Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio cymhwyster ôl-raddedig gyda ni?

O ymchwil o’r radd flaenaf ac addysgu ardderchog i ragolygon gyrfa arbennig, dyma pam y dylech chi ddewis Prifysgol Caerdydd ar gyfer eich gradd ôl-raddedig.

Ymchwil o’r radd flaenaf

Rydym ni ymhlith haen uchaf prifysgolion ymchwil Prydain ac yn aelod o'r Grŵp Russell o brifysgolion clodfawr. Mae 90% o’r ymchwil a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd yn swyddogol gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Mae hyn yn ôl yr asesiad annibynnol diweddaraf o ansawdd ymchwil ar draws sefydliadau addysg uwch y DU (REF 2021). Mae ein hymchwilwyr yn gweithio i fynd i'r afael â heriau o bwys sy'n wynebu cymdeithas, yr economi a'n hamgylchedd.

Rydym wedi ennill saith Gwobr Pen-blwydd y Frenhines (sy'n cydnabod rhagoriaeth fyd-eang mewn Addysg Uwch yn y DU) ac yn cyflogi carfan enfawr o staff nodedig, gan gynnwys dau enillydd Gwobr Nobel a 13 o Gymrodyr y Gymdeithas Frenhinol.

Gyda datblygiadau newydd mewn meysydd megis clefyd Alzheimer, canser y fron, gwaredu gwastraff niwclear, diwygio bwyd ysgol a chwedlau'r Mabinogi, mae ein gwaith ymchwil yn cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar draws y byd. Rhagor o wybodaeth am effaith ein hymchwil.

Rhagoriaeth mewn addysgu

Gwerthfawrogwn gyfraniadau ein myfyrwyr ôl-raddedig i’r Brifysgol a’i nodau, ac rydym yn ceisio cynnig amgylchedd heriol a chefnogol lle gallwch gyflawni eich amcanion personol.

  • Y 40 Uchaf
    prifysgolion gorau'r DU o ran addysgu
    (Rhestr y Times Higher Education o Brifysgolion Gorau’r Byd 2022)

Rydym yn cynnal addysgu o safon uchel i sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth, sgiliau a phrofiad a fydd o werth iddynt gydol eu hoes. Caiff ein haddysgu ei lywio a’i arwain gan staff sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag ymchwil. Mae cyflogwyr yn cydnabod ac yn parchu ein rhaglenni ôl-raddedig, ac rydym yn cynnal partneriaethau cryf â mwy na 60 o gyrff proffesiynol. Caiff llawer o’n rhaglenni hefyd eu datblygu drwy gydweithio’n agos â chyflogwyr.

Roedd gan fy nhiwtoriaid ddiddordeb mewn sut y gallant fy helpu i gyflawni fy nodau gyrfaol. Tynnodd bennaeth y cwrs sylw at y ffyrdd y gellir teilwra fy nghwrs i ddiwallu fy anghenion, ac i’m helpu i gyrraedd lle roeddwn am fod ar ôl graddio. Roedd hyn yn newid braf o’i gymharu â sefydliadau eraill.

Morgan MSc mewn Arferion Cadwraeth

Mae ein rhaglen Ieithoedd i Bawb yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau iaith wrth astudio, tra bod rhaglen gyfnewid Erasmus+ yn eich galluogi i dderbyn grant i astudio neu weithio mewn gwlad Ewropeaidd am 2-12 mis fel rhan o'ch gradd ôl-raddedig, os yw eich ysgol academaidd yn cytuno.

Rydym hefyd yn cynnig ystod o gyrsiau Addysg Broffesiynol Barhaus, sy’n ddelfrydol i’ch helpu i ddatblygu eich CV, gwella eich sgiliau rheoli busnes a phrosiectau ac ehangu eich profiad dysgu.

Cyfleoedd i gael cyllid

Gwyliwch Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr ar YouTube

Mae sicrhau cyllid ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig yn ystyriaeth bwysig i nifer o fyfyrwyr, ac mae nifer o gyfleoedd i gael cyllid ar gael yng Nghaerdydd.

Ymhlith y rhain mae ein cynllun Ysgoloriaethau Meistr sy’n buddsoddi £500,000 i gefnogi myfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref, a’n Cynllun Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr sy’n cynnig gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy’n dechrau ar raglen meistr cymwys yn 2024/25.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cyllid ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaeth feistr yng Nghaerdydd.

Mae’r 7 Cyngor Ymchwil yn y DU yn ariannu myfyrwyr ymchwil y DU/UE ar sail gystadleuol drwy ein rhaglenni hyfforddiant doethurol. Rydym hefyd yn hysbysebu ystod o brosiectau a lleoedd PhD a ariennir drwy gydol y flwyddyn. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael benthyciad Doethurol gan Lywodraeth y DU i astudio yng Nghaerdydd.

Eichrhydd dewisiadau astudio

Mae gennym fwy na 300 o opsiynau astudio ôl-raddedig i chi ddewis ohonynt, gan gynnwys cyrsiau amser llawn, cyrsiau rhan-amser, opsiynau dysgu cyfunol a dysgu o bell. Mae’r rhaglen sy'n addas ar eich cyfer chi’n dibynnu ar gyfuniad o’ch cymwysterau academaidd a/neu’ch profiad gwaith, eich amcanion o ran gyrfa, eich diddordebau personol a’ch amgylchiadau personol.

Rydym yn cynnig y ddwy brif gangen o astudiaeth ôl-raddedig: graddau ymchwil a graddau a addysgir. Mae mwy a mwy o raddau ymchwil sy'n cynnwys rhywfaint o addysgu strwythuredig yn cael eu cynnig bellach, fel ein rhaglenni Meistr Ymchwil (MRes), Doethuriaethau Proffesiynol, a'n PhD mewn Economeg.

Gellir astudio nifer o’n rhaglenni ôl-raddedig yn rhan-amser, sy’n ddelfrydol os oes angen i chi gydbwyso astudio ag ymrwymiadau proffesiynol, ariannol neu deuluol. Mae rhaglenni rhan-amser yn cynnig mwy o hyblygrwydd a llwyth gwaith llai dwys, er eu bod yn cynnig yr holl fuddion a chefnogaeth a gaiff myfyrwyr amser llawn o hyd. Gallwch hefyd ddewis astudio amrywiaeth o fodiwlau unigol ar wahân.

Ymhellach, rydym yn cynnig nifer o gyrsiau trosi mewn pynciau gan gynnwys cyfrifiadureg, y gyfraith a seicoleg i helpu i’ch cefnogi wrth newid cyfeiriad.

Gwyliwch Ewch ati i newid cyfeiriad eich gyrfa drwy wneud cwrs trosi ôl-raddedig

Rhagor o wybodaeth am ein graddau ymchwil ôl-raddedig a graddau ôl-raddedig a addysgir.

Arweiniad gyrfaol arbenigol

  • Roedd 99%
    o’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig mewn cyflogaeth hynod fedrus 15 mis ar ôl iddyn nhw raddio
    (Arolwg Hynt Graddedigion HESA, 2023)
  • Roedd 89%
    o’n myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth hynod fedrus 15 mis ar ôl iddyn nhw raddio
    (Arolwg Hynt Graddedigion HESA, 2023)
  • 16eg
    yn y DU ar gyfer rhagolygon graddedigion
    (Times Good University Guide 2022)

Ble bynnag yr ydych ar daith eich gyrfa, gall ein tîm o gynghorwyr gyrfaoedd eich helpu. Gallwn roi arweiniad personol, sy’n benodol i bwnc, i chi ar bopeth, o ddatblygu sgiliau a chwilio am swydd i baratoi ar gyfer cyfweliadau a chymorth ymarferol. Byddwn yn gweithio gyda chi i helpu i gynllunio eich gyrfa a’ch paratoi chi at y broses recriwtio yn eich diwydiant dymunol.

Mae ein platfform ar-lein yn rhoi cymorth 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, i’ch helpu gyda hunan-ddatblygiad, cynllunio gyrfa ac ymchwil. A chithau’n fyfyriwr ôl-raddedig, byddwch hefyd yn gallu defnyddio cyfrif gyrfaoedd lle gallwch drefnu apwyntiadau a digwyddiadau, a chwilio am gyfleoedd cyflogaeth i raddedigion gyda sefydliadau sy'n recriwtio'n uniongyrchol o Brifysgol Caerdydd.

Yr Academi Ddoethurol

Hyb gweithgareddau ymchwil ryngddisgyblaethol ôl-raddedig yng Nghaerdydd yw’r Academi Ddoethurol. Mae’n ffynhonnell graidd i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig allu manteisio ar weithdai datblygu sgiliau personol, proffesiynol a digwyddiadau ymchwil yn ogystal â digwyddiadau cymunedol rhyngddisgyblaethol a chyfleoedd i gael cyllid.

Fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwch hefyd elwa o weithgareddau rheolaidd ar draws ysgolion sy'n galluogi rhwydweithio mewn amgylchedd ymchwil ysgogol, a byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cynadleddau blynyddol dan arweiniad myfyrwyr a digwyddiadau arddangos ymchwil eraill.

Bywyd myfyrwyr

Mae nifer o resymau dros garu Caerdydd – yn enwedig i fyfyrwyr. Ond nid dyna'r cyfan. Ochr yn ochr ag ystod enfawr o glybiau a gweithgareddau cymdeithasol i gymryd rhan ynddynt yn ystod eich astudiaethau academaidd, mae cyfleusterau eithriadol ac amrywiaeth o gymorth i fyfyrwyr elwa ohonynt yn ystod eich cyfnod yma.

Mae fy nghwrs yng Nghaerdydd yn canolbwyntio ar gymhwyso’n ymarferol ac mae’n cynnwys lleoliad gwaith mewn cwmni. Gwnaed hyn yn glir ym mhrosbectws y cwrs a dyma un o’r prif resymau dros ddewis y cwrs.

David MSc Gwyddorau Data a Dadansoddi
  • 2il Undeb Myfyrwyr gorau yn y DU (Gwobrau Dewis y Myfyrwyr Whatuni 2024).

Mae Undeb y Myfyrwyr, sy’n gartref i fwy na 200 o gymdeithasau myfyrwyr a 65 o glybiau chwaraeon, yn cynrychioli ein myfyrwyr ac yn darparu amrywiaeth o weithgareddau, gwasanaethau a chyfleusterau amrywiol a chynhwysol sy'n cyfoethogi bywyd y myfyrwyr. O nosweithiau cwis a blasu gwinoedd i ddigwyddiadau ymchwil a theithiau dydd â thema, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal digwyddiadau rheolaidd i fyfyrwyr ôl-raddedig yn benodol. Mae swyddog ôl-raddedig amser llawn a etholwyd yn cynrychioli myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr i gefnogi eich anghenion.

A chithau’n fyfyriwr ôl-raddedig, gallwch hefyd elwa ar ystod eang o gyfleusterau o’r radd flaenaf: mae ein cyfleusterau TG modern yn golygu ei fod yn hawdd i chi gyrchu amrywiaeth o ganllawiau, offer ac adnoddau i gefnogi eich astudiaethau a’ch ymchwil, ac mae ein llyfrgelloedd cyfforddus yn cynnig ystod eang o adnoddau gwybodaeth mewn print ac ar-lein. Mae’r oriau agor estynedig – gan gynnwys gyda’r hwyr, ar benwythnosau a mynediad 27 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos yn ein dau brif safle yn eich galluogi chi i weithio ar yr adegau sydd orau i chi.

Cewch hefyd gael gafael ar gymorth a chefnogaeth ychwanegol a allai fod eu hangen arnoch drwy gydol eich astudiaethau academaidd. O gyngor ariannol arbenigol a chwnsela cyfrinachol i wasanaethau anabledd a gofal rhagorol i blant, rydym yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd.

Mae'r gefnogaeth fugeiliol ac academaidd yng Nghaerdydd yn wych. Mae'r gefnogaeth yn amrywio o les neu gwnsela i weithdai ysgrifennu traethodau academaidd er mwyn gwella eich gwaith. Mae'r gwasanaeth a ddarperir, gan Undeb y Myfyrwyr a fy ysgol academaidd ill dau, wedi fy ngalluogi i sylwi ar unrhyw beth sy'n codi a'i ddatrys cyn iddo ddod yn broblem.

Esme MA Iaith ac Ieithyddiaeth

Ffynhonnell: Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21 Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.