Gofynion mynediad ar gyfer yr Alban
Bydd ein gofynion mynediad yn amrywio yn dibynnu ar eich lefel astudio a'r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Cyrsiau israddedig
Bydd cymwysterau ‘Higher’ ac ‘Advanced Higher’ yr Alban yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad i flwyddyn 1 ein rhaglenni israddedig. Er mwyn rhoi syniad i chi o'r graddau y bydd eu hangen arnoch, rydym wedi darparu'r tabl cywerthedd canlynol y gellir ei gymharu â'r gofynion mynediad Safon Uwch arferol a restrir ar ein tudalennau cyrsiau israddedig.
‘National 5’
Byddwn yn derbyn ‘National 5’ yn lle TGAU, lle mae gofynion lefel 2 yn ein prosesau dethol.
TGAU | National 5 |
A* | A |
A | B |
B | C |
C | D |
‘Higher’
Byddwn yn derbyn 5 ‘Higher’, graddau A-C, lle nad oes unrhyw ofynion pwnc lefel 3 yn y cynnig nodweddiadol.
Cynnig Safon Uwch nodweddiadol | Cynnig ‘Higher’ Cyfwerth |
AAA | AABBB |
AAB | ABBBB |
ABB | BBBBC |
BBB | BBBCC |
BBC | BBCCC |
BCC | CCCCC |
CCC | CCCCD |
‘Advanced Higher’
Lle mae'r cynnig Safon Uwch nodweddiadol yn cynnwys gofyniad pwnc, mae'n ofynnol i ‘Advanced Higher’ fodloni'r gofyniad pwnc hwnnw.
Safon Uwch | ‘Advanced Higher’ |
A* | A |
A | B |
B | C |
C | D |
Wrth wneud cynnig gyda gofyniad pwnc, yn y rhan fwyaf o achosion gallwn dderbyn cyfuniad o ‘Higher’ ac Advanced Higher, ond ni fyddwn yn cyfrif yr un pynciau ddwywaith.
Yr eithriad i hyn yw Meddygaeth a Deintyddiaeth, a fydd yn gofyn am dri chymhwyster lefel ‘Advanced Higher’.