Digwyddiadau Daearegol Eithafol
Gwylio fideo ar YouTube yn Saesneg
- Rhad ac am ddim
- 4 awr yr wythnos am 3 wythnos
Dysgwch sut mae digwyddiadau daearegol eithafol wedi trawsnewid ein planed.
Olrheiniwch sut ffurfiodd y Ddaear 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl a sut mae wedi esblygu i fod y blaned sy’n gyfarwydd i ni heddiw.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn cael cyflwyniad i hanes daearegol y Ddaear, ac yn ystyried y digwyddiadau eithafol a’i lluniodd ac a greodd amodau addas i fywyd.
Byddwch yn dysgu am y llifogydd, y tsunamis, y daeargrynfeydd a’r echdoriadau folcanig mwyaf, ac yn archwilio'r effeithiau y maent wedi'u cael, ac y byddant yn parhau i'w cael, ar ein planed ddeinamig.
Yn olaf, byddwch yn trafod y tebygolrwydd o ddigwyddiadau eithafol yn y dyfodol a sut y gallwn ddelio â'r risgiau a'r peryglon.