Ewch i’r prif gynnwys

Y Gyfraith gyda'r Gymraeg (LLB)

  • Meysydd pwnc: Y Gyfraith, Cymraeg
  • Côd UCAS: MQ15
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn
Law student in the library

Pam astudio'r cwrs hwn

bell

Arbenigwyr a pharchus

Rydym yn cael ein cydnabod am ein harbenigedd ym maes astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol.

star

Arobryn

Mae ein Huned Pro Bono wedi ennill nifer o wobrau ac yn darparu profiad gwaith hanfodol.

people

Newid bywydau

Ein Prosiect Dieuogrwydd a arweinir gan staff a myfyrwyr yw’r unig brosiect yn y DU sydd wedi arwain at 2 euogfarn yn cael eu gwrthdroi yn y Llys Apêl.

mobile-message

Cymuned lewyrchus

Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.

molecule

Cysylltiadau

Byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau agos â Llywodraeth Cymru, â chwmnïau cyfraith y ddinas, y llysoedd a chanolfannau cynghori.

Mae rhaglen LLB y Gyfraith a'r Gymraeg yn heriol ac yn gyffrous ac yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y gyfraith neu amrywiaeth eang o broffesiynau.  Mae’r rhaglen yn cael ei haddysgu ar y cyd gan ysgolion y Gymraeg, a’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth, gan roi cyfle i chi astudio’n fanwl yn naill ddisgyblaeth a’r llall.

Mae ein rhaglen y Gyfraith (LLB) gyda’r Gymraeg wedi’i chynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o sut mae’r system gyfreithiol wedi’i lleoli o fewn cyd-destun cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cyfnewidiol a sut mae’r gyfraith yn cael ei harwain gan y cyd-destun hwnnw.  Mae datganoli a gofynion dwyieithog cyfraith Cymru o fewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru yn golygu bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi sgiliau cyfathrebu Cymraeg uwch a chymhwysedd diwylliannol. Drwy gyfuno'r Gymraeg â'r Gyfraith, byddwch yn ennill sgiliau meddwl creadigol a beirniadol allweddol ac yn elwa ar ymchwil sy'n berthnasol yn gymdeithasol sy'n cyfrannu at ddatblygiad y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.

Yn ogystal â'r sgiliau academaidd y byddwch chi'n eu datblygu, a'r wybodaeth y byddwch chi'n ei meithrin trwy ein modiwlau amrywiol, rydyn ni'n cynnig ystod o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a rhoi eich sgiliau ar waith. Mae ein cynlluniau pro bono yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau, a sefydliadau gwirfoddol, gan helpu aelodau o'r gymuned gyda materion cyfreithiol, yn rhad ac am ddim. Trwy'r cynlluniau hyn, a thrwy weithio ar achosion go iawn, byddwch yn datblygu sgiliau mewn gofal cleientiaid, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a siarad cyhoeddus, a chyfathrebu o bob math.

Gyda golwg ar eich dilyniant yn y gyfraith, mae ein rhaglen yn cynnig y pynciau craidd sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau’r Bar ar gyfer bargyfreithwyr yn y dyfodol ac sydd hefyd yn sylfaen i ymarfer fel cyfreithiwr. Byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch, tra bydd modiwlau dewisol yn eich galluogi i ddatblygu diddordebau arbenigol neu archwilio pynciau cyfreithiol amrywiol. 

Maes pwnc: Y Gyfraith

Maes pwnc: Cymraeg

  • academic-schoolYsgol y Gymraeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-ABB. Rhaid cynnwys Iaith Gyntaf Gymraeg.

Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

  • Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
  • Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys cymhwyster Iaith Gyntaf Gymraeg sy'n cyfateb i radd A ar Safon Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B/6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Os hoffech chi symud ymlaen naill ai i'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu'r Cwrs Hyfforddi Bar ar ôl i chi raddio, rydym yn eich annog i ddarllen gofynion addasrwydd i ymarfer y corff proffesiynol perthnasol yn gyntaf i sicrhau y byddech chi'n gymwys i gofrestru gyda nhw. :
- Llawlyfr y Bwrdd Safonau Bar
- Cyfnod hyfforddiant cydnabyddedig yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Iaith Gyntaf Gymraeg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Addysgir y rhaglen yn llawn amser dros dair blynedd academaidd. Ym mhob blwyddyn, byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd, a fydd yn cynnwys cyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn 1, byddwch yn astudio 4 modiwl craidd yn y gyfraith, ynghyd â modiwlau a fwriedir i ehangu eich persbectif ar y gwerthoedd sy'n sail i'r gyfraith, a'r digwyddiadau a'r prosesau sy'n dylanwadu ar ddatblygiad a gweithrediad y gyfraith. Byddwch hefyd yn astudio 2 fodiwl craidd yn y Gymraeg.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyfraith CamweddCL410120 Credydau
Cyfraith DroseddolCL410220 Credydau
Cyfraith Gyhoeddus ICL410320 Credydau
Cyfraith gyhoeddus IICL410420 Credydau
Iaith ac YstyrCY160020 Credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 Credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2, byddwch yn astudio modiwlau craidd pellach (3 yn y gyfraith ac 1 yn Gymraeg), sy'n dyfnhau eich gwerthfawrogiad o'r amgylchedd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd y mae datblygiadau cyfreithiol yn digwydd ynddo, ac yn gwella eich sgiliau iaith a chyfathrebu. Bydd modiwl dewisol pellach yn y gyfraith yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfreithiol ymarferol a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd ac yn eich helpu i'ch paratoi ar gyfer lleoliad posibl neu ar gyfer gweithgareddau pro bono yn eich blwyddyn olaf. Bydd modiwl opsiynol Cymraeg pellach yn eich galluogi i archwilio maes penodol o iaith, llenyddiaeth neu ddiwylliant Cymraeg, gan gynnwys meysydd sy'n gysylltiedig â deddfwrfa, megis cynllunio ieithyddol a pholisi.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyfraith TirCL510120 Credydau
ContractCL510220 Credydau
Sylfeini Cyfraith yr Undeb EwropeaiddCL510320 Credydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ymarfer Cyfreithiol: Sgiliau SylfaenCL510720 Credydau
Camweinyddu CyfiawnderCL510820 Credydau
Eiddo Masnachol: Sgiliau ac YmarferCL510920 Credydau
Cyfraith Mewnfudo, Polisi ac YmarferCL511020 Credydau
Cyfraith Cyflogaeth YmarferolCL511520 Credydau
EiriolaethCL511620 Credydau
Cymraeg ProffesiynolCY221520 Credydau
Myrddin a MerlinCY235020 Credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY241020 Credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY261020 Credydau
Tu Hwnt i'r TudalenCY270220 Credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY281020 Credydau
Caffael IaithCY291020 Credydau

Blwyddyn tri

Ym mlwyddyn 3, byddwch yn cymryd un modiwl craidd yn y gyfraith. Byddwch hefyd yn dewis 5 modiwl arall o ystod o opsiynau a fydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu proffil gradd mwy arbenigol neu fwy amrywiol.  Byddwch yn dewis 60 o'ch modiwlau dewisol o fodiwlau'r gyfraith a bydd 40 credyd yn cael eu dewis o'ch modiwlau Cymraeg. Mae dewis o blith modiwlau theori a modiwlau sy'n canolbwyntio ar ymarfer ar gael i fodloni didorddebau amrywiol. Bydd ystod eang o gyfleoedd pro bono ar gael a gellir eu hymgorffori mewn modiwlau sy’n dwyn credyd (hyd at 40 credyd). Os ydych chi'n dymuno dilyn astudiaethau o fater cyfreithiol penodol, cewch gyfle iysgrifennu traethawd hir (20 credyd). Yn y Gymraeg byddwch yn gallu dewis dau fodiwl dewisol 20 credyd ar themâu megis cyfieithu, iaith ac addysg, a llenyddiaeth gyfoes.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ecwiti ac YmddiriedolaethauCL610120 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Traethawd hirCL610020 Credydau
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau IICL610220 Credydau
Problemau Byd-eang a Theori GyfreithiolCL610320 Credydau
Cyfraith AmgylcheddolCL610420 Credydau
Y gyfraith, technoleg a chymdeithasCL610520 Credydau
Cyfraith Hawliau DynolCL610620 Credydau
Trosedd Ariannol ICL610720 Credydau
Cyfraith Eiddo Deallusol: Hawlfraint, Patentau a Nodau MasnachCL610820 Credydau
Cyfraith CwmniCL610920 Credydau
Gwahaniaethu, Cydraddoldeb a'r GyfraithCL611020 Credydau
Cyfraith a Datganoli Cymru mewn Cyd-destunCL611220 Credydau
Cyfiawnder Troseddol: Cyd-destun ac YmarferCL611420 Credydau
Cyfraith FasnacholCL611520 Credydau
Cyfraith FasnacholCL611520 Credydau
Cyfraith Ryngwladol a Heriau TrawswladolCL611620 Credydau
Cyfraith y CyfryngauCL611720 Credydau
Cyfraith GymharolCL611820 Credydau
TystiolaethCL612020 Credydau
Cyfraith TeuluCL612120 Credydau
Hanes CyfreithiolCL612220 Credydau
Gofal Iechyd, Moeseg a'r Gyfraith I : Gallu, Cydsyniad a Dechreuad BywydCL612320 Credydau
Gofal Iechyd, Moeseg a'r Gyfraith I : Gallu, Cydsyniad a Dechreuad BywydCL612320 Credydau
Moeseg Gofal Iechyd a Chyfraith II: Diwedd Oes a'r Pedair EgwyddorCL612420 Credydau
Troseddu, dedfrydu a chosbiCL612520 Credydau
Cyfraith a Pholisi Masnach y BydCL612720 Credydau
Cyfraith Ryngwladol GyhoeddusCL612820 Credydau
Cyfraith Economaidd a Masnach yr Undeb EwropeaiddCL612920 Credydau
AI, Moeseg a'r GyfraithCL613020 Credydau
Troseddau Ariannol IICL613120 Credydau
Y Gyfraith yn y Gymuned [20]CL613220 Credydau
Y Gyfraith a Llywodraethu mewn Ymarfer: Modiwl Lleoliad GwaithCL613320 Credydau
Y Gyfraith yn y Gymuned [40]CL613440 Credydau
Cymdeithaseg y GyfraithCL613620 Credydau
Cyfraith LlongauCL613720 Credydau
Dafydd ap GwilymCY310520 Credydau
Llenyddiaeth PlantCY331020 Credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY333020 Credydau
Ysgrifennu CreadigolCY336020 Credydau
Bywydau LlênCY342520 Credydau
TafodieithegCY345020 Credydau
SosioieithyddiaethCY353020 Credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 Credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY366520 Credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 Credydau
Blas ar YmchwilCY390020 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae arddull a fformat yr addysgu ar y rhaglen yn amrywiol, i adlewyrchu a darparu ar gyfer amrywiaeth o arddulliau dysgu, ac i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau dysgu annibynnol. Mae ein hymagwedd at addysgu yn meithrin cymuned ddysgu myfyrwyr, er mwyn i chi allu derbyn cefnogaeth gan gyd-fyfyrwyr a chydweithio â myfyrwyr eraill.  

Addysgir modiwlaugan dimau o ddarlithwyr gyda chymysgedd o brofiad academaidd a phroffesiynol fel eich bod yn elwa ar eu gwybodaeth o enghreifftiau a senarios bywyd go iawn cyfoes.  Bydd eich modiwlau Cymraeg hefyd yn cynnig cyfle ar gyfer gweithdai a dosbarthiadau iaith.

Ein nod yw sicrhau eich bod yn graddio gyda'r sgiliau hunanddibyniaeth, trosglwyddadwy cyfathrebu a chyfraith-benodol a fydd yn eich paratoi ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu'r nodweddion hyn y tu allan i'r ystafell ddosbarth trwy ddarparu amrywiaeth o ddeunyddiau addysgu a dysgu a gweithgareddau y bydd angen i chi eu cyflawni yn eich amser eich hun naill ai'n unigol neu mewn grwpiau gyda myfyrwyr eraill.  

Mae ein haddysgu a'n dysgu wyneb yn wyneb yn bersonol yn cael eu cefnogi a'u hategu gan amrywiol offer digidol. Mae pob modiwl yn gwneud defnydd helaeth o Ddysgu Canolog, sef Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y brifysgol. Ar Dysgu Canolog, fe welwch fforymau trafod, fideos wedi'u recordio ymlaen llaw, dolenni i adnoddau perthnasol ar y we, deunyddiau amlgyfrwng a deunyddiau cwrs.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn derbyn cefnogaeth fugeiliol bwrpasol drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ein cynllun tiwtor personol yn y Gyfraith ac yn Ysgol y Gymraeg. Gall ein Tiwtor Cymorth Academaidd helpu gyda materion sy’n effeithio ar eich gallu i fynychu dosbarthiadau neu gwblhau asesiadau, ac mae Cynllun Mentora Myfyrwyr hefyd ar gael drwy’r brifysgol. 

Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth dynodedig yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud os byddwch yn datgan anabledd. Yn ogystal â hyn, mae gan y brifysgol ystod o wasanaethau i'ch cefnogi, gan gynnwys y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, a'r Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr.

Rydym yn cynnig rhaglen helaeth o gyngor ar yrfaoedd a gweithdai gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol a Chydlynydd Cynllun Pro-bono, yn ogystal â gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr (gyrfaoedd) y brifysgol.

Adborth

Byddwch yn cael adborth rheolaidd ar eich cynnydd drwy gydol eich rhaglen. Ceir adborth amrywiol ee adborth ffurfiannol ar lafar yn ystod sesiynau grwpiau bach, mewn seminarau, a thiwtorialau. Mae adborth wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu fel dysgwr ac academydd, fel y gallwch wella eich perfformiad mewn asesiadau crynodol yn y dyfodol. Yn ogystal ag oriau dosbarth rheolaidd, mae gan bob aelod o staff addysgu Oriau Cefnogi Myfyrwyr lle gallwch gwrdd a thrafod unrhyw ymholiadau dysgu sy'n codi o'r modiwl neu o'ch astudiaethau yn gyffredinol.

Bydd gennych fynediad i lyfrgell ffisegol y gyfraith ac ar-lein, gyda mynediad at ystod eang o ddeunyddiau sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys llyfrau, cyfnodolion, a chronfeydd data ar-lein ar gyfer cyrchu achosion, deddfwriaeth, a deunyddiau digidol eraill sy'n berthnasol i'ch astudiaethau.

Sut caf fy asesu?

Mae tasgau asesu yn amrywio o fodiwl i fodiwl i sicrhau eich bod yn datblygu ystod eang o sgiliau cyfreithiol, ieithyddol a throsglwyddadwy. Bydd y rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, draethodau academaidd traddodiadol, dyddiadau myfyriol, neu lythyrau cyngor i gleientiaid damcaniaethol cwmni cyfreithiol. 

Bydd cyflwyniadau yn profi sgiliau eiriolaeth, fel petaech yn cyflwyno o flaen barnwr, tra bydd eraill wedi'u hanelu at fath gwahanol o gynulleidfa, megis cynulleidfa academaidd. 

Bydd asesiadau yn Ysgol y Gymraeg yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol, i feddwl yn feirniadol am iaith a llenyddiaeth a datblygu eich sgiliau cyfathrebu mewn ysgrifennu a lleferydd.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. 

O gwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD 1 Dangos gwybodaeth systematig a dealltwriaeth o gysyniadau cyfreithiol sylfaenol

GD 2 Gwerthuso’n feirniadol gynnwys a chymhwysiad rheolau, egwyddorion a damcaniaethau cyfreithiol mewn amrywiaeth o gyd-destunau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a moesegol

GD 3 Dangos dealltwriaeth systematig o arwyddocâd cydlyniad athrawiaethol corff o statudau a/neu gyfraith achosion

GD 4 Archwilio’r potensial i gyfraith ar y lefelau datganoledig, DU, a rhyngwladol wrthsefyll newid neu drawsnewid.

GD5 Deall strwythurau, cofrestrau ac amrywiaethau Cymraeg a'u defnyddio'n hyblyg ac yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol, fel y bo'n briodol

GD6 Beirniadu datblygiad y Gymraeg a'i llenyddiaeth mewn cyfnodau hanesyddol gwahanol, o gyd-destun ieithyddol, llenyddol, a chymdeithasol

Sgiliau Deallusol(SD):

SD 1 Gwerthuso dadleuon cystadleuol yn feirniadol a gwneud dyfarniadau rhesymegol o fewn fframwaith moesegol priodol

SD 2 Ymgymryd ag ymchwil gyfreithiol sylfaenol gan nodi materion perthnasol gan ddefnyddio ffynonellau sylfaenol ac eilaidd perthnasol

SD 3 Dehongli a chymhwyso rheolau, egwyddorion a chysyniadau haniaethol cyfreithiol i sefyllfaoedd ffeithiol cymhleth i ddatrys problemau

SD 4 Dadansoddi’n feirniadol sut y crëir ystyron drwy iaith, a grym affeithiol iaith

SD 5 Datblygu ymatebion annibynnol ac arloesol i ddeunydd ieithyddol, llenyddol, beirniadol, diwylliannol a chreadigol yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol

SD 6 Gwerthuso’n feirniadol destunau, data cysyniadau, dadleuon a damcaniaethau sy’n berthnasol i gyd-destun yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg, gan ddefnyddio’r eirfa a’r derminoleg briodol

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol(SY):

SY 1 Cyfathrebu'n berswadiol ar draws cynulleidfaoedd a genres, gan gyfleu syniadau academaidd a dadleuon technegol-gyfreithiol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol gan ddefnyddio technegau gweledol, ysgrifenedig neu lafar.

SY 2 Cynnig atebion ymarferol a moesegol yn annibynnol i broblemau cyfreithiol gwirioneddol neu ddamcaniaethol sy'n seiliedig ar gleientiaid

SY 3 Gwerthuso a chydnabod amwysedd ac ansicrwydd yn y gyfraith mewn modd systematig

SY 4 Cynhyrchu amrywiaeth o ddeunydd gan ddefnyddio Cymraeg ysgrifenedig a llafar sy'n briodol ar gyfer y gweithle ac a fwriedir i fynd i'r afael ag ystod o gynulleidfaoedd

SY 5 Cymhwyso gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn cyd-destun proffesiynol trwy brofiad gwaith, myfyrio a gwerthuso'n feirniadol cyfleoedd profiad gwaith

SY 6 Dangos meddwl beirniadol, rhesymu a'r gallu i gymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth trwy ddethol yn annibynnol a dadansoddi'n feirniadol ystod briodol o dystiolaeth.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol(SA):

SA 1 Ymchwilio ac astudio'n greadigol, yn annibynnol ac yn fyfyriol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau uwch i heriau neu i gyd-destunau anghyfarwydd neu ehangach yn y byd

SA 2 Dangos mentergarwch drwy gymryd cyfrifoldeb am strwythuro a rheoli amser ymchwil neu dasg sy'n canolbwyntio ar gleientiaid, gan weithio mewn timau pan fo'n briodol

SA 3 Dangos hyfedredd technegol mewn Cymraeg a/neu Saesneg ysgrifenedig a llafar a chymhwysedd wrth gymhwyso terminoleg ysgolheigaidd, llenyddol a chyfreithiol-dechnegol, gallu cymhwyso sgiliau gwerthuso, dadansoddi a barnu beirniadol yn effeithiol mewn ystod amrywiol o gyd-destunau

SA 4 Dangos llythrennedd digidol a'r gallu i asesu hygrededd ffynonellau gwybodaeth.

SA5 Dangos menter, gwydnwch, gallu i addasu a chreadigrwydd, myfyrio'n weithredol ar astudiaethau a chyflawniadau eich hun

SA6 Defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol a rhesymu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth a syniadau amrywiol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i alluogi pob myfyriwr i ddatblygu'r sgiliau a'r priodoleddau i ddod yn ddinasyddion byd-eang, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ymwybodol. Cafodd ein nodweddion graddedigion eu datblygu i adlewyrchu anghenion cyflogwyr a'ch cefnogi i ddatblygu eich sgiliau i lefel uwch a bod yn barod ar gyfer byd gwaith.

Rydym yn disgwyl i'n graddedigion fod yn gydweithredol; yn gyfathrebwyr effeithiol; yn foesegol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol ymwybodol; yn feddylwyr annibynnol a beirniadol; yn arloesol, yn fentrus, ac yn fasnachol ymwybodol; ac yn fyfyriol ac yn wydn. I'r perwyl hwnnw rydym wedi ymgorffori addysgu arloesol ac asesu dilys yn ein portffolio o fodiwlau craidd a dewisol, a fydd yn eich galluogi i ddatblygu'r priodoleddau hyn yn benodol. Mae gennym gyfres o fodiwlau dewisol blwyddyn 2 sy'n pwysleisio datblygu sgiliau cyflogadwyedd. Byddwn hefyd yn eich cyfeirio at yr ystod eang o gyfleoedd allgyrsiol sy'n digwydd yn yr ysgol ac ar draws y brifysgol a fydd yn eich helpu i feithrin eich sgiliau cyflogadwyedd a'ch priodoleddau graddedigion ymhellach.

Mae llawer o’n graddedigion yn mynd ymlaen i gymhwyso fel cyfreithwyr a bargyfreithwyr, gan gymryd swyddi mewn cwmnïau cyfreithiol practis preifat, yn ogystal â llywodraeth leol a chenedlaethol ac mewn sefydliadau mawr sydd â’u timau cyfreithiol mewnol eu hunain. Mae'r rhai sy'n dod yn fargyfreithwyr fel arfer yn gweithio yn y Siambrau ar sail hunangyflogedig, neu fel bargyfreithwyr cyflogedig gyda sefydliadau fel Gwasanaeth Erlyn y Goron neu Adran Gyfreithiol y Llywodraeth.

Mae rhai graddedigion yn dewis mynd i gyflogaeth sy'n gysylltiedig â'r gyfraith yn syth ar ôl cwblhau eu gradd – mewn rolau fel paragyfreithiol, triniwr achos neu gynorthwyydd cyfreithiol. Mae eraill yn dilyn llwybrau amgen i'r gyfraith trwy hyfforddi fel trawsgludwr trwyddedig, gweithredwr cyfreithiol siartredig neu ysgrifennydd cwmni/gweithiwr proffesiynol llywodraethu.

Mae'r sgiliau rydych chi'n eu datblygu trwy eich gradd yn y gyfraith yn werthfawr iawn gan recriwtwyr graddedigion yn gyffredinol.  Y tu allan i’r proffesiwn cyfreithiol, mae graddedigion y gyfraith yn dod o hyd i gyflogaeth yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector gan gynnwys gyda sefydliadau fel y Gwasanaeth Sifil, llywodraeth leol, elusennau, banciau, cwmnïau gwasanaethau proffesiynol ac mewn rolau mor amrywiol â gwaith cymdeithasol, yr heddlu, adnoddau dynol, cyfrifeg, newyddiaduraeth, marchnata a rheolaeth.

Gall gradd yn y gyfraith hefyd arwain at astudiaethau ôl-raddedig gan gynnwys rhaglenni meistr yn y gyfraith a chyrsiau mewn meysydd nad ydynt yn y gyfraith, fel astudiaethau Cymreig a cheltaidd.

Lleoliadau

Mae'r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i astudio dramor, neu ymgymryd â lleoliadau profiad gwaith, gyda phwyslais ar wella sgiliau Cymraeg mewn lleoliad proffesiynol. Mae'n bosibl trosglwyddo o LLB y Gyfraith i LLB y Gyfraith gyda Blwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd Blwyddyn 2, yn amodol ar argaeledd lleoliadau. Mae yna broses ddethol. 

Mae cyfleoedd lleoliad byrrach hefyd ar gael trwy ein hystod eang o weithgareddau pro bono, rhai ohonynt yn cael eu darparu'n fewnol ac eraill trwy bartneriaid allanol. Gellir gwneud y lleoliadau hyn ar sail wirfoddol neu am gredyd.  Rydym yn cynnig modiwlau sy'n caniatáu i fyfyrwyr ennill hyd at 40 credyd trwy leoliad pro bono

Fel rhan o fodiwl craidd Blwyddyn 2 yn Ysgol y Gymraeg, byddwch yn ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae'r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 67% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.