Gyda'n gilydd yng Nghaerdydd
Rydym yn helpu'r rhai sydd â phrofiad gofal, wedi ymddieithrio, â phrofiad milwrol, gofalwyr a cheiswyr lloches, trwy roi cyngor a chymorth i gynorthwyo yn ystod ac ar ôl y brifysgol.
Rydym yn gweithio gyda llawer o elusennau a sefydliadau allanol i sicrhau ein bod bob amser yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael ac i'ch cefnogi a gwella eich profiadau drwy gydol eich astudiaethau.
Gall myfyrwyr ddatgelu i'r tîm cymorth Gyda'n Gilydd yng Nghaerdydd ar unrhyw adeg drwy gydol eu hastudiaethau.
Cysylltwch â ni
Cyswllt Myfyrwyr
Gall myfyrwyr sy'n ofalwyr, pobl sydd wedi ymddieithrio, profiad milwrol ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr wneud cais am fwrsariaeth o £1,000 am bob blwyddyn o'u hastudiaethau academaidd.