Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu
Ym Mhrifysgol Caerdydd rydyn ni’n cynnig sawl math o gymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu.
Yn 2016 fe wnaethom gofrestru ar gyfer Addewid Stand Alone. Drwy wneud hyn roeddem yn ymrwymo i weithio tuag at greu'r amgylchedd a’r amodau cywir i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio i gwblhau eu cyrsiau drwy wella'r gefnogaeth yr ydym yn ei chynnig. Yn 2022 enillon ni wobr Stand Alone Pledge ar gyfer Cymorth Lles Emosiynol.
Ydy'r cymorth hwn yn iawn ar eich cyfer chi?
Os bydd rhywun wedi ymddieithrio oddi wrth ei deulu, mae’n golygu nad oes ganddo gymorth ei rieni bellach, nac ychwaith aelodau eraill o’r teulu weithiau, a hynny oherwydd bod y berthynas rhyngddyn nhw wedi chwalu’n barhaol ac o ganlyniad, mae’r berthynas wedi dod i ben. Hwyrach y bydd hyn yn cyfeirio at eich rhieni biolegol, eich llys-rieni neu rieni sy’n mabwysiadu neu aelodau ehangach o'r teulu sydd wedi bod yn gyfrifol am eich cefnogi yn y gorffennol.
Gwneud cais ar gyfer cwrs
Pan fyddwch chi’n trefnu i fynd i Ddiwrnod Agored byddwch chi’n cael y cyfle i ddatgelu eich bod wedi ymddieithrio oddi wrth eich teulu. Os byddwch chi’n gwneud hyn, byddwch chi’n cael eich gwahodd i gwrdd â'n tîm cyswllt ac ehangu cyfranogiad pwrpasol a fydd yn ateb eich cwestiynau am gymorth yn y Brifysgol.
Pan fyddwch chi’n gwneud cais i fynd i brifysgol drwy UCAS cewch y cyfle i ddatgelu eich bod wedi ymddieithrio oddi wrth eich teulu. Byddem yn eich annog i roi tic ‘ie’ wrth y cwestiwn hwn er mwyn inni allu cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ynghylch y cymorth sydd ar gael ichi.
Os nad ydych chi’n barod hyd yn hyn i astudio ar gyfer gradd mae tîm yr Adran Addysg Broffesiynol Barhaus yn cynnig ystod eang o gyrsiau rhan-amser, a hynny ar lefelau ac ar adegau sy’n gyfleus i chi. Nid oes gofynion mynediad ynghlwm wrth lawer o’r cyrsiau hyn, y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw diddordeb yn y pwnc a’r parodrwydd i’w astudio yng nghwmni pobl eraill. Mae'r yn ffordd arall o ennill cymwysterau Safon Uwch a mynediad gan fod y rhaglen yn cael ei haddysgu a'i hasesu mewn ffordd debyg i gyrsiau israddedig yn y flwyddyn gyntaf.
Cysylltwch â nhw drwy ebostio learn@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch nhw ar 02920 870000.
Arian i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu
I gael gwybodaeth am ein Bwrsariaeth i Fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu ac arweiniad ar sut i wneud cais am gyllid myfyrwyr, ewch i’n tudalen bwrpasol ar Gyllid i Fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu.
Cymorth Pontio
Mae'n bwysig inni fod pontio i'r brifysgol yn haws o ganlyniad i’r ffaith eich bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth ac arweiniad o ran eich cwestiynau cyn ichi ddechrau yn y Brifysgol ac ar ôl hynny.
Mae ein Tîm Allgymorth yn rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'ch helpu i baratoi ar gyfer y Brifysgol. Darllenwch eu tudalennau ynglŷn â chymryd rhan i weld pa brosiectau y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw.
Os ydych chi wedi datgelu eich bod wedi ymddieithrio oddi wrth eich teulu ar eich cais UCAS bydd ein swyddog cyswllt pwrpasol yn cysylltu â chi i ateb eich cwestiynau cyn i’r cwrs ddechrau a gall eich cyfeirio at wasanaethau yn y brifysgol y bydd eu hangen arnoch chi hwyrach.
Cymorth tra byddwch chi’n astudio
Ym Mhrifysgol Caerdydd, ein nod yw rhoi profiad rhagorol a chefnogol i’n myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys meithrin ac annog dyfodol hyderus a llwyddiannus i bawb. Rydyn ni’n cynnig cymorth pwrpasol ar ben y cymorth cyffredinol o ran bywyd y myfyrwyr sydd ar gael i bob myfyriwr.
Lena Smith yw'r enw cyswllt pwrpasol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n rhoi’r cymorth canlynol drwy gydol eich astudiaethau:
- cymorth wrth wneud cais am gyllid myfyrwyr a grantiau a bwrsariaethau eraill
- cymorth o ran materion academaidd, gan gynnwys cysylltu â'ch adran academaidd a helpu myfyrwyr i fod yn ymwybodol o sut i wneud cais am amgylchiadau esgusodol os bydd angen
- rhoi cymorth o ran tai
- cyfeirio at wasanaethau prifysgol eraill y Brifysgol megis Gwasanaeth Anabledd y Myfyrwyr, Cwnsela a Lles neu sgiliau astudio.
- cynnal digwyddiadau a gweithgareddau a bod ar gael i gael sgwrs os bydd angen.
Mae llety ar gael dros yr haf felly does dim rhaid ichi boeni am ymrwymo i gontract arall os byddwch chi rhwng contractau. Pan fyddwch chi’n symud i lety preifat yn ystod eich ail flwyddyn gall y brifysgol hefyd fod yn warantwr os hoffech chi inni wneud hynny.
Cefnogaeth i raddedigion
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau wrth raddio, rydym yn cynnig pecyn i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio ac sydd wedi cael cefnogaeth gennym. Mae ein pecyn presennol yn cynnwys talu cost hurio’r wisg raddio.
Rydym yn cefnogi ein Graddedigion sydd wedi datgelu i Ask Jan bod ganddynt brofiad o fod mewn gofal er mwyn gwneud yn siŵr bod cymorth lles ar gael ar eu cyfer am flwyddyn ar ôl graddio.
Ar ôl graddio, gallwch wneud cais i aros mewn neuadd breswyl ar y campws dros yr haf tan 1 Medi i sicrhau bod gennych ddigon o amser i gynllunio eich camau nesaf.
Gall ein tîm Dyfodol Myfyrwyr roi cymorth am hyd at dair blynedd ar ôl i chi raddio, gan gefnogi eich camau nesaf ar ôl gadael y brifysgol.
Mae perthynas â Phrifysgol Caerdydd yn un am oes, a gallwch barhau i fod yn gysylltiedig â ni a bod yn rhan o'n cymuned fyd-eang o gynfyfyrwyr.
Dolenni defnyddiol
Gallai’r dolenni a'r wybodaeth isod fod o ddefnydd i chi.
Mewnol:
Allanol