Llyfrgelloedd
Mae gennym dros 2,500 o fannau astudio mewn llyfrgelloedd ac ystafelloedd TG cyfleus. A gyda mynediad Wi-Fi eang, mae man astudio cyfforddus ar garreg y drws.
Gall myfyrwyr gael mynediad i:
- 10 o lyfrgelloedd gwahanol ar draws y ddau gampws
- 1.2 miliwn o lyfrau a chylchgronau gyda chynnydd sylweddol mewn fersiynau electronig
- detholiad o ardaloedd llyfrgell ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
- llyfrgelloedd arbenigol yn cynnwys pensaernïaeth, iechyd a newyddiaduraeth
- gwasanaeth sgwrsio llyfrgell byw
- gweithfannau gyda meddalwedd ar y rhwydwaith yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd
- ystod o gasgliadau arbennig yn ymwneud â'r Gymraeg, y Dyniaethau, Gwyddorau Cymdeithasol, Cerddoriaeth, Gwyddoniaeth a Meddygaeth, yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig
- tua 100,000 o eitemau prin gyda sgrîn gyffwrdd 40" 3D a meddalwedd troi tudalennau.
- cefnogaeth ar gyfer ymchwilwyr ar lwybrau Gwyrdd, Aur a Diemwnt i Open Access, a'r agenda Open Access ehangach yn addysg uwch y DU.
Mae pob llyfrgell yn arbenigo mewn pynciau penodol, ac maent wedi'u lleoli ar draws gampysau'r Brifysgol.