Trochi yn niwylliant Cymraeg Caerdydd
Mae'r Gymraeg yn unigryw i Gymru ac wrth galon popeth a wnawn yn ein Prifysgol. Byddwch yn gweld ac yn clywed y Gymraeg ar y campws a ledled y ddinas.
Credwn fod y Gymraeg yn perthyn i bawb sy'n astudio, yn gweithio ac yn byw yma.
Mae'r Gymraeg, fel iaith swyddogol Cymru, yn rhan hollbwysig o'n hunaniaeth a'n cymunedau amrywiol. Mae'n perthyn i bawb sy'n astudio, yn gweithio ac yn byw yma.
Eich cartref chi
Rydym yn ddinas Gymreig
Mae gan y ddinas 36,735 o siaradwyr Cymraeg, 17 ysgol gynradd a 3 ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg
Rydym wrth galon y Gymru fodern
Mae ein dinas yn gartref i Senedd a Llywodraeth Cymru, BBC ac ITV Cymru Wales, Yr Urdd, a llawer o sefydliadau cenedlaethol eraill
Rydym yn dathlu Cymreictod
Rydym yn falch iawn o'n Cymreictod ac yn arddangos ein hangerdd trwy wyliau mawr fel Tafwyl a'r clwb Cymraeg, Clwb Ifor Bach
Dysgu Cymraeg
Nid yw'n hanfodol deall na siarad Cymraeg i fyw yma. Ond mae dysgu Cymraeg yn gallu:
- cyfoethogi eich profiad yng Nghaerdydd
- eich helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o Gymru, ei diwylliant, ei hanes a'i phobl
Gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, gallwch:
- dechrau dysgu Cymraeg
- gwella eich sgiliau Cymraeg
Gallwch hefyd ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â dysgu ieithoedd eraill yn y Brifysgol.
Gwnewch gais i aros yn un o'n opsiynau llety i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i ymgolli yn yr iaith.
Cymdeithasu a diwylliant
![Clwb Ifor Bach](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/1705182/FUN-Strangest-Things-at-Clwb-Ifor-Bach-Simon-Ayre-1.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Mae yma gymdeithasau Cymraeg ble medrwch ddod i adnabod myfyrwyr Cymraeg eraill. Bydd modiwl Dinesydd Caerdydd hefyd yn gyfle i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill.
Byddwch yn clywed rhaglenni a cherddoriaeth Gymraeg ar Xpress Radio y myfyrwyr. Yn Gair Rhydd, papur newydd y myfyrwyr, byddwch yn darllen erthyglau Cymraeg yn adran Taf-Od.
Mae bywyd nos Caerdydd heb ei ail. Cewch ddawnsio neu wylio bandiau yng Nglwb Ifor Bach. Profwch ŵyl unigryw Tafwyl yng Nghastell Caerdydd bob mis Mehefin.
Cewch ymgeisio hefyd i fyw yn un o'r dewisiadau llety i fyfyrwyr Cymraeg.
Eich hawliau Cymraeg
![Members of Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/2633749/UMCC-1.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Fel priddinas ryngwladol mae Caerdydd yn unigryw. Hi yw canolfan llywodraeth a democratiaeth Cymru.
Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol ac mae gennych hawl i:
- dderbyn gwasanaethau Cymraeg
- astudio a byw bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg
Pwrpas Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd yw cysylltu holl weithgareddau Cymraeg y brifysgol er mwyn cynnig profiad unigryw i'n holl fyfyrwyr dwyieithog.
Mae hawliau myfyrwyr Cymraeg hefyd yn cael eu cynrychioli gan:
- Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
- Is-Lywydd Iaith Diwylliant a Chymuned Cymru Undeb y Myfyrwyr