Rhaglen Perfformiad Uchel
Diben y Rhaglen Perfformiad Uchel yw helpu myfyrwyr i ragori yn eu gyrfa academaidd ac ym myd y campau tra eu bod yn astudio yma.
Mae'r rhaglen yn cynnig llu o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr o’r radd flaenaf sy’n athletwyr a'i nod yw:
- galluogi athletwyr o’r radd flaenaf i barhau i hyfforddi a chystadlu ar y lefel uchaf tra eu bod yn astudio
- cynyddu perfformiad athletwyr
- cynnig gwasanaeth sy'n rhoi athletwyr yn gyntaf
- cynnig y cyd-destun cefnogi a hyfforddi gorau
- gwella sgôr Chwaraeon Colegau a Phrifysgolion Prydain (BUCS) y Brifysgol yn barhaus
Bod yn gymwys
I fod yn gymwys ar gyfer y Rhaglen Perfformiad Uchel mae’n rhaid ichi gystadlu ar safon ryngwladol iau neu’n uwch yn eich camp.
Rhoddir y flaenoriaeth i chwaraeon Olympaidd, Paralympaidd a’r Gymanwlad a/neu chwaraeon sy’n rhan o fframwaith cystadlu BUCS. Caiff chwaraeon eraill eu hystyried fesul achos.
Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus gynrychioli Carfan 1af / A Prifysgol Caerdydd.
Bydd llawer o gystadleuaeth am leoedd ar y rhaglen felly mae'n hollbwysig bod pob ymgeisydd yn gallu dangos tystiolaeth o'r hyn mae wedi’i gyflawni yn ei gamp.
Mae ymgeiswyr o bob cenedl a lefel gradd yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer y Rhaglen Perfformiad Uchel. Cofiwch, pan fo'n berthnasol, y byddwn ni’n ystyried effaith COVID-19 ar gyfleoedd cystadleuol a chael eich dewis.
Gwneud cais
Mae'r ffenestr ymgeisio ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-2025 bellach ar agor tan Dydd Gwener 27 Medi 2024.
2024-2025 Ffurflen gais Rhaglen Perfformiad Uchel
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am wneud cais ar gyfer y Rhaglen Perfformiad Uchel e-bostiwch hpp@caerdydd.ac.uk
Clare Daley
Swyddog Chwaraeon Perfformiad
Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb yn astudio yma ac rydych ar lefel elît o fewn eich chwaraeon.