Yr Academi Gymraeg
Rydyn ni'n cysylltu'r rhai sy'n ymwneud â'r Gymraeg, yn y Brifysgol ac yn ein cymunedau ehangach.
Cenhadaeth yr Academi Gymraeg yw creu rhwydwaith cryf o staff proffesiynol ac academaidd a myfyrwyr sy'n hyrwyddo mentrau Cymraeg o fewn y brifysgol.
Wedi'i sefydlu yn 2021, rydyn ni'n gwasanaethu fel conglfaen ein strategaeth i fywiogi'r Gymraeg. Mae ein gweledigaeth yn uchelgeisiol ac yn gyffrous, gan sicrhau fod ein prifysgol yn ddwyieithog, cynhwysol a rhyngwladol.
Mae'r tîm craidd yn cynnwys Deon y Gymraeg a Rheolwr yr Academi sy'n gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnwys Cangen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dysgu Cymraeg Caerdydd, ac Is-lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd.
Amdanom ni
Mae ein gwaith yn rhychwantu gwasanaethau addysgol, proffesiynol, ac agweddau allgyrsiol y brifysgol, gan adlewyrchu amcanion cyffredinol y sefydliad o ymgorffori sefydliad Cymreig gyda rhagolwg rhyngwladol.
Astudio ac ysgoloriaethau
Mae'r Academi Gymraeg yn gweithio gyda staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol i wella'r ddarpariaeth Gymraeg ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd a grwpiau myfyrwyr newydd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Ein tîm
Mae staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol yn cymryd rhan weithredol ac yn cyfrannu at fentrau a gweithgareddau'r Academi Gymraeg, gyda'r tîm craidd yn cynnwys:
- Dr Huw Williams, Deon y Gymraeg
- Catrin Jones, Rheolwraig yr Academi Gymraeg
Mae Deon y Gymraeg a Rheolwr yr Academi yn gweithio'n agos gyda:
- Elliw Iwan, Swyddog Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol Prifysgol Caerdydd
- Catrin Edith Parry, Is-lywydd y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Caerdydd