Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau byr ar-lein

Mae’r brifysgol yn cynnig ystod o gyrsiau byr ar-lein ar FutureLearn. Mae ein cyrsiau’n eich galluogi i ddysgu sgiliau newydd a datblygu eich dealltwriaeth o ystod o bynciau.

Cewch ddysgu sut mae digwyddiadau daearegol eithafol wedi ffurfio’r Ddaear, a pha heriau y gallai digwyddiadau yn y dyfodol eu hachosi i’r blaned.

Darganfyddwch sut mae dysgu peirianyddol yn cynyddu ar draws pob diwydiant a'r sgiliau y mae galw amdanynt i ragori yn eich gyrfa.

Cyflwyniad i heriau diogelwch dŵr ar raddfa leol a byd-eang.

O iechyd i’r system gyfiawnder, o’r sector gwirfoddol i chwaraeon a’r celfyddydau, rydym i gyd yn byw ac yn gweithio’n fwyfwy mewn cyd-destunau lle mae pobl yn siarad mwy nag un iaith.

Cwrs sy'n archwilio sut mae Mwslimiaid yn profi ac yn deall iechyd meddwl, wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sy'n darparu cymorth iechyd meddwl mewn cymunedau Mwslimaidd.