Ewch i’r prif gynnwys

Cymwysiadau Dysgu Peirianyddol

  • £795
  • 12 wythnos

Mae dysgu peirianyddol yn sail i nifer o lwyddiannau diweddar ym maes deallusrwydd artiffisial, fel ceir hunan-yrru a pheiriannau chwilio. Bellach, mae llawer o ddiwydiannau'n darganfod y manteision.

Bydd y meicrogymhwyster hwn yn eich helpu i ddeall sut gall dysgu peirianyddol helpu busnesau mewn sawl ffordd, o leihau costau a gwella profiadau’r cwsmeriaid i gyflymu arloesedd.

Drwy diwtorialau dan arweiniad, ymarferion, a sesiynau labordy, byddwch chi’n datblygu sgiliau dysgu peirianyddol a chael profiad ymarferol o ddefnyddio’r cymwysiadau hyn. Gyda'r wybodaeth hon, byddwch chi’n gallu gwireddu holl botensial dysgu peirianyddol yn eich gweithle chi.

Byddwch chi hefyd yn cwrdd â chynrychiolwyr o wahanol ddiwydiannau ac yn trafod astudiaethau achos go iawn i ddod a’r theori’n fyw. Bydd hyn yn eich helpu i orffen y cwrs gyda dealltwriaeth gadarn o hanfodion dysgu peirianyddol ac yn rhoi profiad eglur i chi o’r modd y gellir eu defnyddio mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Mae'r meicrogymhwyster hwn ar gyfer myfyrwyr ar lefel ôl-raddedig ac rydyn ni’n argymell eich bod wedi cwblhau gradd gyntaf mewn Cyfrifiadureg, neu bwnc tebyg, neu fod gennych chi brofiad codio cyfatebol.

Cofrestrwch nawr