Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod cymuned ein prifysgol yn adlewyrchu'r amrywiaeth a welir mewn cymdeithas. Gallwn gynnig cymorth wedi'i deilwra i fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy'n dewis astudio gyda ni.
Diffiniad
Yn y DU, defnyddir y term ‘Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol’ ar hyn o bryd i ddisgrifio unrhyw un o gefndir nad yw’n Wyn.
Rydym yn defnyddio'r term eang hwn i nodi myfyrwyr nad ydynt yn ystyried eu hunain yn Wyn Prydeinig, ond er gwaethaf ein defnydd o’r term at ddibenion nodi’r myfyrwyr hyn, rydym yn gwybod bod mathau gwahanol o ethnigrwydd i’w cael ym mhob grŵp.
Sut rydym yn eich cefnogi
Apwyntiadau diwylliannol amrywiol ac amlieithog un-i-un
Rydym yn gallu cynnig apwyntiadau cwnsela un-i-un mewn llawer o ieithoedd gwahanol. Mae tîm amrywiol o ymarferwyr ar gael drwy ein partneriaid Problem Shared.
Lolfeydd coffi i fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Mae lolfeydd coffi’n cael eu cynnal bob wythnos (yn ystod y tymor) gan ein Hyrwyddwyr Lles Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Maent yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol gwrdd ag eraill mewn amgylchedd hamddenol, cael sgwrs ynghylch eu profiad o fod yn fyfyriwr a thrafod strategaethau a gwasanaethau lles a all fod o gymorth.
Man LHDT+ i fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Mae’r man LHDT+ i fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer pobl sy'n ystyried eu hunain yn LHDT+ ac sydd hefyd o gefndir ethnig lleiafrifol. Mae'n fan diogel er mwyn helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu clywed a’u deall, gan gynnwys rhoi’r adnoddau a’r hyder iddynt ddelio â beth bynnag y gall cymdeithas ehangach ei daflu atynt.
Digwyddiadau diwylliannol amrywiol â thema ar y campws
Mae ein Hyrwyddwyr Lles Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cynnal digwyddiadau ychwanegol drwy gydol y flwyddyn ar ddiwrnodau ymwybyddiaeth penodol ac yn ystod gwyliau crefyddol allweddol.
Gweithdai
Rydym yn cynnal gweithdai drwy gydol y flwyddyn ar bynciau sy’n cynnwys ymwybyddiaeth o gydraddoldeb hiliol a sioc ddiwylliannol.
Mae Black Students Talk hefyd yn cynnal gweithdai lles yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr Du yn y DU. Mae’n lle diogel ac agored i fyfyrwyr Du drafod eu problemau iechyd meddwl neu siarad â phobl eraill.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle
Mae cyflogwyr ym mhob sector yn sylweddoli pa mor bwysig yw gweithlu amrywiol sy’n cynnwys pobl o wahanol gefndiroedd ethnig a chymdeithasol.
Mae Dyfodol Myfyrwyr yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae yno i roi cymorth ar unrhyw agwedd ar y broses dewis swydd. Gallwch drefnu apwyntiad cyfrinachol a diduedd gydag un o'r Cynghorwyr Gyrfaoedd drwy eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.
Aflonyddwch hiliol, trais a chamdriniaeth
Rydym yn gwybod y bydd rhai o'n myfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn wynebu aflonyddwch hiliol neu fathau eraill o drais neu gamdriniaeth.
Mae'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau ar gael i siarad â myfyrwyr a rhoi cymorth ymarferol os byddwch yn wynebu unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth. Mae hyn yn cynnwys cymorth i fyfyrwyr sydd wedi wynebu aflonyddwch hiliol, hiliaeth, priodas dan orfod, trais ar sail anrhydedd neu unrhyw ymddygiad arall yr ystyrir ei fod yn dramgwyddus neu'n achosi trallod.