswyl. Mae'r rhain yn aml yn cynnwys cyrchfannau
Gwaith maes
Mae pob blwyddyn academaidd yn cynnig ymweliad astudiaethau maes a ariennir yn rhannol sy’n eich galluogi chi i gynnal gwaith ymchwil ac ymchwilio i broblem fyw / astudiaeth achos ar leoliad.
Ym mlwyddyn un, mae’r ymweliadau astudiaethau maes hyn yn lleol i ranbarth dinas Caerdydd. Ym mlwyddyn dau a'ch blwyddyn olaf, gallwch ddewis ymweliad astudiaethau maes preswyl. Mae'r rhain yn aml yn cynnwys cyrchfannau yn y DU a thramor. Gweler yr adran costau ychwanegol am ragor o wybodaeth.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.