Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth i fyfyrwyr o ran fisa

Counselling appointment for young asian woman student in counsellor College office. Horizontal indoors waist up shot with copy space.

Os ydych chi’n byw y tu allan i'r DU, bydd yn rhaid ichi feddwl am fisâu, rheolau mewnfudo ac efallai’r opsiynau o ran fisa gwaith ar ôl eich astudiaethau. Gallwn eich cynghori ar sut i wneud cais am eich fisa myfyriwr a rhoi canllawiau a gwybodaeth bwrpasol ichi o ran ymgartrefu yng Nghaerdydd a bod yn fyfyriwr yma.

Rydyn ni’n deall yr heriau o ran astudio dramor, a byddwn ni’n eich helpu i gadw'n ddiogel ac yn iach a byddwn ni’n rhoi pob cymorth ichi yn ystod eich amser gyda ni. Mae ein timau sy’n rhan o Fywyd Myfyrwyr yn cefnogi pob agwedd ar fywyd prifysgol, fel y gallwch chi fwynhau bywyd myfyrwyr i’r eithaf.

tick

Canllawiau mewnfudo

Rydym yn cynnig arweiniad ar reolau mewnfudo UKVI ar gyfer eich Fisa Myfyriwr gan gynnwys goblygiadau o ran newid eich astudiaethau.

submission

Estyniadau fisa

Cymorth wrth gyflwyno ceisiadau am estyniad fisa ar eich cyfer chi a'ch dibynyddion.

people

Digwyddiadau ymsefydlu

Rydym yn cynnig nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ymsefydlu i’ch helpu i ymgartrefu yma ac yn y DU yn fwy cyffredinol.

Pontio i fywyd yn y brifysgol

A chithau’n fyfyriwr rhyngwladol, byddwch chi’n ymuno â chymuned academaidd amrywiol ac ysbrydoledig o bob cwr o'r byd sy'n astudio ystod o gyrsiau.

Bob blwyddyn, rydyn ni’n helpu i gludo cannoedd o fyfyrwyr rhyngwladol o Heathrow i'w llety yng Nghaerdydd er mwyn gwneud y broses o bontio i fywyd yn y DU ychydig yn haws.

Gallwn ni hefyd helpu o ran y canlynol:

  • digwyddiadau a gweithgareddau sefydlu i'ch helpu i ymgartrefu yn y brifysgol a'r DU yn fwy cyffredinol
  • rheolau/amodau Adran Fisâu a Mewnfudo’r DU (UKVI) o ran eich fisa myfyriwr (Haen 4 (Cyffredinol) a’r fisa astudio tymor byr), gan gynnwys goblygiadau unrhyw newidiadau yn eich astudiaethau (e.e. tynnu'n ôl, gohirio neu drosglwyddo eich astudiaethau)
  • y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) a’r opsiynau o ran fisa myfyriwr o'r UE ar ôl Brexit
  • cymorth wrth gyflwyno ceisiadau am estyniad fisa ar eich cyfer chi a'ch dibynyddion.
  • rheolau mewnfudo ar gyfer gweithio yn y DU tra byddwch chi’n astudio
  • ymweld â gwledydd Schengen
  • yr opsiynau o ran fisa gwaith sydd ar gael ichi ar ôl eich astudiaethau

Dewch i wybod rhagor am y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol tra eu bod yn astudio gyda ni.

Cysylltu â ni

Ymholiadau Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol