Myfyrwyr aeddfed
Myfyriwr israddedig sy’n 21 oed neu’n hŷn yw myfyriwr aeddfed. Mae hyn yn llawer iau nag mae rhai pobl yn ei ddisgwyl. Mae myfyrwyr aeddfed yn cwmpasu ystod eang o oedrannau a phrofiadau.
Faint o fyfyrwyr aeddfed sydd ym Mhrifysgol Caerdydd?
Mae llawer o fyfyrwyr aeddfed yn poeni mai nhw fydd yr unig fyfyriwr ‘hŷn’ yn y Brifysgol. Mae dros 20% o’r myfyrwyr israddedig sy’n astudio gyda ni yn fyfyriwr aeddfed. Mae’r ystod o gyrsiau y maent yn eu hastudio’n amrywiol hefyd. Fodd bynnag, mae cyfran uwch o fyfyrwyr aeddfed yn astudio pynciau Gofal Iechyd. Efallai mai chi fydd yr unig fyfyriwr aeddfed mewn rhai modiwlau, ond bydd llawer o ffyrdd eraill o gwrdd â myfyrwyr aeddfed eraill yn y Brifysgol.
Cwrdd â myfyrwyr aeddfed eraill
Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, mae’r Brifysgol yn cynnal digwyddiad Ymsefydlu i Fyfyrwyr Aeddfed. Mae hwn yn ddigwyddiad anffurfiol sy’n galluogi myfyrwyr aeddfed i gwrdd â’i gilydd cyn dechrau eu cwrs. Mae hefyd cyflwyniadau llawn gwybodaeth gan wasanaethau cefnogi’r brifysgol a gwybodaeth am gefnogaeth academaidd.
Mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd amrywiaeth eang o gymdeithasau ar gyfer pob math o hobïau a diddordebau chwaraeon. Mae Cymdeithas y Myfyrwyr Aeddfed yn rhan o Undeb y Myfyrwyr hefyd, sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol, cyfarfodydd a boreau coffi. Mae gan Undeb y Myfyrwyr Swyddog y Myfyrwyr Aeddfed sy’n cynrychioli buddiannau’r myfyrwyr aeddfed ac yn ymgyrchu dros unrhyw faterion perthnasol.
Y cyfryngau cymdeithasol
Mae grŵp Facebook o’r enw Cardiff University Mature Students’ Association, sy’n croesawu myfyrwyr aeddfed, a gellir defnyddio hwn fel platfform i ddod o hyd i bobl eraill mewn sefyllfa debyg.
Ar Twitter, mae @LearnCardiff yn cynnig gwybodaeth am addysg barhaus a phroffesiynol. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau rhan-amser a byrdymor i oedolion mewn amrywiaeth o bynciau a llwybrau at raddau israddedig. Mae’r cyfrif yn cyhoeddi newyddion ynghylch sut gallwch fanteisio i’r eithaf ar eich amser yn y brifysgol ac yn nodi dyddiadau digwyddiadau fel diwrnodau agored a gweithdai a gynhelir gan y Brifysgol.
Byw gyda phobl iau
Os ydych yn ystyried symud i mewn i lety myfyrwyr yn eich blwyddyn gyntaf, gallwch ofyn am ystafell mewn fflat/tŷ a rennir â myfyrwyr eraill sydd wedi mynegi diddordeb mewn amgylchedd byw tawel hefyd. Efallai bydd hyn yn apelio fwy i rai myfyrwyr aeddfed, ond efallai bydd rhai eraill am fyw mewn amgylchedd mwy a phrysurach.
Dychwelyd i astudio
Mae cyrsiau Llwybrau at Radd yn anelu at ehangu mynediad at Addysg Uwch i oedolion o grwpiau allai beidio ag ystyried y brifysgol fel opsiwn fel arfer. Mae’r rhain yn cynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd, pobl sydd wedi colli’r cyfle i astudio yn y brifysgol pan oeddynt yn iau, a phobl dan anfantais anableddau corfforol a chyflyrau iechyd meddwl. Bellach, mae gennym dros 100 o fyfyrwyr bob blwyddyn yn ymuno â chyrsiau amser llawn mewn amrywiaeth o bynciau drwy’r llwybr hwn.
Mae gennym Ganolfan Sgiliau Astudio Academaidd bwrpasol sy’n cynnig rhaglen gynhwysfawr o sgiliau astudio sy’n hygyrch i’r holl fyfyrwyr cofrestredig. Mae’r Ganolfan yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth ynghylch llawer o feysydd astudio, gan gynnwys:
- cyfeirnodi
- sgiliau cyflwyno
- awgrymiadau adolygu
- gwneud nodiadau
- ysgrifennu traethodau
- darllen beirniadol
- cymorth iaith Saesneg
- cymorth gyda mathemateg
- dosbarthiadau sgiliau.
Ar ôl i chi ymrestru gyda ni, byddwch yn cael mynediad at wybodaeth bellach ar fewnrwyd y myfyrwyr.
Cymorth ariannol
I gael eich ystyried yn fyfyriwr annibynnol gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr neu Gyllid Myfyrwyr Cymru, rhaid i chi fod dros 25 oed ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Ceir rhai eithriadau i’r rheol hon, gan gynnwys os gallwch ddangos tystiolaeth eich bod wedi cynnal eich hun yn ariannol drwy weithio neu fudd-daliadau, am 3 blynedd cyn dechrau eich cwrs. Fel arall, byddech yn cael eich asesu ar sail incwm eich rhieni am eich hawl i gyllid.
I fyfyrwyr a ariennir gan y GIG, rhaid i chi allu dangos eich bod wedi cynnal eich hun yn annibynnol am 3 blynedd neu 36 mis i gyd, ni waeth beth fo’ch oedran.
Mae'r Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr, yn yr adran Cefnogi Myfyrwyr, yn gallu eich helpu i ddysgu beth yw’r ffordd orau o ariannu eich astudiaethau a pha ffynonellau o gyllid y gallwch gyflwyno cais amdanynt. Maent yn hapus i ymateb i ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr, lle bynnag yr ydych yn y broses o benderfynu a ydych am ddod i’r brifysgol.
Gall y Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr eich cefnogi i gyflwyno cais am gyllid, gwirio eich hawli i bob un o elfennau cyllid myfyrwyr, gan gynnwys budd-daliadau a chredydau treth, sy’n berthnasol i’ch amgylchiadau chi. Bydd eu cymorth arbenigol yn amhrisiadwy wrth gyfrifo pa becyn cyllid fydd yn eich cefnogi drwy eich astudiaethau.
Cysylltu â ni
Allgymorth
I gael cyngor a gwybodaeth am y broses o gyflwyno cais i’r brifysgol, cysylltwch â: