Chwaraeon a hamdden
Last updated: 16/01/2025 11:40
Beth bynnag eich lefel gallu neu ymrwymiad rydym yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i chi.
Cewch gyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon elît a hamdden, ar draws ein pedair prif ganolfan o fewn y campws.
Mae gennym dros 60 o glybiau i gymryd rhan ynddynt, yn amrywio o chwaraeon traddodiadol (fel rygbi a chriced) i grefftau ymladd, chwaraeon moduro a chwaraeon dŵr. Mae gennym hefyd, Rhaglen Perfformiad Uchel sy’n darparu cefnogaeth i fyfyrwyr sy’n athletwyr, a gydnabyddir bod ganddynt botensial.