Cymorth i fyfyrwyr anabl
Os ydych chi'n fyfyriwr anabl, hwyrach y bydd ychydig yn fwy i feddwl amdano wrth fynd i'r brifysgol. Rydyn ni yma i'ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial a gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth gywir er mwyn ichi allu manteisio ar bob agwedd ar eich astudiaethau.
Efallai eich bod yn ystyried eich hun yn anabl neu efallai y byddai’n well gennych beidio â defnyddio labeli. Beth bynnag sy’n wir yn eich achos chi, mae'n bwysig eich bod yn cael y cymorth a’r addasiadau sydd eu hangen arnoch chi.
Rydyn ni’n gweithio gyda myfyrwyr sydd ag ystod o anableddau, yn rhai corfforol a synhwyraidd, yn ogystal â’r rheiny sydd ag anawsterau dysgu penodol, cyflyrau ar hyd sbectrwm awtistiaeth, cyflyrau meddygol hirdymor a chyflyrau iechyd meddwl.
Addasiadau a Chymorth
Byddwn ni’n gweithio gyda chi i ddod o hyd i'r addasiadau a'r gefnogaeth orau fydd yn cyd-fynd â'ch ysgol academaidd.
Lwfans Myfyrwyr Anabl
Rydyn ni’n cynnig cyngor am gyllid ac os ydych chi’n fyfyriwr y DU efallai y bydd gennych chi’r hawl i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) sy'n helpu i dalu cost eich cymorth anabledd.
Trefniadau Mynediad i Arholiadau
Gellir rhoi trefniadau ar waith i sicrhau y gallwch chi gael eich asesu mewn ffordd deg a chyfartal.
Rydyn ni yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, a’n gwaith yw eich cefnogi drwy gydol yr amser y byddwch chi’n fyfyriwr, gan sicrhau eich bod yn gallu cael cyngor ac arweiniad yn ogystal â’r addasiadau a’r cymorth sydd ei angen arnoch chi i'ch helpu yn eich astudiaethau.
Unwaith y byddwch chi wedi cael cynnig lle ar gwrs, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl er mwyn inni allu eich helpu gyda'ch cyfnod o bontio i fywyd prifysgol.
Yma i'ch cefnogi chi
Ein nod yw eich galluogi i astudio mor annibynnol â phosibl a chreu cymuned dysgu cynhwysol. Rydyn ni’n cynnig cyngor a chymorth sy’n gallu cynnwys:
- trefniadau hygyrch ar gyfer arholiadau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i amser ychwanegol, defnyddio offer ergonomig a seibiannau gorffwys
- cymorth i adnabod, gwneud cais ar gyfer addasiadau rhesymol, a'u rhoi ar waith.
- gwasanaethau arbenigol megis sgiliau astudio arbenigol, mentora iechyd meddwl a gwasanaethau gweithwyr cymorth
- cyngor a chymorth ariannu ar Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA) i fyfyrwyr cartref.
- Digwyddiad pontio ar gyfer myfyrwyr â chyflyrau ar hyd y Sbectrwm Awtistiaeth
Cysylltwch â ni
Er mwyn helpu i sicrhau bod eich cyfnod pontio i'r brifysgol mor llyfn â phosibl, cysylltwch â ni cyn gynted ag y gallwch i drafod addasiadau posibl.
Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr
Cyswllt Myfyrwyr
Os ydych yn fyfyriwr o'r DU, gallech fod yn gymwys ar gyfer Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) fydd yn helpu i ariannu eich cymorth anabledd.