Cyswllt Myfyrwyr
Er mwyn ei gwneud hi’n haws i chi reoli pethau tra byddwch yn astudio yma, gallwch gael cymorth gan ein Tîm Cymorth Myfyrwyr ar-lein, dros y ffôn neu wyneb-yn-wyneb pan fydd ei angen arnoch.
Gall y Tîm Cyswllt Myfyrwyr eich helpu i lywio bywyd yn y brifysgol. P'un a ydych am gael cyngor ar eich dyfodol, cael gwybod sut i reoli eich arian neu ddatblygu eich sgiliau astudio academaidd, y Tîm Cyswllt Myfyrwyr yw eich pwynt cyswllt cyntaf. Bydd yn eich rhoi ar ben ffordd ac yn sicrhau bod gennych yr adnoddau sydd eu hangen arnoch i wneud y gorau o'ch profiad o’r brifysgol.
Ymweld â ni
Gallwch ymweld â ni wyneb yn wyneb ar lawr gwaelod Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Cofrestru
Gallwch wirio eich apwyntiadau Bywyd Myfyrwyr ar yr Ap Myfyrwyr neu drwy Gyswllt Myfyrwyr.
Yma i’ch helpu
Rydym yma i helpu gydag unrhyw gwestiynau ac i'ch rhoi mewn cysylltiad â'r Timau Bywyd Myfyrwyr.
Gall y Tîm Cyswllt Myfyrwyr wneud y canlynol:
- rhoi cymorth ymrestru
- datblygu eich dealltwriaeth o’r polisi neu'r broses a fydd yn eich helpu
- eich helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch
- eich cyfeirio at un o'n timau Bywyd Myfyrwyr arbenigol
Pa gwestiwn bynnag sydd gennych, byddwn yn gwneud ein gorau glas i nodi’r cymorth sydd ei angen arnoch.
Cysylltu â ni
Os ydych yn aelod o’r staff sy’n cysylltu â ni ar ran myfyriwr, ebostiwch studentconnectsupervisors@caerdydd.ac.uk.
Os ydych yn fyfyriwr ar hyn o bryd, gallwch wneud y canlynol:
- ymweld â'r Tîm Cyswllt Myfyrwyr ar lawr gwaelod Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
- defnyddio’r porth Cyswllt Myfyrwyr ar-lein
- gofyn eich cwestiynau i'n sgwrsfot 24/7, pan fyddwch wedi mewngofnodi i’r fewnrwyd ac yn gweld y botwm sgwrsio glas a gwyn yng nghornel dde isaf eich sgrîn
- ein ffonio ar +44 (0)29 2251 8888