Deon y Gymraeg
Deon y Gymraeg sy'n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu strategaeth Gymraeg y Brifysgol.
Gan adrodd i'r Dirprwy Is-Ganghellor a chynrychioli'r Gymraeg ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, mae'r Deon yn hyrwyddo ac yn cefnogi ymdrechion i hyrwyddo a dathlu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn y brifysgol.
Mae'r rôl yn cydlynu staff Cymraeg allweddol i sicrhau dull unedig o ymdrin â Strategaeth y Gymraeg y Brifysgol, Yr Alwad/Embrace It.
Mae'r Deon yn cydweithio ar draws y Brifysgol i integreiddio'r Gymraeg yn ein diwylliant a'n gweithgareddau, yn bennaf trwy'r Academi Gymraeg, sy'n goruchwylio'r holl fentrau Cymraeg ac sydd â'i staff craidd yn Swyddfa'r Is-Ganghellor.
Dr Angharad Naylor
Ar 15 Hydref 2024, cyhoeddwyd y byddai Dr Anghard Naylor, Uwch Ddarlithydd ac Uwch Diwtor Personol yn Ysgol y Gymraeg, yn ogystal â'r Partner Academaidd ar gyfer Cymorth Dysgu Personol yn yr Academi Dysgu ac Addysgu, yn cymryd yr awenau gan Dr Huw Williams fel Deon y Gymraeg newydd.
Gan adrodd i'r Profost a'r Dirprwy Is-Ganghellor, bydd Angharad yn cydweithio drwy'r Academi Gymraeg i ddatblygu, cysylltu a chodi ymwybyddiaeth o ddarpariaeth a diwylliant Cymraeg y brifysgol.
Yn dilyn penodiad Angharad fel Deon y Gymraeg newydd, dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Profost a Dirprwy Is-Ganghellor:
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag Angharad o dan seren arweiniol strategaeth newydd y Brifysgol sy'n rhoi'r gwelededd a'r arwyddocâd haeddiannol i'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig. O dan arweiniad Angharad byddwn yn dangos sut mae ein hunaniaeth Gymreig nodedig, yn byw ar draws ein sefydliad, yn rhan o'n cyrhaeddiad rhyngwladol".
Bydd Angharad yn dechrau ei rôl newydd yn swyddogol ar 1 Tachwedd 2024.