Dyddiadau allweddol
Dylid defnyddio’r amserlen ganlynol fel canllaw, ac mae’n berthnasol i’r rheini sydd wedi dewis dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2024.
2024
-
31 Ionawr Dyddiad cau ar gyfer y mwyafrif o gyrsiau israddedig
Gallwch barhau i wneud cais tan 30 Mehefin ond bydd tiwtoriaid derbyn ond yn ystyried eich cais yn ôl eu disgresiwn.
-
28 Chwefror UCAS Extra yn agor
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio gradd israddedig amser llawn ym Mhrifysgol Caerdydd, ond eich bod eisoes wedi gwrthod neu wedi'ch gwrthod gan eich pum dewis neu os ydych yn ymgeisio ar ôl dyddiad cau ystyriaeth gyfartal UCAS (31 Ionawr), efallai y byddwch yn gymwys i gael UCAS Extra.
-
18 Mai
Mae’n rhaid i Brifysgolion wneud penderfyniad ynghylch ceisiadau sy'n weddill a gyflwynwyd cyn 31 Ionawr. Fel arall, penderfynir yn awtomatig bod y dewisiadau hynny'n aflwyddiannus.
-
8 Mehefin
Os ydych yn cael pob penderfyniad gan y prifysgolion erbyn 18 Mai, mae’n rhaid i chi ateb unrhyw gynigion erbyn y dyddiad hwn, neu cânt eu gwrthod (oni bai eich bod yn defnyddio Extra i ddod o hyd i le).
-
30 Mehefin Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr
Dyma’r ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, sef 31 Ionawr. Mae'n bosibl cyflwyno cais hwyr ar gyfer cyrsiau a rhaglenni sy’n parhau i fod yn agored i geisiadau.
-
4 Gorffennaf
Dyddiad olaf i ychwanegu dewis Extra yn UCAS Track.
-
5 Gorffennaf
Clirio’n agor, lleoedd gwag yn cael eu dangos.
-
6 Gorffennaf
Diwrnod canlyniadau’r Fagloriaeth Ryngwladol.
-
12 Gorffennaf
Disgwylir penderfyniadau gan brifysgolion ynghylch ceisiadau a gyflwynwyd erbyn 30 Mehefin. Fel arall, penderfynir yn awtomatig mai aflwyddiannus bod y dewisiadau hynny'n aflwyddiannus.
-
17 Gorffennaf
Os ydych yn cael pob penderfyniad gan brifysgolion erbyn 12 Gorffennaf, atebwch unrhyw gynigion erbyn y dyddiad hwn. Fel arall, cânt eu gwrthod a chaiff eich cais ei roi yn y system Glirio, os ydych yn gymwys.
-
6 Awst
Cyhoeddir canlyniadau SQA.
-
15 Awst
Cyhoeddir canlyniadau Safon Uwch.
-
21 Medi
Diwrnod olaf y gall myfyrwyr wneud cais uniongyrchol i’r system Glirio.
-
15 Hydref
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer Meddygaeth a Deintyddiaeth yn dechrau yn 2025.
-
17 Hydref
Clirio a chylch 2024 yn dod i ben.
Peidiwch â cholli allan. Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf ac i wybod pa bryd mae'n Diwrnodau Agored.