Ewch i’r prif gynnwys

Byw yng Nghaerdydd

Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar Gaerdydd. Beth sy’n gwneud y brifddinas mor ddeniadol?



Rydym yn groesawgar

Yn fan hyn rydyn ni’n diolch yn hwyliog i bob gyrrwr bws a thrwy hynny rydym wedi magu tipyn o enw da am fod yn hynod gyfeillgar. Rydyn ni’n ymfalchïo mewn bod yn agored ac yn gynhwysol – ond peidiwch â derbyn ein barn yn unig am hynny. Dewch i ymweld â ni a phrofi croeso cynnes ein dinas.

We're welcoming

Dinas groesawgar

  • Mae dros 90 iaith yn cael eu siarad yma
  • Ail ddinas fwyaf cyfeillgar Deyrnas Unedig (giffgaff)
  • Croesawyd Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd yma yn 2019
  • Un o 10 dinas fwyaf croesawgar y Deyrnas Unedig (Unbroken Britain)

Rydym yn wyllt

Barod am antur? Â Pharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog dim ond awr i’r gogledd o ganol y ddinas, a milltiroedd o arfordir euraid i’r gorllewin, Caerdydd yw’r ganolfan berffaith i'ch anturiaethau. Ar ben hynny, gyda thros 330 o barciau a gerddi, rydyn ni'n ymffrostio bod mwy o fannau gwyrdd y pen yng Nghaerdydd na sydd yn unrhyw ddinas graidd arall yn y Deyrnas Unedig.

A hiker summits Pen y Fan, the highest peak in South Wales

Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar:

  • Gael picnic ym Mharc Bute a cherdded Llwybr Taf
  • Darganfod ogofâu arallfydol Dan yr Ogof

Rydym yn anfarwol

Er mai ni yw prifddinas ieuengaf Ewrop, mae gennym gryn dipyn o hanes yma. Mae aneddiadau canoloesol, adfeilion hynafol a chaerau trawiadol yn britho’r ardaloedd o’n hamgylch. Mae Castell Caerdydd yng nghanol y ddinas yn tystio i hanes Ifor Bach a'r arglwyddi Normanaidd.

Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar:

  • Sain Ffagan – Amgueddfa Orau’r Deyrnas Unedig 2019
  • Safle Treftadaeth Fyd-eang Unesco, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Castell Caerffili – castell mwyaf Cymru
  • Gweld hanes yn dod yn fyw ym Mhentref Canoloesol Cosmeston

Rydym yn ddiwylliedig

Eisiau sioeau’r West End, gweithdai creadigol a chomedi gan berfformwyr sydd ar i fyny? Mae'r cyfan yma. Rydyn ni'n arbennig o falch o Ganolfan Mileniwm Cymru, sydd hefyd yn cael ei alw ‘yr armadilo’. Mae gwyliau fel Tafwyl yn dathlu'r diwylliant Cymraeg, ac mae Menter Caerdydd yn weithgar yn cysylltu Cymry'r ddinas gyda digwyddiadau diwylliannol Cymraeg.

Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar:

  • Ganolfan Celfyddydau Chapter ar gyfer ffilmiau a dramâu annibynnol
  • Y Sherman neu’r Theatr Newydd ar gyfer sioeau blaengar a chlasurol
  • Glee Club ar gyfer digrifwyr o'r radd flaenaf

Rydym yn egnïol

O Bencampwriaeth y Chwe Gwlad i Hanner Marathon Caerdydd, mae ein strydoedd, ein stadia a’n canolfannau chwaraeon yn cynnal digwyddiadau anhygoel gydag athletwyr o safon fyd-eang. Ond peidiwch â bod ofn ymuno – mae gennym ganolfan dŵr gwyn o safon Olympaidd, rinc iâ, cyfleusterau dringo a chlybiau chwaraeon dirifedi i’ch cadw’n brysur.

TeamCardiff at the 2022 Cardiff Half Marathon

Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar:

  • Wylio gêm rygbi yn Stadiwm Principality
  • Neidio ar OVObike i weld y ddinas ar ddwy olwyn
  • Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff y brifysgol

Rydym yn caru bwyd

Gyda chaffis cŵl, stondinau bwyd stryd a marchnadoedd ffermwyr, mae sîn bwyta ac yfed Caerdydd ar i fyny, ac yn cynnig cymaint mwy na dim ond pice ar y maen – er eu bod nhw'n eitha' danteithiol hefyd. Cewch ddewis a dethol rhwng crystau Danaidd, bwyd stryd Indiaidd, pasta Eidalaidd go iawn a rhagor. Be' arall fyddech chi’n ei ddisgwyl gan ddinas mor gosmopolitaidd?

Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar:

  • Yn bachu darn o'r weithred yn Ffwrnes pizzeria ym Marchnad Caerdydd
  • Profi cwrw Cymreig dyfeisgar ym mar Tiny Rebel
  • Joio coffi a chacen yn un o gaffis Waterloo Tea

Rydym yn hwyl

Os hoffech ddawnsio drwy’r nos i’r caneuon pop diweddaraf neu weld band sydd heb ei ddarganfod mewn gig clyd, gallwch dreulio’r noson berffaith yng Nghaerdydd. Mae’r ddinas yn falch o’i statws Baner Borffor, sy’n golygu bod ein tafarnau, ein clybiau, ein bariau a’n lleoliadau cerddoriaeth yn amrywiol, yn ddiogel ac yn groesawus i bawb.

Clwb Ifor Bach

Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar:

  • Gigs Cymraeg a bandiau newydd yng Nghlwb Ifor Bach
  • Cerddoriaeth fyw a sioeau amgen yn Tramshed a Depot
  • Joio byw yn lleoliad LGBT+ Pulse

Rydym gam o flaen pawb arall

Mae'r brifddinas yn cynnig cymysgedd deniadol o frandiau mawr, siopau adrannol, siopau annibynnol a stondinau dros dro. Beth am grwydro drwy ein harcedau Fictoraidd i ddarganfod orielau celfyddydol, dillad henaidd, siopau o dlysau peraroglus, a siop recordiau hynaf y byd; ewch wedyn o gwmpas Marchnad Hanesyddol Caerdydd, lle gallwch brynu pysgod neu glywed eich ffawd gan ddarllenwr ffortsiwn.

Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar:

  • Ailgyflenwi’r hanfodion yn Ripple Living, siop ddiwastraff gyntaf Caerdydd
  • Dysgu am bob dim retro yng ngŵyl flynyddol Vintage for Victory
  • Dod o hyd i’r ffasiynau diweddaraf yng nghanolfan siopa Dewi Sant

Find out about Open Days and visits

Os na fedrwch ymweld, dysgwch fwy am y Brifysgol a'r ddinas drwy fynd ar ein taith ryngweithiol ar-lein.