Ewch i’r prif gynnwys

Cemeg (MChem)

  • Maes pwnc: Cemeg
  • Côd UCAS: F103
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

Bydd y radd MChem pedair blynedd hon yn rhoi sylfaen ymarferol gadarn i chi mewn hanfodion cemeg gyda phwyslais ar ymchwil, gan eich galluogi i ddod yn fferyllydd hunangynhaliol.

mortarboard

Breintiau graddedigion

Mae graddedigion yn gymwys i dderbyn aelodaeth lawn o’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol (MRSC), a gallant ymgeisio am deitl Cemegydd Siartredig.

molecule

Cyfleusterau o'r radd flaenaf

Ar ôl cael buddsoddiad o £20 miliwn, mae ein cyfleusterau'n cynnig amgylchedd gwych ar gyfer rhagoriaeth.

microchip

Prosiect ymchwil dros yr haf

Mae cyfleoedd ar gael i chi ymgymryd â phrosiect ymchwil yn ystod misoedd yr haf.

academic-school

Ewch ar daith

Cymerwch olwg ar ein Hysgol a'n cyfleusterau mewn taith dywys 360.

star

Achrediad proffesiynol

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Royal Society of Chemistry logo

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio PhD a dechrau gyrfa fel ymchwilydd gwyddonol, ein MChem Cemeg achrededig yw'r cwrs i chi. 

Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth o sut mae cemeg yn siapio ein byd. Mae mwy o bwyslais ar ddadansoddi beirniadol, synthesis a datrys problemau ym mlynyddoedd tri a phedwar, gyda phrosiect ymchwil estynedig mewn maes o ddiddordeb i chi yn ystod eich blwyddyn olaf.

Byddwch yn astudio pynciau craidd ar gemeg ddadansoddol, ffisegol, organig, anorganig a chyflwr solet, gyda'r cyfle i gymryd ystod eang o fodiwlau dewisol, o gemeg gwyrdd a chynaliadwy a datblygu cyffuriau, i gatalysis heterogenaidd a biosynthesis peirianneg.

 Er bod y cwrs hwn wedi'i ddylunio i'ch helpu i gyflawni'ch potensial fel ymchwilydd, mae'r sgiliau datrys problemau y byddwch yn eu datblygu yn berthnasol i ystod eang o yrfaoedd o addysg i gyllid a mwy.

 Mae graddedigion yn gymwys i dderbyn aelodaeth lawn o’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol (MRSC) a gallant ymgeisio am deitl Cemegydd.

Achrediadau

Maes pwnc: Cemeg

  • academic-schoolYr Ysgol Cemeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4023
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid cynnwys Cemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Cemeg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.

Lefel T

 

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,250 Dim
Blwyddyn dau £9,250 Dim
Blwyddyn tri £9,250 Dim
Blwyddyn pedwar £9,250 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £29,450 Dim
Blwyddyn dau £29,450 Dim
Blwyddyn tri £29,450 Dim
Blwyddyn pedwar £29,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd yr Ysgol yn cynnwys cost popeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n glir yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a rydd tiwtoriaid ar lafar. Efallai y bydd angen i chi dalu costau ychwanegol nad ydynt yn hanfodol neu sy'n gostau sylfaenol y mae disgwyl i fyfyrwyr eu talu eu hunain. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn cynnwys gliniaduron, cyfrifianellau, deunydd ysgrifennu cyffredinol, gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell), a chopïo/argraffu sylfaenol. 

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch. Byddwn yn rhoi cot labordy, sbectol diogelwch, llyfr nodiadau labordy a phecyn modelu moleciwlaidd ichi. Mae meddalwedd arlunio cemegol ChemDraw ar gael ar holl gyfrifiaduron y Brifysgol, a byddwch yn gallu ei lawrlwytho i'ch cyfrifiaduron eich hun am ddim.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cyfanswm gwerth y modiwlau y byddwch yn eu gwneud bob blwyddyn yw 120 credyd.

Ym mlwyddyn un rydych chi'n cymryd modiwlau cemeg gorfodol sy'n werth 110 credyd, gan gynnwys 30 credyd ymarferol, a modiwl dewisol sy'n werth 10 credyd, a allai fod mewn cemeg neu unrhyw bwnc arall.   

Ym mlwyddyn dau byddwch yn cymryd modiwlau cemeg gorfodol mewn meysydd pwnc amrywiol, gan gynnwys modiwl ymarferol 30 credyd. 

Ym mlwyddyn tri byddwch yn gwneud gwaith ymarferol yn semester yr hydref (20 credyd). Dilynir hyn gan hyfforddiant labordy ymchwil yn semester y gwanwyn (20 credyd).  Byddwch hefyd yn cymryd modiwl theori gorfodol ym mhob cangen o'r pwnc yn semester yr hydref (40 credyd), ac yn dewis o ystod o fodiwlau dewisol yn semester y gwanwyn (4 x 10 credyd).   

Ym mlwyddyn pedwar, daw hanner y credydau o brosiect ymchwil arbenigol yn un o’n grwpiau ymchwil, a byddwch yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr PhD a gweithwyr ôl-ddoethurol ar ei gyfer. Mae gweddill y flwyddyn yn cynnwys modiwlau dewisol (6 x 10 credyd) o'ch dewis.

Rhaid i chi gael cyfartaledd blwyddyn o 55% o leiaf yn gyffredinol ym mlynyddoedd un, dau a thri er mwyn symud ymlaen drwy'r rhaglen MChem. Os na fyddwch yn cyflawni cyfartaledd blwyddyn un o 55% o leiaf, bydd gofyn i chi drosglwyddo i'r rhaglen BSc.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Yn y flwyddyn gyntaf ein bwriad yw ennyn eich diddordeb yn y pwnc, a rhoi sylfaen wybodaeth gref i adeiladu arni yn ystod y blynyddoedd sy’n dilyn. Mae ein modiwlau cemeg craidd wedi'u seilio ar bum prif faes pwnc: cemeg ddadansoddol anorganig, organig, ffisegol a chyflwr solid. Maen nhw’n cynnig hyfforddiant mewn sgiliau allweddol i gemegwyr. Ategir y modiwlau craidd hyn gan ystod o fodiwlau dewisol, sy'n eich galluogi i gael dewis o ran eich astudiaethau ac ehangu eich profiad. Efallai y byddwch hefyd am astudio modiwlau dewisol mewn disgyblaethau megis y gwyddorau biolegol, ffiseg neu ieithoedd modern.

Rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf cyfartaledd o 55% yn y flwyddyn gyntaf er mwyn symud ymlaen i flwyddyn 2 y rhaglen MChem. Bydd rhaid i fyfyrwyr sy’n cael cyfartaledd sy’n llai na 55% yn y flwyddyn gyntaf drosglwyddo i'r rhaglen BSc.

Blwyddyn dau

Yn yr ail flwyddyn, mae deunydd craidd yn cael ei ddatblygu'n drylwyr ar draws pob un o'r prif feysydd cemeg drwy fodiwlau gorfodol.

Gallwch drosglwyddo i'r cwrs BSc Cemeg tair blynedd ar unrhyw adeg cyn dechrau’r drydedd flwyddyn. Rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf cyfartaledd o 55% yn yr ail flwyddyn er mwyn symud ymlaen i drydedd flwyddyn y rhaglen MChem. Bydd rhaid i fyfyrwyr sy’n cael cyfartaledd sy’n llai na 55% yn yr ail flwyddyn drosglwyddo i'r rhaglen BSc.

Os yw lleoliad gwaith dramor neu mewn diwydiant yn apelio atoch, bydd angen i chi fynegi diddordeb erbyn dechrau’r ail flwyddyn, a throsglwyddo i'r cwrs BSc Cemeg cyfatebol erbyn dechrau’r drydedd. Mae cyfleoedd hefyd i sawl myfyriwr wneud ymchwil dros yr haf yng Nghaerdydd dan oruchwyliaeth staff.

Blwyddyn tri

Mae gwaith ymarferol y drydedd flwyddyn yn cynnwys dau fodiwl ar wahân, un ym mhob semester. Byddwch yn cwblhau modiwl theori gorfodol mewn pedair cangen o'r pwnc: biolegol, anorganig, organig, ffisegol; ac yn dewis o blith ystod o fodiwlau dewisol.

Blwyddyn pedwar

Mae prosiect ymchwil sylweddol blwyddyn o hyd ym maes o'ch dewis chi yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu a dangos sgiliau newydd trwy ymchwil. Nid oes unrhyw fodiwlau theori gorfodol yn y bedwaredd flwyddyn, sy’n eich galluogi chi i ddewis y modiwlau sydd ar gael sydd o ddiddordeb i chi.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Chemistry student in laboratory
Lectures are supplemented with practical work in our well-equipped laboratory facilities.

Dysgu ac asesu

Ein nod yw cynnig amgylchedd rhagorol ar gyfer addysg gemegol ac mae ein graddau israddedig yn adlewyrchu ein cryfderau a’n diddordebau ymchwil presennol. Mae prosiectau yn y flwyddyn olaf yn gwbl integredig yn ein grwpiau ymchwil. Ein nod yw darparu addysg arbenigol a gofal bugeiliol cynhwysfawr i'ch galluogi i gyflawni hyd eithaf eich gallu.

Addysgir trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol. Cefnogir hyn gan y deunyddiau sydd ar Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol. 

Gwaith labordy 

Mae’r pwyslais ar dechnegau sylfaenol a chofnodi arsylwadau mewn modd syml ond cywir ym mlwyddyn un. Addysgir sgiliau drwy arddangosiadau ymarferol ac fe’u cefnogir gan ystod o adnoddau e-ddysgu sydd ar gael yn hwylus ac yn rhad ac am ddim i bob myfyriwr.</p> 
 
Mae hunan-brofi yn cynnig dealltwriaeth o wahanol dechnegau ymarferol yn ogystal â'r cyfle i gywiro camgymeriadau cyn mynd i sesiynau labordy. 

Mae gwaith labordy yn gweithio tuag at arbrofion sylweddol sy’n gofyn am gynllunio, dadansoddi a dehongli canlyniadau yn ofalus, yn ogystal ag adrodd safonol, proffesiynol. Mae gwaith ymarferol yn cynnig profiad ym mhob un o brif weithdrefnau a thechnegau'r labordy. Mae wedi'i ddylunio i ymestyn lefel eich hyfedredd mewn cemeg ymarferol, gan eich paratoi i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yng nghamau olaf eich gradd.</p> 

Prosiect ymchwil

Mae gan bob un o’n cyrsiau Cemeg elfen gref o ymchwil annibynnol, o dan oruchwyliaeth. Ym mlwyddyn olaf y cwrs MChem, byddwch yn ymuno â grŵp ymchwil sy'n gweithio yn eich hoff faes cemeg ac yn cael pwnc i'w ymchwilio. Byddwch yn cyflwyno canlyniadau eich gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy weithio o dan arweiniad arbenigwr yn y maes. Yn y gorffennol, mae hyn wedi arwain at fyfyrwyr israddedig yn ysgrifennu papurau a gyhoeddwyd ar y cyd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael eich cefnogi gan amrywiaeth o diwtoriaid academaidd, ac mae un ohonynt hefyd yn gweithredu fel eich tiwtor personol. Byddwch yn gweld un o’ch tiwtoriaid bob wythnos, naill ai fel rhan o grŵp tiwtorial bach neu ar sail un-i-un mewn sesiwn diwtorial bersonol.  Mae’r holl staff yn gweithredu polisi drws agored, sy’n golygu y gallwch bob amser fynd at staff gyda phroblemau – boed y rheiny’n academaidd neu’n broblemau eraill.   

Byddwch yn cael llawlyfr cynhwysfawr sy'n briodol i'ch blwyddyn astudio. Mae'n cynnwys manylion am weithdrefnau a pholisïau'r Ysgol.

Rydym yn gwneud defnydd helaeth o Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol (Dysgu Canolog) er mwyn rhannu gwybodaeth. 

Sut caf fy asesu?

Cynhelir asesiadau ffurfiannol a chrynodol yn ystod pob blwyddyn astudio. Mae hyn yn rhoi mesur o berfformiad i'ch hysbysu chi, staff, a darpar gyflogwyr am eich cynnydd a'ch cyrhaeddiad. Hefyd gall helpu'r broses ddysgu trwy dynnu sylw at feysydd llwyddiant a meysydd y mae angen mwy o sylw arnynt. Mae asesu ar gyfer y radd MChem yn cynnwys dulliau a ddewisir i weddu i ddeilliannau pob modiwl a’r cwrs cyfan, gan gynnwys:

  • Arholiadau ffurfiol gyda therfynau amser penodol
  • Profion dosbarth
  • Adroddiadau ar waith labordy
  • Cynllunio, cynnal ac adrodd ar waith prosiect
  • Traethodau
  • Ymarferion datrys problemau (fel aseiniadau gweithdy)
  • Cyflwyniadau llafar
  • Paratoi ac arddangos posteri.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.  

O gwblhau eich rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth: 

GD 1: Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o ddamcaniaethau a dadleuon canolog, a'u cymwysiadau mewn ymchwil cemeg gyfredol.

GD 2: Arddangos dealltwriaeth fanwl o feysydd arbenigol cemeg a'r materion a'r problemau cysylltiedig sydd ar flaen y gad mewn ymchwil gyfredol.

GD 3: Gwerthuso'n feirniadol systemau a phrosesau cemegol cyfarwydd ac anghyfarwydd yn annibynnol a datblygu syniadau sy'n caniatáu i waith ymchwil gael ei wneud. 

GD 4: Arddangos dealltwriaeth systematig o wybodaeth fathemategol mewn algebra a chalcwlws sylfaenol a thrin rhifiadol sy'n briodol ar gyfer dadansoddi a gwerthuso problemau cemegol a ddefnyddir mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. 

Sgiliau Deallusol: 

SD 1: Nodi a gweithredu modelau priodol i ddarparu esboniadau a rhagfynegiadau o fewn cyd-destun pynciau uwch neu ymchwil gyfredol gan gymhwyso cysyniadau cemeg craidd.

SD 2: Cynllunio, cynnal, a gwerthuso ymchwil ymchwiliol gan ddangos dealltwriaeth integredig o dechnegau ar gyfer synthesis, dadansoddi a/neu fodelu cyfrifiadol. 

SD 3: Dadansoddi a dehongli'n feirniadol ddata sy'n deillio o arsylwadau a mesuriadau labordy i ddiffinio a datrys problemau mewn cyd-destunau byd go iawn a haniaethol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol: 

SY 1: Cyfathrebu'n berswadiol, gan ddefnyddio ystod o gyfryngau, gan fynegi syniadau academaidd a dadleuon technegol mewn modd sy'n briodol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.

SY 2: Ymchwilio, dadansoddi, a chymhwyso ffynonellau llenyddiaeth sylfaenol i sgiliau cyfrifiadol, prosesu data, a chwilio electronig sy'n ymwneud â gwybodaeth gemegol i ddatblygu dadleuon, damcaniaethau a phenderfyniadau rhesymegol

manwl. 

SY 3: Nodi cyfrifoldebau moesegol, gan gynnwys rôl y fferyllydd o fewn perthnasoedd proffesiynol cydweithredol ac o ran materion economaidd a chymdeithasol. 

Sgiliau Trosglwyddadwy/ Allweddol: 

SA 1: Arddangos menter ac annibyniaeth trwy gymryd cyfrifoldeb am strwythuro a rheoli amser tasg ymchwil, gan weithio mewn timau pan fo'n briodol. 

SA 2: Ymchwilio ac astudio'n greadigol, yn annibynnol ac yn fyfyriol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau uwch i heriau neu i gyd-destunau anghyfarwydd neu ehangach yn y byd.

SA 3: Datblygu ymwybyddiaeth o'ch cryfderau a'ch gwendidau gan ddefnyddio arweiniad/adborth i ddatblygu strategaethau ar gyfer dysgu sy'n dod i'r amlwg. 

SA 4: Cymhwyso sgiliau gwerthuso beirniadol, dadansoddi a barn yn effeithiol mewn ystod amrywiol o gyd-destunau, gan allu mynd i'r afael â phroblemau ar ryngwyneb disgyblaethau eraill.

SA 5: Arddangos llythrennedd digidol mewn cymwysiadau cemeg ac anghemegol eang a dangos hyder ac annibyniaeth wrth gymhwyso profiadau i gymwysiadau cysylltiedig anghyfarwydd.

Group of students working in laboratory
We encourage group working during our laboratory practicals.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae amrywiaeth o opsiynau o ran gyrfa yn agored i raddedigion cemeg. Mae llawer yn ymuno â’r diwydiant cemegion, tra bo eraill yn mynd i mewn i’r byd academaidd neu at sefydliadau’r llywodraeth. Mae nifer o raddedigion yn defnyddio’r hyfforddiant rhesymegol ac ymarferol a gawson nhw er mwyn mynd i feysydd marchnata, gwerthu, rheoli neu gyllid. Mae newyddiaduraeth wyddonol, cyhoeddi ac addysgu i gyd yn feysydd y gallech fynd i mewn iddynt. Felly hefyd, mae’r sgiliau penodol a gafwyd mewn labordai yn gallu bod yn gam tuag at waith yn y diwydiant gweithgynhyrchu.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Gwyddonydd ymchwil
  • Technolegydd
  • Ymgynghorydd cyswllt
  • ymchwilydd PhD
  • Gwyddonydd Fformiwleiddio

Lleoliadau

Mae amrywiaeth o gyfleoedd i ymgymryd â phrosiectau ymchwil haf ym Mhrifysgol Caerdydd o dan oruchwyliaeth ein staff academaidd. 

Mae pob myfyriwr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil dau semester o fewn labordy ymchwil Cemeg yng Nghaerdydd yn eu pedwaredd flwyddyn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn lleoliad dramor neu leoliad diwydiant, mae cyfle i drosglwyddo i'r MChem perthnasol erbyn diwedd eich ail flwyddyn.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.