Gweithio gyda Chyfieithu: Theori ac Ymarfer
Gwylio fideo ar YouTube yn Saesneg
- Rhad ac am ddim
- 4 awr yr wythnos am 4 wythnos
O iechyd i’r system gyfiawnder, o’r sector gwirfoddol i chwaraeon a’r celfyddydau, rydym i gyd yn byw ac yn gweithio’n fwyfwy mewn cyd-destunau lle mae pobl yn siarad mwy nag un iaith.
Mae cyfieithu yn broffesiwn sy’n dyddio’n ôl i’r trydydd mileniwm BCE ac mae’n un o’r gweithgareddau dynol mwyaf sylfaenol sy’n ein galluogi i ryngweithio â’n gilydd o fewn ac ar draws diwylliannau. Rydym i gyd yn dod i gysylltiad â chyfieithu yn ein bywydau bob dydd, p’un a ydym yn siarad llawer o ieithoedd neu un iaith yn unig.
P'un a ydych yn gweithio gyda chyfieithwyr neu gyfieithwyr ar y pryd yn eich swydd, yn gorfod cyfieithu neu esbonio brawddegau nawr ac yn y man, yn ystyried cyfieithu fel llwybr datblygiad proffesiynol posibl, neu hyd yn oed yn hoff o feddwl am sut mae'r ieithoedd a'r diwylliannau o'ch cwmpas yn rhyngweithio, byddwch yn elwa ar y cwrs hwn.