Cefnogaeth preswylfeydd
Efallai mai dechrau yn y brifysgol yw eich profiad cyntaf o fyw oddi cartref mewn dinas wahanol. Rydyn ni’n deall y gall hyn fod yn gyffrous a heriol fel ei gilydd, dyna pam mae ein tîm Bywyd Preswyl yma i'ch helpu i ymgartrefu.
Mae'r tîm Bywyd Preswyl yn cyflwyno cymuned hwyliog a chyfeillgar i'ch llety yn y brifysgol drwy gynnig digwyddiadau cymdeithasol cyffrous, sesiynau galw heibio a gweithdai defnyddiol, a’r cyfan ar sail gyfunol drwy gydol y flwyddyn.
Digwyddiadau
Digwyddiadau cynhwysol di-alcohol i bob myfyriwr ym mhob neuadd breswyl.
Cymorth
Cefnogaeth cyfoedion gan gyd-fyfyrwyr i'ch helpu i drosglwyddo i fywyd prifysgol.
Y gymuned
Lle ym mhob llety myfyrwyr i ddod i gael sgwrs, cyfarfod â phobl a chael bwyd a diod am ddim.
Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau yn rhad ac am ddim mewn pob math o lety myfyrwyr. Yn y rhan fwyaf bydd lluniaeth am ddim ac mae pob un yn cynnig cyfle i gwrdd â phobl newydd a sgwrsio â'n Cynorthwywyr Bywyd Preswyl (sef myfyrwyr presennol sydd wedi byw mewn neuaddau preswyl).
Rydyn ni hefyd yn rhoi cymorth i unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd pontio i fywyd Prifysgol Caerdydd, a gall ein tîm o Gynorthwywyr Bywyd Preswyl roi cyngor yn seiliedig ar eu profiad eu hunain a chyfeirio pobl at unrhyw wasanaethau perthnasol yn y brifysgol.
Dewch o hyd inni ar Instagram a gweld drosoch eich hun sut rydyn ni’n cefnogi myfyrwyr yn llety’r Brifysgol.
Ein hymrwymiad i chi
Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr amser gorau posibl yn eich neuadd breswyl a byddwn ni’n gweithio gyda chi a'ch cyd-fyfyrwyr i wneud y canlynol:
- rhoi croeso cynnes ac annog proses ddiffwdan o bontio i'r Brifysgol
- meithrin diwylliant sy'n canolbwyntio ar gymuned lle byddwch chi’n perthyn ac yn cael eich cynnwys
- dod â myfyrwyr at ei gilydd drwy drefnu digwyddiadau sy’n gwella eich sgiliau, yn rhoi cymorth ymarferol i wella eich bywyd yn y brifysgol yn ogystal â threfnu gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol
- Hyrwyddo ffyrdd cadarnhaol o fyw a mynd i'r afael ag ymddygiad amhriodol
- sicrhau bod myfyrwyr yn cefnogi ei gilydd a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau arbenigol
- adnabod a chefnogi myfyrwyr sy'n agored i niwed a rheoli sefyllfaoedd argyfyngus
- clymu’r profiad o ddysgu a byw â’i gilydd.
Ein gweithgareddau
Os ydych chi’n byw yn llety'r brifysgol gallwch chi ymuno â ni mewn gweithgareddau addysgiadol sy’n llawn hwyl,
- dathlu gwyliau byd-eang gan gynnwys Calan Gaeaf, Diolchgarwch, y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.
- gweithdai sgiliau bywyd gan gynnwys sut i goginio, cadw trefn ar eich arian a byw gyda phobl eraill
- sesiynau galw heibio yn y neuaddau i gael cymorth gan fyfyrwyr eraill, cyngor a phaned gyfeillgar o de.
- ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth
- datblygu cymunedau mewn neuaddau fydd yn cynrychioli’r myfyrwyr
- cyfleoedd i ddatblygu eich diddordebau personol drwy wella sgiliau ymarferol, gwersi a hyfforddiant.
Ymunwch â ni
Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb a gallwch chi ofyn am apwyntiad ar-lein neu wyneb yn wyneb gydag aelod o staff i drafod unrhyw problemau sydd gennych chi yn eich neuadd.
Rydym wedi ein lleoli yng Nghanolfan Gymdeithasol Tal-y-bont, ond gallwch sgwrsio â'r Cynorthwywyr Bywyd Preswyl mewn unrhyw breswylfa i fyfyrwyr gyda'r nos o ddydd Llun i ddydd Iau a thrwy'r dydd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.