Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Dyma'r ysgoloriaethau sydd ar gael i chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ysgoloriaeth Betty Campbell

Mae Ysgoloriaeth Betty Campbell bellach ar agor ar gyfer ceisiadau a bydd yn cau ddydd Gwener 7 Chwefror 2025.

Swm: hyd at £1,000

Mae’r ysgoloriaeth yn agored i bob myfyriwr sy’n astudio 20 credyd neu ragor drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau neu sydd ag ansicrwydd astudio yn y Gymraeg ar lefel prifysgol.

Ymgeisio am Ysgoloriaeth Betty Campbell

Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Gallwch wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol pan fyddwch yn ymuno â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ar wefan Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gellir dod o hyd i beth wmbredd o wybodaeth gan gynnwys manylion ar sut i ymuno, y dyddiadau cau ar gyfer pob ysgoloriaeth a chanllawiau ar sut i ymgeisio.

Prif Ysgoloriaeth

Mae'r cyfnod ymgeisio ar agor a bydd yn cau ar 24 Ionawr 2025.

Swm: £3,000 dros 3 blynedd

Gallwch ymgeisio os ydych yn astudio o leiaf 66% o'ch cwrs (80 credyd) bob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn dechrau astudio ym mis Medi 2024.

Gwneud cais am y Brif Ysgoloriaeth

Ysgoloriaeth Cymhelliant

Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer yr ysgoloriaeth hon bellach ar agor ac mae'r dyddiad cau ar 22 Hydref 2024.

Swm: £1,500 dros 3 blynedd (£500 y flwyddyn)

Gallwch ymgeisio os ydych yn astudio o leiaf 33% o'ch cwrs (80 credyd) bob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn dechrau astudio ym mis Medi neu Hydref 2024.

Defnyddiwch Chwilotydd Cyrsiau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld a yw eich cwrs ar y rhestr.

Gwneud cais am yr Ysgoloriaeth Cymhelliant

Ysgoloriaeth Meddygaeth

Mae'r ffurflen gais ar gyfer Medi 2025 bellach ar agor tan 15 Hydref 2024.

Swm: £2,500 dros 5 mlynedd (£500 y flwyddyn)

Gallwch ymgeisio os ydych yn:

  • bwriadu ymgeisio am gyrsiau Meddygaeth mewn prifysgol yng Nghymru
  • astudio o leiaf 33% o'ch cwrs (neu 40 credyd y flwyddyn) drwy gyfrwng y Gymraeg

Gwneud cais am yr Ysgoloriaeth Meddygaeth

Bwrsariaeth Gareth Pierce

Mae'r cyfnod ymgeisio ar agor tan 1 Hydref 2024

Swm: £3,000 ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig

Er cof am ei gyn-Brif Weithredwr, mae CBAC wedi creu Bwrsariaeth Gareth Pierce i gefnogi myfyrwyr sy'n astudio o leiaf 33% o gyrsiau Mathemateg yn y Gymraeg. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rheoli'r bwrsari ar ran CBAC.

Ymgeisiwch am Fwrsariaeth Gareth Pierce

Ysgoloriaeth Nyrsio

Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer yr ysgoloriaeth hon bellach ar gau

Swm: £1,500 dros 3 blynedd (£500 y flwyddyn)

Rydych yn gymwys os ydych yn fyfyriwr nyrsio os ydych yn astudio o leiaf 33% (40 credyd) o'ch cwrs yn Gymraeg.

Ysgoloriaeth Astudio'n Gymraeg Prifysgol Caerdydd

Swm: hyd at £500 y flwyddyn

Mae ysgoloriaeth ar gael gan y brifysgol os ydych yn dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Am bob 20 credyd rydych chi'n eu hastudio yn Gymraeg bob blwyddyn, byddwch yn derbyn £250, ac am bob 40 credyd rydych chi'n eu hastudio yn Gymraeg bob blwyddyn, byddwch yn derbyn £500. Y mwyaf y gallech ei gael yw £500.

I wneud cais am yr ysgoloriaeth hon, cwblhewch y ffurflen gais Astudio yn Gymraeg a'i hanfon at Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y brifysgol, Elliw Iwan.

Os ydych eisoes yn derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg, Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg, neu Ysgoloriaeth Meddygaeth/Meddygon Yfory, nid ydych yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Astudio'n Gymraeg y brifysgol.

Rhagor am astudio'n Gymraeg

Welsh students

Astudio yn y Gymraeg

Bydd dewis astudio yn Gymraeg yn ehangu eich gorwelion gyrfaol tra hefyd yn eich cyflwyno i fyd newydd yma a thu hwnt.

Welsh students

Cyrsiau cyfrwng Cymraeg

Rydyn ni'n cynnig hyd at 65 o gyrsiau sy'n cynnwys ystod eang o bynciau, a addysgir yn llawn neu'n rhannol yn Gymraeg.

Logo Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rydyn ni'n ysbrydoli ac yn annog myfyrwyr a staff i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg a dod yn rhan o'n cymuned ddwyieithog ffyniannus.