Cyfleusterau ôl-raddedig
Yn ychwanegol i’r cyfleusterau a ddarperir gan Ysgolion Academaidd unigol, rydym yn cynnig cyfleusterau cymdeithasol ac astudio, wedi’i lleoli yn ganolog, i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Cymdeithasu
Digwyddiadau
Mae Undeb y Myfyrwyr trwy’r Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig a’r Gymdeithas Ôl-raddedigion yn cynnig rhaglen ymroddedig o ddigwyddiadau i ddod a’r gymuned ôl-raddedig ynghyd yn ystod wythnos croesawu'r Hydref ac yn ystod y flwyddyn.
Cyfleusterau astudio
Parthau astudio ôl-raddedig
Mae parthau astudio ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir a myfyrwyr ymchwil ar gael ar gampysau Cathays a Pharc y Mynydd Bychan. Cewch fynediad i’r lleoedd astudio drwy ddefnyddio’ch cerdyn adnabod Prifysgol Caerdydd.
Ym Mharc y Mynydd Bychan, mae'r Parth Astudio Ôl-raddedig a staff y GIG ar ail lawr Prif Adeilad yr Ysbyty ac mae ar gael 24/7. Mae Parth Astudio Ôl-raddedig Parc Cathays ar safle Rhodfa Colum ac mae ar agor tan hanner nos yn ystod y semester.
Yn ogystal â chyfrifiaduron personol, mae ardal astudio a chyfleusterau cegin ar gael yn y ddau leoliad.
Byddwch yn rhan o gymuned ôl-raddedig sy'n ffynnu, mewn Prifysgol a adnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer ymchwil ac addysg.