Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaeth Betty Campbell - Yr Academi Gymraeg

Mae Ysgoloriaeth Betty Campbell yn cynnig hyd at £1,000 i fyfyrwyr cymwys sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Statue of Betty Campbell

Mae Ysgoloriaeth Yr Academi Gymraeg Betty Campbell yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr sy'n wynebu heriau neu ansicrwydd wrth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r ysgoloriaeth hon yn deyrnged i Betty Campbell, pennaeth Du cyntaf Cymru ac eiriolwr ymroddedig dros amlddiwylliannoldeb. Wedi'i hysbrydoli gan ei gwerthoedd a'i hangerdd am hanes a diwylliant Cymru, rydyn ni wedi enwi'r ysgoloriaeth hon er anrhydedd iddi.

Neilltuodd Betty Campbell ei bywyd i hyrwyddo cynhwysiant a herio anghydraddoldeb, gan sicrhau bod addysg yn hygyrch i bawb. Trwy'r ysgoloriaeth hon, mae'r Academi Gymraeg yn ceisio cynnal ei hetifeddiaeth, gan ymgorffori ei hegwyddorion yn ein hymrwymiad i addysg Gymraeg fel rhan o naratif amrywiol a byd-eang Caerdydd.

Gall myfyrwyr llwyddiannus dderbyn hyd at £1,000 y flwyddyn am uchafswm o dair blynedd. Yn ogystal, byddant yn cael cefnogaeth i archwilio cyfleoedd i gyfrannu at Yr Academi Gymraeg ac ymgysylltu â rolau eraill fel Llysgenhadon Myfyrwyr y Gymraeg.

"Roedd yr ysgoloriaeth yn apelio fel gofod ar gyfer croestoriadedd o fewn y gymuned Gymraeg yn y brifysgol, yn cynnig system gefnogaeth sy'n cydnabod bod o grŵp ymylol ac yr angen am cyswllt- yn gweithio fel pont rhwng rhai ohonom ni, siaradwyr Cymraeg, sydd efallai ddim wedi ymgolli cymaint yn yr ochr Gymraeg o bethau."
Lena-Zaharah, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Cysylltu â ni

Bydd yr holl gyfathrebiadau sy'n gysylltiedig â'r ysgoloriaeth yn cael eu hanfon at gyfeiriad e-bost prifysgol pob myfyriwr. Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ymgeisio manwl ar fewnrwyd y myfyrwyr.

Am unrhyw ymholiadau, apeliadau, neu gwestiynau pellach am yr ysgoloriaeth, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at academi@caerdydd.ac.uk.