
Cymorth i fyfyrwyr
Rydym yma i'ch helpu i lwyddo a gwneud y gorau o'ch bywyd fel myfyriwr. Mae ein gwasanaethau cymorth cyfrinachol am ddim wedi'u lleoli yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
P'un a ydych yn chwilio am gyngor ar iechyd a lles, yn paratoi ar gyfer eich dyfodol, yn rheoli arian neu’n byw yng Nghaerdydd, dyma le y gallwch chi ddod o hyd i bob dim i’ch helpu.
Cyswllt Myfyrwyr
Ein tîm Cyswllt Myfyrwyr yw eich pwynt cyswllt cyntaf i'ch cysylltu â'ch timau Bywyd Myfyrwyr.
Gwasanaeth ar-lein ddydd a nos
Rydyn ni wedi datblygu gwasanaethau ar-lein ddydd a nos ac oriau agor estynedig fel y gall pob un o'n myfyrwyr gael gafael ar yr help sydd ei angen arnyn nhw, pryd bynnag y bydd ei angen arnyn nhw.