Ewch i’r prif gynnwys

Lleoliadau chwaraeon

Diweddarwyd: 10/10/2024 14:26

Principality Stadium against a bright blue sky.

Mae chwaraeon yn rhan fawr o ddiwylliant Caerdydd ac mae mynychu digwyddiad neu gêm yn boblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr.

Yn ogystal â lleoliadau chwaraeon mawr y ddinas ceir nifer o weithgareddau amrywiol ar lefel llai yn cynnwys chwaraeon a chadw'n heini yn y Brifysgol.

Stadiwm Principality

Mae Stadiwm Principality yn rhan adnabyddus o dirlun Caerdydd. Mae'n anghyffredin cael stadiwm sy'n dal 73,000 o bobl sydd wedi'i lleoli yng nghanol y ddinas.

Mae ei maint bychan ond cynhwysedd sylweddol yn golygu bod rhai timoedd gwrthwynebol yn gallu teimlo o dan bwysau, yn arbennig pan mae Cymru yn chwarae adref.

Mae cyngherddau mawr yn cael eu cynnal yn y stadiwm a digwyddiadau mwy anghyffredin fel tryciau mawr a rasus beiciau modur. Nodwch fod y fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

Wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd, mae'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn fenter adfywio sylweddol.

Yn ogystal â llawr sglefrio, (cartref tîm hoci'r Cardiff Devils) a Chanolfan Rafftio Dŵr Gwyn, mae gan y pentref Bwll Nofio Rhyngwladol – lleoliad nofio o'r radd flaenaf â phwll Olympaidd 50m.

Pan fydd y gwaith datblygu wedi gorffen, bydd y pentref hefyd yn gartref i ganolfan eira.

Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae Stadiwm Dinas Caerdydd wedi'i lleoli i dde-orllewin canol y ddinas ac yn gartref i glwb pêl-droed Dinas Caerdydd. Mae'r rhan fwyaf o gemau cartref cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal yn y Stadiwm hon gyda nifer o ddilynwyr pybyr yng Nghaerdydd.

Parc yr Arfau

Mae Parc Yr Arfau wedi’i leoli wrth ymyl Stadiwm Principality, ar Stryd y Porth, ac yn gartref i Glwb Rygbi’r Gleision Caerdydd. Yn ystod Pencampwriaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015, cafodd y parc ei drawsnewid i ‘Pharth y Cefnogwyr’, lle dangoswyd nifer o gemau’r bencampwriaeth a chafwyd adloniant byw.

Gerddi Sophia

Lleolir Gerddi Sophia ger Parc Biwt ac yma gallwch weld Clwb Criced Morgannwg ac ar adegau tîm Lloegr yn Stadiwm SWALEC  Nodwch fod y fideo isod o'r Stadiwm ar gael yn Saesneg yn unig.

Fideo Saesneg o Stadiwm SWALEC wrth i Loegr chwarae Awstralia.

Clybiau Chwaraeon

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â thîm chwaraeon, gallwch ymuno â Chlwb Rygbi Cymry Caerdydd. Mae gan y clwb dîm dynion a menywod, gydag ymarferion yn wythnosol a gemau ar benwythnosau.

Mae gan Glwb Chwaraeon Cymric dimoedd pêl-droed, hoci a phêl-rwyd i gael hefyd. Mae'r clybiau'n cynnal ymarferion yn wythnosol gyda gemau ar benwythnosau. Mae croeso cynnes i aelodau newydd i ymuno â'r timoedd.